Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 3 - Dydd Llun, 12fed Rhagfyr, 2022 16:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

19.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Fe wnaeth yr aelodau a restrir isod ddatgan buddiant personol yn eitem 3 ar yr Agenda - Dyletswydd, Asesiad a Chynllun Gweithredu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae i Sicrhau Cyfleoedd Digonol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, fel y nodir:

 

Y Cynghorydd Ian Williams, Aelod o Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr, Llywodraethwr Ysgol Gynradd yr Hengastell ac Ysgol Gyfun Brynteg.

 

Y Cynghorydd Jonathan Edward Pratt, Aelod o Gyngor Tref Porthcawl.

 

Y Cynghorydd Melanie Evans, Aelod o Gyngor Tref Pencoed, Llywodraethwr Cymunedol Ysgol Gyfun Pencoed ac Ysgol Gynradd Croesty.

 

Y Cynghorydd Paul Davies, Aelod o Gyngor Tref Maesteg, Llywodraethwr Ysgolion Cynradd Caerau a Nantyffyllon.

 

Y Cynghorydd Steven Bletsoe, Aelod o Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr, Aelod o Gyngor Cymuned Coety Uchaf a Llywodraethwr Ysgol Penybont.

 

Y Cynghorydd Martyn Williams, Aelod o Gyngor Cymuned Coety Uchaf a Chyngor Cymuned y Santes Ffraid Leiaf.

20.

Dyletswydd, Asesiad a Chynllun Gweithredu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae i Sicrhau Cyfleoedd Digonol ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 113 KB

 

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Rhys Goode – Aelod Cabinet Llesiant a Chendlaethau’r Dyfodol

Cynghorydd John Spanswick - Aelod Cabinet Cymunedau

Cynghorydd Jon-Paul Blundell - Aelod Cabinet Addysg

 

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau

Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd

 

Andrew Thomas - Atal a Lles – Rheolwr Gr?p

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yr Adroddiad ac eglurodd bod yr hawl i chwarae yn hawl canolog i blant Cymru, nid i’r plant lleiaf yn unig ond drwodd hyd at 25 mlwydd oed. Roedd yr adroddiad yn adlewyrchu effaith pandemig COVID-19 a’r cyfnodau clo estynedig ar blant a phobl ifanc. Eglurodd, yn ogystal â deall yr asesiad, ei bod hefyd yn bwysig nodi'r cynllun gweithredu a oedd ynghlwm a dull y Cyngor cyfan a phartneriaeth, oedd ei angen i gyflawni'r cynllun gweithredu hwnnw. 

 

Rhoddodd Rheolwr y Gr?p ar gyfer Atal a Lles gyflwyniad ar yr asesiad drafft, gan egluro bod y drafft wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru fel yr oedd angen ym mis Mehefin, a bod y broses yn parhau drwy’r pwyllgor craffu ac yn y pen draw i’r Cabinet i’w gymeradwyo. Cylch tair blynedd oedd hwn ond roedd cynllunio gweithredu blynyddol hefyd a chyfle i ymgysylltu ar y materion amrywiol drwy gydol y flwyddyn.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr y Gr?p Atal a Lles am y cyflwyniad a thrafododd yr Aelodau’r canlynol:

 

Cyfeiriodd Aelod at yr ymadrodd “Un Cyngor” a gofynnodd sut roedd hyn yn gweithio mewn perthynas â'r adroddiad hwn.

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p ar gyfer Atal a Lles fod yna Ganllawiau Cenedlaethol ar sut y dylai hyn weithio, gydag arweinyddiaeth strategol drwy Aelod y Cabinet dros Les a Chenedlaethau'r Dyfodol, Cyfarwyddwr Corfforaethol arweiniol a chefnogaeth gan Gyfarwyddiaethau y Cymunedau ac Addysg. Roedd y materion yn croesi drosodd a dylai'r holl bartneriaid perthnasol fod yn meddwl y tu hwnt i'w maes gwaith penodol hwy eu hunain a sut yr oedd yn rhyngweithio a'r effaith o ran y Cyngor yn ehangach. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod hyn yn cael ei ddangos gan nifer Aelodau’r Cabinet, Cyfarwyddwyr Corfforaethol a Chynrychiolwyr oedd yn bresennol yn y cyfarfod a bod y partneriaid allweddol, Halo, Awen, BAVO ac ysgolion, i gyd yn allweddol i'r ddarpariaeth, yn unigol ac ar y cyd.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am i ddolen gyswllt  i'r Canllawiau Cenedlaethol gael ei chylchredeg i Aelodau’r Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd Aelod at 4.3c yn yr adroddiad: “I roi sylw i blant a phobl ifanc ag anghenion amrywiol, gan gynnwys y rhai sy’n byw gydag anableddau neu anghenion ychwanegol” a gofynnodd a oedd yr Awdurdod wedi bod yn ymgynghori â phobl anabl, plant, rhieni a gofalwyr ac wedi eu cynnwys yn y cynlluniau ar gyfer gwella.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p ar gyfer Atal a Lles fod ganddo ef blant ag anableddau a’i fod tan yn ddiweddar wedi bod yn Aelod o Fwrdd Anableddau Cymru, oedd yn rhedeg rhaglenni pwrpasol a bod adborth o ddiwrnodau darganfod wedi dylanwadu ar y gweithgareddau a’r cyfleoedd. Fe wnaethant gynnal arolwg ymhlith tua 300 o bobl ifanc ag anghenion ychwanegol fel rhan o arolwg mwy oedd wedi darparu data penodol. Roeddent wedi ceisio dal lleisiau pobl ifanc ag anableddau, heb i bobl siarad ar eu rhan.

 

Esboniodd yr Aelod fod ei gwestiwn ef yn ymwneud yn bennaf  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 20.

21.

Diweddariad ar y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 173 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu y Flaenraglen Waith amlinellol ddrafft arfaethedig i'r Pwyllgor, oedd ynghlwm yn Atodiad A i'r adroddiad i'w thrafod a'i hystyried. Câi blaenraglen waith y SOSC ei chynnwys yn yr adroddiad nesaf i COSC gydag unrhyw ddiweddariadau o bob cyfarfod wedi eu cynnwys.

 

Eglurodd y Swyddog Craffu fod y Daflen Weithredu Monitro’r Argymhellion ynghlwm fel Atodiad B i olrhain ymatebion i argymhellion y Pwyllgor. Tynnodd sylw'r Aelodau at Atodiad A ac at ychwanegu Strategaeth Ariannol Tymor Canolig Drafft 2022/23 i 2025/26 a Chynigion y Gyllideb, oedd ar 23 Ionawr 2023. Dywedodd y câi'r Strategaeth Ddigartrefedd yn awr ei threfnu ar gyfer mis Ebrill a gyda chytundeb y Pwyllgor, byddai Strategaeth Di-Garbon Net Pen-y-bont ar Ogwr 2030, y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth a Ffrydiau Gwaith Gwasanaethau Gwastraff y Dyfodol yn cael eu trefnu ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Eglurodd Aelod ei fod yn siomedig nad oeddent wedi gweld adroddiad Just Solutions i Barciau Mawr ar gyfer CBS Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd hwn wedi'i anelu at Gaeau Trecelyn, Parc Lles Maesteg ac Aberfields gan gynnwys Caeau Chwarae Waun Llwyd ac roedd yn gobeithio nad oedd unrhyw argymhellion yn yr adroddiad hwnnw a oedd yn gorgyffwrdd â phenderfyniadau a wnaed yn y cyfarfod hwnnw. Cadarnhaodd y Cadeirydd nad oedd yr adroddiad ar gael eto ond y disgwylid ef yn fuan. Gofynnodd yr Aelod a ellid cynnwys yr adroddiad yn y Flaenraglen Waith.

 

Awgrymodd Rheolwr y Gwasanaethau Democrataidd y gallent ystyried y manylion pan fyddai'r adroddiad wedi cael ei gyhoeddi a phenderfynu a ddylai ddod i gyfarfod yn y dyfodol i'w ystyried neu gael ei ddosbarthu fel eitem wybodaeth. Nid oedd yr un Swyddog wedi gweld yr adroddiad ond gellid ei gysylltu â Throsglwyddo Asedau Cymunedol ac os felly byddai'n fwy priodol cael eitem ar drosglwyddo asedau cymunedol yn gyffredinol. Gallent anfon yr adroddiad at Aelodau’r Pwyllgor gan wahodd sylwadau a phenderfynu ar y ffordd orau ymlaen.

 

Cyfeiriodd aelod at dudalen 141, y Gronfa Ffyniant Gyffredin, a gofynnodd a oedd unrhyw adborth wedi'i dderbyn gan Lywodraeth y DU, Dr Jamie Wallis neu Chris Elmore mewn perthynas â'r llythyr ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Atebodd y Swyddog Craffu nad oedd wedi gweld unrhyw beth ac y byddai'n mynd ar drywydd hynny.

 

PENDERFYNWYD:  Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r Flaenraglen Waith yn    Atodiad A, yn nodi yr adroddid am y Flaenraglen Waith wrth gyfarfod o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol yn dilyn y cylch nesaf o gyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc ac yn nodi’r Daflen Weithredu Monitro’r Argymhellion yn Atodiad B.

 

22.

Eitemau brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.