Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 3 - Dydd Llun, 20fed Chwefror, 2023 16:00

Lleoliad: Hybrid yn Siambr y Cyngor Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB / o bell trwy Dimau Microsoft - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB

Media

Eitemau
Rhif Eitem

31.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorwyr Jonathan Pratt a Neelo Farr ddatgan buddiant personol gan eu bod yn aelodau etholedig o Gyngor Tref  Porthcawl.

32.

Adfywio Porthcawl pdf eicon PDF 183 KB

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd John Spanswick - Aelod Cabinet Cymunedau

Cynghorydd Neelo Farr – Aelod Cabinet Adfywio

 

Janine Nightingale - Cyfarwyddwr CorfforaetholCymunedau

Jacob Lawrence – Prif Swyddog Adfywio

 

Ceri Evans – Cyfarwyddwr Datblygu Busnes, Awen

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau yr adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi trosolwg ar Raglen Adfywio Porthcawl.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau a bu’r Aelodau’n trafod y canlynol:

 

·         Cafwydcadarnhad gan Aelodau lleol Porthcawl eu bod wedi cael gwybod yn rheolaidd a’u bod yn ymwybodol o bob cam o ddatblygiad adfywio Porthcawl.

·         Nodwydmanylion a lleoliad ardal Bae Sandy i ddefnydd addysgol ar y cynllun, boed hynny ar gyfer ysgol newydd neu estyniad i'r ysgol bresennol.

·         Mewnachosion eithafol yn unig, pan na ellid dod o hyd i berchennog y tir neu lle roedd rhyw anghysondeb, y cyhoeddid gorchmynion prynu gorfodol (GPG). Roedd perchnogion Parc yr Anghenfilod wedi gofyn am iddo fynd i GPG a chael prisiad annibynnol o'r tir. Byddai gwerth y tir hwnnw’n cael ei dalu i’r perchnogion hynny ac roedd wedi ei gynnwys yng nghyllideb y rhaglen adfywio.

·         Y weledigaeth ar gyfer Porthcawl fel tref wyliau a thref arfordirol; gyda chyfle ar gyfer cyflogaeth a thai fforddiadwy.

·         Roedd y cysyniad oedd wedi cael ei ymgorffori yn y safleoedd strategol ac yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd ynghylch mynediad at hanfodion o fewn taith gerdded gyflym neu feicio 20 munud o'r cartref i gael ei ystyried a'i ymgorffori mewn datblygiadau.

·         Pa fath o gyfleuster hamdden fyddai'n cael ei roi yn ei le; mae dewisiadau'n cael eu hystyried gan gynnwys o bosibl ffair haf dymhorol a byd o ryfeddodau’r gaeaf ac o fewn cytundeb y tirfeddiannwr byddai Bae Sandy a Thraeth Coney ar gyfer datblygiad defnydd cymysg. Yr angen am Dai Lleol ym Mhorthcawl, y strategaeth dai gynhwysfawr a baratowyd o ganlyniad i’r CDLl, yr angen a nodwyd am 1100 o gartrefi newydd ym Mhorthcawl o fewn y 15 mlynedd nesaf i ddarparu ar gyfer twf yn yr ardal, gan gynnwys cymysgedd o gartrefi: cartrefi ar rent, cartrefi fforddiadwy, tai cymdeithasol a gofal ychwanegol.

·         ArolygonParcio i bennu'r angen am le i barcio ym Mhorthcawl a'r astudiaeth ddichonoldeb sy'n cael ei chynnal i gael lleoedd parcio newydd o ganlyniad i Ddatblygiad Salt Lake a'r dewisiadau parcio ceir.

 

·         FfocwsBuddsoddi Cyrchfan Porthcawl a Cosy Corner oedd y cynllun olaf i gael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac arian Croeso Cymru.

·         Y broses a'r meini prawf cymhwyso ar gyfer cais llwyddiannus y siop fanwerthu bwyd, gyda chynllun datblygu manwl yn cael ei lunio a'i gytuno gan y Pwyllgor Rheoli Datblygu ar gyfer gwerthu'r safle. Cynigwyd y cyfle i fanwerthwyr posibl gwrdd â Swyddogion Cynllunio a thrafod eu syniadau ar gyfer dyluniad y safle cyn i dendr y safle ddechrau. O'r pum tendr a dderbyniwyd, nid oedd tri yn cyd-fynd â'r briff dylunio a chawsant eu diystyru, ac un o’r rhain oedd y cynigydd uchaf. Yr ail rownd oedd yr ystyriaeth orau, a derbyniwyd y cais gan Aldi oherwydd iddo basio'r bar dylunio a'r ystyriaeth orau.

·         Sut y byddai Terminws  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 32.

33.

Diweddariad Rhaglen Gwaith pdf eicon PDF 173 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu y Flaenraglen Waith (FWP) yn Atodiad A i'r Pwyllgor ei thrafod a'i hystyried, gan ofyn am unrhyw wybodaeth benodol a nodwyd gan y Pwyllgor i'w chynnwys yn yr eitemau ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf, gan gynnwys y bobl y dymunent eu gwahodd i fod yn bresennol. Gofynnodd i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith gan gofio’r meini prawf dethol ym mharagraff 4.3 a gofynnodd i'r Pwyllgor nodi’r Daflen Weithredu Monitro Argymhellion i olrhain ymatebion i argymhellion y Pwyllgor a wnaed mewn cyfarfod blaenorol yn Atodiad B. Gofynnodd hefyd i’r Pwyllgor nodi y ceid adroddiad am y Flaenraglen Waith ar gyfer y Pwyllgor a’r Daflen Weithredu Monitro Argymhellion yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am i'r eitemau canlynol gael eu hystyried i'w hychwanegu at y Flaenraglen Flynyddol yn y Cyfarfod Cynllunio Craffu nesaf ar gyfer SOSC 3:

 

1.    Diogelwchcerddwyr mewn pentrefi hanesyddolteithio llesol a llwybrau diogel.

 

2.    Edrychar gam nesaf y gronfa Lefelu a chyflwyno cynigion. 

 

3.    Gwybodaeth a diweddariad ar ble yr oedd y Gyfarwyddiaeth arni o ran asedau a Throsglwyddo Asedau Cymunedol.

 

4.    Pwyntiaugwefru trydan, lle mae hyn ar hyn o bryd o fewn y tri cham a beth fydd yn digwydd ar ôl cwblhau cam tri. Adroddiad gwybodaeth posibl a allai ddod o dan Strategaeth Sero Net.

 

5.    Gan mai Chwe mis oedd i fynd cyn cyflwyno'r parthau cyflymder 20 milltir yr awr, byddai'r Pwyllgor yn gwerthfawrogi diweddariad cyffredinol ar y cynnydd, pa ffyrdd a nodwyd a’r amserlenni ar gyfer gosod arwyddion.

 

6.    Strategaeth / Polisi'r Sir ar gyfer faniau gwersylla symudol, carafanau a safleoedd i annog y byd twristiaeth ymhellach ac adeiladu ar refeniw.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am sesiynau briffio i aelodau ar gyfer SOSC 3 ar:

1.    CyflenwiSeilwaith;

2.    DarpariaethGwastraff.

 

Ni nodwyd eitemau pellach i'w hystyried ar y Flaenraglen Waith o ystyried y meini prawf dethol ym mharagraff 4.3, a gellid ailystyried hyn yn y cyfarfod nesaf.

 

Nidoedd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.  

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor wedi cymeradwyo’r Flaenraglen Waith

                                yn Atodiad A, yn amodol ar ymgorffori'r ceisiadau

                                uchod, nodwyd y Daflen Weithredu Monitro

                                Argymhellion yn Atodiad B a nodwyd y ceid adroddiad

                                am y Flaenraglen Waith, y Daflen Weithredu Monitro

                                Argymhellion ac unrhyw ddiweddariadau gan y

                                Pwyllgor yng nghyfarfod nesaf COSC.   

34.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.