Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 3 - Dydd Llun, 23ain Ionawr, 2023 16:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

27.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Jonathan Pratt fuddiant personol gan fod ei wraig yn athrawes yn cael ei chyflogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac fel Aelod o dîm Chwilio ac Achub Gwylwyr y Glannau Ei Fawrhydi ym Mhorthcawl.

 

Datganodd y Cynghorydd Norah Clarke fuddiant personol fel gwirfoddolwr i RNLI Porthcawl ac Aelod o Glwb Achubwyr Bywyd Rest Bay, a bod ei mab yn Aelod o griw yr RNLI ac yn Aelod o Glwb Achubwyr Bywyd Rest Bay   .

 

Datganodd y Cynghorydd Melanie Evans fuddiant personol fel Aelod o Gyngor Tref Pencoed.

 

Datganodd y Cynghorydd Martin Williams fuddiant personol fel Aelod o Gyngor Cymuned Coety Uchaf.

28.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2023-24 i 2026-27 pdf eicon PDF 544 KB

 

 

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Huw David - Arweinydd

Cynghorydd Jane Gebbie – Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Cynghorydd John Spanswick - Aelod Cabinet Cymunedau

Cynghorydd Neelo Farr – Aelod Cabinet Adfywio

 

Carys Lord - Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid

Mark Shephard - Prif Weithredwr

Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau

 

Deborah Exton Dirprwy Bennaeth Cyllid dros dro

Victoria Adams, Rheolwr Cyllid – Rheoli Cyllidebau: Cymunedau, Addysg a Chymorth i Deuluoedd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid grynodeb o'r adroddiad, a'i bwrpas oedd cyflwyno i’r Pwyllgor y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ddrafft (SATC) 2023-24 i 2026-27, oedd yn egluro blaenoriaethau gwariant y Cyngor, yr amcanion buddsoddi allweddol a’r meysydd o’r gyllideb oedd wedi cael eu targedu ar gyfer arbedion angenrheidiol. Roedd y strategaeth yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2023-2027 a chyllideb refeniw ddrafft fanwl ar gyfer 2023-24.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Brif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid a gwahoddodd gwestiynau.

 

Roedd yr aelodau'n cwestiynu a fyddai modelau cyflawni yn parhau i'r flwyddyn ariannol nesaf ac, yn ychwanegol at Drosglwyddo Asedau Cymunedol (CATS) a Bargen y Ddinas, roeddent yn gofyn sut roedd y Gyfarwyddiaeth yn bwriadu datblygu modelau cyflawni gwahanol a gyda phwy. Dywedodd y Swyddogion nad oedd unrhyw beth ar y gweill ar gyfer y flwyddyn i ddod, ond nad oedd hynny’n golygu na fyddent yn edrych ar rai eraill yn y dyfodol. Bu’r aelodau’n trafod modelau cyflawni gwahanol, yn neilltuol partneru â Chynghorau Tref a Chymuned (CTCh) a datganoli mwy o wasanaethau iddynt. Cytunai’r Swyddogion y byddent yn hapus i gael deialog agored a dywedasant fod disgrifiad swydd Swyddog CAT, sy'n cysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned, wedi cael ei ehangu i gynnwys y math yma o drafodaethau, a châi barn gorfforaethol ar bolisi ei chyfleu i’r Cyngor llawn/Aelodau’r Cabinet.

 

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch y gostyngiad sylweddol yn swm y gwastraff gweddilliol y disgwylid iddo fod o fudd ariannol i'r Cyngor dros amser ac a fyddai'n dychwelyd elw dros gyfnod y SATC hwn. Dywedodd y Swyddogion wrth siarad am leihau tunelledd, mai gostyngiad ar y cynnydd ydoedd a'i fod yn dal yn uwch nag yr arferai fod yn cyn Covid ond ei fod yn arwydd ei fod yn symud tuag i lawr. Roedd aelodau'n cwestiynu, os oedd mwy o bobl yn gweithio o gartref, a oedd gostyngiad yn y gwastraff oedd yn cael ei gynhyrchu yn eu swyddfeydd ac felly a oedd yna effeithlonrwydd ac arbedion. Hysbysodd y Swyddogion yr aelodau fod gostyngiad bychan wedi bod yn eu gwastraff yn deillio o’r swyddfeydd Dinesig ond o gymharu â'r rhwydwaith domestig cyfan o gartrefi roeddent yn ddwy raddfa hollol wahanol. Felly, o ran gosod cyllideb, byddai unrhyw arbediad mewn tunelledd yn y biniau gwastraff dinesig yn ddibwys o'i gymharu â'r tunelledd cyffredinol.

 

Cyfeiriodd y pwyllgor at strategaeth y Cyngor i amddiffyn a buddsoddi mewn gwasanaethau a ddarperir i'r rhai mwyaf agored i niwed a gwneud gostyngiadau lle gallent gael yr effaith leiaf ar draws gwasanaethau'r Cyngor, a gofynasant a roddwyd ystyriaeth y gallai torri gwasanaeth fod yn economi ffug, er enghraifft, dileu gorfodi ynghylch gwastraff gan y gallai arwain at fwy o dipio anghyfreithlon. Gofynasant faint o erlyniadau a ddigwyddodd a faint o gosbau a roddwyd fesul blwyddyn gyda golwg ar dipio anghyfreithlon. Dywedodd y Swyddogion eu bod yn anghyffyrddus yngl?n â rhoi’r tîm gorfodi gwastraff ymlaen oherwydd er y gallai fod arbedion ar y cychwyn y gallai peidio â chael y tîm arwain at dipio anghyfreithlon, ond  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 28.

29.

Eitemau brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim