Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgan Buddiannau Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Steven Bletsoe fuddiant rhagfarnus yn Eitem 4 ar yr Agenda, Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai (Strategaeth Ddigartrefedd) 2022-2026 fel Rheolwr Gweithrediadau Cymru, ar gyfer y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl Cenedlaethol. |
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 215 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 20 02 23 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Pwnc 3 ar 20 Chwefror 2023 yn gofnod gwir a chywir. |
|
Strategaeth Rhaglen Cymorth Tai (Strategaeth Digartrefedd) 2022-2026 PDF 215 KB Gwahoddwyr:
Cynghorydd Rhys Goode – Aelod Cabinet dros Dai, Cynllunio ac Adfywio
Carys Lord - Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid Martin Morgans - Pennaeth Gwasanaeth - Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth Ryan Jones – Rheolwr Comisiynu Tai Strategol
Debbie Thomas – Pennaeth Polisi a Chyfathreby, Argyfwng Cymru
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Cyflwynodd y Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau yr adroddiad, a'i ddiben oedd diweddaru'r Pwyllgor ar y strategaeth Rhaglen Cymorth Tai (RhCT) (Strategaeth Ddigartrefedd) 2022-2026 ddrafft.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau a’r Aelodau gan drafod y canlynol gyda’r gwahoddedigion:
· Tai i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog, y gwahanol amgylchiadau y gallai cyn-filwr fod ynddynt ac ymwybyddiaeth yr awdurdodau lleol. · Yr adroddiad yn dangos yn glir y camau gweithredu’n gryno, gan nodi beth oedd rhai o'r heriau. Aelodau'n ystyried y prif bwyntiau o ran atal cynnar a gwaith amlddisgyblaethol. · Sut y byddai cynnydd y cynllun yn cael ei fesur, yr amcanion unigol a pha ddata fyddai'n cael ei ddefnyddio i fesur yr amcanion hynny.
Dywedodd y Cadeirydd nad oedd unrhyw gwestiynau pellach i'r Gwahoddedigion, diolchodd i'r Gwahoddedigion am eu presenoldeb a dywedodd y gallent adael y cyfarfod.
PENDERFYNWYD: Yn dilyn ystyriaeth fanwl a thrafodaethau gydag Aelodau Cabinet a Swyddogion, gwnaeth y Pwyllgor yr Argymhellion canlynol:
1. Cryfhau'r Strategaeth o ran cefnogaeth i gyn-filwyr a phersonél y Lluoedd Arfog.
2.
Sicrhau'r effeithiolrwydd
mwyaf posibl o'r Strategaeth, adolygu'r amcanion blaenoriaeth
strategol i sicrhau eu bod yn rhai Penodol, Mesuradwy, Cyraeddadwy,
Perthnasol ac Amserol ac yn cael eu nodi yn y Cynllun Gweithredu a
bod yr amserlenni’n cael eu dadansoddi ymhellach yn manylu ar
y flwyddyn a'r mis y bwriedir cyflawni pob cam gweithredu, fel y gellir mesur cynnydd
yn glir. 3. Bod y Strategaeth yn cael ei gwneud yn fwy cyfeillgar i ddefnyddwyr ac mor hawdd i'w llywio â phosibl. a gofynnodd y Pwyllgor:
Am fap llwybr sy'n nodi'r model ymarfer gwaith eang o'r hyn sy'n digwydd pan fydd rhywun yn cyflwyno’n ddigartref, gan gynnwys y camau, yr amserlenni a'r math o wasanaethau a gynigir a, lle bo'n briodol, yr amserlenni cyfartalog ar gyfer ailgartrefu. |
|
Diweddariad ar y Flaenraglen Waith PDF 178 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y Flaenraglen Waith amlinellol drafft a chroesawodd yr Aelodau bwnc yr adroddiad Cronfa Codi'r Gwastad – Pafiliwn Porthcawl ond roeddent yn teimlo y gallai fod yn fwy effeithiol craffu ar hyn yn gynnar a gofynnwyd a fyddai’r pwnc yn addas ar gyfer sesiwn friffio.
PENDERFYNWYD: Cymeradwyodd y Pwyllgor y Flaenraglen Waith yn Atodiad A, yn amodol ar ychwanegu'r uchod, nododd y Daflen Gweithredu Argymhellion Monitro yn Atodiad B a nododd y byddai’r Flaenraglen Waith, y Daflen Gweithredu Argymhellion Monitro ac unrhyw ddiweddariadau gan y Pwyllgor yn cael eu hadrodd yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Pwnc. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim. |