Agenda a Chofnodion

Extraordinary Meeting of Subject Overview and Scrutiny Committee 3, Pwyllgor Craffu Testun 3 - Dydd Llun, 2ail Hydref, 2023 16:00

Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber - Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

53.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

 

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Norah Clarke

54.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorwyr Jonathan Pratt, William Kendall a Mike Kearn ddatgan buddiannau personol fel Aelodau o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu gan ddweud pe bai’r Pwyllgor yn dechrau trafod y cais cynllunio, y byddai hynny’n ei wneud yn fater o ragfarn ac y byddent wedyn yn datgan buddiant rhagfarnus ac yn gadael y cyfarfod.

Fe wnaeth y Cynghorydd Melanie Evans ddatgan buddiant personol fel cynrychiolydd Bwrdd Gwarchodwyr Walia Coety, gan ddweud pe bai’r trafodaethau yn dechrau cynnwys y cais cynllunio y gallai hynny beri iddi ddatgan buddiant rhagfarnus a gadael y cyfarfod.

55.

Galw Penderfyniad y Cabinet i Mewn. Adolygiad Porth Prosiect HyBont pdf eicon PDF 124 KB

 

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd John Spanswick - Aelod Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd - y Cynghorydd

 

Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau

Carys Lord - Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd - Craffu yr adroddiad a’i bwrpas oedd galluogi'r Pwyllgor i graffu ar benderfyniad y Cabinet a wnaed ar 19 Medi 2023 mewn perthynas â'r adroddiad ar Adolygiad Porth Prosiect HyBont.

 

Dywedodd hi:

-        Yn unol ag Adran 7.23 o Gyfansoddiad y Cyngor, sy’n datgan bod angen 3 Aelod o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu, a Chadeirydd Craffu, er mwyn i benderfyniad gael ei alw i mewn, derbyniwyd Hysbysiad Galw i Mewn gan 4 Aelod a Chadeirydd, yn gofyn am i’r penderfyniad Gweithredol a wnaed gan y Cabinet ar 19 Medi 2023 gael ei Alw i Mewn.

 

-        Rôl y Pwyllgorau Craffu wrth alw penderfyniad i mewn oedd:

·       Rhoi prawf ar rinweddau’r penderfyniad;

·       Ystyried y broses a ddilynwyd i lunio'r penderfyniad;

·       Gwneud argymhellion (i gefnogi’r penderfyniad, newid agweddau ar y penderfyniad, neu wahodd y person neu’r corff a wnaeth y penderfyniad i ailystyried);

·       Awgrymu camau pellach cyn i benderfyniad gael ei wneud (ond peidio â cheisio cymryd y camau hynny yn lle’r person neu’r corff a wnaeth y penderfyniad);

·       Ffurfio barn mewn cyfnod cymharol fyr, er mwyn peidio â pheryglu cyflymder ac effeithlonrwydd y broses benderfynu.

 

-        Roedd argymhelliad yr adroddiad yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried penderfyniad y Cabinet ar 19 Medi 2023, a gafodd ei Alw i Mewn, ynghylch Adolygiad Porth Prosiect HyBont a phenderfynu a oedd yn dymuno, naill ai:

 

a)     cyfeirio’r penderfyniad yn ôl i’r Cabinet i’w ailystyried, gan nodi yn

           ysgrifenedig natur ei bryderon;

ynteu

b)     penderfynu peidio â chyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet.

 

Eglurodd y Cadeirydd pwy oedd Aelodau’r Pwyllgor a’r Aelodau nad oeddent ar y Pwyllgor oedd wedi cefnogi Galw’r Penderfyniad i Mewn.

Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelodau oedd wedi cefnogi Galw i Mewn i siarad am y rhesymau dros Alw i Mewn.

 

Dywedodd yr Aelodau fod y prif resymau dros Alw i Mewn yn cynnwys:

 

-        Diffyg chwilfrydedd proffesiynol, herio neu gwestiynu’r rhagdybiaethau a wnaed yn yr adroddiad.

-        Dewisiadau gwahanol heb gael eu hystyried yn yr adroddiad nac yn ystyriaethau'r Cabinet.

-        Y wybodaeth ariannol ddim yn ddigonol i fedru gwneud penderfyniad gwybodus p’un a oedd y prosiect yn dal i gynrychioli elw da ar fuddsoddiad.

-        Ni roddwyd sylw i faterion y tir.

-        Ni thrafodwyd sut y gellid adennill yr arian oedd wedi cael ei wario hyd yma nac a oedd modd edrych am gyllid arall.

-        Mae'r penderfyniad yn gwrth-ddweud Strategaeth Garbon Sero Net 2030 y Cyngor gan fod materion ariannol wedi cael eu hystyried yn bwysicach na lleihau allyriadau carbon i wrthsefyll argyfwng yr hinsawdd.

-        Roedd angen craffu ymhellach ar y penderfyniad

 

Gwahoddodd y Cadeirydd unrhyw Aelodau eraill oedd wedi cefnogi Galw i Mewn i siarad ac yna gwahoddodd unrhyw Aelodau eraill o'r Pwyllgor i ofyn cwestiynau neu roi sylwadau.

 

Roedd y trafodaethau manwl rhwng Aelodau, Aelodau’r Cabinet a Swyddogion yn cynnwys:

-        Y diffyg cyllideb i ariannu’r diwydrwydd technegol dyladwy angenrheidiol hyd at ei gwblhau i weld a oedd y prosiect arfaethedig yn effeithiol, a oedd dichon ei gyflawni ac a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 55.