Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb To receive apologies for absence from Members.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd N Clarke.
|
||||||||||||||||||||||
Datganiadau o Ddiddordeb To receive declarations of personal and prejudicial interest (if any) from Members/Officers in accordance with the provisions of the Members Code of Conduct adopted by Council from 1 September 2008 (including whipping declarations)
Cofnodion: Gwnaed y datganiadau o ddiddordeb canlynol:
Fe wnaeth y Cynghorydd C A Green ddatgan diddordeb personol yn eitem 6 ar yr agenda – Diweddariad Caffael, fel cyfarwyddwr cwmni sydd wedi negodi proses gaffael y Cyngor yn llwyddiannus.
Fe wnaeth y Cynghorydd M Jones ddatgan diddordeb personol yn eitem 6 ar yr agenda – Diweddariad Caffael, fel cyfarwyddwr cwmni sydd wedi negodi proses gaffael y Cyngor yn llwyddiannus.
Fe wnaeth y Cynghorydd C Webster ddatgan diddordeb personol yn eitem 8 ar yr agenda – Monitro Cyllideb 2017-18 – Rhagolygon Chwarter 1, gan fod aelod o’r teulu yn derbyn cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.
|
||||||||||||||||||||||
Cymeradwyaeth Cofnodion PDF 101 KB To receive for approval the minutes of a meeting of the Corporate Overview and Scrutiny Committee of the 31 July 2017
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf 2017 fel cofnod gwir a chywir.
|
||||||||||||||||||||||
Rhaglen Waith Trosolwg a Chraffu I'r Dyfodol PDF 85 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu Raglen Waith Trosolwg a Chraffu i’r Dyfodol ar gyfer 2017-18 i’w chymeradwyo. Hysbysodd y Pwyllgor y byddai angen hyblygrwydd yn y Rhaglenni Gwaith i’r Dyfodol ac y caent eu hadolygu gan y Pwyllgor hwn ym mhob cyfarfod fel rhan o’i gylch gorchwyl o osod a blaenoriaethu’r Rhaglen Waith Gyffredinol i’r Dyfodol ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc.
Casgliadau
Yn dilyn ystyriaeth gan y Pwyllgor, penderfynwyd ar Raglen Waith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu fel a ganlyn:
Bu’r Aelodau yn trafod Rhaglen Waith i’r Dyfodol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol a chytunasant ar y canlynol:
· Tynnu Rheoli Contractau allan o’r Rhaglen Waith i’r Dyfodol ar gyfer cyfarfod 15 Tachwedd oherwydd ymholiadau sy’n cael eu trin yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc a thrwy friffiau cyn y Cyngor.
Bu’r Aelodau yn trafod Rhaglen Waith i’r Dyfodol Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc a chytunasant ar y canlynol:
· Gwahodd yr Arweinydd a’r Prif Weithredwr ar gyfer eitem y Fargen Ddinesig. · Argymell gweddarlledu’r eitem ar Ddementia a gwahodd cyrff allanol megis Cymdeithas Alzheimer i’r cyfarfod.
Gosododd yr Aelodau y canlynol yn nhrefn blaenoriaeth a dirprwywyd hwy i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc:
|
||||||||||||||||||||||
Enwebu Aelodau ar Gyfer Panel Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus PDF 54 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad oedd yn gofyn am enwebiad ar gyfer un aelod o’r Pwyllgor i eistedd ar Banel Trosolwg a Chraffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
PENDERFYNWYD: Enwebu’r Cynghorydd T Giffard yn gynrychiolydd y Pwyllgor i eistedd ar Banel Trosolwg a Chraffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
|
||||||||||||||||||||||
Diweddariad Caffael PDF 112 KB Invitees
Andrew Jolley – Corporate Director Operational and Partnership Services Cllr Hywel Williams – Deputy Leader Cllr Dhanisha Patel – Cabinet Member for Wellbeing and Future Generations Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad a roddai ddiweddariad ar gynnydd yr amrywiol ffrydiau gwaith ar yr Adolygiad Caffael Corfforaethol ac a oedd hefyd yn tynnu sylw at y modd y sicrheir cydymffurfio â deddfwriaeth drwy’r broses gaffael.
Holai’r Pwyllgor â bwy y byddid yn ymgynghori fel rhan o adolygiad y Strategaeth Gaffael. Dywedodd y Rheolwr Caffael Corfforaethol y byddid yn ymgynghori â’r Bwrdd Rheoli Corfforaethol ac y byddai hyn wedyn yn hidlo drwy’r Cyngor.
Gofynnodd y Pwyllgor pam nad oedd terfyn amser ar gyfer eDendro. Hysbysodd y Rheolwr Caffael Corfforaethol y Pwyllgor fod eDendro wedi cael ei gyflwyno yn unol â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus ac y byddai’r Awdurdod yn cydymffurfio’n llawn erbyn mis Hydref 2018. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth fod nifer o brosiectau ar raddfa fawr wedi eu caffael drwy eDendro, gan gynnwys caffael contractau cludiant ysgolion.
Gofynnodd y Pwyllgor pa fesurau diwydrwydd dyladwy sy’n cael eu cymhwyso pan fydd yr Awdurdod yn caffael contractau i sicrhau gonestrwydd ariannol cwmnïau a bod cwmnïau sy’n tendro am wasanaethau’r Cyngor yn ymddwyn mewn ffordd foesegol ac yn unol â gwerthoedd y Cyngor ei hun. Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth y Pwyllgor y cynhelir arfarniad o onestrwydd ariannol cwmnïau bob tro gan yr Adran Gyllid er mwyn sicrhau eu bod yn ariannol ddiogel. Dywedodd y cynhelid diwydrwydd dyladwy ar gontractwyr posibl cyn i gwmnïau gael eu derbyn i’r Cytundebau Fframwaith a ddefnyddir gan yr Awdurdod. Gofynnodd y Pwyllgor pwy oedd yn gyfrifol am adolygu’r broses honno cyn i’r Awdurdod ddod i drefniant cytundebol gyda’r cwmni. Eglurodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth mai ar y Cyfarwyddwr Corfforaethol priodol a’r Arbenigwr Categori y byddai’r cyfrifoldeb hwnnw o sicrhau bod tendr yn cael ei sgorio yn gywir. Holodd y Pwyllgor pa gamau a gymerid i sicrhau gonestrwydd moesegol y cwmnïau yr oedd yr Awdurdod i ddod i drefniadau cytundebol â hwy. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth fod yr Awdurdod yn defnyddio casgliad safonol o gwestiynau, yr oedd gofyn i ddarpar gontractwyr eu hateb, ar gyfer asesu a oeddent yn foesegol a’i fod hefyd yn defnyddio contractau safonol.
Gofynnodd y Pwyllgor hefyd pam nad oedd yr Awdurdod wedi ymrwymo i’r cod ymarfer moesegol drwy dalu’r cyflog byw i’w staff, sy’n mynd at graidd tegwch, ac a oedd yr Awdurdod yn mynnu bod cwmnïau yr oedd yn llunio contractau â hwy yn gwneud yr un fath. Gwnaeth Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth y sylw mai penderfyniad gwleidyddol, y mae’n rhaid i’r Awdurdod ei wneud, yw talu’r cyflog byw. Dywedodd y byddai talu’r cyflog byw yn cael effaith ar bob Cyfarwyddiaeth ac ar raddfeydd cyflog cenedlaethol, oedd i fod yn destun adolygiad. Byddai talu’r cyflog byw yn golygu llawer o waith a chyllid. Dywedodd hefyd na fyddai’r Awdurdod yn gofyn i’w gontractwyr wneud yr hyn nad oedd yr Awdurdod ei hun yn ei wneud. Hysbysodd
Aelod y Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol y Pwyllgor fod yr Awdurdod yn glynu wrth yr isafswm cyflog cenedlaethol ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 19. |
||||||||||||||||||||||
Symleiddio'r Ystad: Defnyddio Adnoddau'n Ddoethach PDF 160 KB Invitees:
Mark Shephard – Corporate Director Communities Cllr Hywel Williams – Deputy Leader Cllr Charles Smith – Cabinet Member Education and Regeneration Satwant Pryce – Head of Regeneration Development and Property Services Fiona Blick – Group Manager Property Services Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad ar symleiddio ystâd y Cyngor sy’n brosiect allweddol yn ymwneud â’r flaenoriaeth gorfforaethol, Defnydd Doethach o Adnoddau.
Hysbysodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau y Pwyllgor mai bwriad yr adroddiad yw dangos maint portffolio rheoli asedau’r Cyngor, y cyfeiriad teithio strategol, y cynnydd a wnaed o ran Trosglwyddo Asedau Cymunedol a phrosiectau mawr eraill.
Holodd y Pwyllgor pa gynnydd a wnaed mewn caffael eiddo ar gyfer buddsoddi. Dywedodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Eiddo fod gan y Cyngor gymysgedd detholiadol o eiddo masnachol o fewn ei bortffolio. Nid yw’r rhan fwyaf o’r safleoedd hyn yn cael eu cadw i ddibenion buddsoddi yn unig. Ceir enghreifftiau o’r eiddo yma yn y Ganolfan Arloesi yn y Parc Gwyddoniaeth i ddarparu lleoedd i fusnesau sy’n cychwyn. Mae eiddo hefyd wedi ei gaffael yn Waterton Cross, yn benodol fel buddsoddiad ac i gynhyrchu incwm drwy osod y safle. Dywedodd hi fod gan y gwasanaeth gyllideb o £0.5 miliwn i gaffael eiddo ychwanegol ar gyfer buddsoddi ond nad oedd dim addas wedi cael ei ganfod o fewn y Cyngor Bwrdeistref. Roedd cynnig wedi cael ei wneud am arian cyfalaf ychwanegol, yn dilyn cyngor gan Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifyddiaeth Cyhoeddus (CIPFA) ac Alder King, ond aflwyddiannus oedd y cynnig ar y pryd. Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau pe câi mwy o arian ei roi ar gael i fuddsoddi mewn eiddo masnachol fod yna bosibilrwydd y gallai’r Cyngor gynhyrchu mwy o incwm. Hysbysodd y Pwyllgor hefyd fod llawer o awdurdodau lleol wedi dilyn llwybrau gwahanol o fuddsoddi mewn datblygiadau masnachol er mwyn cynhyrchu ffrydiau incwm newydd. Fodd bynnag, roedd yn amlwg hefyd bod rhai peryglon yn gysylltiedig â’r dull hwn.
Holodd y Pwyllgor beth oedd y rheswm pam yr oedd 126 o adeiladau, nad oeddent yn cael eu defnyddio, yn cael eu cadw. Hysbysodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Eiddo y Pwyllgor fod yr eiddo yn amrywio o unedau cychwynnol i adeiladau yn y Ganolfan Arloesi a’r Parc Gwyddoniaeth a garejys bychain. Dywedodd fod rhai adeiladau anweithredol yn rhai masnachol; mae gan rai adeiladau swyddogaeth gymdeithasol-economaidd tra mae eiddo arall ond wedi cael ei etifeddu.
Gwnaeth y Pwyllgor y sylw bod angen clirio llawer o safleoedd mewn cymunedau yn y cymoedd, oedd yn cael eu hystyried yn ddiangen, gan nad oedd y safleoedd yn fasnachol hyfyw a holai a ellid mabwysiadu dull cymunedol i benderfynu ynghylch dyfodol y safle. Dywedodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Eiddo fod y dull hwn wedi cael ei ddilyn eisoes pan oedd yn briodol, er enghraifft, yng Nghwm Ogwr; fodd bynnag, canfuwyd bod hyn yn aml wedi bod yn ormod o dasg i’r gymuned ac felly nad oedd modd trosglwyddo’r ased i’r gymuned a bod y safle wedi cael ei werthu ar y farchnad agored. Hysbysodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Eiddo y Pwyllgor fod y datrysiadau mwyaf llwyddiannus wedi digwydd pan oedd y safleoedd wedi cael eu trosglwyddo i Gynghorau Tref a Chymuned.
Gwnaeth y Pwyllgor y sylw fod yna nifer o safleoedd oedd wedi eu gadael mewn cyflwr ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 20. |
||||||||||||||||||||||
Adroddiadau Gwybodaeth I'w Nodi PDF 164 KB Budget Monitoring 2017-18 – Quarter 1 Forecast Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor ddiweddariad i’w nodi ar sefyllfa ariannol y Cyngor fel ar 30 Mehefin 2017. Disgwylid y byddai gan y Cyngor danwariant net o £1.209 miliwn yn cynnwys gorwariant net ar Gyfarwyddiaethau o £292 mil a £1.501 miliwn net o danwariant ar gyllidebau corfforaethol fel ar 30 Mehefin 2017.
Mynegodd y Pwyllgor ei bryder yngl?n â’r gorwariant disgwyliedig yng Nghyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a’r rheswm pam na chafodd yr arbedion yn y Gyfarwyddiaeth honno eu cyflawni. Gofynnodd y Pwyllgor hefyd am eglurder ynghylch y gwariant ar gyllideb y Gwasanaethau Eraill i Bobl H?n.
|
||||||||||||||||||||||
Materion Brys To consider any item(s) of business in respect of which notice has been given in accordance with Part 4 (paragraph 4) of the Council Procedure Rules and which the person presiding at the meeting is of the opinion should by reason of special circumstances be transacted at the meeting as a matter of urgency. Cofnodion: Nid oedd dim materion brys.
|