Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dywedodd y Cynghorydd J.P. Blundell a’r Cynghorydd R. Shaw fod ganddynt fudd personol yn Eitem 4 ar yr agenda. |
|
Cymeradwyo’r Cofnodion PDF 89 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 18/06/2018
Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod cofnodion cyfarfod 18 Mehefin 2018 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir. |
|
Diweddariad ar y Flaenraglen Waith PDF 93 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Cyfreithiwr y Cyngor a'r Swyddog Monitro adroddiad er mwyn cyflwyno'r canlynol gerbron y Pwyllgor:
a) yr eitemau fydd yn cael eu hystyried yn ystod cyfarfod nesaf y Pwyllgor, a gynhelir ar 26 Medi 2018, a cheisio am gadarnhad o'r wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer y cyfarfod dilynol a drefnwyd, a gynhelir ar 6 Tachwedd 2018
b) rhestr o ymatebion i sylwadau, argymhellion a cheisiadau am wybodaeth ychwanegol o gyfarfod blaenorol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol
c) rhestr o eitemau posibl y Flaenraglen Waith ar gyfer blaenoriaethu ffurfiol a dyrannu i bob un o'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc
Roedd adborth o gyfarfod blaenorol y Pwyllgor wedi'i atodi i'r adroddiad yn Atodiad A, ac roedd Atodiad B yn manylu Blaenraglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, gan amlinellu’r agenda ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf.
Cyfeiriodd y Swyddog Craffu wedyn at Atodiad C yr adroddiad, a oedd yn cynnwys Blaenraglen Waith y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc, a oedd yn cynnwys y pynciau y rhoddwyd blaenoriaeth iddynt ac y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar gyfer y gyfres nesaf o Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc yn Nhabl 1, yn ogystal â rhestr o bynciau arfaethedig ar gyfer y dyfodol yn Nhabl 2.
Yn dilyn y ddadl a ddilynodd ynghylch cynnwys yr adroddiad, cadarnhaodd y Pwyllgor yr eitemau canlynol ar gyfer Blaenrhaglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol:
26 Medi 2018 Trawsnewid Digidol 6 Tachwedd 2018 Caffael a Chontractau Gofynnodd aelodau i'r adroddiad nodi'r canlynol: · Gwybodaeth am ofal cartref a chontractau cyflogaeth · Diweddariad ynghylch yr ystyriaeth i weithredu'r Cod Ymarfer – Cyflogaeth Foesol mewn Cadwyni Cyflenwi · Gwybodaeth am sut mae'r cyngor yn sicrhau arferion cyflogaeth teg o fewn cadwyni cyflenwi · Diweddariad yngl?n â chanlyniadau'r adolygiad busnes o faes caffael · Manylion ynghylch yr hyn mae'r cyngor yn ei wneud i hyrwyddo caffael moesegol – mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys copi o strategaeth gaffael Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Cadarnhaodd y Pwyllgor yr eitemau canlynol ar gyfer Blaenraglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc: 5 Medi 2018 SOSC1 Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol 6 Medi 2018 SOSC 2 Eiriolaeth 17 Medi 2018 SOSC 3 Gwasanaethau Gwastraff 16 Hydref 2018 SOSC 1 Diwygio Anghenion Dysgu Ychwanegol 18 Hydref 2018 SOSC 2 I'w gadarnhau 22 Hydref 2018 SOSC3 Proses CAT Ddiwygiedig PENDERFYNWYD: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi yn amodol ar weithredu'r cynigion uchod. |
|
Gwahoddedigion
Cynghorydd HJ David - Arweinydd Cynghorydd HM Williams – Dirprwy Arweinydd Darren Mepham, Prif Weithredwr Gill Lewis, Pennaeth Cyllid Dros Dro Cynghorydd Andrew Morgan, Cadeirydd Bargen Ddinesig Rhanbarth Prifddinas Caerdydd
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn amlinellu agweddau ar Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn benodol o ran gwybodaeth am y canlynol:
· Trosolwg o'r Fargen Ddinesig a’r hyn y byddai Pen-y-bont ar Ogwr yn ei ennill o ganlyniad iddi ? · Beth sy'n dod i Ben-y-bont ar Ogwr o ganlyniad i'r Fargen Ddinesig ? (beth ydym ni'n ei gael fel canran o'r mewnbwn ariannol ?) · A oes cynllun busnes y gall aelodau ei weld ? · Pa brosiectau sydd wedi cael eu nodi hyd yn hyn ?
Wedyn, rhoddodd gyflwyniad i’r adroddiad, a chafwyd sesiwn holi ac ateb gyda'r aelodau a'r gwahoddedigion yn dilyn hyn.
Cyfeiriodd aelod at baragraffau 3.5 a 3.6 o'r adroddiad, gan nodi bod llawer o rannau gwahanol yn gysylltiedig â'r prosiect, a oedd yn cynnwys y posibilrwydd o ddeg gweledigaeth wahanol (o'r sefydliadau gwahanol sy'n ymwneud â'r cynllun) a fyddai’n cael eu harwain gan ddeg Prif Weithredwr gwahanol. Roedd yn meddwl oherwydd hyn a fyddai'r weledigaeth yn cael ei cholli o ran symud ymlaen â mentrau allweddol.
Dywedodd yr Arweinydd mai ond un weledigaeth oedd mewn perthynas â dyheadau Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, h.y. yr un a oedd yn y Cynllun Busnes a oedd yn cefnogi'r cynllun. Cefnogwyd y weledigaeth hon yn unfrydol gan yr awdurdodau a oedd yn ymwneud â'r Fargen Ddinesig, a oedd yn brosiect hirdymor dros 20 o flynyddoedd a oedd wedi'i lofnodi gan bob un o'r deg sefydliad a oedd yn cymryd rhan gyda llywodraethau'r DU a Chymru. Cefnogwyd y Fargen Ddinesig gan £375 miliwn, a byddai'n darparu cyflogaeth, cyfleoedd adfywio a gwell cysylltiadau trafnidiaeth drwyddi draw'r rhanbarth a gwmpesir gan y prosiect.
Gofynnodd aelod faint oedd y costau a oedd wedi cael eu hysgwyddo, e.e. am weinyddiaeth a chomisiynu ac ati, o ganlyniad i gefnogi'r Fargen Ddinesig.
Dywedodd y Prif Weithredwr fod rhai gofynion cymorth a roddwyd ar waith mewn perthynas â'r uchod yn orfodol, a bod y rhain yn ymwneud yn bennaf â materion llywodraethu. Er enghraifft, byddai ond un ffynhonnell un craffu ar y cynllun, yn hytrach na phob awdurdod sydd yn cymryd rhan yn craffu ar wahân drwy ddeg dull gwahanol. Dywedodd fod tîm prosiect wedi cael ei roi ar waith hefyd i gefnogi Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. O'u cymharu â Bargeniau Dinesig eraill sy'n gweithredu drwy'r DU, ychwanegodd y Prif Weithredwr ymhellach, roedd mecanweithiau cefnogi megis tîm y prosiect yn 'ddarbodus'. Esboniodd fod angen i Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gael ei harchwilio hefyd, a byddai hynny'n gost ychwanegol. Dywedodd wrth yr aelod y gallai roi amcangyfrif o gyfanswm y gost ar gyfer materion fel yr uchod yn dilyn y cyfarfod.
Ychwanegodd Cadeirydd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y byddai'r gost ar gyfer yr uchod a rhai elfennau gorfodol eraill o'r Fargen Ddinesig yn dod i gost a rennir o £1 miliwn rhwng pob un o'r awdurdodau sydd yn cymryd rhan.
Gofynnodd un aelod, o ran y gost £1 miliwn o ran y cymorth a'r gwaith monitro mewn perthynas â Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a oedd hyn yn cynnwys cost ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 76. |
|
Perfformiad Ariannol 2017–18 PDF 190 KB Gwahoddedigion
HollAelodau’r Cabinet a Bwrdd Rheoli Corfforaethol Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro adroddiad gyda’r diben o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor o ran perfformiad ariannol y cyngor ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2018.
Tynnodd y Prif Weithredwr sylw'r aelodau at gyllideb refeniw net y cyngor a'r alldro terfynol ar gyfer 2017–18 fel y nodwyd yn Nhabl 1 o'r adroddiad, a oedd yn adlewyrchu'r gymhariaeth rhwng y gyllideb â'r alldro gwirioneddol ar y dyddiad uchod.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys ym mharagraff 4.1.6 yn Nhabl 2 rhai trosglwyddiadau arian ac addasiadau technegol a broseswyd yn ystod Chwarter 4.
Roedd adran nesaf yr adroddiad yn ymhelaethu ynghylch monitro'r Cynigion i Leihau'r Gyllideb, ac yn cynnwys nodyn esboniadol o ran lleihau'r gyllideb yn 2017–18 a chymhariaeth o'r un fath ar gyfer y cyfnod blaenorol yn 2016–17.
Yna roedd paragraff 4.2.4 o'r adroddiad yn nodi'r cynigion mwyaf sylweddol ar gyfer lleihau’r gyllideb nad oeddent wedi cael eu cyflawni yn rhan o statws COG, h.y. coch, oren, gwyrdd.
Roedd Atodiad 2 yr adroddiad yn nodi maint gwirioneddol yr arbedion yn erbyn y cynigion a grybwyllwyd uchod, a'r camau i'w cymryd gan y gyfarwyddiaethau priodol i leihau diffygion wrth symud ymlaen. Byddai'r arbedion a nodwyd na chawsant eu bodloni'n llawn yn parhau i gael eu monitro yn ystod 2018–19. Roedd Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wedi datblygu Cynllun Cyflenwi Gwasanaeth yn y Dyfodol a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn flaenorol, ac roedd hyn yn amlinellu ymateb y gyfarwyddiaeth i'r her ariannol a oedd yn ei hwynebu, yn enwedig wrth amlinellu'r camau a gynlluniwyd i'w cymryd er mwyn sicrhau'r arbedion ar gyfer y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ac uchafu'r cyfleoedd incwm erbyn mis Mawrth 2019. Byddai hyn yn cael ei fonitro'n barhaus drwy 2018–19.
Roedd darn nesaf yr adroddiad yna'n cynnwys sylwadau o ran sefyllfa ariannol pob prif faes gwasanaeth sy'n cwmpasu cyfarwyddiaethau gwahanol y cyngor, ac roedd Atodiad 3 o'r adroddiad yn ehangu ar hyn, yn ogystal â rhoi sylwadau o ran y gwahaniaethau mwyaf ystyrlon.
Cyfeiriodd yr adroddiad wedyn at alldro'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2017–18, ynghyd â chyngor fod y gyllideb flaenorol a gymeradwywyd gan y cyngor ar 1 Mawrth 2017 wedi cael ei diwygio ymhellach a'i chymeradwyo gan y cyngor yn ystod y flwyddyn i gynnwys cyllidebau a gyflwynwyd o 2016–17, ar y cyd ag unrhyw gynlluniau newydd a grantiau a gymeradwywyd. Roedd y wybodaeth hon hefyd yn cynnwys manylion o ran cynlluniau lle mae arian llithriad yn ofynnol, a'r rhesymau dros hyn.
Roedd Tabl 6 yn yr adroddiad yn rhoi manylion o ran Symud Cronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd i 31 Mawrth 2018, tra oedd Tabl 7 yn dilyn hyn yn amlinellu'r dyraniadau net i / oddi wrth Gronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd yn ystod Chwarter 4. Roedd dadansoddiad llawn o'r holl symud mewn perthynas â Chronfeydd Wrth Gefn a Glustnodwyd ar gyfer y cyfnod a nodwyd wedi'i ddarparu yn Atodiad 5 o'r adroddiad.
Gofynnodd yr aelodau sawl cwestiwn i'r gwahoddedigion, gan ymadael â'r cyfarfod yn dilyn hyn. Roedd y cwestiynau ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 77. |
|
Perfformiad y Cyngor yn erbyn ei Ymrwymiadau ar gyfer 2017–18 PDF 268 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a oedd yn cynnig trosolwg i'r Pwyllgor o berfformiad y Cyngor yn 2017–18 yn erbyn ei ymrwymiadau yn 2017–18 i gyflawni'r blaenoriaethau gwella a nodwyd yn ei Gynllun Corfforaethol 2016–10, fel y’i adolygwyd yn 2017–18.
Roedd yr adroddiad yn amlinellu rhywfaint o wybodaeth gefndirol, gan esbonio'r meysydd gwaith canlynol yn dilyn hynny:
PENDERFYNWYD: (1) Nododd y Pwyllgor berfformiad diwedd y flwyddyn ar gyfer 2017–18 yn erbyn y Cynllun Corfforaethol.
(2) Argymhellodd yr aelodau mai ond y dangosyddion perfformiad nad ydynt wedi cael eu bodloni hyd yn hyn y dylid eu cyflwyno mewn adroddiadau o'r fath yn y dyfodol. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim. |