Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committee
Rhif | Eitem | ||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datganiadau o Fuddiant Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim |
|||||||||||||||||||
Blaenraglen Waith Trosolwg a Chraffu (FWP) 2017-18 PDF 84 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth, gyda'r diben o gyflwyno:
a) Yr eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 25 Ionawr 2018, a cheisio cadarnhad o'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer y cyfarfod dilynol sydd wedi'i drefnu ar 21 Chwefror 2018; b) Rhestr o ymatebion i sylwadau, argymhellion a cheisiadau am wybodaeth ychwanegol o gyfarfod blaenorol y Pwyllgor; c) Rhestr o'r eitemau posibl ar gyfer y Flaenraglen Waith ar gyfer blaenoriaethau ffurfiol a dyraniadau i bob un o'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc.
Yn atodedig i'r adroddiad roedd sylwadau/casgliadau (gan gynnwys rhai sydd heb eu gweithredu eto) ar y pynciau a ystyriwyd yn y cyfarfod diwethaf (Atodiad A); Blaenraglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, gan gynnwys yr eitemau a drefnwyd ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf (Atodiad B), a Blaenraglen Waith y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc, sy'n cynnwys y pynciau a flaenoriaethwyd ac y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar gyfer y gyfres nesaf o Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn Nhabl 1, ynghyd â rhestr o'r pynciau arfaethedig ar gyfer y dyfodol yn Nhabl 2 (Atodiad C).
Ar ôl ystyried yr adroddiad, a'r trafodaethau a ddilynodd,
PENDERFYNWYD: (1) Trafododd Aelodau'r Flaenraglen Waith Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, a chytunwyd ar y canlynol:
(2) Trafododd Aelodau'r Flaenraglen Waith Trosolwg a Chraffu Pwnc, a chytunwyd ar y canlynol:
(3) Bu i'r Aelodau flaenoriaethu a dyrannu'r canlynol i'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc:
|
|||||||||||||||||||
Monitro Cyllideb 2017-18 – Rhagolygon Chwarter 2 PDF 165 KB
Gwahoddedigion:
HollAelodau y Cabinet a Bwrdd Rheoli Corfforaethol Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi diweddariad i'r Pwyllgor ar sefyllfa ariannol y Cyngor ar 30 Medi 2017.
Darparodd y Swyddog Craffu fraslun o'r adroddiad, ac eglurodd y byddai pob Cyfarwyddwr yn derbyn gwahoddiad i'r cyfarfod, ynghyd â'r Aelod Cabinet priodol, er mwyn ymateb i unrhyw gwestiynau sydd gan yr Aelodau mewn perthynas â'r maes gwasanaeth maent yn gyfrifol amdano. Byddai'r Pennaeth Cyllid a'r Swyddog Adran 151 yn bresennol drwy'r holl gyfarfod, i ateb unrhyw gwestiynau o natur ariannol.
Gwahoddodd y Cadeirydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth i Deuluoedd, ynghyd â'r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio, i'r cyfarfod.
Bu i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth i Deuluoedd ddarparu braslun o sefyllfa ariannol ei Gyfarwyddiaeth yn ystod y cyfnod uchod, cyn i'r Aelodau fynd ati i holi cwestiynau.
Nododd Aelod nad oedd lleihad yn y gyllideb i ysgolion wedi'i drefnu ar gyfer y flwyddyn i ddod, ond bod yr adroddiad yn adlewyrchu rhagamcan o ddiffyg ariannol i ysgolion. Gofynnodd a fyddai hyn yn cael unrhyw effaith ar leihad yn niferoedd staff.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth i Deuluoedd nad oedd yn ymwybodol o unrhyw gynlluniau i gael gwared â swyddi athrawon. Serch hynny, bydd newidiadau o ran staffio yn parhau, hynny yw peidio â chyflogi aelod newydd o staff ar ôl i athro ymadael, a/neu athrawon yn ymddiswyddo'n wirfoddol/ymddeol yn gynnar.
Gofynnodd Aelod pa gamau oedd yn cael eu cymryd i sicrhau bod Cynlluniau Busnes ysgolion yn dod yn fwy effeithlon.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth i Deuluoedd bod dyletswydd ar bob ysgol erbyn hyn i ddarparu cynlluniau adfer debyd cadarn fel rhan o'u Cynllun Busnes, ac y caiff hyn ei adolygu'n fisol er mwyn sicrhau bod gwariant yr ysgolion o fewn y gyllideb dros raglen dreigl barhaus. Cynhaliwyd trafodaethau hefyd am Gynlluniau Busnes a chyllid ysgolion gyda chyrff llywodraethu ysgolion. Nododd hefyd bod ar wahanol gontractau mewn ysgol penodol yn effeithio ar gyllideb yr ysgol honno, a bod hyn yn rheswm pellach i fonitro eu cyllideb yn rheolaidd.
Gan gyfeirio at dudalen 23 yn yr adroddiad, a'r paragraff dan y teitl Cyllidebau Dirprwyedig Ysgolion, dywedodd un Aelod fod nifer sylweddol o ysgolion yn rhagweld diffyg yn y balans erbyn diwedd y flwyddyn, ac y rhagwelir y bydd y diffyg cyffredinol yn £1.234m. Gofynnodd sut/pryd y bwriedir adfachu'r diffyg hwn.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Addysg a Chymorth i Deuluoedd y bydd yr holl ysgolion yn cywiro'r diffyg hwn cyn gynted â phosibl, heb effeithio ar ansawdd yr addysg a ddarperir i ddisgyblion yn yr ysgol. Os yw'r diffyg yn sylweddol o fawr, yna y nod fyddai cywiro'r diffyg o fewn cyfnod o dair blynedd (neu bum mlynedd yn yr achosion gwaethaf).
Gofynnodd Aelod a yw ysgolion yn meddu ar yr arbenigedd sydd ei angen i reoli'r toriadau arfaethedig, gan y byddant yn profi toriad o 1.5% i'w cyllideb bob blwyddyn am y ddwy flynedd nesaf. Gofynnodd a ydynt wedi'u paratoi ar gyfer ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 30. |
|||||||||||||||||||
Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 hyd at 2021-22 PDF 235 KB
Gwahoddedigion:
Councillor HJ David – Leader Councillor HM Williams – Deputy Leader Councillor D Patel – Cabinet Member Wellbeing and Future Generations Darren Mepham, Chief Executive Andrew Jolley, Corporate Director - Operational and Partnership Services; Randal Hemingway, Head of Finance Sarah Kingsbury, Head or Human Resources and Organisational Development
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad â'r diben o gyflwyno Strategaeth Ariannol Tymor Canolig drafft 2018-19 hyd at 2021-22 i'r Pwyllgor, sy'n gosod blaenoriaethau gwario'r Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a meysydd cyllideb targed ar gyfer arbedion hanfodol. Roedd y Strategaeth yn cynnwys rhagolygon ariannol ar gyfer 2018-22, a chyllideb refeniw ddrafft fanwl ar gyfer 2018-19.
Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid a'r Swyddog Adran 151 at yr Atodiadau a oedd yn cefnogi'r adroddiad, lle nodwyd arbedion ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Adnoddau. Dywedodd yn benodol ei fod am geisio incwm ychwanegol o achosion o adfer dyledion gwael a budd-daliadau tai, lle gwnaed cynnydd da yn ddiweddar gan ddod ag incwm drwodd.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth at Atodiad B yr adroddiad, a gwnaeth y sylwadau canlynol ar doriadau i'r gyllideb a nodwyd yn ei Gyfarwyddiaeth mewn meysydd penodol fel a ganlyn:-
OPS1 – Ailstrwythuro ar draws y Gyfarwyddiaeth – byddai ailstrwythuro staff yn arwain at lai o allu o fewn timau. Roedd yr arbediad hwn wedi'i ohirio am y tro, wrth i'r Prif Weithredwr ymchwilio i gyflwyno newidiadau ar lefel Uwch Reoli.
OPS2 – Lleihau cyllideb hyfforddi caffael – Arbedion sydd eu hangen am y flwyddyn 2018-19 a nodwyd gan ailstrwythuro adrannau a chyflwyno dau aelod o staff dan hyfforddiant
OPS3 – Effeithlonrwydd y Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir – Bydd y cynigion arbedion a glustnodwyd i'r maes gwasanaeth hwn yn cael eu hystyried yr wythnos nesaf gan y Cydbwyllgor Gwasanaethau Rheoleiddio a Rennir
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth fod yr arbedion a glustnodwyd i adrannau Tai, Technoleg Gwybodaeth a Pherfformiad, eisoes wedi'u canfod ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Casgliadau:
Cymeradwyodd Aelodau'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth am ei weledigaeth strategol glir a'i gwaith yn cynllunio tuag at doriadau cyllideb yn y dyfodol. |
|||||||||||||||||||
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim |