Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

34.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

35.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 77 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 15/11/2017

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:     Cymeradwyo Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol dyddiedig 15 Tachwedd 2017 fel cofnod gwir a chywir.

36.

Diweddariad am y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 83 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad ynghyd ag Atodiadau A, B a C sydd ynghlwm am yr uchod.

 

Mewn perthynas â'r adborth o gyfarfod y Pwyllgor ar 15 Tachwedd 2017 ar bwnc Trawsnewid Digidol, mynegodd yr Aelodau siom ynghylch y diffyg awydd i gydweithio ag awdurdodau lleol eraill.  Dywedodd y Pwyllgor nad oedd hyn yn cyfateb i'r hyn y mae Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol yn ei annog, o ran hyrwyddo cydweithio, ac yn eu barn hwy, gallai fod yna awdurdodau lleol eraill, sydd eisoes o flaen CBSP o ran gwasanaethau a thechnoleg y gallai CBSP elwa ohonynt trwy ymgysylltu â hwy, yn hytrach na dechrau ar bethau o'r dechrau.

 

Roedd y Pwyllgor hefyd yn dymuno mynd ar ôl y cais am adroddiad ynghylch Gwastraff mewn perthynas â'r Pwyllgor yn derbyn y contract heb ei ddiwygio ar gyfer  gwastraff.

 

Blaenraglen Waith Trosolwg a Chraffu Corfforaethol

Cytunodd y Pwyllgor i symud eitem y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ym mis Mawrth er mwyn derbyn cynllun ariannol ‘Q1’ y Gwasanaethau Cymdeithasol.  Ymhellach, cytunodd yr Aelodau y byddent ar gyfer eu cyfarfod ym mis Ebrill naill ai'n derbyn y Fargen Ddinesig, petai angen ail gyfarfod ar yr eitem hon, neu os ddim, yr eitem ar y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.

 

Blaenraglenni Gwaith Trosolwg ar Bynciau a Chraffu

Mewn perthynas â blaen raglenni gwaith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bynciau cytunodd y Pwyllgor ar yr eitemau newydd a gyflwynwyd gan y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar Bynciau sef y 'Prosiect Ailfodelu Maethu' a 'Chludiant Ysgol' gyda chytundeb y byddai'r ddau yn cael eu datblygu ymhellach mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd ar yr eitemau blaenoriaeth canlynol fel rhai heb eu cadarnhau ar gyfer cyfarfodydd o 19 Ebrill 2018 ymlaen, y byddai’r dyddiadau ar eu cyfer yn cael eu cadarnhau yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor:

 

19 Ebrill 2018 - SOSC 3 - Tai mewn Argyfwng

SOSC 1 - Effeithiau Cyllidebol Carchar y Parc

SOSC 2 - Diwygio ADY

SOSC 3 - Gwastraff

 

PENDERFYNWYD:     Nodi a derbyn yr adroddiad, yn amodol ar yr argymhellion a amlinellir uchod.

37.

Cynllun Corfforaethol 2018-2022 pdf eicon PDF 137 KB

Gwahoddedigion:

 

Holl Aelodau’r Cabinet a Bwrdd Rheoli Corfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Gwahoddedigion i'r cyfarfod a rhoddodd yr Arweinydd gyflwyniad i'r adroddiad.

 

Yn dilyn hyn gofynnodd y Cadeirydd am gwestiynau i'r Gwahoddedigion gan Aelodau.

 

Nododd Aelod o dudalen 32 yr adroddiad y byddai Bargen Ddinesig Caerdydd yn cynhyrchu tua 25,000 o swyddi ychwanegol ar draws y rhanbarth. Gofynnodd faint o'r rhain fyddai ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Dywedodd yr Arweinydd nad oedd y rhif hwn yn hysbys ar hyn o bryd, ond yr oedd yn dymuno nodi y byddai'n golygu y byddai pobl o Ben-y-bont ar Ogwr yn cael y moethusrwydd o geisio am fwy o swyddi oedd yn cael eu creu mewn ardaloedd eraill sy'n cael eu cwmpasu gan y Fargen Ddinesig, fel yng Nghaerdydd a Chasnewydd, yn ogystal ag ardal Pen-y-bont ar Ogwr. Felly byddai'n rhoi mwy o ddewis i bobl weithio allan o'r ardal yn ogystal ag o’i mewn, a byddai gwahanol fathau o swyddi yn addas ar gyfer set sgiliau gwahanol unigolion. Roedd yn ymwybodol o'r wybodaeth ystadegol sydd ar gael fod y rhan fwyaf o'r swyddi yng Nghaerdydd ar hyn o bryd yn cael eu llenwi gan weithwyr sy’n byw y tu allan i'r ddinas a'r ardal o'i chwmpas, yn hytrach nag o fewn y ddinas. Byddai'r Fargen Ddinesig felly yn annog gweithlu mwy symudol na'r hyn sy'n bodoli ar hyn o bryd.

 

Gwnaeth yr Aelod sylw arall trwy ddweud bod Pen-y-bont ar Ogwr angen gwaith pellach wedi’i wneud ar ei seilwaith.

 

Cytunai’r Arweinydd, gan ychwanegu bod yna ganolbwyntio ar hyn, ac wedi cyfarfod yn ddiweddar â darparwyr trafnidiaeth lleol, sefydlwyd mai Pen-y-bont ar Ogwr oedd y rhanbarth sy'n tyfu gyflymaf y tu allan i ddinas Caerdydd.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 32 yr adroddiad ac at y Rhaglenni Allweddol, a Rhaglen yr Economi Llwyddiannus. Er bod cynlluniau adfywio allweddol a chynlluniau datblygu lleol yn cael eu crybwyll yn adran hon yr adroddiad, roedd y cynlluniau hyn yn ymwneud mwy â'r hyn oedd wedi digwydd yn y gorffennol, hy datblygiad Maes Parcio Rhiw. Teimlai y dylai rhan hon yr adroddiad gynnwys mentrau newydd fel y rhai a gynigiwyd. Teimlai hefyd nad oedd Pen-y-bont ar Ogwr yn edrych yn atyniadol i ymwelwyr pan oeddent yn teithio i'r Fwrdeistref Sirol ar hyd llwybrau megis coridor yr M4, a bod angen gwneud rhywfaint o waith i'r amgylchedd er mwyn gwella hyn.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio ei fod o'r farn bod Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cymharu'n dda ag eraill i ymwelwyr pan oeddent yn teithio i mewn o amrywiol leoedd eraill. Roedd gwaith yn mynd rhagddo trwy amrywiol brosiectau a chyllid allanol, nid yn unig ar ffurf datblygu Maes Parcio Rhiw, ond hefyd trwy drosi lle gwag uwchben siopau i ddarparu Tai Cymdeithasol a Llety Fforddiadwy y mae mawr angen amdano, gan gynnwys yng nghalon canol y trefi. Roedd yna brosiectau hefyd yn y cymoedd trwy Dasglu'r Cymoedd, ac roedd gwaith yn digwydd i fynd ar ôl cyllid ar gyfer prosiectau trawsnewidiol megis ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg. Ychwanegodd fod yna nifer  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 37.

38.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2018-19 i 2021-22 a'r Broses Ymgynghori ar y Gyllideb Ddrafft pdf eicon PDF 66 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad, a’i ddiben  oedd cyflwyno a) adroddiad terfynol y Panel Ymchwil a Gwerthuso'r Gyllideb (BREP) ynghlwm yn Atodiad A i'r adroddiad, a b) ymatebion o bob un o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar Bynciau mewn perthynas â chynigion cyllideb drafft y Cabinet, ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad B, i’r Pwyllgor.

 

Trafododd y Pwyllgor yn fras y broses gyllidebol a chanfyddiadau’r Panel Ymchwil a Gwerthuso Cyllidebau (BREP) gyda'r Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd a'r Pennaeth Cyllid Dros Dro, lle gwnaed y cynnig i gynnal cyfarfod byr o BREP i adolygu a phenderfynu sut i fynd â phethau ymlaen y flwyddyn nesaf. Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch a ddylai'r broses BREP ddechrau yn gynharach yn y flwyddyn i ystyried camau cynnar datblygu cynigion y gyllideb gyda'r Cabinet a'r Cyfarwyddwyr Corfforaethol perthnasol. Cytunodd yr Arweinydd gyda'r cynigion, a chynigiodd wahodd BREP i drafod cynigion y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig, yn gynnar yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

 

ARGYMHELLWYD:         Bod y Pwyllgor yn cytuno i gyflwyno canfyddiadau ac argymhellion BREP a'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar Bynciau i'r Cabinet, ac ar yr un pryd, yn gwahanu argymhellion perthnasol y Gyllideb.

39.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z