Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol - Dydd Iau, 29ain Mawrth, 2018 09:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

46.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan yr Aelodau canlynol:-

 

Y Cynghorydd T Thomas

Y Cynghorydd J Gebbie

Y Cynghorydd T Giffard

Y Cynghorydd RE Young

47.

Datganiadau Buddiant

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd C Webster fuddiant personol yn eitem Agenda 6 gan fod ei mab wedi derbyn Cymorth Gofal Cymdeithasol yn y gorffennol.

48.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 112 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfodydd y 14/12/17 and 25/01/18

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                  Bod cofnodion cyfarfod y Craffu a Throsolwg Corfforaethol ar 14 Rhagfyr 2017 a 25 Ionawr 2018 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

49.

Diweddariad ar y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 84 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethau adroddiad, a nododd:-

 

a)    Yr eitemau y disgwylir iddynt gael eu hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor i gael ei gynnal ar 30 Ebrill 2018, a cheisio cadarnhad o’r wybodaeth mae ei hangen ar gyfer y cyfarfod wedi’i drefnu ar ôl hynny, nad yw’r dyddiad ar ei gyfer wedi'i gadarnhau eto;

b)    Rhestr o ymatebion i sylwadau, argymhellion a cheisiadau am wybodaeth ychwanegol o gyfarfod diwethaf y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Corfforaethol;

c)    Rhestr o eitemau Flaenraglen Waith posibl i’w blaenoriaethu’n ffurfiol a’u dyrannu i bob un o‘r Pwyllgorau Craffu a Throsolwg Pwnc

 

Atodwyd adborth o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Corfforaethol yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Wedi atodi at yr adroddiad yn Atodiad B roedd Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Corfforaethol, oedd yn cynnwys eitemau i gael eu trafod yn y ddau gyfarfod nesaf i gael eu cynnal heddiw a 30 Ebrill 2018.

 

Wedi atodi hefyd at Atodiad C yr adroddiad oedd Flaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Pwnc oedd yn cynnwys testunau wedi’u blaenoriaethu ac y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Corfforaethol yn Nhabl 1 wedi’i atodi at yr adroddiad, yn ogystal â rhestr o destunau i’r dyfodol arfaethedig yn Nhabl 2.

 

Atgoffodd y Swyddog Craffu’r Aelodau y gallai Aelodau adnabod eitemau ychwanegol trwy ddefnyddio’r ffurflen feini prawf i’w hystyried yn y dyfodol ar y Flaenraglenni Gwaith Craffu wedi pennu dyddiadau cyfarfodydd Craffu yn y dyfodol yn dilyn cyfarfod Blynyddol y Cyngor ym mis Mai sy'n dod.

 

Cytunodd yr Aelodau i wneud sawl newid i’r Flaenraglenni Gwaith ar gyfer dau gyfarfod nesaf y pedwar Pwyllgor Craffu gwahanol wedi’u trefnu ac adlewyrchwyd y rhain yn y penderfyniad isod, ynghyd â'r eitemau gwreiddiol sydd hefyd yn cael eu rhestru er mwyn cyflawnder.  

 

PENDERFYNWYD:               Bod yr eitemau agenda canlynol yn cael eu hystyried ar gyfer dwy rownd nesaf y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Corfforaethol a Phwyllgorau Craffu a Throsolwg Pwnc 1, 2 a 3:-

 

Pwyllgor Craffu a Throsolwg Corfforaethol

 

18 Mehefin – Diweddariad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

                Perfformiad Ariannol Chwarter 4 2017-2018

                Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol

26 Gorffennaf – Gweithio ar y cyd â’r Heddlu

                Adroddiad Perfformiad Bob Chwarter – Chwarter 4

 

Pwyllgor Craffu a Throsolwg Pwnc 1

 

24 Mai – Effeithiau cyllidebol Carchar Parc

4 Gorffennaf – Safonau Ysgolion

 

Pwyllgor Craffu a Throsolwg Pwnc 2

 

6 Mehefin - Trafnidiaeth rhwng y Cartref a’r Ysgol

12 Gorffennaf - Diogelu

 

Pwyllgor Craffu a Throsolwg Pwnc 3

 

12 Mehefin – Gwasanaethau Priffyrdd

10 Gorffennaf – i’w gadarnhau

50.

Cynlluniau Busnes Cyfarwyddiaethau 2018-19 pdf eicon PDF 61 KB

Gwahoddedigion

 

Holl Aelodau’r Cabinet a Bwrdd Rheoli Corfforaethol

Yuan Shen, Rheolwr Perfformiad Corfforaethol, Partneriaethau a Thrawsnewid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad, a’r diben oedd cyflwyno Cynlluniau Busnes Cyfarwyddiaethau drafft y Cyngor  ar gyfer 2018-2019 i’r Pwyllgor sylwi arnynt.

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r Aelodau Cabinet a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol perthnasol yn cael eu gwahodd i’r cyfarfod, ac yn ei dro, i ymateb i gwestiynau ar eu Cynlluniau Busnes. Ychwanegodd y byddai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol – Gwasanaethau Sefydliadol a Phartneriaeth, yn parhau i fod yn bresennol yn y cyfarfod gan ei fod yn dirprwyo ar gyfer y Prif Weithredwr oedd ar wyliau blynyddol ar hyn o bryd.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio wrth y Pwyllgor mewn ymateb i gwestiwn Aelod, fod y Cyngor yn pwyso ar Network Rail am gysylltiadau rheilffordd wedi’u trydanu a'r oedd am ddylunio cynllun ym Mhencoed ar gyfer y bont newydd, ynghyd â chynllun rheoli traffig. Ychwanegodd ei fod yn hoffi Ysgrifenyddiaeth Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru  a bod angen i’r Aelod Seneddol priodol drafod y cynllun ymhellach a rhoi caniatâd am ddyddiad i gymeradwyo hyn.

 

Ymatebodd yr Aelod trwy ddweud y dylid pwyso ar Fargen Ddinesig Rhanbarth Caerdydd am gyfraniad at y cynllun, a threfnwyd iddo gael ei gwblhau erbyn Mawrth 2019, ac mae’n bosibl na fydd trenau wedi’u trydanu ar waith yn y lleoliad erbyn yr amser hon.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod ystod o gynlluniau yr oedd y Cyngor wedi’u cyflwyno i’r fenter Bargen Ddinesig fynd â nhw yn eu blaen, fodd bynnag, roedd awdurdodau a sefydliadau oedd yn  cymryd rhan wedi cyflwyno ceisiadau tebyg ar gyfer cynlluniau yn eu hardaloedd hefyd. Felly, pe bai’r cynllun yng ngorsaf drenau Pencoed yn cael ei ychwanegu at y rhain, byddai angen yn gyntaf ei asesu a’i flaenoriaethu yn erbyn eraill oedd wedi’u cyflwyno i’w hystyried.

 

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen 106 yr adroddiad lle y nododd Gyflawniad Allweddol, sef bod y Cyngor yn cefnogi 722 o bobl leol i ddatblygu sgiliau fel y gallent fanteisio ar gyfleoedd i lwyddo trwy ein rhaglenni Cymunedau dros lwyddo trwy ein Rhaglenni Cymunedau ar gyfer Gwaith, Pontydd i Gyflogaeth a BESP.

?PL?

?PL?

 

 Teimlodd y dylai’r grwpiau hyn, i ryw raddau, ryng-gysylltu, fel y galli mwy o wybodaeth gael ei rhannu rhyngddynt, a fyddai wedyn, yn ôl pob tebyg, yn achosi’r nifer hwn i gynyddu ac arwain at ganlyniadau gwell ar gyfer pobl sy’n ymrwymo i’r rhaglenni hyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Gymunedau fod y Cabinet wedi ystyried adroddiad yr wythnos hon o’r enw Rhaglenni Cyflogadwyedd, a phrif ddiben hwn oedd sefydlu tîm unigol i greu ac uno rhaglenni megis y rhai a nodir uchod. Ymrwymir arian gan Lywodraeth Cymru a chyllid Ewropeaidd i’r rhaglenni hyn hefyd.

 

Ychwanegodd yr Aelod cabinet dros Addysg ac Adfywio fod angen hefyd i’r Awdurdod gadw golwg at bobl ifanc sydd dal yn yr ysgol gan fod rhwymedigaeth ganddo fel yr Awdurdod Addysg lleol i gadw golwg ar unigolion hyd at 25 oed (nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth, ac ati), a byddai hyn yn cynorthwyo gydag eu hannog i edrych ar ddatblygu eu sgiliau a fyddai'n eu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 50.

51.

Cynllun Cyflawni i’r Dyfodol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. pdf eicon PDF 71 KB

Gwahoddedigion

 

Cllr PJ White, Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar;

Susan Cooper, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles;

Darren Mepham, Prif Weithredwr;

Gill Lewis, Pennaeth Cyllid Dros Dro

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant adroddiad a rannodd gyda’r Pwyllgor Gynllun Cyflawni i’r Dyfodol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

 

Esboniodd fod y Cyngor wedi lleihau’r gyllideb gan fwy na £12m ym maes gofal cymdeithasol a llesiant yn y 4 blynedd diwethaf. Cyflawnwyd hyn trwy wneud pethau gwahanol, hy ailfodelu, ail-gyflunio, ailstrwythuro a datblygu ffyrdd newydd o weithio ynghyd gyda modelau gwasanaeth newydd. Y strategaeth ar gyfer yr ychydig o flynyddoedd nesaf oedd i reoli galw a chyflwyno ffyrdd newydd o weithio er mwyn lleihau dibyniaeth a galluogi pobl i wneud y mwyaf ar eu hannibyniaeth. Mae angen cyflawni hyn o fewn y gyllideb gyfredol ac ar ôl ystyried y gorwariant cyfredol o £2.2m.

 

Wedi atodi at Atodiad 1 yr adroddiad oedd y Cynllun Cyflawni i’r Dyfodol ("y Cynllun"), fodd bynnag nodwyd bod y Cynllun yn ddogfen sy’n datblygu ac y gallai’r camau gweithredu a’r targedu wedi’u cynlluniau ynddi newid o bosibl.

 

Mae dwy ran i’r Cynllun sef Adran A – sy’n tynnu sylw at waith wedi’i gwblhau ac arbedion MTFS wedi’u cyflawni hyd yn hyn a diffygion MTFS, ac Adran B - y Cynllun Cyflawni sy'n nodi'r camau gweithredu wedi'u cynllunio i gael eu cymryd er mwyn cyflawni arbedion MTFS angenrheidiol a gwneud y mwyaf ar gyfleoedd incwm erbyn Mawrth 2019.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod arbedion MTFS o fwy na £400k wedi’u cyflawni yn 2017/18 dan y Cynllun trwy adolygu a gweithredu modelau cyflawni newydd ar gyfer contractau partneriaeth. Roedd diffyg o £237k o hyd y mae camau gweithredu ychwanegol yn cael eu datblygu ar ei gyfer, fel y nodir yn y Cynllun.

 

Ychwanegodd fod Bwrdd Llywodraethu Corfforaethol wedi’i sefydlu i fonitro ac adolygu Cynllun y Gyfarwyddiaeth. Roedd y Bwrdd i gael ei gadeirio gan y Prif Weithredwr ac roedd Swyddogion yn sefyll arno fel y dangosir ym mharagraff 4.6 yr adroddiad.

 

Wedi atodi at Atodiad 2 yr adroddiad roedd tabl yn nodi trefniadau llywodraethu yn y Gyfarwyddiaeth.

 

Aeth yr adroddiad ymlaen i ddweud mai’r gorwariant a ragwelir yn adroddiad Monitro Cyllideb y Cabinet – chwarter 3 oedd £200k yn erbyn gwasanaethau pobl h?n. Food bynnag, ar gyfnod 10, roedd y gorwariant a ragwelwyd wedi lleihau i £70k. Byddai hyn ynghyd â’r ffaith bod Llywodraeth Cymru hefyd wedi dyrannu cyllid grant pwysau’r gaeaf i awdurdodau lleol yn golygu y bydd gwasanaethau pobl h?n o leiaf yn talu eu costau erbyn diwedd y flwyddyn.

 

O ran Plant Sy'n Derbyn Gofal, £1.049m oedd y gorwariant a ragwelwyd yn adroddiad monitro cyllideb y Cabinet – chwarter 3. Roedd hyn yn bennaf o ganlyniad i blant yn cael eu lleoli mewn lleoliadau Allan o’r Sir gyda lleoliadau o’r fath yn costio hyd at £460k y flwyddyn y lleoliad.

 

Atgoffodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yr Aelodau fod y Gyfarwyddiaeth ar hyn o bryd mewn sefyllfa ariannol well eleni na’r llynedd sy’n adlewyrchu Strategaeth y Gwasanaeth i leoli mwy o blant mewn lleoliadau mwy cost-effeithiol.

 

Yn yr un  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 51.

52.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.

53.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd yr adroddiad sy'n ymwneud â'r eitem canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitem hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.  

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                    Dan adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth)(Amrywio) (Cymru 2007, dylid eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod ystyried yr eitemau busnes canlynol oherwydd eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraffau 16 Rhan 4 a Pharagraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.

 

    Cadarnhaodd Uwch Swyddog y Gwasanaeth Democrataidd – Pwyllgorau nad oedd yr eitem hon yn destun prawf buddiant y cyhoedd am resymau braint proffesiynol gyfreithiol ac y dylid ei hystyried yn breifat.  Felly nid oedd buddiant y cyhoedd yn berthnasol mewn perthynas â’r eitem hon.         

54.

Mynediad at Wybodaeth

Gwahoddedig

 

Andrew Jolley - Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Gweithredol a Phartneriaethiol