Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgan Buddiannau Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim. |
|
Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu a Throsolwg 2017-18 PDF 83 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros y Gwasanaeth Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad gyda'r diben o gyflwyno'r eitemau y disgwylir iddynt gael eu hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor sydd wedi’i drefnu’n amodol i 18 Mehefin 2018, a cheisio cadarnhad o wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer y cyfarfod wedi’i drefnu’n amodol ar ôl hynny ar 26 Gorffennaf 2018. Hefyd, cyflwynodd yr adroddiad restr o ymatebion i sylwadau, argymhellion a cheisiadau am wybodaeth ychwanegol o gyfarfod diwethaf y Pwyllgor hwn, ac yn olaf i gyflwyno rhestr o eitemau Blaenraglen Waith bosibl i’w blaenoriaethu’n ffurfiol a dyrannu i bob un o’r Pwyllgorau Craffu a Throsolwg Pwnc.
Atodwyd adborth o gyfarfod diwethaf y Pwyllgor Craffu a Throsolwg Corfforaethol, fel y gofynnwyd amdano gan yr Aelodau, yn Atodiad A yr adroddiad, a nododd Atodiad B yr adroddiad Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu a Throsolwg.
Cyfeiriodd y Swyddog Craffu’r Aelodau at eitemau wedi'u blaenoriaethu a’u dirprwyo o'r Pwyllgorau Craffu a Throsolwg Pwnc ar gyfer Mai/Mehefin a Gorffennaf 2018, oedd wedi’u cynnwys yn Atodiad C yr adroddiad.
Yn dod o drafodaethau ar gynnwys yr adroddiad,
PENDERFYNWYD: Cytunodd y Pwyllgor â chynnwys yr adroddiad a’r Atodiadau atodedig, yn amodol ar y canlynol:-
· Bod perfformiad Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r berthynas waith rhyngddynt a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hychwanegu at y Flaenraglen Waith. Yn y lle cyntaf, gofynnodd yr Aelodau i dderbyn adborth a chasgliadau'r cyfarfodydd sydd wedi trafod y pwnc hwn yn flaenorol, i benderfynu a oes cyfiawnhad i ychwanegu eitemau o'r fath i'r Flaenraglen Waith.
Mynd ar ganlyn ddyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i gau lle roedd Gwastraff ar yr agenda, i alluogi yr Aelodau i weld y Contract heb ei olygu (ar gyfer Gwastraff).Hefyd tynnodd yr Aelodau sylw at yr angen i symud yr eitem ar y Gwasanaethau Gwastraff i gyfarfod yn y dyfodol, er mwyn galluogi anfon gwahoddiadau i Kier er mwyn rhoi iddynt gymaint o rybudd â phosibl am ddyddiad y cyfarfod, er mwyn iddynt allu trefnu i gynrychiolydd o'r Cwmni ddod i'r cyfarfod. |
|
Gwahoddedigion Cyng Huw David Arweinydd; Cyng Hywel Williams Dirprwy Arweinydd; Darren Mepham, Prif Weithredwr; Mark Shephard, Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau; Gill Lewis, Pennaeth Cyllid Dros Dro; Cyng Peter Fox Arweinydd Cyngor Sir Fynwy Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad, mewn ymateb i’r Pwyllgor yn gofyn bod adroddiad yn cael ei gyflwyno yn adroddiad heddiw ar bwnc Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Dywedodd y Cadeirydd i’r Aelodau na allai’r Cynghorydd Peter Fox o Gyngor Sir Fynwy, sydd wedi'i wahodd i gyfarfod heddiw, ddod i gyfarfod heddiw, a gallai'r Prif Weithredwr ond ddod am tua hanner awr gan fod ganddo apwyntiad brys i fynd iddo.
Mynegodd yr Aelodau eu pryderon ynghylch hyn, gan y teimlon nhw fod angen i'r ddau Wahoddedig fod yn bresennol yn y cyfarfod ar yr un pryd â Gwahoddedigion allweddol eraill, er mwyn iddynt allu ymateb i gwestiynau’r Aelodau, ar yr hyn oedd yn broject miliynau o bunnoedd pwysig iawn.
Yng ngolwg hyn, cytunodd yr Aelodau trwy bleidlais unfrydol gyda’r camau gweithredu canlynol:-
Argymhellion:
· Cytunodd y Pwyllgor i’r eitem ar y Fargen Ddinesig gael ei hoedi i gyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol, a fydd yn sicrhau lefel briodol o bresenoldeb yn y cyfarfod hwnnw gan Wahoddedigion, er mwyn sicrhau bod digon o amser yn cael ei ddyrannu ar gyfer yr eitem a bod cwestiynau'r Aelodau yn y cyfarfod yn cael eu gofyn a bod ymateb llawn yn cael ei roi iddynt. · Teimlodd Aelodau fod hyn yn hanfodol yng ngolwg pwysigrwydd y pwnc. Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor hefyd fod llythyr yn cael ei anfon at y Prif Weithredwr, gan dynnu sylw’n ffurfiol at eu siom wedi dysgu bod llai o Wahoddedigion wedi dod i’r cyfarfod. |
|
Gŵyl Ddysgu – Haf Llawn Gweithgareddau a Chanlyniadau a Ragwelir PDF 80 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro dros Addysg a Chymorth i'r Teulu adroddiad gwybodaeth a roddodd wybod i'r Aelodau am weithgareddau wedi'u cynllunio ar gyfer yr ?yl Ddysgu a'r canlyniadau sy'n dod ohonynt.
Dywedodd y Cadeirydd y byddai’n fuddiol yn y dyfodol, pe byddai'r digwyddiad agoriadol yn llwyddiannus, i gynnwys busnesau lleol er mwyn sicrhau mwy o gymorth ar gyfer y digwyddiad wrth fynd ymlaen. Byddai hyn yn cael ei wneud mewn dwy ffordd, sef byddai'r Cyngor hefyd yn cael gwybod am yr hyn y byddai ei angen ar fusnesau lleol gan yr Awdurdod o ran dysgu.
Teimlodd Aelod fod yr adroddiad yn ddigon pwysig iddo fod yn fwy nag adroddiad Gwybodaeth, ac y dylid gwahodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro dros Addysg a Chymorth i'r Teulu gael ei wahodd i gyfarfod yn y dyfodol er mwyn ymateb i gwestiynau ar lwyddiant neu ganlyniad arall y project.
Cytunodd y Cadeirydd i hyn gan ychwanegu y byddai o fudd i'r Aelodau gael golwg ar wybodaeth ystadegol benodol ar lwyddiant (neu ganlyniad arall) y project.
Ychwanegodd Aelod ymhellach fod swm mawr o arian wedi’i ymrwymo i’r project felly dylai canlyniadau ohono fod yn amodol ar werthusiad. Gan gyfeirio at baragraff 4.4 yr adroddiad, nododd yr Aelod y byddai 120 o ddisgyblion o wahanol ysgolion yn rhan o'r gweithgareddau cyn yr ?yl Ddysgu, a gobeithiodd y byddai cyferbyniad ymhlith disgyblion sy'n cael eu dewis h.y. gan gynnwys rhai o deuluoedd dan anfantais ac ati. Ychwanegodd fodd bynnag fod y swm hwn yn ffurfio dim ond tua 1% o'r boblogaeth myfyrwyr. Roedd sawl amheuaeth ganddi o ran pa ganlyniadau, nodau, cyflawniadau ac amcanion clir fyddai'n dod o'r project, heblaw am y rhain sy'n ymwneud ag arfer da.
Dywedodd y Swyddog Craffu, fel mae’r Aelodau’n ymwybodol efallai, fod BREP hefyd wedi gwneud argymhellion penodol mewn perthynas â'r Fenter ?yl Ddysgu, a’u bod yn aros am y ymateb i’r rhain gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro dros Addysg a Chymorth i’r Teulu.
Ychwanegodd aelod o BREP fod y corff hwn hefyd yn awyddus i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Addysg a Chymorth i’r Teulu edrych ar noddi mentrau ar gyfer cefnogaeth yn y dyfodol ar gyfer yr ?yl Ddysgu os cytunir i barhau â’r project yn y dyfodol.
Dywedodd Aelod hefyd fod angen nodi goblygiadau ariannol y project yn glirach.
Casgliadau:
|
|
Grŵp Craffu ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De PDF 68 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Gweithredol a Phartneriaeth adroddiad Gwybodaeth i roi i'r Pwyllgor ddiweddariad blynyddol ar waith Gr?p Craffu ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De.
Amlinellodd y Swyddog Craffu yr adroddiad a ddechreuodd gyda rhywfaint o wybodaeth gefndir am sut cafodd y Gweithgor ei sefydlu, gan gynnwys ei rôl a’i gyfrifoldebau.
Cefnogodd y Gweithgor Gydbwyllgor Consortiwm Canolbarth De, corff sy’n atebol i’w awdurdodau lleol sy’n cymryd rhan, h.y. Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Chyngor Bro Morgannwg, ac mae’r CCC yn gyfrifol am wella ysgolion ar eu rhan.
O ganlyniad i’r uchod, y llynedd cafodd Gweithgor ar y Cyd ei gyflwyno, gyda phob Cyngor yn cymeradwyo ei sefydlu yn ogystal â'i Gylch Gorchwyl. Byddai’r Gr?p yn ystyried materion megis yr eitemau sefydlog canlynol:-
Parhaodd trwy ddweud i'r Gr?p, trwy ystyriaeth fanwl, hefyd nodi sawl pwnc rhanbarthol roedd werth eu hystyried yn eu barn, ac felly roedd y rhain wedi'u hychwanegu at Flaenraglen Waith y Gr?p wedi'i hatodi at yr adroddiad er gwybodaeth.
Tynnodd yr adroddiad hefyd at y Consortia ledled Cymru i gyd hefyd am gydweithio er mwyn sefydlu Cynllun Gwaith cytunedig gyda'r bwriad o rannu arfer gorau.
Casgliadau:
· Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.
· Nododd y Pwyllgor hefyd fod cyfarfodydd Gr?p Craffu ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De fel arfer yn cyd-fynd â chyfarfodydd y Cyngor wedi'u trefnu, ac o ganlyniad i hyn, gofynnodd fod hyn yn cael ei ystyried wrth drefnu cyfarfodydd yn y dyfodol.
|
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim. |