Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol - Dydd Mawrth, 6ed Tachwedd, 2018 10:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs Julie Ellams  Democratic Services Officer

Eitemau
Rhif Eitem

87.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cyng. M Jones fuddiant personol dan eitem 5 yr agenda - Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi - am ei fod yn aelod o Undeb Llafur y GMB.

 

Datganodd y Cyng. RMI Shaw fuddiant personol dan eitem 5 yr agenda - Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi - am ei fod yn aelod o Undeb Llafur y Unite.

 

Datganodd y Cyng. JP Blyndell fuddiant personol dan eitem 5 yr agenda - Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi - am ei fod yn aelod o Undebau Llafur y GMB a'r USDAW.

 

Datganodd y Cyng. R Penhale-Thomas fuddiant personol dan eitem 5 yr agenda - Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi - am ei fod yn aelod o Undeb Llafur y GMB.

 

Datganodd y Cyng. T Thomas fuddiant personol dan eitem 5 yr agenda - Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi - am ei fod yn aelod o Undeb Llafur y Unite.

88.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 91 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 25/07/2018 and 26/09/2018

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Bod cofnodion y cyfarfodydd ar 25 Gorffennaf a 26 Medi 2018 yn gywir.

89.

Diweddariad ynghylch y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Swyddog Craffu ynghylch yr eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 12 Rhagfyr 2018 a gofynnodd i'r Aelodau gadarnhau'r wybodaeth yr oedd ei hangen ar gyfer y cyfarfod dilynol ar 14 Ionawr 2019. Soniodd hefyd am y rhestr o'r ymatebion, y sylwadau, yr argymhellion a'r ceisiadau am wybodaeth ychwanegol a ddeilliai o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor.

 

Cyflwynodd y Swyddog Craffu restr o eitemau posib ar gyfer y Flaenraglen Waith i'w blaenoriaethu a'u dyrannu'n ffurfiol i bob un o'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc.

 

Casgliadau

 

  • Trafododd y Pwyllgor drefniadau cyfredol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o ran gweddarlledu a gofynnodd am gael derbyn gwybodaeth ynghylch y ddarpariaeth mewn Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru er mwyn eu cymharu.
  • Gofynnodd yr Aelodau am gael ychwanegu 'Adolygiad Strategol o Gyfrifoldebau Iechyd a Diogelwch' at y Flaenraglen Waith a chytunwyd i gwblhau ffurflen meini prawf ar gyfer yr ychwanegiad hwn.

 

Cadarnhaodd y Pwyllgor yr eitemau canlynol i'w hychwanegu at Flaenraglen Waith y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu:

 

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3, 24 Ionawr 2019 - Y Broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol Ddiwygiedig

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2, 29 Ionawr 2019 - Y Cynllun Taliadau Uniongyrchol

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1, 30 Ionawr 2019 - Deilliannau Addysg

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3, 26 Chwefror 2019 - Eiddo Gwag

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1, 28 Chwefror 2019 - Adolygu'r Prosiect Maethu

90.

Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi pdf eicon PDF 88 KB

Gwahoddedigion:

 

Darren Mepham, Prif Weithredwr;

Rachel Jones, Rheolwr Caffael Corfforaethol;

Kelly Watson, Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd;

Cyng Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd.

 

Cofnodion:

Diweddarwyd y Pwyllgor ynghylch safbwynt yr awdurdod o ran y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at yr holl weithwyr a fydd yn cael lleiafswm o £9.00 yr awr o Ebrill 2019 a holwyd a fyddai'r Cyngor yn dod yn Gyflogwr Cyflog Byw ym mis Ebrill 2020. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio y cytunwyd ar strwythur tâl y Cyngor yn rhan o godiad cyflog dwy flynedd i'w weithwyr. Roedd yn annhebygol y byddai'r Cyngor yn gallu dod yn Gyflogwr Cyflog Byw cyn y byddai gorfodaeth arno i wneud hynny oherwydd cyfyngiadau cyllidebol. Roedd y Pwyllgor o'r farn y dylai'r Cyngor anelu at fod yn Gyflogwr Cyflog Byw.

 

Holodd y Pwyllgor pam nad oedd y Cyngor wedi ymrwymo i'r Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi ac awgrymodd y dylai fod yn gyfrifoldeb corfforaethol ar y Cyngor i lynu wrth y Cod. Nododd y Dirprwy Arweinydd fod y Cyngor yn glynu wrth bolisi Llywodraeth Cymru o ran caffael ond canllaw yn unig yw'r Cod Ymarfer y cyfeirir ato. Hysbysodd y Pwyllgor fod y Cod yn awgrymu'r modd y dylai'r Cyngor lynu wrtho a bod yr adroddiad yn manylu ar y modd y mae'r Cyngor eisoes wedi cymryd camau i gydymffurfio â'r Cod. Gofynnodd y Pwyllgor a oedd y swyddogion yn gwybod am y pecynnau cymorth amrywiol sydd ar gael er mwyn ymrwymo i'r Cod. Nododd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio fod y swyddogion yn gwybod am fodolaeth y pecynnau cymorth ond ategodd unwaith yn rhagor mai rhoi argymhellion i'w gweithredu gerbron a wna'r Cod Ymarfer ac nad oes gofyniad cyfreithiol i ymrwymo iddynt. 

 

Holodd y Pwyllgor faint o awdurdodau lleol oedd wedi ymrwymo i'r Cod. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio mai ychydig o awdurdodau oedd wedi ymrwymo iddo. Ar lefel ymarferol, ychwanegol fod awdurdodau lleol wedi mabwysiadu elfennau o'r Cod o'u gwirfodd, fel yn achos y Cyngor hwn. Byddai'r Cyngor yn mabwysiadu elfennau'r o'r Cod i'r graddau yr oedd yr adnoddau'n caniatáu hynny. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio y byddai'n darparu manylion yr awdurdodau lleol Cymreig hynny sydd wedi ymrwymo i'r Cod Ymarfer, ynghyd â'r costau sydd wedi deillio o'i weithredu.

 

Holodd y Pwyllgor a oedd cyflenwyr yn cael eu hannog i ymrwymo i'r Cod drwy'r contractau â chyflenwyr. Hysbysodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio y Pwyllgor nad yw'r Cyngor yn gorfodi contractwyr i lynu wrth y Cod am nad yw wedi ymrwymo iddo ei hun.

 

Cyfeiriodd y Pwyllgor at y ffaith nad oedd y Cyngor ar hyn o bryd yn cynnal asesiad o arferion cyflogaeth anghyfreithlon neu anfoesol a holodd sut yr oedd y Cyngor yn monitro'r sefyllfa i sicrhau bod pobl sy'n gweithio i gyflenwyr a chontractwyr y Cyngor yn cael eu trin yn deg. Hysbysodd y Rheolwr Caffael Corfforaethol y Pwyllgor fod gofyn i gyflenwyr a chontractwyr ateb cwestiynau ynghylch atal caethwasiaeth, cosbrestru a chyflogaeth foesegol yn nogfen SQUID y Cyngor.

 

Holodd y Pwyllgor a gynhaliwyd dadansoddiad o'r costau sydd ynghlwm wrth weithredu'r Cod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 90.

91.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys.