Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

105.

Datganiadau o Gysylltiad

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd C Webster gysylltiad yn eitemau 3 a 4 yr Agenda, oherwydd bod ei mab yn derbyn Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol (Lleoliad y Tu Allan i’r Sir)

106.

Monitro’r Gyllideb 2018 – 19 – Rhagolwg Chwarter 3 pdf eicon PDF 508 KB

Gwahoddedigon:

 

Holl Aelodau’r Cabinet a Bwrdd Rheoli Corfforaethol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diben yr adroddiad hwn yw darparu diweddariad i’r Pwyllgor ar sefyllfa ariannol y Cyngor ar 31 Rhagfyr 2018.

 

O roi cefndir, dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro, ar 28 Chwefror 2018, fod y Cyngor wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £265.984 miliwn ar gyfer 2018-19, ynghyd â rhaglen gyfalaf ar gyfer y flwyddyn o £33.693 miliwn, sydd ers hynny wedi’i diweddaru i ystyried cymeradwyaeth a llithriant newydd rhwng y blynyddoedd ariannol. Fel rhan o’r Fframwaith Rheoli Perfformiad, adolygir amcanestyniadau o’r gyllideb yn gyson ac fe’u hadroddir i’r Cabinet bob chwarter. Yn ogystal, caiff cyflawniad o ostyngiadau cytûn i’r gyllideb eu hadolygu a’u hadrodd i’r Cabinet fel rhan o’r broses hon.

 

Cadarnhaodd Paragraff 4.1.1 yr adroddiad gyllideb refeniw net ac alldro rhagamcanol y Cyngor ar gyfer 2018-19, gyda Thabl 1 yn y rhan hon o’r adroddiad yn adlewyrchu cymhariaeth o’r gyllideb yn erbyn alldro rhagamcanol ar 31 Rhagfyr 2018.

 

Wedyn, ehangodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro ar rai o’r manylion ariannol sydd wedi’u cynnwys yn y Tabl er budd yr Aelodau.

 

Gwnaeth Tabl 2 ar dudalen 6 yr adroddiad adlewyrchu unwaith eto ar ffurf tabl, rai o Ostyngiadau Cyllideb y Flwyddyn Flaenorol sy’n weddill fesul Cyfarwyddiaeth.

 

Yna dangosodd Paragraff 4.2.5 yr adroddiad y Gostyngiadau i’r Gyllideb ar gyfer 2018-19 a gwnaeth y rhain gyfanswm o £6.123m, sydd wedi’u rhannu i fyny yn Atodiad 2 (yr adroddiad) a’u crynhoi yn Nhabl 3. Roedd y sefyllfa sydd ohoni’n diffyg rhagamcanol ar y targed arbedion o £379,000, neu 6.2% o’r targed cyllideb cyffredinol.

 

Yna, rhoddodd paragraff 4.3 yr adroddiad rai sylwadau ar y sefyllfa ariannol ar 31 Rhagfyr 2018, ar ffurf crynodeb ar gyfer pob prif faes gwasanaeth (Atodiad 3 yr adroddiad) gyda sylwadau ar yr amrywiadau mwyaf arwyddocaol a ddangoswyd yn y rhan hon o’r adroddiad. Rhoddodd hyn grynodeb ar gyllidebau Ledled y Cyngor hefyd.

 

Yna, rhannodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro wybodaeth gydag Aelodau mewn perthynas â monitro’r Rhaglen Gyfalaf a’r Adolygiad o Gronfeydd Wrth Gefn wedi’u Clustnodi, gyda Thabl 4 ym mharagraff 4.5.2 yn dangos yr un olaf yn symud hyd at ddiwedd Chwarter 3.

 

Yn olaf, clôdd ei chyflwyniad, trwy gyfeirio Aelodau at ddata yn Nhabl 5 yr adroddiad, a ddangosodd y Dyraniadau Arian Net i/o Gronfeydd Wrth Gefn wedi’u Clustnodi i Chwarter 3.

 

Teimlai Aelod fod cynnydd da wedi’i wneud mewn perthynas â gostyngiadau’r gyllideb yn Chwarter 3, yn enwedig gan fod y Gyfarwyddiaeth Cymunedau wedi dangos gwelliant mewn arbedion o’r blaen, o oddeutu 8%.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro'r Pwyllgor at y naratif a ddilynodd Tabl 2 yn yr adroddiad, meysydd lle targedwyd arbedion ond lle’r oeddent heb eu bodloni ac roedd y rhain yn cynnwys Gostyngiadau i’r Ganolfan Ynni ac Adfer Deunyddiau (MREC) lle’r oedd diffyg o £200,000 nad oedd yn debygol o gael ei fodloni erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr Dros Dro wybod o ran yr arbediad sydd wedi’i glustnodi ond heb ei gyflawni eto mewn perthynas â’r Cynllun Caniatáu Gwaith Ffyrdd (£100,000), mai’r rheswm oedd yr oedi yn y broses  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 106.

107.

Strategaeth Cyfalaf 2019 – 20 Ymlaen pdf eicon PDF 136 KB

Gwahoddedigon:

 

Cynghorydd Hywel Williams – Dirprwy Arweinydd

Gill Lewis - Pennaeth Cyllid dros dro

Mary Williams - RheolwrGr?p - Phrif Gyfrifydd 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 adroddiad, ei ddiben oedd cyflwyno i’r Pwyllgor Strategaeth Cyfalaf ddrafft 2019-20 i 2028-29, oedd yn cynnwys y Dangosyddion Darbodus (Atodiad A i’r adroddiad y cyfeirir ato).

 

O roi cefndir, dywedodd fod rheolaeth Gwariant Cyfalaf yn seiliedig ar ddeddfwriaeth. Mae’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru), fel y diwygiwyd, yn cynnwys darpariaethau manwl ar gyfer y dulliau rheoli cyllid cyfalaf a chyfrifyddu, yn cynnwys y rheolau ar ddefnyddio derbyniadau cyfalaf a’r hyn fydd yn cael ei drin fel gwariant cyfalaf. Maen nhw’n diwygio arfer cyfalaf a’r hyn fydd yn cael ei drin fel gwariant cyfalaf. Maen nhw’n diwygio ymarfer cyfrifyddu mewn amryw ffyrdd i atal effeithiau andwyol ar adnoddau refeniw’r awdurdodau.

 

Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd CIPFA rifyn newydd o’r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol. Gosododd y Cod diwygiedig uchod ofyniad ar awdurdodau lleol i benderfynu ar Strategaeth Gyfalaf, i’w cymeradwyo gan y Cyngor llawn, a fydd yn dangos bod yr awdurdod yn cymryd penderfyniadau gwariant cyfalaf a buddsoddi yn unol ag amcanion y gwasanaeth ac yn ystyried yn briodol stiwardiaeth, gwerth am arian, darbodaeth, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd.

 

Dywedodd yn dilyn cymeradwyaeth y Strategaeth Cyfalaf, bydd unrhyw gynlluniau lle mae cyllid allanol wedi’i gymeradwyo’n cael eu hychwanegu at y Rhaglen Gyfalaf ar ôl i’r cyllid gael ei dderbyn a’i gynnwys yn yr adroddiad rhaglen gyfalaf nesaf i’r Cyngor.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at y Strategaeth Gyfalaf ddrafft a’r atodlenni cysylltiedig a gafodd eu cynnwys yn Atodiad A yr adroddiad.

 

Byddai hyn, a fyddai’n destun adroddiadau i’r Cabinet a’r Cyngor ym mis Chwefror, yn cadarnhau ufudd-dod y Cyngor i’r Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol. Byddai’n gosod rhai egwyddorion arweiniol ar gyfer penderfyniadau cyfalaf, yn ogystal â gosod fframwaith i hunan-reoli cyllid cyfalaf ac yn astudio meysydd ariannol allweddol fel a ddengys ar ffurf pwyntiau bwled ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 fod y Strategaeth hefyd yn adrodd ar gyflwyno, fforddiadwyedd a’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r cyd-destun tymor hir y gwneir penderfyniadau ar wariant cyfalaf a buddsoddi ynddynt.

 

Yn olaf, cyfeiriodd at nodau allweddol ac egwyddorion arweiniol y Strategaeth Gyfalaf, gan roi crynodeb ar bob un o’r rhain hefyd.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 52 yr Atodiad, hanner ffordd i lawr y dudalen hon lle cadarnhawyd bod cyfanswm gwerth yr Eiddo Buddsoddi’n £4.360m ar 31 Mawrth 2018, a greodd incwm rhentu o £438,000 y flwyddyn. Gofynnodd ai incwm gros neu net oedd hwn.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 mai’r incwm net oedd hwn.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 61 yr Atodiad a Rheoli Risgiau, lle rhestrodd dri risg y mae gweithgareddau’r Cyngor yn amlygu ei hun iddynt, h.y. risg Credyd, risg Hylifedd a risg y Farchnad. Mewn perthynas â’r rhain, gofynnodd pa fesurau lliniaru yr oedd gan yr Awdurdod ar waith i baratoi ei hun ar gyfer canlyniad Brexit.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Dros Dro fod Fforwm Brexit wedi’i sefydlu yn y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 107.

108.

Blaenraglen Waith Trosolwg a Chraffu 2019/20 pdf eicon PDF 216 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad ar y mater uchod, er mwyn cyflwyno:-

 

a)          yr eitemau y disgwylir iddynt gael eu hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhelir ar 3 Ebrill 2019 a cheisio cadarnhad o’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer y cyfarfod dilynol a drefnwyd, y mae’r dyddiad heb ei gadarnhau eto.

 

b)          rhestr o ymatebion i sylwadau, argymhellion a cheisiadau am wybodaeth ychwanegol o gyfarfod blaenorol y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol;

 

c)          rhestr o eitemau potensial y Blaenraglen Waith ar gyfer blaenoriaethu ffurfiol a dyraniad i bob un o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc.

 

Yr adroddiad sydd ynghlwm yn Atodiad A, adborth o gyfarfodydd diweddar y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, wrth i Atodiad B roi manylion yr eitemau i’w hystyried yn ei gyfarfod nesaf, mae’r dyddiad wedi’i osod dros dro ar gyfer 3 Ebrill 2019.

 

Wedyn, cyfeiriodd y Swyddog Craffu’r Aelodau at Atodiad C yr adroddiad, a amlinellodd bynciau i’w blaenoriaethu a’u cytuno gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar gyfer pob un o Flaenraglenni Gwaith y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc. Rhoddodd Tabl 1 fanylion yr eitemau ar gyfer set nesaf pob un o’r rhain, wrth i Dabl 2 gynnwys awgrym o bynciau ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol ar ôl hyn.

 

Awgrymodd hefyd y gallai unrhyw gyfarfodydd a drefnwyd ar gyfer mis Ebrill a Mai 2019, gael eu defnyddio o bosibl fel cyfres o Weithdai er mwyn ystyried eitemau pellach ar gyfer Blaenraglenni Gwaith y Pwyllgorau 2019/20.

 

PENDERFYNWYD:       Nodi bod yr adroddiad a’r wybodaeth gefnogol yn cynnwys yr hyn a amlinellwyd uchod.

109.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z