Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Pitman
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
Cofnodion: M Shepherd – Prif Weithredwr Dros Dro, y Cyng. T Thomas, y Cyng. T Giffard. |
|
Datganiadau o Fuddiannau Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Datganodd y Cyng. Jon-Paul Blundell fuddiant personol am ei fod yn aelod o Is-gr?p Asedau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Datganodd y Cyng. John Spanswick fuddiant personol am ei fod yn aelod o Banel Trosolwg a Chraffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Datganodd y Cyng. Carolyn Webster fuddiant personol am ei bod yn aelod Bwrdd ar gyfer yr YMCA. Datganodd y Cyng. Rod Shaw fuddiant personol am ei fod yn aelod o Banel Trosolwg a Chraffu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ogystal â bod yn aelod o Awdurdod Tân ac Achub De Cymru. Datganodd y Cyng. Martyn Jones fuddiant personol am ei fod yn Gyfarwyddwr cwmni sydd wedi darparu gwasanaethau ymgynghori proffesiynol i'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. |
|
Cymeradwyo'r Cofnodion PDF 99 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 11/02/2019
Cofnodion: PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 3 y Pwyllgor Trosolwg ar Bynciau a Chraffu ar 17 Medi 2018 fel cofnod gwir a chywir.
|
|
Cefnogi cymunedau ym Mhen-y-bont ar Ogwr i fod yn ddiogel ac yn gydlynus PDF 138 KB Mynychwyr: Cyng Richard Young - Aelod Cabinet – Cymunedau Mark Shephard - Prif Weithredwr Dros Dro Martin Morgans – Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth Supt Claire Evans - Heddlu De Cymru Inspector Cheryl Griffiths - Heddlu De Cymru Judith Jones - Cydlynydd Partneriaeth Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor gan y Pennaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partnerniaid at ddiben cynnig trosolwg o Flaenoriaethau a Phrosiectau Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr ac adolygu'r cynnydd hyd yma.
Hysbyswyd y Pwyllgor y sefydlwyd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Pen-y-bont ar Ogwr ar 1 Ebrill 2016, yn dilyn cyflwyniad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Yn y cyfarfod ar 27 Mawrth 2017, achubodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y cyfle i adolygu trefniadau llywodraethu a blaenoriaethau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr. Penderfynodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i wreiddio gweithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr i'w weithgareddau asesu a chynllunio ei hun a'i wneud yn is-fwrdd o'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998 a deddfwriaeth ddiweddarach yn amlinellu'n glir y cyfrifoldebau dros ddiogelwch cymunedol. Hysbysodd y Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau y sefydlwyd y Gr?p Strategaeth sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r chwe awdurdod cyfrifol, gan gynnwys:
Disgrifiodd y Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau gyfrifoldebau amrywiol y Gr?p Strategaeth, y gwaith a wnaed ganddo, gan gynnwys meysydd allweddol ychwanegol o waith yn ogystal ag ymateb i faterion diogelwch cymunedol sydd wedi codi.
O ran cyllid, hysbyswyd y Pwyllgor fod cyllid bellach wedi'i ganoli i fanteisio i'r eithaf ar yr adnoddau sydd ar gael iddynt. Yn y modd hwn, gallai'r Awdurdod fod yn hyderus y byddai modd iddo ystyried materion mewn ffordd gyfannol, lleihau dyblygu a thargedu'r hyn y mae angen ei dargedu. Fodd bynnag, yn allweddol i hyn oedd adrodd am droseddu, a dyma'r rhesymeg a roddwyd i gyfiawnhau’r ffaith mai Canol Tref Pen-y-bont ar Ogwr a Maesteg oedd y meysydd ffocws ar gyfer peth o waith y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Hysbyswyd y Pwyllgor fod y gwaith yn seiliedig ar adroddiadau o Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn y ddwy ardal ac er yr oedd yn cydnabod pryderon Aelodau ynghylch cymunedau llai, mwy ynysig, nid oedd tystiolaeth i awgrymu hynny. Pwysleisiodd y Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau'r pwysigrwydd o adrodd am yr holl droseddau er mwyn i'r Cabinet a'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol dargedu a llywio gwaith yn fwy priodol.
Mynegodd y Pwyllgor bryderon am leihad cyson yr Awdurdod i ddarpariaeth y Gwasanaeth Ieuenctid, gan ddweud ei fod yn wasanaeth angenrheidiol i gynnig adloniant i bobl ifanc. Bellach, mae'n ymddangos bod dibyniaeth ar grantiau cyllido a'r Trydydd Sector. Dywedwyd wrth Aelodau y byddai'r Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid yn dychwelyd i Ben-y-bont ar Ogwr dan y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a fyddai'n darparu llywodraethu addas. Yn ogystal â hyn, esboniodd cynrychiolwyr Heddlu De Cymru fod ffocws cynyddol ar gyfiawnder adferol a bod yr holl swyddogion yn gymwys i ddarparu datrysiadau yn y gymuned. Roedd hyn yn cynnwys cydnabyddiaeth gan y troseddwr o'r hyn a wnaed ganddo ac ar adegau, gyda chaniatâd y dioddefwr, ymddiheuro neu drefnu i atgyweirio unrhyw ddifrod a achoswyd. Roedd hefyd sgôr fatrics a ddefnyddir i bobl ifanc sy'n dod i'r ddalfa a phetai hyn, er enghraifft, yn dramgwydd gyntaf, mae'n bosib y cânt eu hatgyfeirio ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 113. |
|
Diweddariad am y Flaenraglen Waith PDF 107 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad am y Flaenraglen Waith a oedd yn amlygu adborth o’r cyfarfod diwethaf, y Gweithdy Craffu a oedd wedi'i drefnu ar gyfer y cyfarfod nesaf a'r eitemau Craffu newydd arfaethedig.
PENDERFYNWYD: a) Cymeradwyodd y Pwyllgor yr adborth o'r cyfarfodydd blaenorol, gan nodi'r ymatebion b) Y Pwyllgor: i. Mewn perthynas â gweithdai Craffu ar y Flaenraglen Waith ar ddod, gofynnodd am gynnal trafodaeth am y posibilrwydd o gynnwys cynrychiolwyr staff eraill o'r Awdurdod mewn cyfarfodydd a thrafodaethau craffu i gael dealltwriaeth ddyfnach o ddarpariaeth gwasanaethau. ii. Cytunodd i wneud pwnc y "Cynllun Datblygu Lleol" (LDP) yn eitem ar gyfer y cyfarfod ar 26 Mehefin 2019, a'r 'Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol - Hunan-werthusiad' fel eitem wrth gefn. Mewn perthynas ag eitem yr LDP, gofynnodd Aelodau fod yr adroddiad yn canolbwyntio ar y broses o ddatblygu'r cynllun, gan gynnwys pa ystyriaeth sy'n cael ei rhoi i ofynion gwasanaethau eraill megis Iechyd ac Addysg? Pa ystyriaeth a roddir i'r effaith ar gymunedau, y MTFS, cyfleoedd cyflogaeth, pwysau ar wasanaethau cyhoeddus a chynaliadwyedd y rhain oll yn y dyfodol? Gofynnodd y Pwyllgor hefyd am wahodd cynrychiolwyr o faes Iechyd a'r Heddlu i'r cyfarfod hwn.
c) Mewn perthynas â Blaenraglen Waith y Pwyllgorau Trosolwg ar Bynciau a Chraffu, penderfynodd y Pwyllgor ar y canlynol: i. Cytunodd i'r eitemau ychwanegol ar y Flaenraglen Waith; ii. Cytunodd fod yn rhaid i'r eitem â'r teitl 'Adolygiad o Gerbyd Gorfodi' fod yn fwy nag adroddiad gwybodaeth yn unig, er ei fod o bosib yn rhy fach i fod yn eitem unigol. Cynigodd y Pwyllgor y dylid ystyried hwn fel rhan o bwnc cysylltiedig arall. Cytunodd y swyddog craffu i dynnu'r sylwadau yn ôl ac ystyried ble y gellid eu cyfuno ag eitem arall; iii. Cytunwyd ar y dyraniad canlynol ar gyfer eitemau yn y dyfodol i Bwyllgorau Craffu: 3 Mehefin 2019 – SOSC 1 – Cyfathrebu ac Ymgysylltu 5 Mehefin 2019 – SOSC 2 – Adolygiad ADY ôl-16 12 Mehefin 2019 –SOSC 3 – Gwastraff
|
|
Amseroedd Arolygon y Cyfarfodydd PDF 75 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD: Nododd y Pwyllgor y cynhelir arolwg o amseroedd cyfarfodydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Cyngor a chaiff canlyniad yr arolwg ei adlewyrchu yn y Rhaglen o Gyfarfodydd 2019/2020 i'w hystyried yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor ar 15 Mai 2019.
Fodd bynnag, gofynnodd y Pwyllgor a allai'r arolwg gynnwys hyblygrwydd ar gyfer amseroedd eraill megis hanner awr wedi'r awr ac ystyried sylwadau neu awgrymiadau pellach.
|
|
Materion Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
|