Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mark Anthony Galvin Senior Democratic Services Officer - Committees
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau. Cofnodion: Y Cyng T Thomas; Y Cyng RL Penhale-Thomas; Y Cyng N Clarke. |
||
Datganiadau o Fuddiannau Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Cofnodion: Fe wnaeth y Cyng John Spanswick ddatgan buddiant personol yn eitem 5 am ei fod yn aelod o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu a Phwyllgor Gr?p Llywio’r CDLl; Fe wnaeth y Cyng Jon-Paul Blundell ddatgan buddiant personol yn eitem 5 am ei fod yn aelod o Bwyllgor Gr?p Llywio’r CDLl; Fe wnaeth y Cyng Nicole Burnett ddatgan buddiant personol yn eitem 5 am ei bod yn aelod o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu; Fe wnaeth y Cyng Carolyn Webster ddatgan buddiant personol yn eitem 4 am ei bod yn aelod o Fwrdd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu ac yn eitem 5 am ei bod yn aelod o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu; |
||
Cymeradwyo Cofnodion PDF 80 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 03/04/2019 Cofnodion: Penderfynwyd: Cymeradwyo Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, dyddiedig 3 Ebrill 2019, fel cofnod gwir a chywir. |
||
Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2018/19 PDF 116 KB Gwahoddedigion: Cyng Phil White, Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar; Susan Cooper – Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles; Jacqueline Davies – Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion; Laura Kinsey – Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn fyr Adroddiad Blynyddol drafft Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Pwyllgor, a phwrpas hwn oedd amlinellu sut yr oedd y Gwasanaethau Cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi darparu gwasanaethau yn ystod 2018/19.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor beth oedd yr amcanion ar gyfer 2018/19 a rhoddwyd gwybodaeth iddynt a fu’r Gyfarwyddiaeth yn llwyddiannus yn ei nodau ac yn yr un modd yr hyn y gobeithiai’r Gyfarwyddiaeth ei gyflawni yn y flwyddyn ddilynol. Roedd y newidiadau arfaethedig ar gyfer 2019-20 yn cynnwys:
Rhoddodd y Pwyllgor dderbyniad da i’r adroddiad blynyddol ac roeddent yn canmol y cynnwys yn fawr, ac yn enwedig mor dda yr oedd yr adroddiad wedi ei ysgrifennu oherwydd yr iaith blaen a ddefnyddiwyd o’r dechrau i’r diwedd, fyddai o gymorth i’r cyhoedd i ddilyn a deall y wybodaeth yn y ddogfen yn rhwydd.
Roedd yr aelodau hefyd yn canmol Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’i thîm am y newid amlwg mewn diwylliant y mae’r Gyfarwyddiaeth wedi ymgymryd ag ef a’r ffyrdd newydd o weithio sydd wedi eu sefydlu.
Holodd y Pwyllgor am berthynas waith ag adrannau eraill, yn benodol y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd a holent ymhellach a oedd yna fylchau oedd angen gwaith. Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod y berthynas waith bresennol ar draws yr holl Gyfarwyddiaethau y gorau y mae wedi bod erioed. Eglurodd mai tîm bychan oedd y Bwrdd Rheoli Corfforaethol oedd i gyd yn eistedd mewn un ystafell, a bod hynny’n rhoi mwy o gyfle i drafod pynciau wrth iddynt godi.
Rhoddodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant enghraifft o weithio’n llwyddiannus mewn partneriaeth rhwng y ddwy Gyfarwyddiaeth, lle roedd Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ei chynnwys mewn trafodaethau yn y camau cynnar ynghylch dyraniadau’r Gronfa Gofal Integredig a ddarperir yn uniongyrchol i’r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd ar gyfer gwaith atal.
Cyfeiriodd Aelod at ddangosyddion perfformiad a roddwyd mewn cyfarfod Asesu Perfformiad Corfforaethol (APC) lle y cydnabuwyd nad oedd lefelau salwch o fewn y Gyfarwyddiaeth yn gwella, yn ogystal â bod cynnydd yn yr achosion o oedi cyn trosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol a gofynnodd am i’r ystadegau hyn gael eu rhoi yn yr adroddiad ynghyd ag esboniad sut yr ymdrinnir â’r rhain.
Aeth Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ymlaen i roi diweddariad i’r Pwyllgor am y trosglwyddiad o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, yn ogystal â’r dewisiadau posibl ar gyfer y gwasanaethau mabwysiadu.
Penderfynwyd: Roedd y Pwyllgor yn canmol y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gynhyrchu Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2018/19 am y rheswm bod yr adroddiad wedi ei ysgrifennu mewn Saesneg plaen fydd yn galluogi’r cyhoedd i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 120. |
||
Gwahoddedigion: Mark Shephard – Prif Weithredwr; Jonathan Parsons – Rheolwr Gr?p Datblygu; Richard Matthams – Arweinydd Tîm Cynllunio Datblygiadau; Gareth Denning – Arweinydd Tîm Polisi Craige Wilson – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Sylfaenol, Plant a Gwasanaethau Cymunedol Nerys Edmonds – Cynrychiolydd o Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr Cynllunio Datblygu adroddiad Cynllun Datblygu Lleol Newydd Pen-y-bont ar Ogwr 2018-2033 y Weledigaeth Ddrafft a’r Amcanion, Twf a’r Dewisiadau Gofodol, a phwrpas hwn oedd rhoi gwybodaeth gefndir o ran y weledigaeth ddrafft a’r amcanion, y dewisiadau twf a’r dewisiadau strategaeth ofodol a gynigiwyd ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Pen-y-bont ar Ogwr yn ddogfen strategaeth lefel uchel, y mae’n rhaid i’r Cyngor ei pharatoi. Er mwyn mynd i’r afael â materion allweddol ac arwain a rheoli datblygiad yn y dyfodol, roedd angen ailymweld â gweledigaeth ac amcanion y CDLl er mwyn sicrhau eu bod yn dal yn berthnasol i anghenion ac uchelgais lleol.
Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Datblygu 3 dewis Twf Strategol, - Isel, Canolig ac Uchel - pob dewis yn amlinellu gofynion anheddau, pa ddarpariaeth cyflogaeth y gallai o bosibl ei chreu, ynghyd â’r graddau yr oedd modd cyflawni pob un o’r dewisiadau. Dywedodd fod y dystiolaeth yn awgrymu mai’r dewis twf mwyaf priodol oedd yr un canolig, a fyddai’n golygu parhad o’r mathau o gyfraddau adeiladu a welwyd dros y pum mlynedd ddiwethaf.
Ar bwnc tai holai’r Pwyllgor sut yr oedd maint a math o annedd yn cael ei ystyried cyn datblygu, a sylwyd nad oedd cyfeiriad at Strategaeth Tai Gweigion Pen-y-bont ar Ogwr yn y CDLl ac awgrymwyd y dylid gweithio ar y Strategaeth a’r Cynllun gyda’i gilydd ochr yn ochr. Sicrhawyd y Pwyllgor fod y Strategaeth Tai Gweigion yn cael ei chymryd i ystyriaeth ac y byddai maint yr annedd yn cael ei gyfrifo ar sail tystiolaeth.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod yn rhaid i’r CDLl Newydd, yn ogystal â nodi’r lefel o dwf sydd ei angen dros gyfnod y cynllun, gyflwyno strategaeth ofodol glir ynghylch y lle y dylai’r datblygiad hwn ddigwydd o fewn y Fwrdeistref Sirol. Hysbyswyd yr Aelodau, oherwydd cyfyngiad sylweddol wrth yr M4, Cyffordd 36, nad ystyrid Parc Derwen a Phorth y Cymoedd fel ardaloedd ar gyfer twf newydd sylweddol.
Ar bwnc safleoedd posibl ar gyfer datblygu, daliai’r Pwyllgor fod angen i ddatblygiad cynaliadwy fod yn gynaliadwy i’r gymuned. Felly, tynnodd yr Aelodau sylw at yr angen i ymgysylltu mwy â’r cyhoedd er mwyn asesu gofynion cymunedau cyn cynllunio i ddatblygu. Wrth ymateb dywedwyd wrth yr Aelodau y trefnir addysg ac ymgynghoriad wedi ei dargedu gyda chynghorau Tref a Chymuned lle y bydd yn debygol y ceir datblygiad.
Pwysleisiodd Aelod duedd oedd yn peri pryder gyda datblygu dros y blynyddoedd, sef y diffyg adfywio mewn mannau diarffordd ledled y Fwrdeistref. I fod o gymorth i gywiro’r diffyg hwn, awgrymwyd y dylid hybu polisi ar gyfer mentrau bychain, megis cynlluniau lle, ac y dylid rhoi’r manylion am y rhain yn y CDLl.
Mae’r Pwyllgor yn gwybod ac yn deall bod angen i ddatblygu ddigwydd o fewn y Fwrdeistref ond dywedai Aelodau ei bod yn bwysig i’r Cyngor gadw mewn cof yr effaith bosibl a gâi datblygiad ar ein cyfarwyddiaethau eraill megis Addysg a Phriffyrdd a hefyd ein partneriaid yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 121. |
||
Enwebiad i Banel Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus PDF 72 KB Cofnodion: Penderfynwyd: Bod yr Aelodau canlynol yn cael eu henwebu i eistedd ar Banel Trosolwg a Chraffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus: Y Cynghorydd RMI Shaw Y Cynghorydd JC Spanswick Y Cynghorydd T Giffard |
||
Adroddiad Enwebu Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol PDF 89 KB Cofnodion: Penderfynwyd: Bod y Cynghorydd CA Webster yn cael ei henwebu fel yr Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol i gynrychioli’r Pwyllgor yng nghyfarfodydd Pwyllgor Cabinet Rhianta Corfforaethol. |
||
Diweddariad ar y Flaenraglen Waith PDF 104 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Adroddodd y Swyddog Craffu am eitemau i’w hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 17 Gorffennaf 2019 a gofynnodd am gadarnhad ynghylch y wybodaeth oedd ei hangen ar gyfer y cyfarfod dilynol i’w gynnal ar 25 Medi 2019. Adroddodd hefyd am restr o eitemau posibl ar y Flaenraglen Waith i’w blaenoriaethu a’u dyrannu i bob un o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar Bwnc.
Penderfynwyd: Cytunodd yr Aelodau ar yr eitemau a drefnwyd ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar 17 Gorffennaf 2019 a’u cyfarfod dilynol ar 25 Medi 2019. Cadarnhaodd y Pwyllgor a blaenoriaethu’r eitemau canlynol i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc:
9 Medi 2019 Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 1 - Addysg ôl-16 - Ymgynghoriad 16 Medi 2019 Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 2 - Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid 9 Hydref 2019 Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 1 - Plasnewydd - Dyrchafu o MSEP 10 Hydref 2019 Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 2 - Dulliau Atal a Llesiant a Chyfleoedd yn ystod y dydd. 4 Tach 2019 Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 3 - Priffyrdd |
||
Trosolwg a Chraffu - Adborth o Gyfarfodydd PDF 79 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad ar yr Adborth o Gyfarfodydd a gofynnodd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r adborth a’r ymatebion i’r sylwadau a’r argymhellion o’r cyfarfod blaenorol a rhoi statws Coch, Oren neu Wyrdd i bob argymhelliad.
Penderfynwyd: Fel y gofynnwyd yn yr adroddiad, rhoddodd y Pwyllgor statws Coch, Oren neu Wyrdd i bob argymhelliad fel oedd yn briodol a chytunodd i fonitro’r statws yn gyson. |
||
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad. Cofnodion: Dim. |