Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

142.

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Datganodd y Cyng. John Spanswick fuddiant rhagfarnus yngl?n â thudalen 17 yr adroddiad mewn cysylltiad â gofal yn y cartref i bobl h?n gan fod ei wraig yn gweithio yn y maes gwasanaeth hwn. Gadawodd y Cyng. Spanswick y cyfarfod wrth i hyn gael ei drafod.

143.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 77 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 26/06/2019

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2019 fel cofnod gwir a chywir o'r cyfarfod.

144.

Monitro Cyllideb 2019-20 - Rhagolwg Refeniw Chwarter 2 pdf eicon PDF 171 KB

Pob Cabinet a CMB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a Dirprwy Swyddog Adran 151 yr adroddiad i'r Aelodau gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol y Cyngor ar 30 Medi 2019. Esboniodd fod y Cyngor wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £270.809 miliwn ar gyfer 2019-20 ar 20 Chwefror 2019.

 

Cododd yr Aelodau y pryderon canlynol:

 

  • Pam nad oedd Cludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol yn cyflawni arbedion?

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd a'r Arweinydd fod y sefyllfa'n gymhleth a bod costau yn cynyddu yn y maes hwn, fodd bynnag, lluniwyd rhestr o ostyngiadau. Fe wnaethant ddweud y byddai'r aelodau'n cael adborth ar adolygiad o Gludiant rhwng y Cartref a'r Ysgol ddechrau'r flwyddyn nesaf. Ailadroddodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor yn dal yn bryderus am y gorwariant yn y maes hwn

 

  • Ceisiwyd eglurhad yngl?n â’r arbedion eraill o £60,000 a oedd yn annhebygol o gael eu cyflawni ym maes llyfrgelloedd a chyfleusterau diwylliannol.

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod hyn oherwydd bod ffioedd rheoli a chyfleusterau llyfrgelloedd teithiol yn parhau i fod yn destun ymgynghoriad

 

  • Holodd yr Aelodau am y tanwariant o ran ffioedd parcio. Roedd posibilrwydd creu incwm sylweddol ac felly dylem ni fod yn buddsoddi i gynilo. Byddai trwyddedau parcio i breswylwyr yn cynyddu'r defnydd o feysydd parcio canol y dref ac yn cadw preswylwyr yn hapus felly dylai hyn fod yn flaenoriaeth. Crybwyllwyd hefyd nad yw'r peiriannau talu ym maes parcio’r Rhiw yn gweithio'n aml ac y dylid blaenoriaethu staff i drwsio’r rhain gan fod incwm sylweddol posibl yn cael ei golli yn y maes hwn bob dydd nad yw'r peiriannau yn gweithio.

Cadarnhaodd yr Arweinydd y byddai'n ystyried y pwynt uchod ac yn archwilio a oes modd mynd i'r afael â'r problemau gyda'r peiriannau talu fel mater o flaenoriaeth.

 

  • A oedd yr incwm o faes parcio Salt Lake yn cael ei ail-fuddsoddi’n uniongyrchol ar gyfer Porthcawl yn gyffredinol gan fod dealltwriaeth mai dyma ddylai fod yn digwydd.

Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd y trefniant hwn yn un ffurfiol ar hyn o bryd ond y gellid ei archwilio. Cytunodd y byddai'n cadarnhau'r trefniadau ac yn adrodd yn ôl i’r Aelodau.

 

  • Beth oedd achos yr oedi cyn cymeradwyo'r cynllun trwyddedu ar gyfer gwaith ffordd?

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr nad oedd yr Awdurdod yn cael bwrw ymlaen â'r cynllun heb ganiatâd Llywodraeth Cymru a bod posibilrwydd o gyflwyno cynllun cenedlaethol felly byddai'n cael ei ohirio nes gwybod canlyniad y cynllun cenedlaethol.

 

  • Sut y mae'r swyddi gwag yng Nghyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr yn effeithio ar berfformiad?

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr fod 88% o gyllideb y Prif Weithredwr yn cynnwys staff. Ychwanegodd, ar adeg pan fo cymaint o doriadau, fod ofn pe byddai swydd yn cael ei llenwi y gallai'r gyfarwyddiaeth orfod diswyddo ac ysgwyddo costau yn gysylltiedig â hynny ymhen blwyddyn. Ychwanegodd fod hyn yn cael effaith anochel ar gadernid a chapasiti ym mhob agwedd ar waith y Gyfarwyddiaeth.

 

145.

Trosolwg a Chraffu - Adborth o Gyfarfodydd pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu i’r aelodau yr adborth o gyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar 25 Medi ynghylch yr eitemau Trawsnewid Digidol a Rhagolwg Refeniw Monitro'r Gyllideb Ch1.

 

Diolchodd yr Aelodau i'r swyddogion am yr adborth ac fe wnaethant gytuno i nodi'r camau gweithredu yn rhai oren. Byddai’r camau gweithredu yn cael eu hailystyried wedyn ymhen 6 mis.

 

146.

Y Diweddaraf am y Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 100 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu yr adroddiad i'r Aelodau a gofynnodd am gadarnhad o'r wybodaeth a oedd yn ofynnol ar gyfer y cyfarfodydd dilynol ar 13 Ionawr 2020 a 13 Chwefror 2020

 

Yn dilyn trafodaeth, cytunodd yr Aelodau i’r dyddiadau canlynol:

 

24 Ionawr 2020 –         Strategaeth Ariannol Tymor Canolig

13 Chwefror 2020 – Monitro'r Gyllideb – Rhagolwg Ch3 2019/20

                                        Cynllun comisiynu ar gyfer Gofal Cymdeithasol yng                                         Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont

 

23 Mawrth 2020 -         Y Gwasanaeth Cyd-reoleiddio

 

 

147.

Eitemau brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z