Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol - Dydd Iau, 13eg Chwefror, 2020 09:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Democratic Services team 

Eitemau
Rhif Eitem

163.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

164.

Cynllun Corfforaethol 2018-2022 Wedi’i adolygu ar gyfer 2020-21 pdf eicon PDF 77 KB

 

Gwahoddedigion:

 

Pob Aelod Cabinet a CMB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog A151 Interim wybod i’r aelodau yn gyntaf bod y Cynllun Corfforaethol wedi cael ei ddiweddaru ar gyfer 2020-21, yn dilyn proses cynllunio corfforaethol a gynhaliwyd rhwng mis Hydref 2019 a mis Ionawr 2020 gyda nifer o fewn y sefydliad yn rhan o’r broses, a oedd yn cynnwys proses gynhwysol o’r gwaelod i fyny ac o’r brig i lawr eleni. Yn ail, roedd llawer mwy o ffocws ar egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac, yn drydydd, roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar yr hyn yr oedd yr awdurdod yn ceisio’i wella a’r adnoddau yr oedd eu hangen, a oedd yn amlwg yn yr uchelgeisiau a oedd wedi’u nodi.

 

Cododd Aelodau’r mater nad oedd cyfeiriad penodol at y newid yn yr hinsawdd o fewn yr adroddiad ac roeddent yn teimlo, fel pwyllgor, bod hwn yn fater a oedd yn tyfu’n gyflym a bod angen dangos y sefyllfa yr oedd yr awdurdod ynddi. Nododd y Prif Weithredwr fod hyn yn amlwg yn rhywbeth a oedd wedi magu momentwm a chydnabu hyn. Cadarnhaodd fod adroddiad yn mynd i gael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Ebrill.

 

Fe wnaeth un o’r aelodau nodi’r ffigyrau mewn perthynas â Digartrefedd ar Dudalen 10 a gofynnodd am gadarnhad o’r cynnydd sy’n cael ei wneud – a ydym yn helpu ein holl bobl ddigartref a phwy ydym yn eu hepgor? Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol ei bod hi wedi ymweld yn ddiweddar â darpariaethau Huggard a Th? Tresilian yng Nghaerdydd, ynghyd â’r Rheolwr Gr?p ar gyfer Tai a’r Pennaeth Gwasanaethau Partneriaeth a dywedodd ei bod yn cydnabod y berthynas â Chaerdydd yn ogystal â nodi’r darn parhaus o waith i weld sut y gellid cynnig darpariaeth o fewn y fwrdeistref. 

 

Cydnabu’r Aelod hefyd fod pobl i’w cael nad oeddent yn gallu cael eu helpu ac a allai syrthio drwy’r rhwyd a gofynnodd beth oedd yn cael ei wneud. Cydnabu’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod llawer o’r achosion hyn yn ymwneud â phobl â phroblemau iechyd meddwl, ond nododd fod llawer yn cael ei wneud i’w hatal rhag dod yn ddigartref yn y lle cyntaf. Roedd gwaith yn mynd rhagddo gyda’r rhai a oedd â phroblemau iechyd meddwl lefel is. O ran estyn allan yn y gymuned, roeddent yn cael help fel rhan o’u teuluoedd. Roedd hwn yn fater a oedd yn cael ei gefnogi nid dim ond gan y gwasanaeth tai.

 

 

Roedd un o’r aelodau o’r farn y dylai’r rhestr Addysg ar Dudalen 10 ddangos Ysgolion Cymraeg fel categori ar wahân.


Nododd un o’r aelodau fod y llinell olaf ar Dudalen 12 yn cyfeirio at le ‘da’ i bobl fyw, gweithio, astudio ac ymweld ac roedd o’r farn mai ‘gwych’ ddylai hyn fod. Cydnabu’r Prif Weithredwr hyn ond eglurodd mai’r her yw ceisio cael cyfatebiaeth rhwng yr uchelgais ar flaen y ddogfen a’r camau gweithredu yng ngweddill y ddogfen; fodd bynnag roedd yn hapus i wneud y newid a awgrymwyd
.

 

Fe wnaeth un o’r aelodau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 164.

165.

Monitro’r Gyllideb 2019-20 – Rhagolwg Refeniw Chwarter 3 pdf eicon PDF 188 KB

Gwahoddedigion:

 

Pob Aelod Cabinet a CMB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Pennaeth Cyllid a Swyddog A151 Interim gyflwyno’r adroddiad i’r Aelodau gyda diweddariad am sefyllfa ariannol refeniw y Cyngor ar 31 Rhagfyr 2019. Fel cefndir, eglurodd fod y Cyngor, ar 20 Chwefror 2019, wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £270.809 miliwn ar gyfer 2019-20. Roedd Tabl 1 yn dangos cymhariaeth rhwng y gyllideb a’r alldro rhagamcanol ar 31 Rhagfyr 2019. Roedd 4.1.2 yn dangos tanwariant net o £798k ac roedd 4.1.3 yn dangos y rheswm dros y tanwariant. Roedd y Gostyngiadau yng Nghyllideb y Flwyddyn Flaenorol yn cael eu dangos o 4.2.1 ymlaen. Roedd Tabl 2 yn dangos, o’r £2.342 miliwn o ostyngiadau a oedd yn dal heb eu cyflawni, bod £1.795 miliwn yn debygol o gael eu cyflawni yn 2019-20, gan adael diffyg o £547k. Roedd adroddiad monitro’r gyllideb refeniw hyd at 31 Rhagfyr 2019 yn cael ei ddangos yn Atodiad 3.

 

Fe wnaeth un o’r aelodau nodi, ar dudalen 58 o’r adroddiad, bod cyllideb ddirprwyedig ysgolion yn dangos, yn Chwarter 3, bod 46% o’r holl ysgolion yn rhagfynegi cyllideb ddiffygiol a mynegodd bryder bod rhai ysgolion yn fwy cydnerth na’i gilydd ac y gallai hyn olygu, i rai ysgolion, bod disgyblion ar eu colled lle mae cyfleoedd trawsgwricwlaidd yn y cwestiwn. Cydnabu’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod y ffigyrau’n adrodd stori gyda thros hanner ein hysgolion mewn cyllideb ddiffygiol. Mynegodd bryder bod gan oddeutu 3 neu 4 ysgol ddiffygion difrifol. Fodd bynnag, eglurodd fod Brynteg wedi gwneud yn wych i leihau ei diffyg a bod disgwyl y bydd yn mantoli’r gyllideb ond nododd fod hyn yn gryn her i ysgolion bach gan bod perthynas rhwng y gyllideb a niferoedd y disgyblion. Cadarnhaodd ei fod yn cwrdd â’r holl benaethiaid yn dymhorol ac eglurodd am y bwrdd perfformiad a monitro ariannol, sy’n mynd drwy’r gyllideb fesul llinell. Nododd fod grantiau cymorth ychwanegol ar gael hefyd.

 

Gofynnodd un o’r aelodau a oedd ysgolion h?n dan anfantais o ran gwariant uwch ar gynnal a chadw, ac a oeddent yn cael yr un faint o gyllid. Eglurodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid fod pob ysgol yn cael cyllid ar sail arwynebedd y llawr yn bennaf; os yw ysgolion o faint tebyg maint yn cael swm tebyg, ond mae cyflwr yr adeilad yn cael ei gymryd i ystyriaeth hefyd, a adlewyrchir mewn pwysiad ffactor cyflwr. Roedd yn rhywbeth a oedd yn cael ei ystyried yn rheolaidd i wneud yn si?r bod y cyllid yn cael ei dargedu ble mae ei angen, ac yn cael sylw gyda’r fforwm cyllid ysgolion i sicrhau bod cyllid yn deg.

 

Nododd un o’r aelodau fod y paragraff ar Blant sy’n Derbyn Gofal ar dudalen 61 yn nodi’n glir pam fod gorwariant. Gofynnodd beth oedd yn digwydd ledled Cymru a pha un a oedd unrhyw arweinyddiaeth yn dod gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo’r 22 o awdurdodau i reoli’r gweithgarwch caffael a pha un a ellid rhannu’r wybodaeth am arfer da. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod hwn yn faes sydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 165.

166.

Strategaeth Gyfalaf o 2020-21 Ymlaen pdf eicon PDF 288 KB

Gwahoddedigion:

 

Cynghorydd Huw David, Arweinydd

Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd

Gill Lewis, Pennaeth Cyllid dros dro

Nigel Smith, Rheolwr Cyllid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dechreuodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog A151 Interim trwy ddweud mai mawr oedd ei dyled i’r Dirprwy Bennaeth Cyllid a’r Rheolwr Gr?p Interim – Prif Gyfrifydd lle mae’r Strategaeth Gyfalaf yn y cwestiwn. Aeth ymlaen trwy egluro bod y rheolaethau mewn perthynas â Gwariant Cyfalaf yn seiliedig ar ddeddfwriaeth ac mai’r ail adroddiad oedd hwn, yn dilyn cyflwyno’r gofyniad i gyhoeddi Strategaeth Gyfalaf y llynedd. Cyflwynir y Strategaeth Gyfalaf i’r Cyngor fel dogfen Fframwaith Polisi ac mae’n cysylltu â’r Cynllun Corfforaethol, y Strategaeth Rheoli Trysorlys, y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig a Chynllun Rheoli Asedau’r Cyngor. Mae gan y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 13 o egwyddorion, y mae 3 ohonynt yn cyfeirio at y Rhaglen Gyfalaf. Mae Adran 2 yn sôn am wariant cyfalaf ac mae tabl 1 ar dudalen 91 yn nodi’r amcangyfrifon ar gyfer gwariant cyfalaf a thabl 2 yn nodi manylion cyllido Cyfalaf. Mae Adran 3 yn cysylltu ag amcanion diogelwch, hylifedd ac yna cynnyrch cyfalaf. Mae Adran 4 yn nodi’r cyd-destun ariannol, mae Adran 5 yn bwrw golwg ar gynigion gwariant cyfalaf, mae Adran 6 yn rhoi sylw i lywodraethu a rheoli risg ac mae Adran 7 yn ymdrin â gwybodaeth a sgiliau.

 

Er bod yr adroddiad wedi cael ei ddiweddaru, fe nododd y Dirprwy Bennaeth Cyllid y byddai’r ffigyrau’n newid ar gyfer y fersiwn derfynol a fydd yn cael ei chyflwyno ochr yn ochr â’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ym mis Chwefror, yn unol â’r rhaglen gyfalaf wedi’i diweddaru.

 

Fe wnaeth un o’r aelodau nodi fod y tabl ar dudalen 97 i’w weld fel pe bai’n dangos amrywiaeth o godiadau o ran cyfanswm benthyca a rhwymedigaethau hirdymor, e.e. £117m yn 18-19, £130m yn 20-21, £135m yn 21-22 a £143m yn 22-23 a gofynnodd a oedd unrhyw reswm penodol pam fod 2021 yn edrych yn wahanol iawn. Fe eglurodd y Rheolwr Gr?p Interim – Prif Gyfrifydd fod y cynnydd yn y ddyled y flwyddyn nesaf yn ymwneud â’r cynnydd mewn gwariant ar y Rhaglen Gyfalaf a chynnydd cysylltiedig yn y lefel fenthyca.

 

Fe wnaeth un o’r aelodau nodi’r egwyddorion arweiniol ar dudalen 89, ac roedd yn deall mai’r Cynllun Corfforaethol sy’n llywio buddsoddi cyfalaf, ond sut ydym ni’n sicrhau cydraddoldeb ledled y fwrdeistref sirol i gyd. Gofynnodd hefyd beth oedd yn cael ei wneud i reoli’r risg ac aros o fewn y gyllideb. Eglurodd y Dirprwy Arweinydd fod dull bwrdeistref gyfan yn cael ei ddefnyddio wrth ystyried meysydd sy’n flaenoriaeth e.e. Neuadd y Dref Maesteg. Byddwn yn ystyried a allwn gael arian cyfatebol i gefnogi’r prosiect hwnnw e.e. amddiffynfeydd môr ym Mhorthcawl. O ran rheoli’r risg, mae hwnnw’n ymarfer anos o lawer, a gallwch oramcangyfrif i wneud yn si?r eich bod yn aros o fewn y gyllideb. Gallwch naill ai roi’r risg ar yr Awdurdod neu ar y contractwr, sy’n ysgwyddo’r risg honno. Mae angen i ni reoli hynny a tharo cydbwysedd. Fe wnaeth y Pennaeth Cyllid a Swyddog A151 Interim adleisio sylwadau’r Dirprwy Arweinydd, gan gadarnhau fod hyn wedi cael ei godi yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 166.

167.

Cynllun Darparu Gwasanaethau – Ein Gweledigaeth 5 Mlynedd Strategol pdf eicon PDF 84 KB

Gwahoddedigion:

 

Susan Cooper, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Cynghorydd Phil White, Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Laura Kinsey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant

Jacqueline Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Stephen Davies, Rheolwr Rhaglen Newid Busnes

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dechreuodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant trwy egluro y byddai cyflwyniad, yn egluro’r weledigaeth strategol, a nododd fod pob agwedd ar y Gyfarwyddiaeth mewn un cynllun. Roedd cysylltiad clir â’r Cynllun Corfforaethol, y Cynllun Rhanbarthol, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Eglurodd fod y cynllun yn ddogfen fanwl a helaeth a oedd wedi’i strwythuro fel ei bod yn cynnwys gosod y cywair, gwasanaethau plant, gwasanaethau pontio (plant i fywyd fel oedolion), gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion, gwasanaethau llesiant a chyflawni’r cynllun gweithredu, ac fe siaradodd yn fras am bob maes.

 

Aeth y Rheolwr Rhaglen Newid Busnes drwy gyflwyniad, ac eglurodd ei fod yn seiliedig ar y ddogfen.

 

Diolchodd un o’r aelodau i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’i thîm am yr adroddiad helaeth a thynnodd sylw at y pwynt yngl?n â chyfathrebu, yn enwedig rhwng yr awdurdod a Chyngor Tref Pen-y-bont. Nododd natur gilyddol sianelu adnoddau nad yw’r cyngor yn gallu eu hariannu mwyach. Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod hyn yn rhywbeth y gellir bwrw golwg arno ar ôl y cyfarfod.

 

Fe wnaeth un o’r aelodau nodi’r ystadegau a’r angen i gynllunio rhag blaen a gofynnodd a oedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn cael digon o gymorth gan Lywodraeth Cymru i sianelu’r gyllideb ac a oedd unrhyw arwydd o unrhyw help gan Lywodraeth Cymru, i bobl dros 85 oed. Fe wnaeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant gydnabod y Gronfa Gofal Integredig, a oedd yn fuddsoddiad sylweddol yn ein gwasanaeth, ond nododd mai cyllid grant oedd hwn o hyd. Rhoddodd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion rai enghreifftiau gan gydnabod y newid mewn demograffeg. Fe wnaeth yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar nodi’r ymrwymiad o £9m i iechyd a gofal cymdeithasol a chadarnhaodd fod yr hyn a oedd yn cael ei wneud dros breswylwyr yn ddigymar. Nododd fod y Gweinidog wedi cyhoeddi y bydd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn newid tuag at Barciau Iechyd, a nododd fod yr awdurdod yn barod ar gyfer hyn ar sail yr asesiad o anghenion y boblogaeth.

 

Gofynnodd un o’r aelodau am sicrwydd bod yr awdurdod iechyd yn talu ei gyfran lawn. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod yr arian hwn yn dod drwy’r awdurdod iechyd ond bod rhaid ei wario o fewn y bartneriaeth. Roedd arian a oedd yn dod allan o’r sector acíwt yn anos i’w symud. Roedd hi’n teimlo, o fewn y gwaith Cymru gyfan, bod gan yr awdurdod berthynas well â’r bartneriaeth o’i gymharu ag ardaloedd eraill. O ran CAMHS a Phlant, roedd hwn yn faes sydd dan bwysau ac y mae angen buddsoddi ynddo; mae angen adolygu’r cyfraniad iechyd. Roedd llawer mwy o waith i’w wneud, ond roedd y sylfeini yno.

 

Gofynnodd un o’r aelodau a oedd archwiliad o sgiliau yn y dyfodol wedi cael ei gynnal ac a oedd unrhyw un o’n darparwyr gofal yn rhagweld unrhyw broblemau pan fyddwn yn gadael yr UE. Eglurodd yr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 167.

168.

Diweddariad ar y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Uwch Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd – Craffu restr i’r Pwyllgor o’r testunau a oedd wedi’u hamserlennu ar gyfer dau gyfarfod nesaf y Pwyllgor yn Atodiad A, fel a ganlyn:

 

·         23 Mawrth 2020  - Cydwasanaethau Rheoleiddiol;

·         30 Ebrill 2020     - Proses Gynllunio’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

 

Gofynnodd y Pwyllgor am sicrhau’r canlynol:

-       Bod yr adroddiad yn cynnwys dadansoddiad o’r cynllun datblygu, y broses Ymgynghori yn enwedig y tu allan i gynllunio, Cyfleoedd ar gyfer Partneriaethau A106, sut y mae’n cysylltu â thwf mewn cyfleoedd swyddi, moderneiddio ysgolion, Addysg ôl-16.

-       Bod yr Aelod Cabinet priodol a Swyddogion o’r gwasanaethau Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai, a Chynllunio’n cael eu gwahodd i fynychu.

 

Tynnodd Uwch Swyddog y Gwasanaethau Democrataidd – Craffu sylw’r Aelodau at Flaenraglen Waith y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pynciol a oedd yn cynnwys y testunau a flaenoriaethwyd ac y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar gyfer cylch mis Mawrth o Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pynciol yn Nhabl 1, a’r rhestr o destunau arfaethedig ar gyfer y dyfodol yn Nhabl 2.

Hysbysodd y Pwyllgor ynghylch y diweddariadau canlynol i dabl 1:

 

-       Roedd y Cyfarfod ar y Cyd rhwng PTaChP1 a PTaChP2 a oedd wedi’i amserlennu ar gyfer 9 Mawrth wedi cael ei symud i 19 Mawrth am 2:30pm i ystyried adroddiadau ar Deithio gan Ddysgwyr ac Addysg Ôl-16 ar ôl ymgynghori fel a ofynnwyd. 

-       Roedd Troseddau Ieuenctid wedi cael ei gadarnhau fel testun ar gyfer PTaChP1 ar 20 Ebrill.

-       Byddid yn gofyn am eglurhad pellach o gwmpas yr adroddiad Rheoli Gwastraff / Y Ganolfan Wastraff i PTaChP3 ar 27 Ebrill yng nghyfarfod mis Mawrth.

 

169.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.