Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol - Dydd Gwener, 24ain Ionawr, 2020 09:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

16.

Ethol Cadeirydd

Cofnodion:

Cynigwyd, eiliwyd a phasiwyd yn unfrydol, y dylid enwebu’r Cynghorydd Spanswick fel Cadeirydd y cyfarfod.

 

CYTUNWYD:              Ethol y Cyngh. JC Spanswick yn Gadeirydd cydgyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol a Phwyllgorau Trosolwg a Chraffu Testun 1, 2 a 3.

17.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim.

18.

Strategaeth Ariannol y Tymor Canolig 2020-21 i 2023-24 pdf eicon PDF 299 KB

Gwahoddedigion:

 

Pob Cabinet a CMB

Deborah Exton - Dirprwy Bennaeth Cyllid dros dro

Jackie Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion

Zak Shell – Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth

Martin Morgans - Pennaeth Gwasanaeth Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Croesawyd y Gwahoddedigion i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr gyflwyniad byr o’r adroddiad, gan wahodd cwestiynau gan Aelodau i ddilyn.

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 5 o’r adroddiad ac, yn nhermau cyd-destun polisi, nododd fod rhai o wahanol bwysau ariannol y Cyngor yn ymwneud â deddfwriaeth a rheoliadau newydd a osodwyd arnyn nhw gan Lywodraeth Cymru. Roedd y rhain yn cynnwys, er enghraifft, rheoliadau Deddf yr Iaith Gymraeg ac ymrwymiadau a orfodwyd trwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Yn aml, doedd y rhain ac eraill ddim yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac felly, gofynnodd os oedd yr achos yn cael ei gyflwyno i rai fel y rhain, y Llywodraeth Ganolog a CLlLC ayyb., i sicrhau bod lefel briodol o ariannu ar gael i CBSP gyflenwi’r rhain.

 

Yn ôl y Prif Weithredwr, roedd yr Arweinydd yn gohebu’n gyson gyda Gweinidogion er mwyn ceisio sicrhau arian i gefnogi’n ariannol y gofynion deddfwriaethol newydd a osodir ar awdurdodau lleol yn nôl a gyfeirir uchod. Ar adegau, fe fyddai Llywodraeth Cymru’n hysbysu fod adnoddau ychwanegol wedi’u darparu mewn setliadau awdurdodau lleol er mwyn gweithredu eu hawl i gyflawni’r ymrwymiadau a osodwyd arnyn nhw trwy ofynion deddfwriaethol newydd. Ar y llaw arall, weithiau doedd dim ariannu ar gael ac roedd awdurdodau lleol felly’n gorfod darparu hyn fel rhan o’u hadnoddau presennol. Roedd yn cydnabod, fodd bynnag, fod hyn yn broblem, os nad oedd ariannu o’r fath yn cael ei ddarparu, bod hyn yn faich barhaus ar, nid yn unig CBSP, ond awdurdodau lleol eraill hefyd.

 

Roedd rhaid i’r Cyngor, fodd bynnag, gyflawni ei holl swyddogaethau o ran rheoliadau, rheolau a deddfwriaeth newydd, p’un ai wedi’u hariannu ai peidio, gan y byddai methu â gwneud hynny’n arwain at sefyllfa o beidio â chydymffurfio pan fo’r Cyngor yn cael ei archwilio ar wahanol elfennau o’i waith a’i berfformiad gan Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Ariannol Dros Dro a Swyddog S 151 fod ariannu gan Lywodraeth Cymru weithiau’n cael ei ddyrannu a thro arall ddim. Enghraifft o hyn oedd ei bod wedi cefnogi’r Awdurdod yn ariannol mewn perthynas ag Iechyd a Gofal Cymdeithasol ond nid ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) sydd, fel canlyniad, wedi rhoi pwysedd ar gyllideb y Cyngor.

 

Cyfeiriodd Aelod at Atodiad B o’r adroddiad a Chynigion Lleihau’r Gyllideb mewn perthynas â thymor presennol yr MTFS gyda golwg ar Gludiant rhwng y Cartref a’r Ysgol. Teimlodd y dylid edrych ar hyn yn fwy manwl mewn cydweithrediad â Llwybrau Diogel i’r Ysgol, er mwyn sicrhau fod cludiant i blant yn parhau lle nad oedd llwybr diogel at unrhyw ysgol yn bodoli  ac, i’r gwrthwyneb, ystyried lleihau darpariaeth cludiant rhwng y Cartref a’r Ysgol lle'r oedd Llwybrau Diogel o’r fath at ysgolion yn bodoli. Ychwanegodd na ddylid gwneud toriadau lle'r oedd galw sylweddol ymysg disgyblion a oedd yn dibynnu ar gludiant i’r ysgol, lle bo’n bosib. Ceir enghraifft o hyn yn Ysgol Gynradd Coety lle'r oedd rhai disgyblion, oherwydd diffyg llwybr cerdded diogel i’r ysgol, yn derbyn cludiant rhwng y cartref a’r ysgol.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 18.

19.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim.