Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Yr Angel, Penybont Ar Ogwr CF31 4WB

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

170.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

171.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 90 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion acyfarfod y 20/1/2020, 4/2/2020 a 13/2/2020

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo cofnodion 20/01/2020, 04/02/2020 a 13/02/2020 fel cofnodion gwir a chywir.

172.

Sefydlu Panel Adfer Trawsbleidiol - Pandemig Covid-19 pdf eicon PDF 98 KB

Gwahoddedigion

 

Mark Shephard – Prif Weithredwr

Cynghorydd HJ David - Arweinydd

 

Cofnodion:

Darparodd y Prif Weithredwr grynodeb o'r adroddiad. Eglurodd mai diben yr adroddiad yw sefydlu Panel Adfer Trawsbleidiol gyda'r nod o lywio, hysbysu, a chynghori'r Cabinet ar gynllunio adferiad y Cyngor, gan gydnabod yr heriau enfawr sy'n ein hwynebu ar ôl Covid-19 wrth i ni ddechrau llacio'r cyfyngiadau symud a dod allan o’r cyfnod hwnnw. O ran y Cyngor, mae’r newid wedi bod yn sylweddol iawn. Ni roddwyd unrhyw un o staff y Cyngor ar ffyrlo. Yn ddealladwy, cynhaliwyd llawer o wasanaethau'r Cyngor yn wahanol i’r arfer, gan gynnwys gweithio gartref, gweithio ystwyth, ac adleoli staff, gyda’r ffocws i raddau helaeth ar ddarparu’r gwasanaethau hanfodol gan ddiogelu'r bobl fwyaf agored i niwed yn y fwrdeistref sirol, a chwarae ein rhan wrth atal lledaeniad y firws. Un o ganlyniadau anffodus hyn oedd sefydlu gweithdrefnau llywodraethu brys sydd, i ryw raddau, wedi golygu bod cyfraniad rhai Aelodau i’r prosesau Craffu arferol wedi’u hatal. Yn ei adroddiad i'r Cabinet ar 30 Mehefin 2020 nododd yr ymdrechion i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r holl Aelodau fel bo modd iddynt gyfrannu cymaint â phosibl, trwy gynnal cyfarfodydd Arweinydd Gr?p wythnosol, cyfarfodydd Cadeirydd Craffu, a rhaglen gyfathrebu ddyddiol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl, gan gynnwys hysbysiadau o’r penderfyniadau ffurfiol a wneir o dan y trefniadau argyfwng hyn. Nododd yr adroddiad y fframwaith cynllunio ar gyfer ailgychwyn, adfer, ac adnewyddu gwasanaethau'r Cyngor. Mae sefydliad Panel Trawsbleidiol yn rhan allweddol o’r elfen adfer, gan gydnabod bod nifer gyfartal o Aelodau etholedig o bob plaid yn hanfodol er mwyn sefydlu cynllun credadwy ar sail un Cyngor. Amlinellodd rai o'r blaenoriaethau a'r ystyriaethau allweddol y mae angen i'r Cyngor ymdrin â hwy fel rhan o'i adferiad. Mae'r blaenoriaethau a'r ystyriaethau hynny ar amserlenni gwahanol i’w gilydd, h.y. mae rhai yn weddol uniongyrchol tra bydd eraill yn cymryd mwy o amser. Un o'r heriau yw adferiad yn golygu gweithredu popeth ar unwaith, ond yn hytrach mae’n rhaglen waith a all gymryd 12-18 mis. Un her sy’n ein hwynebu’n syth yw’r her o ailagor ysgolion ym mis Medi (cafodd Aelodau ac ysgolion fanylion ynghylch hyn gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Addysg a Chymorth i Deuluoedd). Dywedodd fod yr ymateb i'r argyfwng economaidd yn parhau, ac roedd y Cabinet wedi trafod ffurfio Tasglu Economaidd, yn cynnwys pobl o fusnesau a diwydiant lleol yn bennaf i helpu i lunio'r hyn y mae angen i'r Cyngor ei wneud a'r ffordd orau o fuddsoddi ar y sail honno. Mae arwyddocâd rhai o'r heriau yn cynnwys digartrefedd (mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r gwaith o ganfod atebion wrth ddod o hyd i leoedd i bobl fyw barhau, sy'n heriol yn gysyniadol ac yn ariannol) a pharhau i ffurfio gwell perthynas â rhai o'i phartneriaid, yn enwedig BAVO. Yr her fydd canfod sut i feithrin y cydberthnasau hyn wrth symud ymlaen a sut y bydd hynny yn cyfrannu i’r adferiad, gan gydnabod y manteision i gymunedau a’r manteision ariannol fel nad yw’r Cyngor yn dychwelyd at y ffordd yr oedd yn flaenorol. Roedd rhai pethau'n newydd iawn i'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 172.

173.

Y Diweddaraf am y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd mai diben yr adroddiad oedd rhoi rhestr i Aelodau'r Pwyllgor o eitemau posibl y Flaenraglen Waith ar gyfer blaenoriaethu ffurfiol. Cyfeiriodd at baragraff 4.1, sy’n nodi mai'r Pwyllgor sy'n gyfrifol am bennu a blaenoriaethu'r Flaenraglen Waith gyffredinol ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc. Amlinellodd yr eitemau/pynciau a oedd wedi'u blaenoriaethu a'u cytuno gan y Pwyllgor hwn, a gasglwyd o’r eitemau a awgrymwyd mewn cyfarfodydd blaenorol o'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac a oedd yn cynnwys gwybodaeth a gynigiwyd gan Gyfarwyddwyr Corfforaethol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r Aelodau a oeddent yn dymuno ychwanegu unrhyw beth at y rhestr o bynciau.

 

Gofynnodd Aelod am gynnwys digartrefedd, o ystyried y bu gan Craffu rôl yn y gorffennol wrth edrych ar e.e. tai a chartrefi gwag Fodd bynnag, nid oedd am i Waith Craffu ddyblygu unrhyw waith arall a wnaed ar y pwnc. Mewn ymateb, dywedodd y Cadeirydd y byddai Llywodraeth Cymru yn allweddol o ran sut y gall yr Awdurdod fynd i'r afael â'r mater ac y bydd yn dibynnu ar adnoddau, ond cytunodd y dylai Craffu chwarae rhan mewn digartrefedd.

 

Teimlai Aelod y byddai rhoi Digartrefedd ar y Flaenraglen Waith Craffu yn ddyblygiad gan ei fod yn rhywbeth yr oedd eisoes yn cael sylw. Roedd yr Awdurdod eisoes wedi ystyried hawlio rhywfaint o'r £20M a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y llety dros dro i'r digartref ac mae'n aros am ateb. Rhaid i'r Awdurdod allu ailgartrefu'r bobl hynny sydd wedi'u rhoi mewn llety dros dro ar draws y fwrdeistref rhag iddynt ddychwelyd i fyw ar y strydoedd. Cytunodd y Cadeirydd fod angen i ni edrych ar ba mor llwyddiannus yr ydym wedi bod wrth ddatrys problem digartrefedd yn y dyfodol.

 

Gofynnodd Aelod a allai'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol edrych ar y BGC ym mis Medi i gyd-fynd â chwblhad disgwyliedig yr Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned. Bydd hyn yn cael mwy o effaith ar yr hyn y dymuna’r Panel fynd i'r afael â hwy. Mewn ymateb, dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Panel yn cyfarfod â Thîm y BGC cyn bo hir. Eglurodd yr Aelod ymhellach y bydd Asesiad o'r Effaith ar y Gymuned yn nodi'r hyn sydd wedi'i wneud yn dda a'r pethau yr oedd angen eu gwneud yn y tymor hwy i reoli pegynau pellach mewn pandemig. Er enghraifft, mewn perthynas ag ysgolion, eu hagor i bob disgybl ar 14 Medi gydag oediad o 2 wythnos i roi'r holl fesurau angenrheidiol ar waith. Felly, erbyn canol mis Medi gellid gweld problemau gydag ysgolion, ac mae sawl mater arall hefyd sydd angen sylw. Dadleuodd fod digartrefedd yn fater hirdymor y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi'i ariannu amser maith yn ôl, a bod angen i lywodraeth leol fod yn llafar am y diffyg cyllid sydd ar gael, mae'n rhywbeth y mae angen i'r Panel ei ystyried wrth symud ymlaen.

 

Gofynnodd Aelod a allai Craffu fod â rhan yn rôl llywodraethwyr a sut y cant eu penodi, eu trefnu, a'u hyfforddi. Teimlai fod angen i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 173.

174.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z