Agenda a Chofnodion

Cyfarfod cyfun o'r holl bwyllgorau Craffu, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol - Dydd Iau, 21ain Ionawr, 2021 10:00

Lleoliad: o bell trwy Skype for Business

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

203.

Ethol Cadeirydd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:               Ethol y Cynghorydd C Green yn Gadeirydd Cyfarfod Cyfunol yr holl Bwyllgorau Craffu mewn perthynas ag eitem 4, o ran Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a Chyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr.

 

204.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwblgan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan yCyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim.

205.

Y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2021-22 i 2024-25 pdf eicon PDF 304 KB

GwasanaethauCymdeithasol a Lles

 

Gwahoddwyr:

Cynghorydd Huw David, Arweinydd

Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd

Cabinet Cynghorydd Nicole Burnett, Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Cabinet Cynghorydd Dhanisha Patel - Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau Dyfodol

 

Gill Lewis, Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid (dros dro)

Claire Marchant, Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cynghorydd

Mark Shephard Prif Weithredwr

Kelly Watson Prif SwyddogGwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio

 

Jacqueline Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Deborah Exton Dirprwy Bennaeth Cyllid dros dro

Laura Kinsey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Blant

Christopher Morris - Rheolwr Cyllid - Rheoli Cyllidebau: Gwasanaethau cymdeithasol a Lles / Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr

 

CyfarwyddiaethPrif Weithredwyr

 

Gwahoddwyr:

Cynghorydd Huw David, Arweinydd

Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd

Cabinet Cynghorydd Dhanisha Patel - Aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau Dyfodol

 

Gill Lewis, Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid (dros dro)

Mark Shephard Prif Weithredwr

Kelly Watson Prif SwyddogGwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio

 

Deborah Exton, Dirprwy Bennaeth Cyllid dros dro

Martin Morgans, Pennaeth Gwasanaeth - Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth

Christopher Morris, Rheolwr Cyllid - Rheoli Cyllidebau: Gwasanaethau cymdeithasol a Lles / Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid drosolwg o’r adroddiad, a’i ddiben oedd cyflwyno Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC/y Strategaeth) ddrafft 2021-22 i 2024-25 i’r Pwyllgor, oedd yn nodi blaenoriaethau gwario’r Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a meysydd cyllideb oedd wedi cael eu targedu ar gyfer yr arbedion angenrheidiol. Roedd y strategaeth yn cynnwys rhagolwg ariannol ar gyfer 2021-2025 a chyllideb refeniw ddrafft fanwl ar gyfer 2021-22.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid am ei throsolwg cryno o’r adroddiad. Gofynnodd yr Aelodau’r cwestiynau canlynol:

 

Y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

 

Nododd Aelod fod gan yr adroddiad ddau Atodiad, un yn cynnwys Pwysau Cyllidebol ac un gyda Chynigion Lleihau’r Gyllideb. Ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (SSWB) cynigiwyd pwysau o £5 miliwn, ac eto ar arbedion y gyllideb, roedd y cyfanswm tua degfed rhan. Roedd yn hysbys bod Adran y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn adran adweithiol ac y gallent weld gorwariant o ryw £2 filiwn. Gofynnodd i’r Swyddogion roi sylwadau ar y gwahaniaeth rhwng y ddau ffigur.

 

Cydnabyddai’r Prif Swyddog Dros Dro Cyllid, Perfformiad a Newid fod Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn wasanaeth oedd yn cael ei arwain gan y galw a bod pwysau cyson ar y gyllideb. Roedd llawer o ddarnau o waith ar y gweill i reoli’r galw hwnnw, ond roedd hwn yn un o’r gwasanaethau yr effeithiodd Covid-19 yn ddifrifol arnynt. Roedd yna gyfleoedd a ddylai ei gwneud yn bosibl cyflawni mwy o arbedion effeithlonrwydd, ond byddai hynny’n cymryd amser. Nid oedd yr arbedion a’r pwysau yn gysylltiedig o reidrwydd, roedd gwahanol resymau drostynt, felly byddai pwysau yn dal i fod o hyd, ond nid oedd hynny’n atal cyfleoedd i sicrhau arbedion.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod hon wedi bod yn flwyddyn wahanol i bob un arall. Roedd Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn wasanaeth oedd yn cael ei arwain gan y galw ac roedd yn ymateb yn statudol i anghenion yr unigolion a’r cymunedau oedd yn cael eu gwasanaethu. Roedd ymarfer wedi cael ei drawsnewid dros nifer o flynyddoedd, gan weithio mewn ffordd sy’n seiliedig ar gryfder a chanolbwyntio ar yr hyn y gallai pobl ei wneud. Câi pobl â lefel uchel iawn o anghenion gofal a chymorth eu cysylltu â chymunedau, a châi eu hanghenion eu hateb mewn ffyrdd a olygai nad oeddent mor ddibynnol ar wasanaethau gofal a chymorth traddodiadol. Bu gostyngiadau yn nifer y bobl oedd wedi dod i mewn i gartrefi gofal, oherwydd buddsoddi mewn gwasanaethau ailalluogi ac roedd hwn yn un o’r meysydd o arbedion. Roedd cyfleoedd i ddarparu gweithgareddau yn ystod y dydd i bobl yn cael eu gweld yn wahanol iawn. Nid oedd yn golygu bod y pwysau wedi diflannu ond roeddent yn ymwneud â chwantwm y gwasanaeth a ddarperid, oedd yn gysylltiedig â’r ddemograffeg. Roedd yna boblogaeth oedd yn heneiddio oedd yn golygu bod gofyn cynyddol am ofal a chymorth i rai ac adlewyrchwyd hynny ym mhwysau’r gyllideb. Yn ogystal, roedd hyn yn ymwneud â  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 205.

206.

Eitemau Brys

ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim