Cofnodion

Parhad y cyfarfod cyfun gohiriedig o'r holl Bwyllgorau Trosolwg a Craffu ar 21 Ionawr 2021, Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol - Dydd Llun, 25ain Ionawr, 2021 11:00

Lleoliad arfaethedig: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Yr Angel, Penybont Ar Ogwr CF31 4WB

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: Parhad y cyfarfod cyfun gohiriedig o'r holl Bwyllgorau Trosolwg a Craffu ar 21 Ionawr 2021 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

208.

Datganiadau o Fuddiannau

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd T Beedle fuddiant personol yn Eitem 4 ar yr agenda am ei fod yn Gadeirydd Cymdeithas Llywodraethwyr Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Datganodd y Cynghorydd A Williams fuddiant personol yn Eitem 4 ar yr agenda fel aelod pwyllgor RFC Heol-y-Cyw oedd â rhan ym mhroses CAT.

 

209.

Strategaeth Gyllido Tymor Canol 2021-22 i 2024-25

Cofnodion:

Dywedodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd - Craffu gan fod y cyfarfod cyfunol hwn o’r holl Bwyllgorau Craffu yn barhad o’r cyfarfod a ohiriwyd o Ddydd Iau, yr 21ain o Ionawr, y byddai’r Cynghorydd Cheryl Green yn parhau fel Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Addysg a Chymorth i Deuluoedd

 

Cyfeiriodd Aelod at ESF2 a’r tendrau a dderbyniwyd ar gyfer cludiant i’r ysgol a gofynnodd am sicrwydd bod yna gadernid ynghylch y broses ddethol a’r ffordd yr oedd yr Awdurdod Lleol yn sicrhau gwerth am arian.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd ei fod yn hapus iawn i gynnig sicrwydd i’r Aelod y byddai’n broses gadarn iawn. Byddai swyddogion o fewn Addysg a Chymorth i Deuluoedd yn gweithio’n agos iawn gyda Swyddogion Cyfreithiol a Chaffael i sicrhau. cydymffurfiaeth â’r holl brosesau sy’n gysylltiedig â’r weithdrefn dendro.

 

Gwnaeth Aelod y sylw bod cludiant o’r Cartref i’r Ysgol wedi bod yn cael ei adolygu ers amser maith ac apeliodd am i hyn gael ei symud ymlaen.

 

Cytunai’r Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd â’r Aelod a dywedodd ei fod wedi bod yn destun pryder ers peth amser. Cafodd cryn dipyn o waith ei wneud ar yr adolygiad ers y flwyddyn ddiwethaf. Roedd yr Awdurdod Lleol yn gobeithio gweld adolygiad Llywodraeth Cymru o nifer o’r materion, oedd i fod i ddwyn ffrwyth ddiwedd mis Mawrth. Gobeithio y byddai’r wybodaeth hon, ar y cyd â’r wybodaeth a sicrhawyd, yn galluogi’r Awdurdod Lleol i symud hyn ymlaen yn gyflym.

 

Cyfeiriodd Aelod at SCH1 a dywedodd y dylid ailystyried yr arbedion effeithlonrwydd gan roi’r gorau i dorri gwasanaethau canolog gan fod hynny’n niweidio pob ysgol.

 

Cyfeiriodd Aelod hefyd at SCH1 a mynegodd, er nad oedd ar neb eisiau gwneud toriadau, ei fod yn teimlo bod angen rhannu’r baich yn gyfartal ac y dylid cael rhywfaint o doriad eleni.

 

Cyfeiriodd Cynrychiolydd Cofrestredig yr Eglwys yng Nghymru hefyd at SCH1 gan ddweud bod Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod ar y ris isaf os nad y gwaelod am y nifer ddiwethaf o flynyddoedd o ran y swm oedd yn cael ei wario ar addysg fesul disgybl. Dywedodd y byddai unrhyw doriad i gyllideb yr ysgolion yn drychinebus, nid yn unig yn y flwyddyn gyfredol ond yn arbennig yn y blynyddoedd i ddod.

 

Esboniodd Aelod ei bod hi wedi bod mewn cyfarfod gyda’r Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol ac wedi ei herio yngl?n â’r setliad. Roedd y Gweinidog wedi dweud, er nad oedd yn gyllideb twf, na ddylai unrhyw Awdurdod fod yn colli nac yn bwriadu colli unrhyw staff, oherwydd dylai fod yn gyllideb ddigyfnewid. Dywedodd pe bai unrhyw Awdurdodau’n dweud eu bod yn mynd i golli staff, yna roedd ar Lywodraeth Cymru eisiau gwybod ar unwaith gan eu bod wedi dweud na fyddai hynny’n ddichonadwy wrth symud ymlaen.

 

Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd ei fod yn gwerthfawrogi sylwadau’r Aelodau’n fawr a bod y darlun yn un heriol iawn i’r sefydliad cyfan. Roedd yr holl feysydd a  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 209.

210.

Eitemau Brys

Cofnodion:

Dim