Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol - Dydd Mercher, 14eg Ebrill, 2021 09:30

Lleoliad: o bell trwy Dimau Microsoft

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

10.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

11.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 143 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 14/01/21

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                      Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar 14 Ionawr 2021 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

 

12.

Absenoldeb Oherwydd Salwch yn ymwneud â Straen, Gorbryder, Iselder ac Iechyd Meddwl pdf eicon PDF 755 KB

Gwahoddwyr:

 

Mark Shephard - Prif Weithredwr

Cynghorydd Hywel Williams - Dirprwy Arweinydd

Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Cynghorydd Charles Smith - Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Cynghorydd Nicole Burnett - Aelod Cabinet - GwasanaethauCymdeithasol a ChymorthCynnar

Cynghorydd Richard Young - Aelod Cabinet - Cymunedau - Hyrwyddwr Iechyd Meddwl

Kelly Watson - PrifSwyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol

Debra Beeke - Rheolwr Gr?p - Adnoddau Dynol a Datblygu Trefniadaethol

Helen Selway - Rheolwr Partner Busnes AD

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gr?p, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol yr adroddiad ar Absenoldeb Oherwydd Salwch yn ymwneud â Straen, Gorbryder, Iselder ac Iechyd Meddwl.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr y Gr?p am gyflwyno'r adroddiad a gofynnodd Aelodau'r Pwyllgor am y canlynol:

 

Cynghorodd Aelod bwyll wrth ddefnyddio'r flwyddyn Covid-19 ar gyfer gosod llinellau sylfaen gan y gallai ddarparu data ffug. Roedd yn cydnabod fod yr adroddiad yn gwahaniaethu rhwng salwch meddwl ac iechyd meddwl a lles, ond mynegodd fod angen newid y system cofnodi absenoldeb Adnoddau Dynol er mwyn sicrhau dadansoddiad pellach o gategorïau salwch meddwl ac iechyd meddwl a lles, ac i nodi a oedd yr absenoldeb yn gysylltiedig â gwaith neu'n bersonol.

 

Dywedodd Rheolwr y Gr?p, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol fod newid y categoreiddio o fewn y system yn heriol, ac y gallai gwneud newidiadau i'r categoreiddio arwain at golli rhywfaint o ddata cymharol. Roedd 16 categori ond nid oedd cyfyngiadau ar y nifer, a byddai unrhyw newid yn dibynnu ar y defnyddiwr yn dewis y categori cywir.  Eglurodd y gallai absenoldebau ddechrau oherwydd un mater ac yna datblygu ac amrywio dros amser. Felly, er y gallai mater sy'n gysylltiedig â gwaith waethygu sefyllfa a dod yn bwynt tipio ar gyfer absenoldeb, nid hynny o reidrwydd fyddai’r prif fater. Yn aml, roedd nifer o ffactorau, a gallai fod yn anodd dewis rhwng categoreiddio fel mater cysylltiedig â gwaith neu fel mater nad oedd yn gysylltiedig â gwaith.

 

Cydnabu'r Aelod, er y gallai newid y categorïau fod yn heriol, y gallai ddisodli'r data llinell sylfaen blaenorol pe bai'n creu rhai gwell. Pan fyddai cyflwyno llinellau sylfaen ychwanegol yn gwella effaith ymyriadau wedi'u targedu, yna gallai fod yn werth chweil. Dylid newid data os gwelir ei fod yn aneffeithiol o ran darparu'r wybodaeth yr oedd ei hangen.

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Gr?p, Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol eu bod pob amser ar drywydd gwelliannau, a bod symudiadau yn cael eu gwneud i archwilio’r posibilrwydd o Reolwyr yn mewnbynnu'r data.  Ychwanegodd fod nifer o awdurdodau eraill a oedd yn defnyddio'r un system absenoldeb, ac y gallai fod yn ddefnyddiol meincnodi ar yr hyn a oedd wedi gweithio iddyn nhw. 

 

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 22 a gwnaeth ymholiad yngl?n â'r ffigurau cymharol uchel a ddangosir yn graff 3 ynghylch absenoldebau o fewn Ysgolion a'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles.  Cydnabu fod gweithwyr o fewn y Gyfarwyddiaeth yn gweithio gyda phobl oedrannus ac mewn safleoedd dan do drwy gydol y pandemig, ond fod problem wedi bodoli cyn y pandemig Covid-19. Teimlai fod angen dadansoddi pellach yn y Gyfarwyddiaeth hon yn benodol i ganfod y rhesymau.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Addysg a Chymorth i Deuluoedd fodchwarter 3 wastad yn chwarter heriol; boed hynny am ei fod dros fisoedd y gaeaf neu am ryw reswm arall, ac, o fewn ysgolion, roedd gan chwarter 3 gyfraddau absenoldeb uwch nag adegau eraill. Bu'n flwyddyn anodd iawn i nifer o wasanaethau rheng flaen, a bu’n gyfnod arbennig o anodd i ysgolion gyda dysgwyr  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 12.

13.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim