Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: o bell - trwy Dimau Microsoft

Cyswllt: Gwasanaethau Democratiadd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

24.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

25.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 72 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 01 02 2021 a 14 04 2021

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:            Bod Cofnodion cyfarfod Cyfunol yr holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu, dyddiedig 1 Chwefror a 14 Ebrill 2021 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

 

26.

Alldro Cyllideb Refeniw 2020-21 pdf eicon PDF 244 KB

 

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Huw David - Arweinydd

Cynghorydd Hywel Williams - Dirprwy Arweinydd

Cynghorydd Stuart Baldwin - Aelod Cabinet - Cymunedau

Cynghorydd Nicole Burnett - Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Cynghorydd Dhanisha Patel - Aelod Cabinet - Lles a Chenedlaethau Dyfodol

Cynghorydd Charles Smith - Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

 

Mark Shephard - Prif Weithredwr

Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd

Gill Lewis - Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid dros dro

Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles

Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau

Kelly Watson - Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Esboniodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro na fyddai hi, fel y gofynnwyd, yn mynd drwy’r holl fanylion yn yr adroddiad gan fod y Cynghorwyr wedi cael y cyfle i glywed yr adroddiad o’r blaen, ond gwnaeth y sylw, i’w gofnodi, y byddai’r Aelodau’n gweld crynodeb o’r sefyllfa ariannol a thynnodd sylw at y naratif oedd yn dangos ei bod yn sefyllfa anhygoel o unigryw eleni. Fel yr eglurwyd o’r blaen yn y Cabinet ac yn y Cyngor, yr arian o gronfa galedi Llywodraeth Cymru (LlC) yn y lle cyntaf, yr arian o grantiau sylweddol a dderbyniwyd yn y chwarter olaf, o leiaf £9 miliwn yn nhermau grantiau untro oedd ar gyfer dibenion penodol, a’r cymhorthdal ar gasglu’r Dreth Gyngor oedd y rhesymau pam yr oedd y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn yn edrych mor wahanol i’r hyn a ddisgwylid a’r sefyllfa yr adroddwyd wrth COSC yn chwarter 3 oedd yn ddisgwyliedig.

 

Yr ail bwynt, a wnaed yn y Cabinet ac yn y Cyngor, oedd bod y sefyllfa’n gyffredinol yn dal yn eithaf anodd wrth symud ymlaen. Roedd yna bwysau anhygoel, nid oedd y wlad allan o’r pandemig eto ac roedd sefyllfa waelodol Cyllidebau Cyfarwyddiaethau gan mwyaf yn dal yn un o ddiffyg. Roedd sefyllfa’r ysgolion, yn neilltuol, yn cael ei chuddio gan bron i £9 miliwn o grantiau untro, tra mai’r hyn oedd wedi cael ei ragweld oedd y byddai’r rhan fwyaf o’r ysgolion mewn diffyg.

 

Roedd ansicrwydd ynghylch y pwysau yn y dyfodol ac, fel y byddai’r Aelodau wedi gweld yn y wasg, roedd nifer o Gyfarwyddwyr Cyllid wedi gorfod cyhoeddi Hysbysiadau Adran 114 lle roedd eu hawdurdodau lleol mewn perygl o fethdalu, mewn oddeutu 35 o Gynghorau. Gwelid stori gyda dau hanner, sef gwarged sylweddol unigryw ond y sefyllfa waelodol yn gallu bod yn eithaf peryglus.

 

Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor y canlynol:

 

Soniodd Aelod am gyfeiriad y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro at y grantiau a’r arian o’r gronfa galedi oedd wedi eu derbyn yn yr ychydig fisoedd diwethaf a’r rhagolwg yn Chwarter 3 COSC, oedd wedi bod yn sefyllfa hollol wahanol, a gofynnodd a oedd modd rhagweld y cyllidebau. Roedd yr alldro presennol yn cuddio’r sefyllfa wirioneddol, ond un o 22 awdurdod lleol oedd Pen-y-bont ar Ogwr yng Nghymru a faint o awdurdodau lleol yn Lloegr a’r Alban oedd yn yr un cwch.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro ei bod hi’n teimlo nad oedd y darlun yn un gwirioneddol, fel yr oedd yn sefyll. Roedd yn ddarlun cywir o ran cadw cyfrifon a chofnodi’r symiau ac roedd yn rhoi sefyllfa, o ran y cronfeydd wrth gefn oedd wedi eu clustnodi a’r pwrpas yr oedd y rheiny ar eu cyfer, ond nid oedd yn rhoi’r darlun go iawn. Gallai dwy eitem yn unig wneud £2 filiwn o ddiffyg; roedd y rhan fwyaf o’r ysgolion yn agos i redeg i sefyllfa o ddiffyg ac roedd rhai ohonynt eisoes mewn diffyg. Roedd yn unigryw o ran amseriad, ond nid  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 26.

27.

Perfformiad yn erbyn yr Amcanion Lles ar gyfer 2020-21 pdf eicon PDF 635 KB

Gwahoddwyr:

 

Fel uchod ar gyfer Eitem 4

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid Dros Dro yr adroddiad am y Perfformiad yn erbyn yr Amcanion Lles ar gyfer 2020-21. Nododd y byddai rhai Aelodau fel Cadeiryddion Craffu, wedi bod yn bresennol yn Asesiad Perfformiad Corfforaethol Chwarter 4 (APC) a rhoddodd drosolwg byr ar yr adroddiad oedd yn adlewyrchiad o’r flwyddyn yn erbyn Amcanion y Cynllun Corfforaethol, a ddiwygiwyd ar gyfer 2020-21 oherwydd y pandemig a’r effaith a gafodd hynny ar ddarparu gwasanaethau ac a gytunwyd yn y Cyngor ym mis Medi 2020. Roedd y cynllun diwygiedig yn diffinio’r 32 ymrwymiad corfforaethol i ddarparu yn erbyn y 3 amcan lles, ac yn gosod 46 dangosydd oedd yn canolbwyntio ar ddeilliannau i fesur y cynnydd am y flwyddyn. Dilynwyd y broses arferol gyda chynlluniau busnes y Gyfarwyddiaeth, gyda’r holl ddangosyddion oedd yn bwydo i mewn i’r cynllun corfforaethol hwnnw. Amlinellai Atodiadau A i D bob un o ddangosfyrddau diwedd blwyddyn y Gyfarwyddiaeth ac roedd gan COSC swyddogaeth allweddol mewn monitro a chraffu ar gynnydd o ran cyflawni’r amcanion lles hynny.

 

Dangosai’r data diwedd blwyddyn fod 12 o’r 32 ymrwymiad wedi eu cwblhau, gyda’r 20 arall wedi cyrraedd y rhan fwyaf o’u cerrig milltir, gan nodi bod y flwyddyn hon wedi bod yn unigryw, gyda rhai gwasanaethau na ellid eu darparu, rhai a ddarparwyd yn rhannol a bod angen dod â gwasanaethau newydd i mewn i gynorthwyo’r trigolion oedd yn byw drwy adegau anodd. O’r 440 o ddangosyddion a gasglwyd fel rhan o’r broses gynllunio gorfforaethol, roedd yna 89 gyda thargedau lle roedd y data wedi cael ei gyflwyno, oedd yn adlewyrchiad o’r flwyddyn anodd iawn. Ni allai’r Cyngor gasglu data ar gyfer yr holl ddangosyddion. O’r 89 o ddangosyddion gyda thargedau roedd dros hanner ar y targed, roedd 10 oddi ar y targed o lai na 10% a 32 wedi colli’r targed o fwy na 10%. Roedd yna 51 o ddangosyddion gyda naill ai dim targed neu ddim data diwedd blwyddyn ar gael, a rhoddwyd y manylion yn rhan A o’r atodiad. Roedd yna 79 o ddangosyddion oedd yn cynnwys data tueddiadau, ac o’r rhain roedd 46 yn dangos gwelliant neu’r perfformiad gorau, gyda 10 na ellid eu gwella ymhellach. Roedd un dangosydd yr un fath â’r llynedd, a 32 yn waeth na’r flwyddyn flaenorol.

 

Gofynnodd Aelodau o’r Pwyllgor y canlynol:

 

Dywedodd y Cadeirydd y gofynnwyd iddi fel Cadeirydd wneud datganiad agoriadol am y ffordd yr oedd yr adroddiad wedi cael ei osod allan, nad oedd peth o’r wybodaeth yn eglur, bod dryswch gyda’r dangosyddion yn symud i fyny ac i lawr a pheth o’r data wedi cael ei osod allan.

 

Soniodd Aelod fod Aelodau wedi bod yn gofyn am grynodeb gweithredol oherwydd swm y data yn yr adroddiadau. Roedd hi’n cydnabod yr ymateb diweddar, oedd yn dweud na châi Templed yr Adroddiad Corfforaethol ei adolygu tan y flwyddyn nesaf, ond roedd aelodau wedi bod yn gofyn am grynodebau gweithredol ar gyfer pob adroddiad craffu ers dros 2 flynedd.

 

Dywedodd Aelod fod y Cadeiryddion wedi cymryd y mater  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 27.

28.

Diweddariad ar y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd – Craffu y byddai’r Aelodau’n cofio, yn dilyn ystyried y flaenraglen waith ar gyfer y Pwyllgor yn y cyfarfod diwethaf ar y 9fed o Fehefin, bod y Flaenraglen Waith ar gyfer y pwyllgor hwn wedi ei hatodi fel Atodiad A a’r Flaenraglen Waith ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar Bwnc 1, 2,a 3 wedi eu hatodi fel atodiadau B, C a D ar gyfer cyd-drefnu a rhoi trosolwg ar y Flaenraglen Waith yn gyffredinol. Byddai Blaenraglenni Gwaith y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar Bwnc yn parhau i gael eu cynnwys yn yr adroddiad i COSC gydag unrhyw ddiweddariadau o bob rownd o gyfarfodydd y SOSC wedi eu cynnwys.

 

Dywedodd hefyd fod y daflen weithredu monitro’r argymhellion, oedd yn olrhain ymatebion i argymhellion y Pwyllgor o’r cyfarfod blaenorol, yn atodedig fel Atodiad E a chyfeiriodd at yr ymatebion a anfonwyd drwy’r e-bost i Aelodau’r Pwyllgor ar y 29ain o Fehefin a’r 2il o Orffennaf 2021.

 

Argymhellion:

 

Ar ôl ystyried y Flaenraglen Waith, gwnaeth y Pwyllgor yr argymhellion canlynol:

 

  1. Bod Caffael Moesegol yn cael ei ychwanegu at y Flaenraglen Waith.

 

Nid oedd ceisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD:     Bod y Pwyllgor wedi ystyried a chymeradwyo ei Flaenraglen Waith yn atodiad A, yn amodol ar yr uchod, wedi nodi’r Blaenraglenni Gwaith ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn dilyn ystyriaeth yn eu Cyfarfodydd Pwyllgor perthnasol ym mis Mehefin yn Atodiad B, C a D, ac wedi nodi’r Daflen Weithredu Monitro’r Argymhellion i olrhain ymatebion i argymhellion y Pwyllgor a wnaed yn y cyfarfodydd blaenorol yn Atodiad E.

29.

Urgent Items

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

None

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z