Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgan diddordeb Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim |
|
Cadarnhau cofnodion PDF 217 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod 09 06 21
Cofnodion: CYTUNWYD: Fod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Sgriwtini dyddiedig 9 Mehefin 2021 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir. |
|
Monitro Cyllideb 2021-22 – Rhagolwg Refeniw Chwarter 1 PDF 597 KB Gwahoddwyr:
Cynghorydd Huw David - Arweinydd Cynghorydd Hywel Williams - Dirprwy Arweinydd Cynghorydd Stuart Baldwin - Aelod Cabinet - Cymunedau Cynghorydd Nicole Burnett - Aelod Cabinet - GwasanaethauCymdeithasol a ChymorthCynnar Cynghorydd Dhanisha Patel - Aelod Cabinet - Lles a Chenedlaethau Dyfodol Cynghorydd Charles Smith - Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio
Mark Shephard - Prif Weithredwr Lindsay Harvey - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd Gill Lewis - PennaethCyllid, Perfformiad a Newid dros dro Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau Kelly Watson - PrifSwyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Diweddarodd y Prif Swyddog Interim Cyllid, Perfformiad a Newid yr Aelodau yngly?n â sefyllfa refeniw ariannol Y Cyngor ar gyfer chwarter un ar 30 Mehefin 2021 gan nodi fod amser wedi mynd heibio ers i hyn gael ei adrodd i’r Cabinet ym mis Gorffennaf ac y byddai’n tynnu sylw at rai o’r prif themâu.
Atgoffodd yr Aelodau fod y Cyngor, yng nghyfarfod 24 Chwefror 2021, wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £298.956m ar gyfer 2021-22 ac mai dyma’r adroddiad cynnydd cyntaf yn wyneb y gyllideb honno. Roedd Tabl 1 yn cynnig crynodeb o’r wybodaeth ac yn nodi’r sefyllfa debygol oedd yn dangos gorwariant tebygol o £1m er iddi atgoffa’r Aelodau fod adroddiad alldro yn cynnig darlun go wahanol ar y pryd yn bennaf oherwydd bod symiau sylweddol o arian Covid a grantiau ychwanegol a nododd y byddai Aelodau’n gweld heriau ariannol yn amlygu eu hunain mewn sawl cyllideb. Roedd hyn yn amlwg wrth symud 2il Chwarter gyda heriau penodol o safbwynt Gofal Cymdeithasol i Oedolion ledled Cymru. Roedd yn awyddus i Aelodau ddeall fod yr heriau hynny yno o hyd, a’i bod yn bwysig fod Aelodau’n edrych ar yr heriau gwaelodol sylweddol oedd yn wynebu rhai o’r gwasanaethau ac yn osgoi meddwl bod y sefyllfa ariannol yn ymddangos yn dda iawn o ystyried yr adroddiad alldro.
Cyfeiriodd yr Aelodau at Dabl 1, gan nodi fod cronfa adfer Covid o £1m wedi’i sefydlu a’i defnyddio’n ofalus ar gynnig parcio graddol, codiadau incwm rhent graddol ar gyfer eiddo rhent BCBC, hepgor ffioedd chwaraeon, chwarae haf ayb., nad oedd modd hawlio’r un ohonynt yn erbyn cronfa caledi am nad oedd modd hawlio ar sail penderfyniadau lleol.
Roedd Tabl 2 yn rhoi syniad o hawliadau Covid, gan nodi fod heriau o hyd ar dreth y cyngor a’r cynllun lleihau’r dreth cyngor a disgwylir caledi ariannol wrth i ffyrlo fynd rhagddo. Roedd lleihad o 1% yn nhreth y cyngor sy'n gyfystyr â £1m a doedd dim cefnogaeth ar gael eto oddi wrth Lywodraeth Cymru (LlC). Nodwyd yn 4.1.13 fod cyflog a phrisiau’n dal yn anwadal ac nad oedd codiadau cyflog eto’n glir er bod rhai arwyddion y byddai rhywfaint o gyflog yr athrawon yn cael ei ariannu’n ganolog. Roedd chwyddiant yn dal i fod ar lefel gymharol uchel ac nad oedd hynny’n rhywbeth y cynlluniwyd ar ei gyfer felly roedd angen sicrhau fod digon o arian yn y gyllideb brisiau.
Roedd Tabl 3 yn nodi arbedion y flwyddyn flaenorol a gyflawnwyd yn bennaf er bod diffyg o £310k o hyd a oedd yn annhebygol o gael ei gyflenwi ac roedd angen rhoi ystyriaeth i hynny.
Roedd Tabl 4 ac Atodiad 2 yn dangos perfformiad y flwyddyn a oedd yn gryn lwyddiant ar sawl lefel o dan amodau anodd. Roedd pob arbediad yn debygol o gael eu cyflawni ar wahân i adleoli’r ganolfan ailgylchu a oedd wedi’i ohirio.
Roedd angen parhaus am arbedion dros gyfnod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2022-2023 tan 2025-2026 a nodwyd o flaen amcan y byddai angen ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 33. |
|
Adolygiad y Panel Ymchwil a Gwerthuso Cyllideb PDF 311 KB
Gwahoddwyr:
Gill Lewis - Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid dros dro
Cofnodion: Amlinellodd y Prif Swyddog Ariannol Interim Cyllid, Perfformiad a Newid yr adroddiad ar yr adolygiad y Panel Ymchwil a Gwerthuso Cyllideb i’r Aelodau. Pwysleisiodd bwysigrwydd presenoldeb Aelodau er mwyn sicrhau fod cytundeb ar y cyd wrth symud ymlaen o safbwynt y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
Nid oedd unrhyw gwestiwn gan yr Aelodau.
CYTUNWYD: Fod y Pwyllgor, wedi ystyried yr adroddiad, yn cefnogi’r adolygiad i rôl y Panel Ymchwil a Gwerthuso Cyllideb (PYGC). |
|
Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2020/21 PDF 158 KB
Gwahoddwyr:
Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cynghorydd Nicole Burnett - Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar Cynghorydd Dhanisha Patel - Aelod Cabinet - Lles a Chenedlaethau Dyfodol Jackie Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion Laura Kinsey - Pennaeth Gofal Cymdeithasol I Blant Andrew Thomas - Rheolwr Grwp - Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol Pete Tyson - Rheolwr Grwp - Comisiynu
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles brif themâu’r Adroddiad Blynyddol gan ddweud fod y flwyddyn ddiwethaf wedi ymwneud yn helaeth iawn â chreadigrwydd, cryn dipyn o arloesedd ond hefyd gryn dipyn o waith caled gan bobl ar draws yr holl system. Roedd diogelu wedi bod yn gonglfaen erioed, hyd yn oed yn ystod pandemig iechyd cyhoeddus, mae dinasyddion a chymunedau wedi cael eu heffeithio’n ddrwg a nifer o bobl wedi’u colli, ac roedd y darn adfer ac adnewyddu o safbwynt gwasanaethau cymdeithasol, fel rhan o’r ymateb hwnnw, yn mynd i fod yn bwysig dros ben. Roedd gwir angen amser a llonydd ar staff i wella ar eu cyflymder eu hunain, rhag wynebu’r risg o losgi allan, rhywbeth oedd i’w weld yn digwydd ar hyn o bryd am nad oedd pethau wedi arafu o gwbl, ac os rhywbeth, wedi dwysáu wrth symud tuag at ddau chwarter olaf y flwyddyn. Roedd gwasanaethau wedi addasu gan fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio, fel y tanlinellwyd yn yr adroddiad. Roedd sefydlogi ac adfywio’n hanfodol yn ystod y chwe mis nesaf a chadarnhaodd y pwynt fod y gweithlu’n allweddol i’r llwyddiant hwn, gyda mwy o ddibyniaeth ar bob rhan o’r gweithlu nag erioed o’r blaen.
Diolchodd y Cadeirydd i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles am gyflwyno’i hadroddiad a diolch i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol a’i thîm am eu holl ymdrechion yn ystod blwyddyn heriol dros ben.
Diolchodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar i Gyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a’i thîm am lunio’r adroddiad gan nodi, er gwaetha’r flwyddyn ofnadwy, fod cymaint o enghreifftiau da. Apeliodd ar i’r Aelodau oedd yn sgriwtineiddio’r adroddiad i ganolbwyntio ar agweddau dynol yn nhermau ariannol a’r ffigyrau.
Pwysleisiodd Aelod y mater o staffio cyffredinol a gofyn beth oedd yr awdurdod lleol yn ei wneud i sicrhau staff.
Cydnabu Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles fod darn o waith cenedlaethol yn ymwneud â’r gweithlu, yn gweithio’n agos gyda LlC a chyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Yn gyntaf, roedd hyn i hyrwyddo'r sector, yn ail i edrych ar y materion anodd iawn, megis gweithredu blaenoriaeth maniffesto LlC o amgylch cyflog byw go iawn i weithwyr gofal ac yn drydydd i ystyried safonau proffesiynol, gan weithio'n agos iawn gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, o ran cofrestru nid yn unig staff gwaith cymdeithasol proffesiynol, ond gweithwyr gofal. Roedd yn bwysig iawn fod Pen-y-bont yn chwarae rôl flaenllaw ar y llwyfan cenedlaethol ac yn cyfrannu at ac yn cyd-gynhyrchu polisi yn ôl yr angen. Roedd Pen-y-bont yn awyddus i hyrwyddo Pen-y-bont i fod mor llwyddiannus â phosibl wrth gadw a recriwtio’r gweithlu ym Mhen-y-bont. Cyfeiriodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles wedyn at y gwahanol gynlluniau gweithredu o safbwynt recriwtio, ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol ac yna’r gweithlu gwaith cymdeithasol.
Holodd yr Aelod beth fyddai’n digwydd pe na bai pobl yn cynnig eu hunain, a oedd yn bryder iddi. Oedd pobl yn cynnig eu hunain eisoes ac yn mynegi diddordeb yn yr hyn oedd yn cael ei ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 35. |
|
Adroddiad Sgriwtini Blynyddol PDF 228 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Democrataidd – Sgriwtini ddrafft o’r Adroddiad Sgriwtini Blynyddol gan egluro mai diben yr adroddiad oedd cyflwyno drafft o’r Adroddiad Sgriwtini Blynyddol i’r pwyllgor oedd yn ymdrin â chyfnod o ddwy flynedd o 2019-20 a 2020-21. Roedd angen i Sgriwtini gyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cyngor gydag adolygiad o sut roedd y swyddogaeth wedi gweithredu yn ystod y cyfnod blaenorol. Atodwyd y drafft o’r Adroddiad Sgriwtini Blynyddol fel Atodiad A ac roedd yn cyflwyno manylion yn ymwneud â’r heriau a chanlyniadau ar gyfer pwyllgorau a phaneli sgriwtini yn ystod y cyfnod hwnnw, yn ogystal ag adnabod rhai meysydd ffocws ar gyfer gwella er mwyn sicrhau fod sgriwtini’n parhau i ddatblygu i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer trigolion Pen-y-bont. Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried p’un ai oedd yr adroddiad drafft a gasglwyd a’i baratoi gan y Tîm Sgriwtini’n adlewyrchu’r gwaith a wnaed gan y swyddogaeth sgriwtini yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, cyn symud ymlaen, ar sail gwelliannau, i’r Cyngor.
Diolchodd Cadeiryddion COSC, SOSC1, SOSC2 a SOSC yr Uwch Swyddog Democrataidd – Swyddog Sgriwtini a Diogelwch am eu hadroddiad a’u gwaith caled, gan gydnabod effaith y swydd wag o fewn y tîm arnynt.
CYTUNWYD: Fod y Pwyllgor yn cefnogi’r Adroddiad Sgriwtini Blynyddol a atodwyd fel Atodiad A, o gywiro’r gwall sillafu, ar gyfer ei gyflwyno i ystyriaeth Y Cyngor. |
|
Diweddariad Rhaglen Gwaith Blaen PDF 318 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Nid oedd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr Eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.
Nid oedd unrhyw Eitemau pellach i’w hystyried ar y Rhaglen Waith Blaen ar gyfer gweddill y calendr trefol o gyfarfodydd gan ddefnyddio’r ffurflen y cytunwyd arni, a gellid ailystyried hyn yn y cyfarfod nesaf.
CYTUNWYD: Fod y Pwyllgor wedi ystyried a chymeradwyo’i Rhaglen Waith Blaen yn Atodiad A; wedi nodi’r Rhaglen Waith Blaen ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg Pwnc a Sgriwtini i’w ystyried yn eu Cyfarfodydd Pwyllgor mis Gorffennaf penodol yn Atodiad B, C & D a nodi’r Daflen Argymhellion Gweithredu Monitro er mwyn tracio ymatebion i argymhellion y Pwyllgor a wnaed yn y cyfarfodydd blaenorol, Atodiad E. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim |