Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol - Dydd Iau, 7fed Hydref, 2021 09:30

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

40.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Dim

41.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 217 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 05/07/2021

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:                              Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar 5 Gorffennaf 2021 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir, yn amodol ar yr uchod.

42.

Model Darparu Gwasanaethau ar gyfer y Dyfodol pdf eicon PDF 190 KB

Gwahoddwyr:

 

Mark Shephard - Prif Weithredwr

Cynghorydd Hywel Williams - Dirprwy Arweinydd

Kelly Watson - PrifSwyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol

Debra Beeke - Rheolwr Gr?p - Adnoddau Dynol a Datblygu Trefniadaethol

Lisa Jones - Arweinydd Tîm Ymgysylltu Rhanbarthol ac Arian Adfywio

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr a oedd yn cynnwys yr heriau yr oedd pob awdurdod lleol a sefydliad gwasanaethau cyhoeddus yn eu hwynebu wrth i’r cyfnod o adfer ddechrau yn sgil y pandemig.  Ar nodyn mwy cadarnhaol, roedd hefyd yn cyfeirio at y cyfleoedd sy’n bodoli ac am groesawu rhai o'r newidiadau a oedd wedi digwydd dros y deunaw mis diwethaf, ac am geisio eu hymgorffori mewn model sy’n addas i'r diben ar gyfer yr Awdurdod wrth barhau, ac un sydd, yn bwysicaf oll, yn dal i ddarparu gwasanaethau effeithiol i'r cyhoedd yn ogystal â gwireddu rhai o'r manteision a nodwyd yn yr adroddiad ynghylch cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, lles staff, cynhyrchiant uwch ac ôl troed carbon is.

 

Teimlai ei bod yn bwysig cydnabod nad mater i Ben-y-bont ar Ogwr yn unig yw hyn, ond bod Prif Weithredwyr eraill yng Nghymru hefyd yn gwneud gwaith tebyg ac yn archwilio atebion. Roedd yr adroddiad yn fwy manwl na’r adroddiad i’r Cabinet, a hynny er mwyn rhoi sicrwydd a’r manylion diweddaraf i'r Aelodau am y math o waith a oedd yn cael ei wneud. Roedd yn rhestru’r egwyddorion strategol yr oeddent yn gweithio arnynt i ddatblygu'r model a'r manteision a'r heriau a fydd yn bodoli wrth symud ymlaen, gan arwain tuag at fodel sy’n fwy cyfunol a hybrid. Dywedodd ei bod yn annhebygol y byddai'r Awdurdod yn dychwelyd i'w ffyrdd o weithredu cyn y pandemig, lle'r oedd y rhan fwyaf o staff yn gweithio pum niwrnod yr wythnos, 8:30-5:00pm, mewn amgylchedd swyddfa. Byddai'n llawer mwy tebygol y byddent yn y pen draw yn defnyddio model lle byddai rhai staff yn parhau i weithio gartref neu o bell lle bo’n briodol, ond roeddent yn awyddus i ychwanegu gwerth at hynny, ac yn wahanol i sut oedd pethau yn anterth y pandemig, maent am greu cyfleoedd i bobl weithio yn y swyddfa pan fo angen, a chreu gwell cyfleoedd i bobl weithio mewn timau pan fo angen, ac i archebu ystafelloedd i gyfarfod. Er bod llawer o bethau'n gweithredu’n effeithiol iawn dros Teams, mae rhai pethau'n gweithio yn well o lawer wyneb yn wyneb, ac roeddent yn ymdrechu i sicrhau'r cydbwysedd hwnnw rhwng cadw ac ymgorffori rhai o'r pethau sydd wedi gweithio'n dda, gan gynnwys darparu gwasanaethau a fu’n gweithredu’n rhithwir a’n ddigidol yn bennaf, ond gan gydnabod hefyd y bu rhai problemau a heriau gyda'u gweithrediad dros y deunaw mis diwethaf. Er enghraifft, maes o law, gallent greu canolfannau o gwmpas y fwrdeistref sirol, mewn llyfrgelloedd o bosibl, lle gallai pobl gael mynediad at wasanaethau'r Cyngor mewn ffyrdd gwahanol i'r rhai a ddefnyddiwyd yn y gorffennol. Roedd yn bwysig cydnabod bod ymatebion i'r arolwg wedi dangos bod llawer o'r boblogaeth yn hoffi cael mynediad at wasanaethau'n ddigidol ac ar y we, felly mae angen cadw hynny, ond gan ddeall hefyd fod rhai pobl angen cymorth â hyn. Rhoddodd sicrwydd i'r Aelodau fod llawer o waith yn mynd rhagddo, ond pwysleisiodd na fydd atebion yn cael eu canfod yn gyflym, er ei  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 42.

43.

Y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir pdf eicon PDF 243 KB

Gwahoddwyr:

 

Dave Holland - Pennaeth Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir

Cynghorydd Dhanisha Patel - Aelod Cabinet - Lles a Chenedlaethau Dyfodol

Kelly Watson - PrifSwyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddiol

Cofnodion:

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir (SRS) gyflwyniad ar waith y Gwasanaeth dros y deunaw mis diwethaf. Dywedodd fod y tri Cyngor wedi sefydlu’r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir pan oeddent yn ei chael hi'n anodd cyflawni eu Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd a’u Safonau Masnach a Thrwyddedu oherwydd pwysau cyllidebol eithaf heriol. Eglurodd fod y syniad cydweithredol hwn o weithio yn unigryw yng Nghymru. Eglurodd eu bod wedi gosod pum blaenoriaeth, ac fe’u trafodwyd, ynghyd â'u gweledigaeth, fel rhan o'r cyflwyniad yn 2015.  Dywedodd fod cyfres newydd o ddigwyddiadau ar gyfer y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir wedi dechrau ym mis Mawrth 2020, pan ddechreuodd y cyfnod clo, gyda phobl ond yn gallu gadael eu cartrefi at ddibenion cyfyngedig, gan eu bod yn gyfrifol am iechyd cyhoeddus yr Awdurdod Lleol dros Ben-y-bont ar Ogwr a'r Ddeddf Iechyd Cyhoeddus. Ers mis Mawrth 2020 roeddent wedi alinio eu hadnoddau yn dair ffrwd waith allweddol: Profi Olrhain a Diogelu, Gorfodi Covid a Chyngor, a Niwsans a Materion Cymunedol, ynghyd â pharhau i gynnal ymyriadau ar faterion risg uchel, hylendid bwyd, a thai.

 

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir linell amser ar gyfer y Gwasanaeth dros y deunaw mis diwethaf o’r pandemig, disgrifiodd y meysydd eraill lle mae’r gwaith yn parhau a sylw’n cael ei roi, yn ogystal â’r dull gorfodi a'r hysbysiadau gwella a chau a gyflwynwyd. Ar wahân i’r materion coronafeirws, roedd y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir wedi bod yn Llys y Goron sawl gwaith yn 2021, a hynny oherwydd bod y Llysoedd wedi dechrau delio â'r ôl-groniad o waith.  Er bod llawer o staff y Gwasanaeth yn gweithio ym maes Profi ac Olrhain neu’n gweithio gyda'r Heddlu ar orfodi'r Coronafeirws, sicrhaodd y Pwyllgor fod Diogelwch Bwyd a Gwaith Iechyd y Cyhoedd wedi parhau gyda nifer o ymyriadau yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr. Dywedodd fod gwaith ar eiddo gwag a gwaith lles anifeiliaid wedi parhau. Eglurodd eu bod yn mesur sut yr oedd y gwasanaeth yn perfformio, a rhoddodd sylw i gr?p hynod alluog o swyddogion sy'n gweithio yn y Tîm, a bod pob un ohonynt yn frwd dros wneud gwaith da. Daeth i'r casgliad trwy ddweud bod eu heriau o ran colli adnoddau a'r angen i flaenoriaethu yn parhau, a byddai'n gweithio gyda'r Prif Weithredwr a Phrif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio i ddeall yr hyn y mae angen i Ben-y-bont ar Ogwr ei flaenoriaethu i ddarparu gwasanaethau. 

 

Mynegodd Aelod fod y gwaith yr oeddent wedi bod yn ei wneud wrth ymweld â'r holl safleoedd yn rhyfeddol, a’u bod yn mynd y tu hwnt i’w rolau blaenorol, ac roedd clywed bod y gwaith o ran diogelwch bwyd ac iechyd y cyhoedd yn parhau wedi tawelu ei meddwl. Gofynnodd am sicrwydd y byddai’r mater parhaus o geffylau yn yr ardal leol a’r problemau cyson gyda llosgi plastig mewn ardaloedd gwledig yn parhau i gael sylw, er mwyn diogelu anifeiliaid.

 

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir sicrwydd bod y gwaith yn mynd rhagddo, a byddai'r materion yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 43.

44.

Y Diweddaraf am y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 318 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Swyddog Craffu, yn dilyn ystyriaeth yr Aelodau o'r Flaenraglen Waith yn y cyfarfod diwethaf ym mis Medi, fod y Flaenraglen Waith wedi'i diweddaru ar gyfer y pwyllgor hwn wedi'i hatodi fel Atodiad A ac roedd y Blaenraglenni Gwaith ar gyfer Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc 1, 2 a 3 hefyd wedi'u hatodi fel Atodiadau B, C a D, oherwydd bod y pwyllgor hwn yn gyfrifol am gydgysylltu a goruchwylio'r Flaenraglen Waith gyffredinol.

 

Dywedodd hefyd fod y Daflen Weithredu Monitro Argymhellion wedi'i hatodi fel Atodiad E i olrhain ymatebion i argymhellion y Pwyllgor yn y cyfarfodydd blaenorol.

 

Soniodd Aelod, wrth edrych ar ddydd Mercher 1 Rhagfyr ar y Flaenraglen Waith, fod cryn dipyn ar yr Agenda ar gyfer un cyfarfod, a theimlai y gallai pethau gael eu hanwybyddu os oedd gormod ar yr agenda. Holodd y Cadeirydd gyda'r Swyddog Craffu a fyddai adroddiad y Gyllideb ar gael ar gyfer y cyfarfod hwnnw.

 

Dywedodd y Swyddog Craffu, oherwydd bod y Setliad Cyllid Llywodraeth Leol yn hwyr, ei bod yn debygol y byddai craffu ar y Gyllideb yn symud o fis Rhagfyr i fis Ionawr felly byddai rhai o'r adroddiadau hynny'n cael eu symud i fis Ionawr i'w hystyried, a dylai hynny leddfu pryderon rhai Aelodau ynghylch maint Agenda mis Rhagfyr.

 

Argymhelliad:

 

Ar ôl ystyried y Flaenraglen Waith, gofynnodd y Pwyllgor am ychwanegu adroddiad ar Weithfannau a Rennir at y Flaenraglen Waith.

 

Nid oedd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol fel rhan o’r eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNIAD:                  Bod y Pwyllgor wedi ystyried a chymeradwyo’r Flaenraglen Waith yn Atodiad A, yn amodol ar yr uchod, ac wedi nodi y Blaenraglenni Gwaith ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc yn dilyn ystyriaeth yn eu cyfarfodydd pwyllgor diweddaraf yn Atodiad B, C a D, ac wedi nodi y Daflen Weithredu Monitro Argymhellion i olrhain ymatebion i argymhellion y Pwyllgor a wnaed yn y cyfarfodydd blaenorol yn Atodiad E.

45.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim