Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

92.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Mynegodd y Cynghorydd C Webster fuddiant personol yn Eitem 4 ar yr Agenda – Strategaeth Gyllido Tymor Canol 2019-20 i 2022-23, am fod ganddi blentyn mewn addysg uwchradd yn y Fwrdeistref Sirol oedd yn derbyn cludiant o'r cartref i'r ysgol. 

 

93.

Cymeradwyaeth Cofnodion pdf eicon PDF 73 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 06/11/2018

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod 6 Tachwedd 2018 

                                 fel cofnod gwir a chywir.     

94.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2019-20 i 2022-23 pdf eicon PDF 242 KB

Gwahoddedigion:

Pob Aelod Cabinet

Pob CMB

Zak Shell, Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth

Nicola Echanis, Pennaeth Addysg a Chymorth Cynnar

Jackie Davies, Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion

Laura Kinsey, Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant

 

Neil Clode, Prifathro, Ysgol Gynradd Llangewydd

Hannah Castle, Prifathro, Ysgol Gyfun Cynffig

Pob aelod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1

Pob aelod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 2

Pob aelod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 y Strategaeth Gyllido Tymor Canol ddrafft 2019-20 i 2022-23 er mwyn i’r Aelodau ystyried y wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad a phenderfynu ar sylwadau neu argymhellion i’w cyfuno a’u cynnwys yn yr adroddiad i'r Cabinet fel rhan o broses ymgynghori’r gyllideb. Ychwanegodd y byddai’r setliad terfynol ar gael ar 19 Rhagfyr 2018 ond ei bod hi, yn y cyfamser, yn gofyn i’r Pwyllgor flaenoriaethu’r gostyngiadau arfaethedig, ystyried newidiadau i’r Dreth Gyngor neu symud ymlaen gyda’r gostyngiadau oedd wedi eu disgrifio yn yr adroddiad.

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cynghorydd J Spanswick, Cadeirydd SOSC3, i roi sylwadau ar dabl 7 yr adroddiad, y Gyllideb Refeniw Ddrafft 2019-20. Eglurodd ef ei fod yn gweld y gwahaniaeth rhwng y toriadau yn rhwystredig. Anghytunai ag eitem pwysau‘r gyllideb yn ymwneud â Hawliau Tramwy a’r cynigion yn ymwneud â thoriadau pellach i wasanaethau glanhau eraill (COM41 a COM41a) fyddai’n arwain at wneud y gwasanaeth yn adweithiol yn unig. Byddai hyn yn golygu na fyddai llawer o gwynion yn derbyn sylw ac na fyddai atgyfeiriadau yn cael eu gweithredu. Dewis arall yn lle hyn fyddai codi taliadau. Hoffai ef weld unrhyw gyllid ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i leihau toriadau i gyfleusterau hamdden awyr agored a chaeau chwarae ac i’r gwasanaethau hyn gael eu hamddiffyn o hyn ymlaen.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau mai penderfyniad gwleidyddol oedd lefel y toriadau, yn seiliedig ar flaenoriaethau, a’i bod yn anochel y byddai rhai gwasanaethau yn wynebu toriadau mwy nag eraill. Gellid cyflawni rhai arbedion drwy ffyrdd doethach o weithio ond mewn meysydd eraill byddai’n rhaid gwneud toriadau. Byddai effaith ar lanhau strydoedd ond gellid lliniaru’r effaith drwy weithio’n agos gyda Chynghorau Tref a Chymuned.

 

Eglurodd Pennaeth Gwasanaethau Cymdogaeth fod pwysau’r gyllideb yn ymwneud â “Hawliau Tramwy - dyletswydd statudol i ymgymryd ag adolygiad o ddeng mlynedd gyntaf Cynllun Gwella Hawliau Tramwy’r Cyngor erbyn mis Hydref 2019” yn ganlyniad toriadau sylweddol a wnaed yn y maes hwnnw gan adael tîm bychan gyda baich gwaith mawr. Nid oedd yn realistig disgwyl i’r tîm hwnnw gwblhau’r gwaith angenrheidiol i wneud cais am gyllid a phe na châi’r gwaith ei gyflawni y gallent golli allan ar gyllid yn y dyfodol.

 

Gofynnodd Aelod am y prif ganlyniadau ar gyfer y gyfarwyddiaeth hon o’r ymgynghoriad. Eglurodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a’r Swyddog Adran 151 nad oedd yr holl ganfyddiadau yn ei meddiant ond y gallai roi amlinelliad byr.

·    Teimlai 50% o’r atebwyr y gellid cwtogi ar y gwasanaethau diwylliannol.

·    Dywedodd 60% o’r atebwyr y byddent yn fodlon talu mwy i gael mynediad at gyfleusterau chwaraeon, pafiliynau a pharciau.

·    Dywedodd 79% o’r atebwyr y dylai dalwyr Bathodynnau Glas dalu am barcio.

·    Credai 48% o’r atebwyr y dylai’r Cyngor edrych ar y dewis o dalu am symudedd at siopau.

·    Anghytunai 42% o’r atebwyr â’r cynnig i dynnu cymorthdaliadau oddi ar wasanaethau bysiau.

·    Cytunai 46% o’r atebwyr y dylid cau’r orsaf fysiau i wneud arbedion yn y gyllideb.

·    Roedd 53% o’r atebwyr yn fodlon talu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 94.

95.

Diweddariad Rhaglen Gwaith pdf eicon PDF 216 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu yr adborth o gyfarfodydd blaenorol a nododd y Pwyllgor y wybodaeth gan gynnwys unrhyw ymatebion oedd yn weddill.

 

Awgrymodd yr Aelodau flaenoriaethu eitemau ar gyfer pwyllgorau fis ymlaen llaw er mwyn cymryd i ystyriaeth unrhyw eitemau hwyr a allai godi. Esboniodd y Swyddog Craffu fod ar y swyddogion angen mwy o rybudd i baratoi adroddiadau ac awgrymodd y byddai’n haws gweithio gyda 2 fis.

 

Gofynnodd yr aelodau, pan fyddai eitem CAHMS yn cael ei hystyried, i Gadeirydd Cyngor Iechyd Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr gael ei wahodd i fod yn bresennol. Esboniodd y Swyddog Craffu fod cyrff eraill eisoes yn craffu ar adolygiad y Prosiect Maethu ac y dylid ei gadw ar y rhaglen waith i'r dyfodol fel eitem o wybodaeth.

 

  • Gofynnodd yr aelodau pan fyddai eitem CAHMS yn cael ei hystyried, i Gadeirydd Cyngor Iechyd Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr gael ei wahodd i fod yn bresennol.
  • Cytunodd yr Aelodau i dderbyn adolygiad y Prosiect Maethu fel eitem o wybodaeth yn unig gan ei fod i gael ei drafod yng nghyfarfod Rhianta Corfforaethol ar 10 Ionawr 2019.

 

Cadarnhaodd y Pwyllgor yr eitemau canlynol ar gyfer y Rhaglen Waith i’r Dyfodol ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Bwnc:

 

24 Ionawr 2019             SOSC 3           Proses Ddiwygiedig Trosglwyddo

                                                      Asedau Cymunedol

29 Ionawr 2019             SOSC 2           Cynllun Taliadau Uniongyrchol

30 Ionawr 2019             SOSC 1           Deilliannau Addysg

26 Chwefror 2019        SOSC 3           Adeiladau Gwag

28 Chwefror 2019        SOSC 1           Grant Rhaglen Cefnogi Pobl 

27 Mawrth 2019           SOSC 2           CAMHS (Gwasanaethau Iechyd

                                                      Meddwl Plant a’r Glasoed)

96.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z