Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol - Dydd Mercher, 26ain Mehefin, 2019 09:30

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

117.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

Cofnodion:

Y Cyng T Thomas; Y Cyng RL Penhale-Thomas; Y Cyng N Clarke.

118.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cyng John Spanswick ddatgan buddiant personol yn eitem 5 am ei fod yn aelod o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu a Phwyllgor Gr?p Llywio’r CDLl;

Fe wnaeth y Cyng Jon-Paul Blundell ddatgan buddiant personol yn eitem 5 am ei fod yn aelod o Bwyllgor Gr?p Llywio’r CDLl;

Fe wnaeth y Cyng Nicole Burnett ddatgan buddiant personol yn eitem 5 am ei bod yn aelod o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu;

Fe wnaeth y Cyng Carolyn Webster ddatgan buddiant personol yn eitem 4 am ei bod yn aelod o Fwrdd Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu ac yn eitem 5 am ei bod yn aelod o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu;

119.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 80 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 03/04/2019

Cofnodion:

Penderfynwyd:

Cymeradwyo Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol, dyddiedig 3 Ebrill 2019, fel cofnod gwir a chywir.

120.

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2018/19 pdf eicon PDF 116 KB

Gwahoddedigion:

Cyng Phil White, Aelod Cabinet – Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar;

Susan Cooper – Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles;

Jacqueline Davies – Pennaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion;

Laura Kinsey – Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn fyr Adroddiad Blynyddol drafft Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i’r Pwyllgor, a phwrpas hwn oedd amlinellu sut yr oedd y Gwasanaethau Cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi darparu gwasanaethau yn ystod 2018/19.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor beth oedd yr amcanion ar gyfer 2018/19 a rhoddwyd gwybodaeth iddynt a fu’r Gyfarwyddiaeth yn llwyddiannus yn ei nodau ac yn yr un modd yr hyn y gobeithiai’r Gyfarwyddiaeth ei gyflawni yn y flwyddyn ddilynol. Roedd y newidiadau arfaethedig ar gyfer 2019-20 yn cynnwys:

  • Rhoi mwy o ddewis a rheolaeth i bobl dros ba gymorth yr oeddent yn ei dderbyn;
  • Datblygu cynlluniau gyda golwg ar redeg gwasanaethau dydd a chyfleoedd dydd yn y dyfodol;
  • Gweithredu cynlluniau ynghylch plant sy’n derbyn gofal;
  • Cwblhau model trosglwyddo i gynorthwyo plant anabl i drosglwyddo i fywyd oedolion yn effeithiol.

 

Rhoddodd y Pwyllgor dderbyniad da i’r adroddiad blynyddol ac roeddent yn canmol y cynnwys yn fawr, ac yn enwedig mor dda yr oedd yr adroddiad wedi ei ysgrifennu oherwydd yr iaith blaen a ddefnyddiwyd o’r dechrau i’r diwedd, fyddai o gymorth i’r cyhoedd i ddilyn a deall y wybodaeth yn y ddogfen yn rhwydd.

 

Roedd yr aelodau hefyd yn canmol Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’i thîm am y newid amlwg mewn diwylliant y mae’r Gyfarwyddiaeth wedi ymgymryd ag ef a’r ffyrdd newydd o weithio sydd wedi eu sefydlu.

 

Holodd y Pwyllgor am berthynas waith ag adrannau eraill, yn benodol y Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd a holent ymhellach a oedd yna fylchau oedd angen gwaith. Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod y berthynas waith bresennol ar draws yr holl Gyfarwyddiaethau y gorau y mae wedi bod erioed. Eglurodd mai tîm bychan oedd y Bwrdd Rheoli Corfforaethol oedd i gyd yn eistedd mewn un ystafell, a bod hynny’n rhoi mwy o gyfle i drafod pynciau wrth iddynt godi. 

 

Rhoddodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol Plant enghraifft o weithio’n llwyddiannus mewn partneriaeth rhwng y ddwy Gyfarwyddiaeth, lle roedd Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ei chynnwys mewn trafodaethau yn y camau cynnar ynghylch dyraniadau’r Gronfa Gofal Integredig a ddarperir yn uniongyrchol i’r Gyfarwyddiaeth Addysg a Chymorth i Deuluoedd ar gyfer gwaith atal.

 

Cyfeiriodd Aelod at ddangosyddion perfformiad a roddwyd mewn cyfarfod Asesu Perfformiad Corfforaethol (APC) lle y cydnabuwyd nad oedd lefelau salwch o fewn y Gyfarwyddiaeth yn gwella, yn ogystal â bod cynnydd yn yr achosion o oedi cyn trosglwyddo gofal am resymau gofal cymdeithasol a gofynnodd am i’r ystadegau hyn gael eu rhoi yn yr adroddiad ynghyd ag esboniad sut yr ymdrinnir â’r rhain.

 

Aeth Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ymlaen i roi diweddariad i’r Pwyllgor am y trosglwyddiad o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, yn ogystal â’r dewisiadau posibl ar gyfer y gwasanaethau mabwysiadu.

 

Penderfynwyd:

Roedd y Pwyllgor yn canmol y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gynhyrchu Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2018/19 am y rheswm bod yr adroddiad wedi ei ysgrifennu mewn Saesneg plaen fydd yn galluogi’r cyhoedd i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 120.

121.

Cynllun Datblygu Lleol Newydd Pen-y-bont ar Ogwr 2018-2033, y Weledigaeth Ddrafft a’r Amcanion, Twf a’r Dewisiadau Gofodol. pdf eicon PDF 120 KB

Gwahoddedigion:

Mark Shephard – Prif Weithredwr;

Jonathan Parsons – Rheolwr Gr?p Datblygu;

Richard MatthamsArweinydd Tîm Cynllunio Datblygiadau;

Gareth Denning – Arweinydd Tîm Polisi

Craige Wilson – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gofal Sylfaenol, Plant a Gwasanaethau Cymunedol

Nerys Edmonds – Cynrychiolydd o Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Cynllunio Datblygu adroddiad Cynllun Datblygu Lleol Newydd Pen-y-bont ar Ogwr 2018-2033 y Weledigaeth Ddrafft a’r Amcanion, Twf a’r Dewisiadau Gofodol, a phwrpas hwn oedd rhoi gwybodaeth gefndir o ran y weledigaeth ddrafft a’r amcanion, y dewisiadau twf a’r dewisiadau strategaeth ofodol a gynigiwyd ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Newydd Pen-y-bont ar Ogwr yn ddogfen strategaeth lefel uchel, y mae’n rhaid i’r Cyngor ei pharatoi. Er mwyn mynd i’r afael â materion allweddol ac arwain a rheoli datblygiad yn y dyfodol, roedd angen ailymweld â gweledigaeth ac amcanion y CDLl er mwyn sicrhau eu bod yn dal yn berthnasol i anghenion ac uchelgais lleol.

 

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Datblygu 3 dewis Twf Strategol, - Isel, Canolig ac Uchel - pob dewis yn amlinellu gofynion anheddau, pa ddarpariaeth cyflogaeth y gallai o bosibl ei chreu, ynghyd â’r graddau yr oedd modd cyflawni pob un o’r dewisiadau. Dywedodd fod y dystiolaeth yn awgrymu mai’r dewis twf mwyaf priodol oedd yr un canolig, a fyddai’n golygu parhad o’r mathau o gyfraddau adeiladu a welwyd dros y pum mlynedd ddiwethaf.

 

Ar bwnc tai holai’r Pwyllgor sut yr oedd maint a math o annedd yn cael ei ystyried cyn datblygu, a sylwyd nad oedd cyfeiriad at Strategaeth Tai Gweigion Pen-y-bont ar Ogwr yn y CDLl ac awgrymwyd y dylid gweithio ar y Strategaeth a’r Cynllun gyda’i gilydd ochr yn ochr. Sicrhawyd y Pwyllgor fod y Strategaeth Tai Gweigion yn cael ei chymryd i ystyriaeth ac y byddai maint yr annedd yn cael ei gyfrifo ar sail tystiolaeth.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod yn rhaid i’r CDLl Newydd, yn ogystal â nodi’r lefel o dwf sydd ei angen dros gyfnod y cynllun, gyflwyno strategaeth ofodol glir ynghylch y lle y dylai’r datblygiad hwn ddigwydd o fewn y Fwrdeistref Sirol. Hysbyswyd yr Aelodau, oherwydd cyfyngiad sylweddol wrth yr M4, Cyffordd 36, nad ystyrid Parc Derwen a Phorth y Cymoedd fel ardaloedd ar gyfer twf newydd sylweddol.

 

Ar bwnc safleoedd posibl ar gyfer datblygu, daliai’r Pwyllgor fod angen i ddatblygiad cynaliadwy fod yn gynaliadwy i’r gymuned. Felly, tynnodd yr Aelodau sylw at yr angen i ymgysylltu mwy â’r cyhoedd er mwyn asesu gofynion cymunedau cyn cynllunio i ddatblygu. Wrth ymateb dywedwyd wrth yr Aelodau y trefnir addysg ac ymgynghoriad wedi ei dargedu gyda chynghorau Tref a Chymuned lle y bydd yn debygol y ceir datblygiad.

 

Pwysleisiodd Aelod duedd oedd yn peri pryder gyda datblygu dros y blynyddoedd, sef y diffyg adfywio mewn mannau diarffordd ledled y Fwrdeistref. I fod o gymorth i gywiro’r diffyg hwn, awgrymwyd y dylid hybu polisi ar gyfer mentrau bychain, megis cynlluniau lle, ac y dylid rhoi’r manylion am y rhain yn y CDLl.

 

Mae’r Pwyllgor yn gwybod ac yn deall bod angen i ddatblygu ddigwydd o fewn y Fwrdeistref ond dywedai Aelodau ei bod yn bwysig i’r Cyngor gadw mewn cof yr effaith bosibl a gâi datblygiad ar ein cyfarwyddiaethau eraill megis Addysg a Phriffyrdd a hefyd ein partneriaid yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 121.

122.

Enwebiad i Banel Craffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf eicon PDF 72 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd:

Bod yr Aelodau canlynol yn cael eu henwebu i eistedd ar Banel Trosolwg a Chraffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus:

Y Cynghorydd RMI Shaw

Y Cynghorydd JC Spanswick

Y Cynghorydd T Giffard

123.

Adroddiad Enwebu Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol pdf eicon PDF 89 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd:

Bod y Cynghorydd CA Webster yn cael ei henwebu fel yr Hyrwyddwr Rhianta Corfforaethol i gynrychioli’r Pwyllgor yng nghyfarfodydd Pwyllgor Cabinet Rhianta Corfforaethol.   

124.

Diweddariad ar y Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Swyddog Craffu am eitemau i’w hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 17 Gorffennaf 2019 a gofynnodd am gadarnhad ynghylch y wybodaeth oedd ei hangen ar gyfer y cyfarfod dilynol i’w gynnal ar 25 Medi 2019. Adroddodd hefyd am restr o eitemau posibl ar y Flaenraglen Waith i’w blaenoriaethu a’u dyrannu i bob un o’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar Bwnc. 

 

Penderfynwyd:

Cytunodd yr Aelodau ar yr eitemau a drefnwyd ar gyfer y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol ar 17 Gorffennaf 2019 a’u cyfarfod dilynol ar 25 Medi 2019.

Cadarnhaodd y Pwyllgor a blaenoriaethu’r eitemau canlynol i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc:

 

9 Medi 2019        Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 1 - Addysg ôl-16 - Ymgynghoriad

16 Medi 2019      Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 2 - Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid

9 Hydref 2019     Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 1 - Plasnewydd - Dyrchafu o MSEP

10 Hydref 2019   Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 2 - Dulliau Atal a Llesiant a Chyfleoedd yn ystod y dydd.                                      

4 Tach 2019        Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 3 - Priffyrdd

125.

Trosolwg a Chraffu - Adborth o Gyfarfodydd pdf eicon PDF 79 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad ar yr Adborth o Gyfarfodydd a gofynnodd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r adborth a’r ymatebion i’r sylwadau a’r argymhellion o’r cyfarfod blaenorol a rhoi statws Coch, Oren neu Wyrdd i bob argymhelliad.

 

Penderfynwyd:

Fel y gofynnwyd yn yr adroddiad, rhoddodd y Pwyllgor statws Coch, Oren neu Wyrdd i bob argymhelliad fel oedd yn briodol a chytunodd i fonitro’r statws yn gyson.

126.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim.