Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
Cofnodion: Y Cyng J Gebbie; Y Cyng M Jones; Y Cyng R Shaw; Y Cyng JC Spanswick; |
|
Datganiadau o fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim |
|
Perfformiad Ariannol 18-19 PDF 212 KB Gwahoddedigion: Pob Cabinet a CMB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Perfformiad Ariannol 2018-19 i’r pwyllgor, a phwrpas hwn oedd rhoi diweddariad ar berfformiad ariannol y Cyngor am y flwyddyn a ddaeth i ben ar yr 31ain o Fawrth 2019. Esboniodd fod yna dros 600 o wasanaethau yn cael eu darparu gan y Cyngor a bod y rhain i gyd yn wynebu heriau gwahanol ynghyd ag amrywiadau o droswariant a thanwariant. Gorffennodd ei gyflwyniad drwy ddiolch i gydweithwyr ac Aelodau am ddod â chyllideb fantoledig i mewn yn 2018-19.
Diolchodd y Pwyllgor i’r Swyddogion am yr adroddiad manwl a nododd fod yna, drwy’r ddogfen i gyd, ddefnydd mynych o ‘swyddi gweigion staff’ a holodd a oedd y Cyngor yn gweithio i’w lawn botensial ac a oedd y Cyngor yn cael trafferth i lenwi swyddi gweigion. Esboniodd y Prif Weithredwr fod rhai Cyfarwyddiaethau yn cael trafferth i lenwi swyddi a rhoddodd wasanaeth y Landlord Corfforaethol fel enghraifft. Dywedodd ymhellach wrth yr Aelodau, er bod swyddi gweigion staff yn gymorth i wneud arbedion, eu bod yn cael effaith ar berfformiad, gyda gwasanaethau yn cael eu darparu’n arafach ac yn llai effeithlon. Gorffennodd drwy ddweud bod gan y Cyngor broses gaeth yn ei lle ar gyfer rheoli swyddi gweigion, sy’n sicrhau na chaiff swyddi gwag eu llenwi heb fod yna achos busnes dros ailbenodi.
Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant fod ei Chyfarwyddiaeth hithau wedi profi oedi o ran recriwtio ar gyfer swyddi gofal uniongyrchol, o fewn y gwasanaeth Gofal yn y Cartref i Bobl H?n, a bod ganddynt nifer o swyddi gweigion o fewn y gwasanaeth Asesu a Rheoli Gofal. Wedyn hysbysodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant y Pwyllgor fod y ddau wasanaeth ar hyn o bryd yn mynd drwy adolygiad strwythurol, fydd yn datrys y problemau hyn.
Bu’r Pwyllgor yn trafod cyllid Llywodraeth Cymru a’r anawsterau posibl a osodir ar broses gosod cyllideb y Cyngor gan gyllid heb ei rwymo, grantiau untro ac arian a ddyrennir yn rhy hwyr yn y flwyddyn. Er mwyn lliniaru’r ffactorau hyn, dywedodd Aelodau y dylai fod gweithdrefnau caeth yn eu lle y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru lynu wrthynt.
Cyfeiriodd Aelodau at y cynigion i leihau’r gyllideb na lwyddwyd i’w cyflawni oherwydd oedi, a holent ai’r rhesymau am hyn oedd swyddi gweigion a salwch staff drwy’r Cyngor i gyd. Dywedodd Dirprwy Bennaeth Cyllid wrth y Pwyllgor fod yna resymeg y tu ôl i bob oedi, megis gohiriadau gyda phroses gymeradwyo Llywodraeth Cymru.
Holodd y Pwyllgor pa effaith yr oedd salwch a swyddi gweigion staff yn ei chael ar alwadau gwaith ac ysbryd y staff. Wrth ymateb, dyfynnodd Aelod y Cabinet dros Genedlaethau’r Dyfodol a Llesiant ystadegau a dynnwyd allan o Arolwg Llesiant y Staff, lle roedd 72% o atebwyr yn dweud eu bod yn gyfforddus gyda’r galwadau a osodid arnynt drwy’r amser neu’r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 129. |
|
Perfformiad y Cyngor yn erbyn ei amcanion Llesiant ar gyfer 2018-19 PDF 209 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Craffu yr adroddiad gwybodaeth, a phwrpas hwn oedd rhoi trosolwg i'r Pwyllgor ar berfformiad y Cyngor yn 2018-19, yn erbyn ei ymrwymiadau 2018-19 i gyflawni’r amcanion llesiant a nodwyd drwy ei Gynllun Corfforaethol 2018-22. Ymdriniai’r adroddiad â’r meysydd gwaith canlynol:
• Ymrwymiadau; • Dangosyddion Perfformiad Corfforaethol; • Dangosyddion y Cynllun Corfforaethol; • Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus; • Mesur Perfformiad Llesiant y Gwasanaethau Cymdeithasol (SSWB); • Absenoldeb salwch.
Casgliadau Gyda golwg ar y Dangosyddion Perfformiad Corfforaethol, roedd yr Aelodau yn bryderus ynghylch y cynnydd yn y ganran o ddangosyddion oedd yn ‘Waeth na’r llynedd’ ac yn yr un modd yngl?n â’r gostyngiad o flwyddyn i flwyddyn yn y ganran oedd yn ‘Well na’r llynedd’.
Gwybodaeth ychwanegol: 1 Nododd y Pwyllgor fod salwch tymor hir yn dal yn uchel ac wedi cynyddu yn y flwyddyn ddiwethaf. Felly, gofynnodd yr Aelodau am gael derbyn manylion y dewisiadau sydd ar gael i bobl sydd i ffwrdd o’u gwaith er mwyn eu cynorthwyo i ddychwelyd yn fuan. Er enghraifft: • Gweithio o’r cartref; • Gostyngiad yn eu horiau gwaith.
2 Gyda golwg ar yr Awdurdod Leol yn colli pobl brofiadol, gofynnodd y Pwyllgor am gael manylion y cyfweliadau Ymadael er mwyn canfod pam mae staff yn dewis diweddu eu cyflogaeth gyda’r Cyngor. |
|
Materion Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim |