Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol - Dydd Mercher, 25ain Medi, 2019 09:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

132.

Datgan Budd

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd C Webster ddatgan budd personol yn eitem Agenda 4, gan fod ei mab yn derbyn Cludiant Cartref i’r Ysgol i Leoliad Y Tu Allan i’r Sir. Roedd y pwnc Cludiant Cartref i’r Ysgol wedi’i gynnwys fel darpariaeth yn yr adroddiad a chafodd ei drafod.

133.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 62 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 17/07/19

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           Cymeradwyo Cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor Trosolwg    Corfforaethol a Chraffu dyddiedig 17 Gorffennaf 2019 fel cofnod manwl gywir.

 

Ar gais y Pennaeth Cyllid Interim a’r Swyddog S151 a gyda chytundeb yr Aelodau, argymhellwyd bod yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd – Pwyllgorau yn ceisio esboniad pellach gan yr Adran Graffu ar y Casgliadau yng Nghofnod 130 ac, os oes angen, adrodd yn ôl i’r Pwyllgor yn y cyfarod nesaf gydag esboniad pellach ynghylch y rhain.           

134.

Monitro Cyllideb 2019/20 – Chwarter 1 Rhagolwg Refeniw pdf eicon PDF 159 KB

Gwahoddedigion:

 

Trsolwg a ChraffuAdborth o Gyfarodydd

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu diweddariad i’r pwyllgor ar sefyllfa ariannol refeniw y Cyngor fel ar 30ain Mehefin 2019 a throsglwyddiadau dros £100,000, a gymeradwywyd gan y Cyngor ar y 24ain Gorffennaf 2019.

 

Amlinellodd yr adroddiad wybodaeth gefndir benodol ac wedyn cafwyd crynodeb o sefyllfa ariannol y Cyngor ar 30 Mehefin 2019 gyda Thabl 1 yma, yn dangos cymhariaeth o’r gyllideb yn erbyn yr alldro a ragfynegwyd ar y dyddiad hwn. Roedd hwn yn adlewyrchu gorwariant net o £264k, gan gynnwys gorwariant net o £763k ar Gyfarwyddiaethau a thanwariant net o £499k ar gyllidebau corfforaethol.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid Interim a’r Swyddog S151 bod nifer o drosglwyddiadau cyllidebol ac addasiadau technegol wedi bod rhwng cyllidebau ers cymeradwyo’r SATC gan y Cyngor ym mis Chwefror 2019. Amlinellwyd y prif drosglwyddiadau a’r addasiadau technegol ym mharagraff 4.1.4 yr adroddiad.

 

Ym mis Chwefror 2019, cymeradwyodd y Cyngor y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2019-20 i 2022-23. Roedd hon yn datgan yr angen am ddatblygu cynigion lleihau cyllideb ailadroddus, yn seiliedig ar y sefyllfa fwyaf tebygol, yn dod i gyfanswm o tua £35.2 miliwn yn ystod y pedair blynedd nesaf. Yn erbyn y cefndir hwnnw, mae’n hanfodol bod y gwariant yn cael ei gadw oddi mewn i’r gyllideb gymeradwy gyffredinol a bod cynigion tymor hwy yn parhau i gael eu datblygu fel bod gan y Cyngor gymaint o hyblygrwydd â phosib i wynebu’r heriau sydd i ddod.                 

 

O ran monitro Cynigion Lleihau Cyllideb, mae Tabl 2 yn yr adran hon o’r adroddiad yn dangos, o’r £2.342m o ostyngiadau sy’n weddill, bod £1.795m yn debygol o gael ei gyflawni yn 2019-20, gan adael diffyg o £547k. Amlinellodd paragraff 4.2.3 yr adroddiad rai o’r cynigion nad oeddent yn debygol o gael eu cyflawni.                         

 

Wedyn amlinellodd paragraff 4.2.5 yr adroddiad y Gostyngiadau Cyllideb ar gyfer 2019-20. Roedd y gyllideb gymeradwy ar gyfer eleni yn cynnwys cynigion gostyngiad yn dod i gyfanswm o £7.621m, a ddadansoddwyd yn Atodiad 2 (yr adroddiad) a’u crynhoi yn Nhabl 3 ar dudalen 12 yr adroddiad.

 

Atodwyd crynodeb o sefyllfa ariannol pob un o brif feysydd gwasanaeth y Cyngor, yn cynnwys pob un o Gyfarwyddiaethau’r Awdurdod, yn Atodiad 3 yr adroddiad a dangoswyd sylwadau ar yr amrywiadau mwyaf arwyddocaol ym mharagraff(au) 4.3 yr adroddiad, gan gynnwys esboniad pellach o gyllidebau ledled y Cyngor.

 

Ymatebodd y rhai a wahoddwyd i nifer o gwestiynau gan Aelodau ar gynnwys yr adroddiad a’r statws RAG y manylwyd arno yn Atodiadau’r adroddiad ac, wedi hynny, 

 

PENDERFYNWYD:               Bod y Pwyllgor yn nodi cyllideb Refeniw ddisgwyliedig 2019-20 ac yn nodi ymhellach y meysydd parhaus sy’n peri pryder. 

135.

Trawsnewid Digidol pdf eicon PDF 352 KB

Gwahoddedigion:

 

Mark Shephard, Prif Weithredwr

Martin Morgans, Pennaeth GwasanaethPerfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth

Phil O’Brien, Rheolwr GrwpTrawsnewid a Gwasanaethau Cwsmer

Councillor Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau adroddiad a’i bwrpas oedd cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu am gynnydd y rhaglen Trawsnewid Digidol gorfforaethol. 

 

Cyflwynodd yr adroddiad rywfaint o wybodaeth gefndir ac wedyn cafwyd crynodeb o’r cynnydd mewn perthynas â’r Llwyfan Fy Nghyfrif, gyda pharagraff 4.1 yr adroddiad yn manylu ar linell amser yn dangos y cynnydd a wnaed yn y maes hwn ers 2016 hyd y presennol.   

 

Cadarnhaodd bod y gwasanaethau canlynol wedi dod ar gael ers lansio Fy Nghyfrif ym mis Ebrill 2018, drwy gyfrwng y porthol hunanwasanaeth Fy Nghyfrif ar-lein: 

 

  • Treth Gyngor
  • Budd-daliadau Tai
  • Derbyn i Ysgolion
  • Bathodynnau Glas, a
  • Trwyddedau Parcio Preswyl 

 

Ehangodd yr adrannau dilynol yn yr adroddiad ar y meysydd hyn a’u hygyrchedd drwy gyfrwng y gwasanaeth Fy Nghyfrif, ynghyd â manteision posib eraill oedd yn cael eu hystyried lle byddai gwasanaethau ar-lein Fy Nghyfrif yn profi’n fuddiol i’r cyhoedd/trigolion y Fwrdeistref Sirol, o ran defnyddio gwasanaethau.

 

Wedyn ymhelaethodd yr adroddiad ar Gyfathrebu a Marchnata ac roedd yr adran hon o’r adroddiad yn rhoi sylw i’r meysydd canlynol:-

 

1.    Gwefan gorfforaethol

2.    Pontio Microsafle 

3.    Strategaeth Cyfathrebu        

4.    Cyfieithiadau Cymraeg

5.    i-Trent – Datrysiad AD mewnol   

6.    Strategaeth Ddigidol          

7.    Digidol yn Gyntaf – Capasiti Sianel

 

O ran goblygiadau ariannol yr adroddiad, rhannwyd cyllid y Rhaglen Trawsnewid Digidol wreiddiol o £2.5m yn £1m ar gyfer gwariant cyfalaf a £1.5m ar gyfer gwariant refeniw. Y sefyllfa bresennol, ar 1 Ebrill 2019, yw bod £520k o gyllid cyfalaf ac £899,722 o gyllid refeniw ar ôl. Roedd y tabl yn y rhan hon o’r adroddiad yn crynhoi’r gwariant hyd yma ar y rhaglen Trawsnewid Digidol.

 

Wedyn gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Cyfeiriodd Aelod at filiau’r Dreth Gyngor ar-lein/e-filiau a gofynnodd a oedd unrhyw ystyriaeth wedi cael ei rhoi i ostyngiad i gwsmeriaid am y taliadau maent yn eu gwneud mewn perthynas â’r rhain drwy Fy Nghyfrif, fel cymhelliant i gofrestru ar gyfer hyn. 

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau na ellid rhoi hwn am yn ôl i bobl sydd eisoes wedi cofrestru gyda’r cynllun ac felly ni fyddai’n deg gwneud hynny gyda chwsmeriaid newydd. Hefyd, pe bai gostyngiad o’r fath yn cael ei roi, gallai’r cwsmeriaid gymryd y gostyngiad ac wedyn optio allan a mynd yn ôl i dderbyn biliau papur. 

 

Canmolodd Aelod yr adroddiad a’r manylder a’r cyflwyniad llawn gwybodaeth yn cyd-fynd, gan ychwanegu bod maes Trawsnewid Digidol yr Awdurdod, gan gynnwys y fenter Fy Nghyfrif, wedi gwneud cynnydd mawr yn ystod y 12 mis diwethaf, ers iddo gael ei ystyried ddiwethaf gan Drosolwg a Chraffu, pan fynegodd yr Aelodau rai pryderon, yn benodol am awtomatiaeth a cholli swyddi staff yn y dyfodol o bosib. Nododd bod pryderon yn flaenorol bryd hynny ynghylch cyflwyno awtomatiaeth a’r effaith y gallai hyn ei chael yn ei dro ar golli swyddi staff. Gofynnodd a fyddai hyn yn digwydd efallai, oherwydd y datblygiadau mewn Trawsnewid Digidol yn yr Awdurdod. 

 

Dywedodd y Pennaeth Perfformiad a Phartneriaethau bod arbedion effeithlonrwydd yn ofynnol o dan Strategaeth Ariannol Tymor Canolig  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 135.

136.

Trosolwg a Chraffu – Adborth o Gyfarfodydd pdf eicon PDF 75 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad a’i bwrpas oedd cyflwyno adborth o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu ar gyfer trafod, cymeradwyo a gweithredu.        

 

Ar ôl ystyried yr wybodaeth yn Atodiadau A a B yr adroddiad, 

 

PENDERFYNWYD:       Cytuno ar statws RAG y canlynol:-

 

·          Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol 2018/19 – Sylw/Casgliad 1 – Gwyrdd, Sylw/Casgliad 2 – Oren, Sylw/Casgliad 3 – Oren

·          Cynllun Datblygu Lleol Newydd Pen-y-bont ar Ogwr 2018-2033 Gweledigaeth ac Amcanion Drafft, Twf ac Opsiynau Gofodol – Sylw/Casgliad 1 - 4 – Gwyrdd i gyd,

·          Perfformiad Ariannol 2018-19 – Sylw/Casgliad 1 a 2 – Oren, Gwybodaeth Ychwanegol – Gwyrdd

·         Perfformiad y Cyngor yn erbyn ei Nodau Llesiant ar gyfer 2018-19 – Sylw/Casgliad 1 – Gwyrdd, Gwybodaeth Ychwanegol 1 – Oren, Gwybodaeth Ychwanegol 2 – AMH.

137.

Diweddariad y Flaenraglen Waith (BW) pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu adroddiad ar ran y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol ar y pwnc uchod. 

 

Wedi’i atodi wrth yr adroddiad fel Atodiad A oedd BW y Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu, a oedd yn cynnwys yr eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf sydd wedi’i drefnu. 

 

Wedi’i atodi wrth yr adroddiad fel Atodiad B oedd BW y Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu, a oedd yn cynnwys y pynciau a gafodd eu blaenoriaethu a’u cytuno gan y Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu ar gyfer y gyfres nesaf o Bwyllgorau Trosolwg Pwnc a Chraffu yn Nhabl 1, yn ogystal â rhestr o bynciau ar gyfer y dyfodol yn Nhabl 2.

 

Trafododd y Cadeirydd a’r Aelodau ymarferoldeb sefydlu Pwyllgor Trosolwg a Chraffu cyfun i gynnwys aelodaeth o Bwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu y Cyngor a Phwyllgorau Trosolwg Pwnc a Chraffu 1, 2 a 3, er mwyn ystyried cynigion SATC, cyn i’r rhain gael eu cyflwyno yn eu tro i’r Cabinet, ar gyfer eu hystyried. Byddai Pwyllgor o’r fath, gobeithio, yn galluogi i bob Aelod o’r fath arno godi cwestiynau am y gyllideb a chael hawliau pleidleisio hefyd. Byddai’r cyfarfod hwn yn ychwanegol at bob cyfarfod o Bwyllgorau Craffu o’r fath ar eu liwt eu hunain i ystyried cynigion y SATC.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai’n rhaid rhoi gwybod i’r Cyngor am unrhyw drefniant ar y cyd o’r fath fel yr uchod ac y byddai’n rhaid i’r Cyngor ei gymeradwyo. Felly byddai’n ymchwilio i’r awgrym hwn ar y cyd â darpariaethau’r Cyfansoddiad, cyn llunio unrhyw adroddiad o’r fath.  

 

PENDERFYNWYD:         Nodi’r adroddiad a’r wybodaeth ategol ar ffurf yr Atodiadau, a chytunwyd ymhellach y byddai Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 1 yn ystyried Canlyniadau Addysg yn ei gyfarfod ar 3 Chwefror 2020, a Phwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu 2 yn ystyried Cludiant Cartref i’r Ysgol yn ei gyfarfod ar 5 Chwefror 2020.

138.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.