Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif Eitem

140.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau buddiant a ganlyn:-

 

Y Cynghorydd R Shaw - Buddiant sy'n rhagfarnu yn Eitem 3 ar yr Agenda, gan ei fod yn ymwneud ag amryw o Glybiau/Gymdeithasau yng nghyswllt Trosglwyddo Asedau Cymunedol. Gadawodd y cyfarfod tra'r oedd yr eitem yn cael ei hystyried.

 

Y Cynghorydd N Burnett - Buddiant personol yn Eitem 3, gan mai ei thad yw Cadeirydd Clwb Rygbi Pen-y-bont Athletig.

 

Y Cynghorydd JP Blundell - Buddiant personol yn Eitem 3 ar yr Agenda am ei fod yn Aelod nad yw'n talu ffi o Glwb Pêl Droed Bracla.

 

Y Cynghorydd J Gebbie - Buddiant personol yn Eitem 3 ar yr Agenda, gan ei bod wedi cymryd rhan mewn trafodaethau dechreuol ynghylch canlyn TAC posibl yn gysylltiedig ag ased(au) ym Mryn Cynffig, nad oedd wedi'i gychwyn eto.

 

141.

Galw i Mewn Penderfyniad y Cabinet: Meysydd Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau Parciau pdf eicon PDF 74 KB

Gwahoddwyr:

 

Mark Shephard – PrifWeithredwr

Huw David – Arweinydd

Hywel Williams – DirprwyArweinydd

Richard Young – Aelod Cabinet – Cymunedau

Zak Shell – Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol

Guy Smith – Swyddog Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Kevin Mulcahy – Rheolwr Gr?p - Priffyrdd a Mannau Gwyrdd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod a chroesawu pawb a oedd yn bresennol. Diolchodd i'r holl siaradwyr cyhoeddus am fod yn bresennol ac am geisio cyfrannu at y drafodaeth ar yr eitem bwysig hon.

 

Dywedodd y cafwyd rhywfaint o feirniadaeth gan fod y cyfarfod yn cael ei gynnal mor gynnar yn y dydd, yn hytrach nag yn y prynhawn, hy tua 5.00pm neu ar ôl hynny wedi i bobl orffen gwaith. Fodd bynnag, dywedodd fod hynny'n anodd gan fod y Cyngor yn cau ei swyddfeydd am 6.30pm.

 

Yn olaf, cadarnhaodd y byddai'r siaradwyr cyhoeddus yn camu i lawr o'r ddarllenfa ond yn aros yn y cyfarfod ar ôl rhoi eu cyflwyniadau, er mwyn gallu arsylwi'r drafodaeth. Bryd hynny, ni fyddent yn cael gofyn cwestiynau i'r Gwahoddedigion nac ymyrryd yn y drafodaeth honno. 

 

Dywedodd y Swyddog Cyfreithiol fod nifer o Aelodau'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu wedi llofnodi ffurflen briodol er mwyn galw'r penderfyniad a wnaed gan y Cabinet yn ei gyfarfod diwethaf i mewn. Roedd a wnelo'r penderfyniad hwnnw â chymorth yn y dyfodol ar gyfer Caeau Chwarae, Cyfleusterau Chwaraeon Awyr Agored a Phafiliynau mewn Parciau. Yn nhermau hyn, ailbwysleisiodd fod angen i'r Aelodau hynny fod yn bresennol yn y cyfarfod heddiw gyda meddwl agored, ac mai hwy oedd piau penderfynu a oedd maint y buddiant yr oeddent wedi'i ddangos yn yr eitem hon yn golygu eu bod wedi penderfynu ymlaen llaw ynghylch y mater ai peidio.

 

Os oeddent wedi penderfynu ymlaen llaw ynghylch y mater, dylent ddatgan buddiant sy'n rhagfarnu a gadael y cyfarfod. Ar y llaw arall, os oeddent yn teimlo nad oeddent wedi dod i benderfyniad ymlaen llaw, gallent datgan buddiant personol (os oeddent yn dymuno, gan mai'r Aelodau a oedd i fod i benderfynu'n derfynol ynghylch hyn), ac aros yn y cyfarfod a chymryd rhan yn y drafodaeth gyffredinol, gan gynnwys gofyn cwestiynau i'r Gwahoddedigion.

 

Dywedodd yr Aelod a oedd wedi sbarduno'r cais i alw'r penderfyniad i mewn fod ganddo feddwl agored ynghylch cynigion y Cabinet a'r adroddiad a gyflwynwyd gerbron yr Aelodau, er ei fod wedi mabwysiadu agwedd wrthrychol ynghylch penderfyniad y Cabinet. Sicrhaodd y rhai a oedd yn bresennol, fodd bynnag, nad oedd wedi penderfynu ymlaen llaw ynghylch y mater hwn er gwaethaf yr hyn a ddywedwyd yn y cyfryngau cymdeithasol, hy, ei fod yn gwrthwynebu cynigion y Cabinet.

 

Wedyn gofynnodd y Cadeirydd i'r siaradwyr cyhoeddus annerch y Pwyllgor yn eu tro, drwy ofyn am eu sylwadau, eu safbwyntiau a'u rhesymau dros wrthwynebu penderfyniad y Cabinet (a wnaed yn ei gyfarfod ar 22 Hydref 2019).

 

Roedd rhai safbwyntiau a rhesymau dros wrthwynebu'r penderfyniad hefyd wedi dod i law mewn ysgrifen, a darllenodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y rhain yn uchel ar ôl i'r siaradwyr cyhoeddus roi eu cyflwyniadau.

 

Dyma restr y siaradwyr cyhoeddus ynghyd â'r rhai a gyflwynodd safbwyntiau/gwrthwynebiad mewn ysgrifen:-

 

            Enw                                         Clwb

 

 

1.         Terry Boast                       Clwb Rygbi a Phêl Droed Nantyffyllon

 

2.         Richard Edwards              Clwb Pêl Droed Tref Pen-y-bont

 

3.         John Sawyer                     Clwb Rygbi a Phêl Droed Chwaraeon Pen-y-bont

 

4.         Jamie Wallis                     Anhysbys

 

5.         Richard  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 141.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z