Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd Dinesig, Stryd Yr Angel, Penybont Ar Ogwr CF31 4WB

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

191.

Datganiadau o fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

192.

Perfformiad y Cyngor yn erbyn ei Ymrwymiadau yn Chwarter 2 2020-21 pdf eicon PDF 299 KB

Gwahoddwyr:

Pob Aelod Cabinet a CMB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad a roddai drosolwg i’r Pwyllgor ar berfformiad y Cyngor yn 2020-21, fel yn chwarter 2. Roedd yn cymharu perfformiad yn erbyn yr ymrwymiadau a wnaed i gyflawni’r amcanion llesiant yng Nghynllun Corfforaethol 2018-22, a adolygwyd ar gyfer 2020-21.

 

Gofynnodd yr Aelodau y cwestiynau canlynol:

 

Teimlai Aelod, mewn perthynas â phwynt 4.1.5.1, na ddylid newid y targed gan y derbynnid bod y flwyddyn wedi bod yn eithriadol.

 

Cydnabu’r Prif Weithredwr fod y pandemig wedi effeithio’n negyddol ar berfformiad ar rai dangosyddion. Roedd hon yn enghraifft lle roedd cael mwy o bobl yn gweithio mewn ffordd ystwyth wedi cael effaith gadarnhaol sylweddol, yn enwedig ar salwch tymor byr, er bod salwch hirdymor weithiau wedi aros yr un fath neu wedi codi. O ran y targedau, roedd y rhain wedi cael eu gosod am y flwyddyn, ychydig yn is na ffigurau y llynedd. Roedd y Prif Weithredwr yn awyddus i sicrhau ffocws gwell oedd yn edrych ymlaen, gan symud i lawr a lleihau’r targed yn raddol flwyddyn ar ôl blwyddyn i’r lefel a ddymunid. Dylai’r targed aros yr un fath eleni ac fe ragorid arno, ond yr oedd achos cryf dros adolygu’r targedau hynny yn y dyfodol.

 

Holodd yr Aelod a oedd salwch hirdymor, afiechydon ac anableddau sylfaenol yn cyfrannu at y salwch, a nodwyd ym mhwynt 6. O ran yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, dywedwyd nad oedd goblygiadau o ran cydraddoldeb yn yr adroddiad.

 

O ran yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, cymerodd y Prif Weithredwr y pwynt a dywedodd y byddai’n hapus i’w ddiwygio pe bai Aelodau’n teimlo y dylid cynnwys y mathau hynny o effeithiau. Roedd hon yn ddadl reolaidd a nododd, os oedd rhai effeithiau penodol wedi cael eu canfod, y byddai’n hapus i edrych ar y rheiny.

 

Gofynnodd Aelod beth oedd swm cronfa Covid-19 fel y nodwyd ar dudalen 8 yr adroddiad.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod y gronfa wrth gefn wedi’i neilltuo ar £3 miliwn, gyda £500 mil wedi cael ei roi mewn cronfa benodol ar gyfer materion Covid-19 brys. Bu’r Cyngor yn llwyddiannus o ran y grant caledi yr oedd Llywodraeth Cymru wedi’i neilltuo, ond mae’n debyg mai dim ond 75% - 80% o’r costau y byddai’n eu cael yn ôl. Roedd y dreth gyngor yn rhedeg bron i 2% i lawr ar incwm, oedd yn achosi diffyg o £2 filiwn, ac nid oedd yn hysbys a ellid adennill hyn erbyn diwedd y flwyddyn.

 

Cyfeiriodd Aelod at bwynt WBO1.2.4 ar dudalen 8 yr adroddiad ac esboniodd nad oedd yn eistedd yn dda iawn a gofynnodd a oedd modd ei esbonio ychydig yn fwy trylwyr.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid fod hyn yn ymwneud â’r pecyn mwy o faint i fusnesau, a rhoi hwb i gychwyn yr economi, a bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio cefnogi busnesau gyda chyfres o grantiau. Gallent hefyd wneud cais am gymorth o’r gronfa cadernid economaidd, ond o ran cefnogaeth a chymorth ariannol, dyna  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 192.

193.

Cynllun Corfforaethol 2018-2023 Adolygwyd ar gyfer 2021-22 pdf eicon PDF 311 KB

Gwahoddwyr:

Pob Aelod Cabinet a CMB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad i’r Pwyllgor oedd yn rhoi Cynllun Corfforaethol 2018-2023 oedd wedi ei adolygu ar gyfer 2021-22 i’r Pwyllgor ei ystyried.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid a dywedodd fod yna fanylion nad oeddent wedi cael eu cynnwys eto yn y Cynllun Corfforaethol ac felly na allai’r Pwyllgor roi sylwadau ond ar yr hyn a oedd ar gael, ar hyn o bryd, oherwydd yr amserlennu.

 

Gofynnodd yr Aelodau y cwestiynau canlynol:

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 57, y 5 Ffordd o Weithio - i ganolbwyntio adnoddau sy’n lleihau ar y cymunedau a’r unigolion â’r angen mwyaf ond gofynnodd sut y câi anghenion cymunedau ac unigolion eu hasesu ac adnoddau eu dyrannu.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod hon yn broses gymhleth ac y byddai’n wahanol ar gyfer gwahanol wasanaethau. Roedd yn egwyddor sylfaenol i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas mewn gwahanol ffyrdd a châi adnoddau eu cyfeirio at y bobl hynny oedd fwyaf mewn angen. Teimlai fod hon yn egwyddor dda ac yn un y byddai’r rhan fwyaf o Aelodau’n ei chefnogi, ond nid oedd yn credu mai un broses ydoedd, ond ystod eang o ystadegau a thystiolaeth a phrosesau a fyddai’n arwain at y casgliad hwnnw. 

 

Esboniodd yr Arweinydd fod Aelodau lleol yn gwybod bod unigolion agored i niwed a phobl mewn angen ym mhob cymuned, p’un a oedd y cymunedau hynny’n cael eu disgrifio fel rhai cyfoethog neu ddifreintiedig.  Roedd yna unigolion â lefelau uchel o angen yn rhai o’r cymunedau cyfoethocaf ac unigolion â lefelau isel o anghenion yn rhai o’r cymunedau mwyaf difreintiedig ac roedd yr anghenion hynny’n wahanol ar draws y gwahanol feysydd gwasanaeth. Roedd yn ddarlun cymhleth a fyddai’n amrywio, boed hynny’n wasanaethau iechyd meddwl, addysg, tai ac yn y blaen, ac roedd yn adlewyrchu cymhlethdod y cymunedau.

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 61, a gofynnodd am eglurhad o’r ardal oedd wedi ei chynnwys ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn cwmpasu ardal Porth Cymoedd Garw, Ogwr a Llynfi ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Parc Gwledig Bryngarw a Gwarchodfa Natur Parc Slip oedd dau o’r prosiectau pwysicaf.

 

Cyfeiriodd Aelod at sylw ar dudalen 46, paragraff 4.1 lle roedd y rhai oedd wedi bod yn ymwneud â llunio’r Cynllun Corfforaethol yn cydnabod yr amgylchedd heriol presennol a holai pa mor ystwyth a hyblyg fyddai’r cynllun yn parhau a pha gyfle gâi’r Pwyllgor i ailedrych arno, pan ddeuai tystiolaeth ddogfennol o ba effaith a gafodd y pandemig, ar gael.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod modd adnewyddu ac adolygu’r Cynllun Corfforaethol ar sail amgylchiadau fel y gwnaed eleni. Roedd hon yn ddogfen bwysig ac yn ddogfen statudol ac, o ganlyniad, pe bai effaith y pandemig yn golygu bod yn rhaid ei hadnewyddu a’i hadolygu, yna byddai hynny’n cael ei wneud.

 

Cyfeiriodd Aelod at y dangosyddion llwyddiant ar dudalen 61 o dan faes blaenoriaeth: gwella deilliannau dysgwyr a gofynnodd a oedd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 193.

194.

Strategaeth Gyfalaf 2021-22 i 2030-31 pdf eicon PDF 293 KB

Gwahoddwyr:

Cynghorydd Huw David, Arweinydd

Cynghorydd Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd

Gill Lewis, Pennaeth Cyllid, Perfformiad a Newid (dros dro)

Nigel Smith, Rheolwr Gr?pPrif Gyfrifydd dros do

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, oedd yn rhoi’r Strategaeth Gyfalaf ddrafft 2021-22 i 2030-31 i’r Pwyllgor, oedd yn cynnwys y Dangosyddion Darbodus y mae’r Cyngor yn mesur ei hun yn eu herbyn yn ystod y flwyddyn ariannol.

 

Atgoffodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid yr Aelodau mai strategaeth 4 blynedd oedd y SATC a bod y Strategaeth Gyfalaf yn strategaeth 10 mlynedd. Roedd cyfalaf yn cael ei lywodraethu’n drwm gan ddeddfwriaeth ac ers 2020, pan gyhoeddodd CPFA ychwanegiad newydd y cod darbodus ar gyfer ariannu cyfalaf, roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol gael Strategaeth Gyfalaf yr oedd angen i’r Cyngor llawn ei chymeradwyo. Roedd angen i’r strategaeth ddangos bod yr holl fuddsoddiadau yn gynaliadwy ac yn ddarbodus a hefyd bod y dangosyddion darbodus rhagnodedig, a ddefnyddid i fonitro hyn ar gyfnod treigl o 3 blynedd, yn sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cadw o fewn y terfynau ac yn glynu wrth yr awydd i gael buddsoddiad doeth a chynaliadwy.

 

Nodwyd yr egwyddorion cyffredinol ym mharagraff 4.3 gan ganolbwyntio ar gyflawni’r amcanion a’r blaenoriaethau llesiant er mwyn sicrhau bod gwneud penderfyniadau dan reolaeth gref. Roedd y strategaeth yn gosod fframwaith a hefyd y meysydd canlynol yn fanwl:- Gwariant Cyfalaf a Chynlluniau Buddsoddi, y Dangosyddion Darbodus, y ddyled allanol a rheoli’r trysorlys. Tynnodd sylw’r Aelodau at 3 newid. Ym mharagraff 4.5.1 sy’n cyfrif am brydlesi. O ganlyniad i’r pandemig, roedd y broses o weithredu’r newid hwnnw wedi cael ei gohirio tan 2022/23. Un eithaf arwyddocaol yn 4.5.2 ar fenthyca ar gyfer gweithgareddau masnachol. Esboniodd fod yr awdurdod lleol yn ofalus iawn ynghylch cyfleoedd masnachol a phrynu pethau, y gallai rhai Cynghorau efallai fod wedi mynd i mewn iddynt, megis gwestai a chanolfannau siopa ac yn y blaen, er mwyn elw masnachol. Roedd y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB) wedi rhoi moratoriwm ar fenthyca ar gyfer gweithgareddau masnachol. Nodwyd hyn yn glir iawn yn 3.4 o’r strategaeth ac anogodd yr Aelodau i edrych ar hyn am ei fod yn gosod cyfyngiad enfawr arni hi ei hun, fel Swyddog Adran 151 ac Aelodau i gadarnhau nad oedd bwriad i brynu buddsoddiad ac asedau, a fyddai’n cael eu defnyddio’n bennaf ar gyfer elw. Yn 4.5.3, yn dilyn adolygiad archwilio mewnol o wariant cyfalaf ac astudiaethau dichonoldeb, yr argymhelliad oedd ei gwneud yn ofynnol cynnal asesiad dichonoldeb manwl o brosiectau cyfalaf gyda’r angen am werthusiad ar ôl y prosiect er mwyn dysgu oddi wrth arfer gorau.

 

Gofynnodd yr Aelodau’r cwestiynau canlynol:

 

Cyfeiriodd Aelod at Dudalen 99, mewn perthynas â’r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd (HAMP). Nododd ei fod yn sôn mai dogfen fyw oedd hon, oedd yn cael ei hadolygu a’i datblygu’n barhaus. Nododd yr Aelod fod yr un ar wefan yr awdurdod lleol wedi cael ei chyhoeddi ym mis Medi 2007 a gofynnodd a oedd fersiwn fwy diweddar ar gael.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid ei fod yn un o’r pethau yr oedd hi wedi anfon e-bost yn ei  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 194.

195.

Diweddariad Rhaglen Gwaith pdf eicon PDF 98 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd - Craffu yr adroddiad, gan ddechrau ar dudalen 117. Aeth ag Aelodau i baragraff 4.6, a oedd yn nodi’r cylch nesaf o gyfarfodydd sef Cyfarfod Cyfunol yr holl Bwyllgorau Craffu i edrych ar y SATC drafft ar gyfer Addysg a Chymorth i Deuluoedd a Chymunedau ddydd Mercher yr 20fed ac ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles a Chyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr ddydd Iau yr 21ain o  Ionawr. Pwysleisiodd fod croeso i’r holl Aelodau fynychu’r ddau gyfarfod, fel y cytunwyd yng nghyfarfod y Cadeiryddion Craffu.

 

Byddaicyfarfod nesaf COSC yn cael ei gynnal ar y 1af o Chwefror, pan fyddai’r adborth o’r ddau gyfarfod hynny, ac adroddiad BREP yn cael ei drafod cyn ei anfon i’r Cabinet i’w ystyried.

 

Yndilyn hynny, y cylch nesaf o gyfarfodydd, gan gynnwys COSC ar y 3ydd o Fawrth, i ystyried Rhagolwg Refeniw Chwarter 3 2020-21 Monitro Cyllidebau. Byddai’r Aelodau’n cofio i Gyfarwyddwyr Corfforaethol, yng nghylch cyfarfodydd y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ar Bwnc ym mis Rhagfyr, gyflwyno diweddariadau i’r Pwyllgorau perthnasol a bod SOSC1 wedi cynnig i adroddiad ar ddysgu cyfunol / hybrid / o bell gael ei gynnwys yn y Flaenraglen Waith, ar gyfer eu cyfarfodydd nesaf ar ôl y SATC, a godwyd yn y cyfarfod heddiw.

 

Roedd SOSC 2 wedi penderfynu aros tan ganlyniad y SATC neu adroddiad perfformiad heddiw cyn enwi’r eitem nesaf ar y rhaglen waith a soniai SOSC 3 am gael diweddariad pellach gan y Cyfarwyddwr CorfforaetholCymunedau, pryd roedd y rhaglen frechu yn cael ei chynnal, gan ganolbwyntio ar sut y caiff pethau eu datblygu ar ôl y pandemig. Cytunai’r Pwyllgor hefyd y gallai ystyried SATC ac adroddiad perfformiad heddiw awgrymu eitemau i gael eu hystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Atgoffodd yr Uwch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd - Craffu hefyd yr Aelodau am yr Hyfforddiant i Aelodau Craffu oedd wedi cael ei gynnal ac y câi copi o’r adnoddau eu cylchredeg i holl Aelodau’r Pwyllgorau Craffu.

 

Cynigiodd yr Aelodau yr eitemau canlynol a nodwyd i’w hystyried ar y Flaenraglen Waith:

 

  • Absenoldeb Oherwydd Salwch Cysylltiedig â Straen (COSC)

 

  • Diogelu (SOSC2)

 

  • Contract Gwastraff yn y Dyfodol (SOSC3)

 

  • Uwchgynllun Canol y Dref (ar ôl ymgynghori) COSC

 

  • Yn y tymor canolig: effaith y Pandemig ar gyflawni’r Cynllun Corfforaethol (Panel Adferiad Trawsbleidiol /COSC)

 

  • Yn y tymor hir: Polisïau / Gweithdrefnau Corfforaethol Contract Tendr a Chaffael pan fo’n briodol. (COSC)

 

Ni chafwyd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD:      Bod y Pwyllgor yn cadarnhau’r eitemau cychwynnol arfaethedig ar gyfer Blaenraglen Waith y Pwyllgor a nodir ym mharagraff 4.6 o’r adroddiad a’r eitemau newydd a gynigiwyd uchod.

196.

Materion Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z