Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Ar Y Cyd Cytundeb Dinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd - Sylwch fod y Pwyllgor hwn bellach yn cael ei weinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf - Dydd Llun, 15fed Hydref, 2018 14:30

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Cofnodion:

Yn unol â'r cylch gorchwyl awgrymedig ar gyfer Cyd-Bwyllgor Trosolwg a Chraffu (JOSC) Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRCD) fel yr amlinellir yn Atodiad A i'r adroddiad, ynghylch y fethodoleg awgrymedig ar gyfer ethol Cadeirydd, cytunwyd y dylid ethol y Cynghorydd Philip Edwards, Cyngor Blaenau Gwent i'r safle hwn am y flwyddyn ddilynol.

 

Yn absenoldeb y Cynghorydd Edwards cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd Jon-Paul Blundell fel Cadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

Cadeiriodd y Cynghorydd Blundell y cyfarfod.   

2.

Ethol Is-gadeirydd

Cofnodion:

Yn unol â'r broses uchod, cytunwyd y dylid ethol y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, Aelod Etholedig dros Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel Is-gadeirydd am y flwyddyn ddilynol.

3.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd Philip Edwards, Aelod Etholedig dros Flaenau Gwent

4.

Datgan Buddiant

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion. 

Cofnodion:

Dim

5.

Cylch Gorchwyl Drafft pdf eicon PDF 167 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr adroddiad, a'i bwrpas oedd cyflwyno Cylch Gorchwyl drafft y JOSC fel y'i drafftiwyd gan Gyd-Gabinet CCRCD i'w ystyried a'i gymeradwyo.

 

Drwy wybodaeth gefndirol, mae Cytundeb Cydweithio CCRCD yn datgan y dylai Cynghorau gydweithio i greu a chytuno ar gylch gorchwyl ar gyfer, i’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, Cyd-bwyllgor Archwilio a JOSC a sut y darperir yr adnoddau a'r arian ar gyfer y rhain.

 

O ran y sefyllfa bresennol, cyflwynwyd y Cylch Gorchwyl drafft i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu a chyfarfodydd Cyngor perthnasol bob un o'r deg awdurdod lleol er gwybodaeth cyn ei gyflwyno i'r JOSC ei ystyried a chymeradwyo.

 

Atodwyd Cylch Gorchwyl drafft y JOSC yn Atodiad A (tudalen 7) er gwybodaeth ac ystyriaeth gan y JOSC.

 

Roedd Atodiad A hefyd yn cynnwys gwybodaeth mewn perthynas â'r canlynol:

 

  • Aelodau'r Cyd-bwyllgor Craffu
  • Gofynion cworwm
  • Proses ar gyfer ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd (y JOSC)
  • Rheolau Gweithdrefn
  • Ymddygiad Aelodau
  • Datganiadau o Fuddiant
  • Gwybodaeth Gyfrinachol ac Eithriedig/Mynediad at Wybodaeth
  • Materion Gonestrwydd a Thryloywder
  • Swyddogaethau i'w harfer gan y Cyd-bwyllgor Craffu
  • Hyd y Cyd-graffu
  • Tynnu'n ôl (gan unrhyw un o'r Awdurdodau sy'n cymryd rhan o'r trefniadau Cyd-graffu)

 

Yna, cyfeiriodd y Swyddog Craffu at oblygiadau ariannol yr adroddiad fel y'i nodir ym mharagraff 10. (tudalen 4) o'r adroddiad, ac yn dilyn hynny rhoddodd grynodeb o oblygiadau cyfreithiol yr adroddiad a roddai sylw arbennig i sut y cafodd y Cylch Gorchwyl ar gyfer y JOSC ei baratoi, h.y. ar y cyd â gofynion Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu) (Cymru) 2013, ac yn fwy cyffredinol darpariaethau Rheoliadau a Chanllawiau Statudol 2013, fel y cyhoeddwyd hwy.

 

Yn olaf cyfeiriodd y Swyddog Craffu at baragraff 12 o'r adroddiad, a'r rhesymau dros argymhellion yr adroddiad, sef sefydlu Cylch Gorchwyl ffurfiol ar gyfer y JOSC yn unol â gofynion y Cydgytundeb Gwaith.

 

Yn dilyn ystyriaeth o'r adroddiad gan Aelodau,

 

PENDERFYNWYD:                  Bod y JOSC wedi ystyried a chymeradwyo Cylch Gorchwyl y Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu newydd a oedd wedi'i gynnwys yn Atodiad A i'r adroddiad.      

 

6.

Blaenraglen Waith (FWP), Hyfforddiant ac Amserlen Cyfarfodydd pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, adroddiad, a'i bwrpas oedd

 

a)    Datblygu Blaenraglen Waith o eitemau i'w blaenoriaethu ac ystyried yn y dyfodol gan y Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu (JOSC);

 

b)    Gofyn i'r JOSC adnabod unrhyw wahoddedigion i fynychu cyfarfodydd yn y dyfodol er mwyn cyfrannu at drafodaethau ac ystyriaethau;

 

c)    Adnabod unrhyw ofynion hyfforddiant sy'n ofynnol gan y JOSC a;

 

d)    Datblygu amserlen o gyfarfodydd y JOSC; gan gynnwys amseroedd cyfarfodydd a ffafrir.

 

Dywedodd y Swyddog Craffu wrth Aelodau mai bwriad y FWP fyddai iddi aros yn hyblyg ac ailedrych arni ym mhob cyfarfod JOSC gyda mewnbwn gan Aelodau a Swyddogion yngl?n â phynciau awgrymedig i'w hystyried.

 

Gofynnir i'r JOSC ystyried a phenderfynu yn gyntaf pa eitemau y mae'n dymuno eu trafod mewn cyfarfodydd JOSC yn y dyfodol a pha fanylion eraill yr hoffai i'r adroddiad eu cynnwys; pa gwestiynau y mae'n dymuno i'r swyddogion fynd i'r afael â nhw a pha wahoddedigion y mae'n ei awgrymu iddynt fynychu'r cyfarfod hwn i gynorthwyo Aelodau gyda'u hymchwiliad.  Dangoswyd rhai eitemau i'w hystyried yn y dyfodol ym mharagraff 4 o'r adroddiad.

 

Ychwanegodd y Swyddog Craffu ei bod hi'n agored hefyd i Aelodau ystyried faint o eitemau agenda y maent yn dymuno eu rhestru ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol. Ychwanegodd fod Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ym Mhen-y-bont ar Ogwr fel arfer yn ystyried un brif eitem agenda ym mhob cyfarfod.

 

Yn Atodiad A i'r adroddiad roedd ffurflen Meini Prawf Craffu y gall Aelodau ei defnyddio i gynnig eitemau eraill ar gyfer yr FWP, y gall y Pwyllgor yna ystyried rhoi blaenoriaeth iddynt mewn cyfarfod yn y dyfodol. Felly, os nad oedd gan Aelodau unrhyw beth mewn golwg ar hyn o bryd, gallent gwblhau'r ffurflen uchod a'i hanfon drwy e-bost at yr Adran Graffu ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

Aeth y Swyddog Craffu yn ei blaen gan ddweud, er mwyn cynorthwyo Aelodau gyda'u rôl fel Aelodau JOSC fod angen iddynt ystyried unrhyw ofynion hyfforddiant sydd ganddynt mewn perthynas â'r CCRCD.  O hyn, gall y Swyddogion Craffu yna ddatblygu amserlen hyfforddiant ar gyfer Aelodau JOSC a fydd yn parhau'n hyblyg ac yn cael ei chyflwyno ym mhob cyfarfod i'w hystyried a'i hamserlennu.

 

Er y cytunwyd yn y gorffennol mai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sydd i weithredu fel yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am weinyddu cyfarfodydd JOSC CCRCD, gofynnir i Aelodau ystyried lleoliad cyfarfodydd y JOSC yn y dyfodol, gan gymryd i ystyriaeth bod holl gyfarfodydd y JOSC i'w cynnal yn gyhoeddus.  Efallai y dymuna'r Aelodau ystyried yr opsiwn o gynnal pob cyfarfod JOSC ar safle'r awdurdod lleol sy'n gyfrifol am weinyddu neu gallai'r deg awdurdod lleol sy'n rhan o'r JOSC gynnal y cyfarfodydd yn eu tro. 

 

Wrth ystyried cyfarfodydd yn y dyfodol, gofynnwyd hefyd i'r JOSC ystyried pa mor aml y dylid cynnal y cyfarfodydd a pha amseroedd sydd orau ar gyfer eu cynnal, i sicrhau bod cymaint o Aelodau yn bresennol ym mhob cyfarfod ag sy'n bosibl.

 

Dywedodd y Swyddog Craffu y byddai, yn dilyn y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.