Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ty Beechwood ,Parc Beechwood, Heol Christchurch, Casnewydd, NP19 8AJ

Cyswllt: Sarah Daniel, Scrutiny Officer 01656 643387 

Eitemau
Rhif Eitem

7.

Datgan Buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion. 

Cofnodion:

Dim.

8.

Cymeradwyo’r Cofnodion pdf eicon PDF 77 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 15/10/2018

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:         Cymeradwyo Cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, dyddiedig 15 Hydref 2018, fel cofnod gwir a chywir.

9.

Adroddiad ar Adeilad Ffowndri’r Lled-ddargludydd Cyfansawdd (CSC) pdf eicon PDF 193 KB

Gwahodeddigion:

Kellie Beirne - Cyfarwyddydd Rhaglen

Elizabeth Weale - Cyfreithiwr / Rheolwr Gweithredol

Hazel Duke - Rheolwr Prosiect

Cyng Peter Fox - Aelod Cabinet

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mewn perthynas â thrafodaethau ar y safle a gynhaliwyd cyn y cyfarfod, dywedodd Cyfarwyddwr y Rhaglen wrth yr aelodau fod IQE yn gwmni rhestredig ac yn destun cytundeb ‘peidio â datgelu’. Dywedodd y dylai’r aelodau ystyried gwahardd y wasg a’r cyhoedd pe baent eisiau trafod gwybodaeth a geid yn y cytundeb peidio â datgelu.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Peter Fox, Is-gadeirydd Cabinet Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gyflwyniad yn dwyn y teitl “Trosolwg o Brosiect y Lled-ddargludydd Cyfansawdd (CSC) a’r cyfleoedd Clwstwr ehangach”. Rhoddodd y cyflwyniad olwg gyffredinol ar ymrwymiad Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i Led-ddargludyddion Cyfansawdd, cyfleoedd marchnad lled-ddargludyddion cyfansawdd, IQE PLC, pwysigrwydd y Lefel Parodrwydd Technoleg ym mhob agwedd ar gynhyrchu, y cyfleoedd clwstwr a’r effaith economaidd bosibl a allai arwain at Glwstwr Lled-ddargludyddion Cyfansawdd cyntaf y byd. Ychwanegodd fod diwydiannau’n dibynnu ar led-ddargludyddion cyfansawdd ac y gallai hyn wyrdroi ffawd De Ddwyrain Cymru.

 

Gofynnodd un o’r aelodau a oedd yr eiddo ym Mharc Menter Celtic Way mewn ardal a gynorthwyir yn ôl rheolau cymorth gwladwriaethol. Esboniodd yr Is-gadeirydd fod yr holl fargen yn cydymffurfio â chymorth gwladwriaethol. Byddai rhan fawr o Gymru’n cydymffurfio fodd bynnag, gyda’r cymarebau’n amrywio. Roedd IQE wedi arwain consortiwm a gysylltodd â Llywodraeth Cymru a phledio’r achos yn seiliedig ar y pwysigrwydd byd-eang fel sector. Roedd ganddynt eithriad cymorth gwladwriaethol rhannol ac roedd hyn yn bwysig ar gyfer twf Ewropeaidd. Yn dilyn BREXIT byddent yn cydymffurfio â rheolau cymorth gwladwriaethol a fyddai’n cyfateb i rai Prydain.

 

Roedd un o’r Aelodau’n bryderus yngl?n â’r gostyngiad ym mhris cyfranddaliadau Ffowndri’r IQE a dywedodd ei fod wedi gweld adroddiad, a oedd eto i’w gyhoeddi gan Swyddfa Archwilio Cymru, lle yr oeddynt wedi bod yn feirniadol o IQE. Dywedodd ei fod wedi gofyn i swyddogion yn ystod yr ymweliad safle cynharach a fyddai modd iddynt roi rhyw fath o sicrwydd yngl?n â hyn. Roedd swyddogion yn y Ffowndri wedi cadarnhau’n gynharach fod IQE wedi gwneud datganiad cyhoeddus yn ymwneud â’r newid yn eu cyfranddaliadau, a oedd ar gael i’r cyhoedd ar eu gwefan. Dywedodd y swyddogion hefyd fod adroddiad masnachol sensitif wedi’i lunio a’i rannu gyda’r cabinet Rhanbarthol i ymdrin â’r pryderon yngl?n â phris y cyfranddaliadau. Ychwanegodd y swyddogion y byddent angen cyngor pellach gan IQE ynghylch a ellid rhannu’r adroddiad hwn gyda’r Cyd-bwyllgor Craffu yn ddiweddarach, sef rhywbeth y byddai’n rhaid ei wneud mewn sesiwn gaeedig gan wahardd y wasg a’r cyhoedd. Cadarnhaodd y Swyddog Craffu y byddai, ar ran y Cyd-bwyllgor, yn cysylltu â rheolwr Prosiect y Lled-ddargludydd Cyfansawdd i ofyn am yr adroddiad, ac yn rhoi gwybod i’r aelodau beth oedd y penderfyniad.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr y Rhaglen nad oedd Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn gyfranddalwyr, bod ganddynt swyddogaeth fel landlord, a’u bod yn prydlesu’r adeilad i IQE fel tenant. Pe bai’r aelodau’n dymuno cael gwybodaeth bellach yngl?n â phris y cyfranddaliadau, roedd gan bob awdurdod swyddog cynrychiadol neu aelod wedi’i ethol ar fwrdd CSC Foundry Ltd. Cafodd gwybodaeth gyfredol am brisiau cyfranddaliadau a’r gadwyn gyflenwi ei chyflwyno yn y cyfarfod diwethaf  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cynllun Busnes Cydgytundeb Gweithio pdf eicon PDF 182 KB

Gwahodeddigion:

Kellie Beirne - Cyfarwyddydd Rhaglen

Elizabeth Weale - Cyfreithiwr / Rheolwr Gweithredol

Hazel Duke - Rheolwr Prosiect

Cyng Peter Fox - Aelod Cabinet

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Nododd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y Cynllun Busnes Cydgytundeb Gweithio.

 

11.

Rhaglen Waith yn y Dyfodol, Hyfforddiant a Threfnu Cyfarfodydd pdf eicon PDF 182 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafododd yr aelodau’r syniad o ychwanegu’r eitemau canlynol at eu Rhaglen Waith yn y Dyfodol:

·      Addysg – Datblygu Strategaeth ar gyfer pobl ifanc a sut y gellir cynnwys hyn yn y cwricwlwm a sicrhau bod pobl yn cael mynediad at y cyfleoedd hyn.

·      Marchnata a hysbysebu IQE ymhlith cwsmeriaid a’r gymuned leol. Sut y câi eu gwaith ei hyrwyddo ymhlith y gymuned leol er mwyn iddynt ddod yn ymwybodol o gyfleoedd yn yr ardal.

Gofynnodd yr aelodau i’r eitem yngl?n â Metro De Cymru gael ei chynnwys mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cadarnhaodd cyfarwyddwr rhaglen Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd y dylai Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Trafnidiaeth graffu ar yr eitem hon ar y cyd, ac y byddai disgwyl i Lywodraeth Cymru arwain y gwaith.

Roedd yr aelodau’n bryderus ynghylch dyraniad cyllid y Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu. Dywedasant fod y modd y gallent ymgymryd â’u rôl fel Cyd-aelodau Craffu yn cael ei gyfyngu’n arw gan nad oedd y gyllideb ond yn caniatáu i hyd at 4 o gyfarfodydd gael eu cynnal bob blwyddyn a chan nad oedd cyllideb wedi’i dyrannu ar gyfer hyfforddi’r aelodau. Felly, argymhellodd yr aelodau y dylai Cyd-gabinet Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ailystyried y gyllideb a ddyrannwyd er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i’r aelodau fynd i’r afael â’u rôl a chynnal cyfarfodydd ychwanegol pe bai’r angen yn codi.

Amserlen Hyfforddi

Gofynnodd yr aelodau am gael hyfforddiant yn ymwneud â rôl Aelod o’r Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu.

Dylid trefnu Hyfforddiant Cadeiryddion y Cyd-bwyllgor Craffu, ar gyfer Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyd-bwyllgor.

Daeth y cyfarfod i ben am 16.05pm.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z