Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Committee Room 4 - Cardiff Council, County Hall, Atlantic Wharf, Cardiff, CF10 4UW

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

19.

Ethol Cadeirydd (Aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr)

Cofnodion:

PENDERFYNWYD  Ethol y Cynghorydd JPD Blundell, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn Gadeirydd am y flwyddyn i ddod.

20.

Ethol Is-gadeirydd (Aelod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili)

Cofnodion:

PENDERFYNWYD  Ethol y Cynghorydd J Ridgewell, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn Is-gadeirydd am y flwyddyn i ddod.   

21.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

22.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

23.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 71 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 28/03/2019

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:       Bod Cofnodion cyfarfod y CCRCD JOSC, dyddiedig 28 Mawrth 2019, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir. 

24.

Cynllun Busnes Blynyddol 2018-19 - Adroddiad Perfformiad Chwarter 4 pdf eicon PDF 4 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Rhaglen yr adroddiad monitro chwarterol yn hysbysu rhanddeiliaid allweddol am gynnydd mewn perfformiad yn erbyn y Cynllun Busnes Blynyddol, ac felly’n cyflawni gofynion y Fframwaith Sicrwydd. Roedd hyn yn cynnwys diweddariad manwl ar y rhaglen, diweddariad ar y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, cynllun gweithredu yr Archwiliad Mewnol a diweddariad ar gyllideb y Gronfa Fuddsoddi ehangach.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr y Rhaglen fod y cynllun deg pwynt i esblygu’r Fargen Ddinesig wedi ei weithredu ym mis Medi 2018. Wedyn rhoddodd grynodeb o’r cynnydd a wnaed yn y saith mis ers hynny.

 

Cyfeiriodd aelod at y datganiad bod datblygiadau megis Brexit a cholli arian yr UE yn golygu mai’r Fargen Ddinesig oedd y dull allweddol i adeiladu dyfodol cynaliadwy, gwydn a mwy hunanddibynnol ar gyfer y rhanbarth. Gofynnodd pam nad oedd yna gyfeiriad yn y rhan honno o’r adroddiad at y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Atebodd Cyfarwyddwr y Rhaglen mai’r pwynt pwysig oedd mai’r Fargen Ddinesig fyddai’r prif gyfrwng ac y byddai yn chwarae rhan allweddol yn y modd y byddai cronfeydd yn cael eu dyrannu. Ar ôl Brexit, roedd yn debygol y câi’r holl fuddsoddiad economaidd newydd ei ddyrannu ar sail cystadleuol ac y byddai hyn yn gofyn am ddull hollol wahanol. 

 

Gofynnodd aelod beth oedd yn cael ei wneud i ymgysylltu â chymunedau mwy anodd eu cyrraedd a pha fentrau oedd yn eu lle. Gofynnodd hefyd am amserlen, a sicrwydd o ran hybu’r ymrwymiad i ddatblygiad cynaliadwy drwy weithgaredd wedi ei dargedu fwy gyda chyrff cyhoeddus megis Bcorps, Busnesau Cydweithredol a chyrff oedd yn eiddo i’r gweithwyr. Atebodd Cyfarwyddwr y Rhaglen y byddent yn rhyngweithio mewn ffordd wahanol, gydag un gronfa fuddsoddi eang a dull newydd yn seiliedig ar egwyddorion gwahanol. Er mwyn cyflawni twf cynhwysol byddai’n rhaid iddynt wyro’r maes chwarae. Ym maes Lled-ddargludyddion Cyfansawdd roedd yna gyfle i adeiladu clwstwr. Gallent sicrhau fod y mecanweithiau yn eu lle nid yn unig i greu cyfoeth ond hefyd i ledaenu’r cyfoeth. Drwy ddefnyddio cyllid arloesol gallent greu marchnadoedd a chynnyrch newydd a byddent yn ystyried ceisiadau dros yr ychydig wythnosau nesaf. Ychwanegodd y byddai yna gyflwyniad mewn cyfarfod yn y dyfodol ynghylch cyrff cyhoeddus.

 

Cyfeiriodd aelod at y cyhoeddiad diweddar gan Ford fod ffatri Pen-y-bont ar Ogwr yn cau, a’r golled o swyddi crefftus, a gofynnodd a oedd cynlluniau wrthi’n cael eu gweithredu i fynd i'r afael â’r broblem hon. Atebodd Cyfarwyddwr y Rhaglen y gellid defnyddio’r arbenigedd yn y rhanbarth mewn cyfleoedd ehangach megis storio mewn batri, cerbydau trydan neu ganolfannau gyriad uwch. Roeddent wedi comisiynu darn o waith i edrych ar feysydd gwahanol ac roedd yn rhaid iddynt sicrhau bod ganddynt y sylfaen sgiliau i annog cwmnïau i adleoli i’r rhanbarth. 

 

Gofynnodd aelod pa waith oedd wedi cael ei wneud i gyfathrebu â’r gymuned ddinesig. Atebodd Cyfarwyddwr y Rhaglen fod y Cyngor Busnes yn cynnal sesiynau ar sgiliau ac yn y blaen ond nad oeddent eto wedi sefydlu tabl cyfathrebu. Gofynnodd yr aelod am gael gweld enghreifftiau o’r sianelau cyfathrebu clir. Eglurodd Cyfarwyddwr y Rhaglen fod y camau hyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 24.

25.

Sefydlu Swyddfa’r Fargen Ddinesig - Cynllun Ailstrwythuro a Sicrhau Adnoddau - 2019/20 - 2020/21 pdf eicon PDF 4 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Rhaglen adroddiad yngl?n â sefydlu Swyddfa’r Fargen Ddinesig, oedd wedi ei llunio i gwrdd â’r heriau, galwadau, symudiadau a newidiadau oedd eu hangen er mwyn cyflymu cynnydd a’r cyflymder, a chyflawni mentrau newydd a llwyddo mewn gofod llawer mwy cystadleuol. Ymysg heriau eraill, roedd yna deimlad o frys o gwmpas effaith gadael yr UE, colli cronfeydd strwythurol a’r angen i gystadlu â rhanbarthau a sefydliadau eraill i sicrhau adnoddau. Amlinellodd y strwythur arfaethedig, y gyllideb a’r cynllun ariannu, y goblygiadau ehangach a’r goblygiadau ariannol a chyfreithiol.

 

Gofynnodd aelod beth oedd yr amserlen ar gyfer gweithredu’r strwythur newydd. Eglurodd Cyfarwyddwr y Rhaglen eu bod wedi recriwtio ar gyfer un swydd a bod yr haen nesaf bellach wrthi'n cael ei hysbysebu. Proses araf ydoedd gan eu bod yn gweithio yn ôl prosesau a pholisïau llywodraeth leol. Roedd adnoddau yn broblem ar hyn o bryd; fodd bynnag, ni allent symud ond cyn gyflymed ag yr oedd y broses yn caniatáu.

 

Gofynnodd aelod am ragor o wybodaeth am y strwythur a’r ymgeiswyr y byddent yn gobeithio eu penodi. Esboniodd Cyfarwyddwr y Rhaglen fod angen iddynt annog ceisiadau gan sefydliadau academaidd a busnesau i gael cymysgedd dda.

 

Gofynnodd aelod a oedd yr offer yn eu lle i benodi i’r strwythur newydd. Eglurodd Cyfarwyddwr y Rhaglen fod y strwythur staffio presennol yn rhagdybio y byddai Arweinwyr a Swyddogion yn cyflawni swyddi arweiniol. Nid oedd hyn wedi gweithio’n neilltuol o dda oherwydd cyfyngiadau amser a blaenoriaethau yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Byddai atgyfnerthu’r capasiti a’r gallu yn Swyddfa’r Fargen Ddinesig yn ei galluogi i ddod yn fwy atebol am arwain prosiectau a’u cyflawni. Roedd hi’n bwysig cael y strwythur yn iawn ac efallai y byddai angen iddynt wneud swyddogaethau yn fwy cynaliadwy er mwyn annog ceisiadau, e.e. roedd gan swydd y Prif Swyddog Buddsoddi set benodol o sgiliau ond nid oedd yn para ond am 18 mis, a allai fod yn rhwystr i recriwtio. Cytunai aelodau fod hyn yn bryder mawr a bod ar Gyfarwyddwr y Rhaglen angen swyddogion yn eu lle er mwyn medru cyflawni. Nodwyd bod cefnogaeth weinyddol a chymorth pwyllgor hefyd yn feysydd oedd angen sylw.

 

Cyfeiriodd aelod at bwerau dirprwyedig o ran caffael hyd at werth £100,000. Esboniodd Cyfarwyddwr y Rhaglen nad oedd hynny ond mewn perthynas â’r Cadeirydd ac y byddai’n caniatáu iddi symud ymlaen a gwneud y gwaith.

 

Gofynnodd aelod a oedd rhagor o wybodaeth ar gael ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac a oedd yn debygol o gael ei gyrru gan her. Esboniodd Cyfarwyddwr y Rhaglen y byddai yna rownd arall o ymgynghori ond roedd yn annhebygol o fod gystal â’r gefnogaeth yr oeddent wedi ei derbyn gan yr UE. Cytunai’r aelodau yr hoffent weld y Dadansoddiad Cyllidol.          

26.

Sefydlu Swyddfa Bargen y Ddinas - Cynllun Ailstrwythuro ac Adnoddau - 2019/20 - 2020/21 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

The Programme Director presented a report on the establishment of the City Deal Office which had been configured to meet the challenges, demands, shifts and changes required in order to accelerate progress and pace and to deliver new initiatives and succeed in a much more competitive space. Amongst other challenges, there was a sense of urgency surrounding the impact of departure from the EU, loss of structural funds and the need to compete with other regions and institutions to secure resources. She outlined the proposed structure, the budget and resourcing plan, the wider implications and the financial and legal implications.

 

A member asked what the timescales were for implementing the new structure. The Programme Director explained that they had recruited to one post and the next layer was now in the process of being advertised. It was a slow process as they were working to local government processes and policies. Resources were an issue at the moment however they could only go as fast as the process would allow.

 

A member asked for further information on the structure and the candidates they would be looking to appoint. The Programme Director explained that they needed to encourage applications from academic institutions and businesses to get a good mix.

 

A member asked if all the tools were in place to appoint to the new structure. The Programme Director explained that the current staffing structure was predicated on Leaders and officers carrying out lead roles. This had not worked particularly well because of time constraints and competing priorities. Reinforcing the capacity and capability within the City Deal Office would allow it to become more accountable for project leadership and delivery. It was important to get the structure right and they might need to make roles more sustainable to encourage applications eg the Chief Investment Officer role had a specific skill set and was only for 18 months which could be a barrier to recruitment. Members agreed that this was a major concern and that the Programme Director needed officers in place to be able to deliver. Administrative and committee support were also identified as areas that needed attention.

 

A member referred to delegated powers in terms of procurement up to the value of £100,000. The Programme Director explained that that was only in conjunction with the Chairperson and that it would allow her to get on and do the job.

 

A member asked if there was more information available regarding the Shared Prosperity Fund and if it was likely to be challenge-driven. The Programme Director explained that there would be a further round of consultation but it was unlikely to match the support they had received from the EU. Members agreed that they would like to see the Fiscal Analysis. 

              

27.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.  

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

O dan Adran 100A (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, bod y cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod tra byddent yn ystyried yr eitem fusnes ganlynol am y gallai gynnwys gwybodaeth oedd wedi ei heithrio fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 a Pharagraffau 21 o Ran 5 o Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007.

 

Yn dilyn cymhwyso prawf lles y cyhoedd, penderfynwyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeiriwyd ati uchod, ystyried yr eitemau canlynol yn breifat, gyda’r cyhoedd wedi eu gwahardd o’r cyfarfod, gan yr ystyrid yn yr holl amgylchiadau yn ymwneud â’r eitem, fod lles y cyhoedd mewn cynnal yr eithriad yn gorbwyso lles y cyhoedd mewn datgelu’r wybodaeth.       

28.

Cymeradwyo Cofnodion a Eithriwyd

I dderbyn am gymeradwyaeth y eithrio Cofnodion cyfarfod y 28/03/2019

29.

Y Flaenraglen Waith. Hyfforddiant ac Amserlen Cyfarfodydd pdf eicon PDF 188 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu’r adroddiad i’r Aelodau.

 

Awgrymodd Aelod gynnwys gwybodaeth am effaith y penderfyniad ar ffordd liniau’r M4 a pha gamau ddylai gael eu cymryd i leddfu’r penderfyniad, yn eitem yr Awdurdod Trafnidiaeth - Metro Plus oedd i gael ei hystyried yn y cyfarfod ar y 23ain o Fedi. Awgrymodd aelodau hefyd wahodd cynrychiolwyr Trafnidiaeth Cymru i’r cyfarfod hwnnw. Atebodd Cyfarwyddwr y Rhaglen fod Llywodraeth Cymru ar y pryd yn ystyried dewisiadau eraill. 

 

Gofynnodd aelod a oedd y pedwar cyfarfod a drefnwyd yn ddigon ar gyfer yr holl waith oedd ganddynt i’w wneud. Cytunodd yr Aelodau y byddent yn adolygu hyn wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen.

 

Cyfeiriodd Aelod at eitem y Bartneriaeth Sgiliau oedd wedi ei chynllunio ar gyfer yn hwyr Mis Mawrth 2020 ac awgrymodd gynnal cyfarfod anffurfiol i drafod y mater hwn cyn y cyfarfod nesaf.

 

Cyfeiriodd Aelod at y sesiwn hyfforddiant ddiweddar ac awgrymodd fod copi o’r cyflwyniad yn cael ei anfon i’r holl Aelodau er gwybodaeth. Ychwanegodd fod y Fargen Ddinesig yn ymddangos ymhell ar y blaen i lawer o gynlluniau eraill tebyg.

 

Argymhellodd Aelod ei bod yn hanfodol, yn ychwanegol at hyfforddiant, ymgymryd ag ymweliadau safle ac awgrymodd ymweld â systemau metro gwahanol. Ychwanegodd ei bod yn bwysig i siarad â Manceinion ac ardaloedd eraill oedd eisoes wedi bod drwy’r broses er mwyn medru dysgu oddi wrth eu profiad. Esboniodd Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd Caerdydd ei fod ef yn ceisio cael copïau electronig o’r cyflwyniad i’w cylchredeg.

 

Awgrymodd Aelod adolygu ac ailfodelu’r Maes Gorchwyl. Cytunodd Swyddogion y byddent yn edrych i mewn i’r gwahanol ddewisiadau ac yn dod yn ôl i’r Pwyllgor.

 

Gofynnodd Aelod am hyfforddiant ar gyllid. 

 

Dywedodd Aelod y byddai’n fuddiol anfon drwy’r e-bost neu gylchredeg proffil gyda llun o’r holl aelodau a’r swyddogion i’r Aelodau cyn y cyfarfod nesaf.      

 

PENDERFYNWYD:

I’w hychwanegu i’r Flaenraglen Waith:

·                   Adroddiad Sgiliau ar gyfer y Dyfodol

·                   Cylch Gorchwyl JOSC - Mae’r panel yn dymuno ailedrych ar eu cylch gorchwyl mewn gweithdy’n cael ei hwyluso er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol ac yn caniatáu digon o graffu ar y CCRCD.  Argymhellodd yr Aelodau bod y Cylch Gorchwyl yn cael ei adolygu’n flynyddol.

Wrth drafod y Flaenraglen Waith, argymhellodd Aelodau’r JOSC y canlynol:

·                   Bod y gefnogaeth i’r swyddogaeth graffu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael ei hadolygu o ran cefnogaeth uniongyrchol i CCRCD a JOSC.

·                   Yr edrychir am ddigon o gyllid fel bod JOSC yn gallu cynnal paneli ymchwilio, cynnal cyfarfodydd arbennig, gwahodd tystion arbenigol a chynnal ymweliadau safle wrth i brosiectau ddatblygu.

       Dymunai’r Cynghorydd M Rahman fynegi ei siom nad oedd yr un o aelodau’r Cabinet yn bresennol yn y cyfarfod ac argymhellodd y dylai un fod yn bresennol ym mhob cyfarfod fel y gellid eu dal i gyfrif gan yr aelodau.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z