Lleoliad: Hybrid in the Council Chamber Civic Offices, Angel Street, Bridgend, CF31 4WB
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
| Rhif | Eitem | ||||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Gwahardd y Cyhoedd Nid yw’r adroddiad sy’n ymwneud â’r eitem ganlynol i’w gyhoeddi gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007.
Os bydd y Panel, yn dilyn cymhwyso prawf budd y cyhoedd, yn penderfynu yn unol â’r Ddeddf i ystyried yr eitem hon yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o’r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o’r fath.
|
|||||||||
|
Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd |
|||||||||
|
Ymateb Cychwynnol i Asesiad PPA a Newidiadau Arfaethedig i Strwythur Uwch Reoli JNC |
|||||||||
|
Adroddiad Hanner Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys 2025-26 |
|||||||||
|
Diweddariad Chwarter 2 y Rhaglen Gyfalaf 2025-26 Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||
|
Derbyn y Cwestiynau canlynol gan: Y Cynghorydd Ian Williams at yr Arweinydd
Gyda llawer o sôn yn ystod y blynyddoedd diwethaf am "Gynllun Arbed" yng Nghaerau a chyda gwaith bellach ar y gweill i unioni'r problemau a brofwyd gan drigolion ar ôl i inswleiddio allanol gael ei osod yn wael ar lawer o eiddo, hoffwn ofyn y canlynol...
1. Faint o eiddo sydd bellach wedi cael y gwaith adfer wedi'i gwblhau?
2. Beth yw cost y gwaith adfer hyd yn hyn a beth yw cyfanswm y gyllideb ar gyfer yr holl waith angenrheidiol i Eiddo Arbed? |
|||||||||
|
Hysbysiad o Gynnig a gynigiwyd gan y Cynghorydd Jane Gebbie Teitl y Cynnig: Sicrhau Buddsoddiad Moesegol Cronfeydd Pensiwn Llywodraeth Leol Mae’r Cyngor hwn yn nodi’r canlynol:
Mae’rCyngor hwn wedi penderfynu:
o Fwy o dryloywder ar y buddsoddiadau cyfredol, gan gynnwys amlygiad i sectorau (e.e., tanwyddau ffosil, arfau, technoleg gwyliadwriaeth). o Polisi Buddsoddi Cyfrifol cryfach a chanddo feiniprawf gwrthod clir ar gyfer cwmnïau sy’n ymwneud ag: § Echdynnutanwydd ffosil; § Gweithgynhyrchu neu werthu arfau i gyfundrefnau sy’n torri cyfraith ryngwladol; § Camdriniaethauhawliau dynol (e.e., torri egwyddorion Cytundeb Byd-eang y Cenhedloedd Unedig); § Dinistrioamgylcheddol neu ddatgoedwigo systemig.
o Archwilioopsiynau i gyflymu datgarboneiddio portffolio’r gronfa yn unol â tharged hinsawdd o 1.5°C; o Ymgysylltu â rheolwyr asedau i ddatblygu cynllunar gyfer tynnu buddsoddiadau fesul cam o’r sectorau mwyaf niweidiol, lle bo’n gyson â dyletswydd ymddiriedol; o Sicrhaucynrychiolaeth weithredol gan aelodau mewn adolygiadau polisi yn y dyfodol sy’n ymwneud â buddsoddi moesegol neu gyfrifol.
|
|||||||||
|
Derbyn y Cwestiynau canlynol gan: Y Cynghorydd Ross Penhale-Thomas at yr Aelod Cabinet – Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai
Beth mae'r awdurdod lleol yn ei wneud, ochr yn ochr â phartneriaid strategol, i gefnogi creu cyfleoedd cyflogaeth hirdymor yn ardaloedd ein cymoedd? |
|||||||||
|
Hysbysiad o Gynnig a gynigiwyd gan y Cynghorydd Rhys Goode Mae'rCyngor hwn yn cydnabod y pwysau cynyddol a osodir ar Heddlu De Cymru o ganlyniad i gynnal digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol mawr yng Nghaerdydd ac yn y rhanbarth ehangach.
Yn aml, mae digwyddiadau fel gemau chwaraeon mawr, cyngherddau, uwchgynadleddau gwleidyddol a chynulliadau diwylliannol yn gofyn am bresenoldeb heddlu ychwanegol sylweddol, cynllunio ac adnoddau, gyda chostau a phwysau gweithredu yn cael eu dwyn yn lleol.
Nodwnymhellach fod dinas-ranbarthau eraill y DU, yn enwedig Belfast a Chaeredin, yn cael eu cydnabod gan y Swyddfa Gartref fel rhanbarthau Prifddinas ac yn derbyn cyllid a chefnogaeth ychwanegol gan y Swyddfa Gartref i adlewyrchu'r gofynion plismona unigryw sy'n gysylltiedig â chynnal digwyddiadau proffil uchel.
Arhyn o bryd, nid yw Heddlu De Cymru yn derbyn lefelau cyfatebol o gefnogaeth, er gwaethaf wynebu heriau a gofynion adnoddau cymharol, megis bod yr ail ardal uchaf ar gyfer ymweliadau Brenhinol, rhaglenni Rygbi a Chriced Rhyngwladol a lleoliadau cyngherddau mawr. (i'w gadarnhau)
Felly, mae’r Cyngor hwn yn penderfynu: · Galw’n ffurfiol ar Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU i gydnabod Caerdydd fel Dinas-ranbarth yn yr un modd â Belfast a Chaeredin ar gyfer cyllid yn y dyfodol. · Ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref ac at Aelodau Seneddol perthnasol o Gymru ac Aelodau Senedd Cymru, yn eu hannog i gefnogi’r achos dros gydnabod Caerdydd fel dinas-ranbarth a galw am gyllid teg a chynaliadwy i Heddlu De Cymru. · Gofyn am adolygiad o fformwlâu cyllido presennol y Swyddfa Gartref, er mwyn sicrhau cefnogaeth deg a chyson i holl heddluoedd Cymru, yn seiliedig ar lwyth digwyddiadau, statws dinas- ranbarth, a phwysau plismona. · Gwahodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu i roi cyflwyniad i'r Cyngor ar effeithiau gweithredu ac ariannu plismona digwyddiadau mawr ac i drafod ymdrechion eiriolaeth ar y cyd posibl.
Credwnfod dull teg a chyfartal o ddyrannu adnoddau plismona yn hanfodol i gynnal diogelwch cymunedol, lles swyddogion, a hyder y cyhoedd, ac i sicrhau nad yw De Cymru dan anfantais o'i gymharu â dinas-ranbarthau eraill y DU.
|
|||||||||
|
Materion Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
|
|||||||||
|
Cymeradwyaeth Cofnodion wedi’u Eithrio Derbyn i'w cymeradwyo cofnodion eithriedig 22/10/2025. |