Agenda a Chofnodion

Cyngor - Dydd Mercher, 23ain Hydref, 2019 15:00

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mark Anthony Galvin  Senior Democratic Services Officer - Committees

Eitemau
Rhif Eitem

358.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd RE Young fuddiant personol yn eitem 6 ar yr agenda - cynnig am Gynllun Datblygu Strategol ar gyfer Prifddinas-ranbarth Caerdydd, am ei fod yn cael ei enwebu i gynrychioli'r Cyngor ar y Panel Cynllunio Strategol Dros Dro.

 

Datganodd Kelly Watson, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio a Swyddog Monitro a Gill Lewis, Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro fuddiant yn eitem 8 ar yr agenda - Newidiadau Arfaethedig i Strwythur Rheoli'r JNC gan fod y cynigion yn effeithio ar eu swyddi.  Gadawodd y ddau swyddog y cyfarfod tra'r oedd yr eitem yn cael ei hystyried.  

359.

Cymeradwyo'r Cofnodion pdf eicon PDF 149 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 18/09/2019

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:  Cymeradwyo bod cofnodion cyfarfod y Cyngor ar 18 Medi 2019 yn wir ac yn gywir yn amodol ar gynnwys enw'r Cynghorydd JE William yn y rhestr o ymddiheuriadau am absenoldeb. 

360.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

 (i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

 

Cofnodion:

Y Maer

 

Rhoddodd y Maer wybod i'r Cyngor am y digwyddiadau y bu'n bresennol ynddynt ers cyfarfod diwethaf y Cyngor. Roedd hynny'n cynnwys ymweld â'r Cylch Chwarae Standing to Grow yn Sefydliad Glowyr Nantyffyllon, Maesteg, a oedd wedi agor ystafell newydd yn ddiweddar. Roedd yr ystafell wedi'i hariannu drwy'r Grant Cyllid Cyfalaf Cynnig Gofal Plant, a'i ddyrannu gan y tîm gofal plant ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Bu'n bresennol yn y noson wobrwyo flynyddol yn Ysgol Gyfun Pencoed, yn llongyfarch y disgyblion am eu llwyddiant a'r staff am eu hymroddiad a'u hymrwymiad.

 

Cyhoeddodd y Maer y bu'n anrhydedd iddo gefnogi'r Apêl Pabi Coch Flynyddol a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hamdden Cwm Garw, lle cafwyd cerddoriaeth gan Fand Adran Tywysog Cymru a chyfraniadau gan amryw o gorau lleol.  Hysbysodd y Maer y Cyngor y byddai'n ymweld ag enillwyr y Gwobrau Busnes Lleol, a gynhelir ym mis Medi. 

 

Y Dirprwy Arweinydd

 

Cyhoeddodd y Dirprwy Arweinydd fod siop ailddefnyddio gyntaf erioed y Fwrdeistref Sirol wedi agor yng nghanolfan ailgylchu gymunedol Maesteg.  Bydd yn cael ei rhedeg gan fenter gymdeithasol Wastesavers, mewn partneriaeth â'r Cyngor a Kier.  Mae'r siop wedi cael ei henwi yn 'Y Seidin' i gydnabod treftadaeth mwyngloddio Maesteg. Gellir cyfrannu unrhyw eitemau o'r cartref sydd mewn cyflwr da i'w defnyddio eto, a bydd yr holl elw yn cael ei hailfuddsoddi mewn rhaglenni cymdeithasol.

 

Mae trefniadau wedi'u gwneud i Aelodau dderbyn hyfforddiant ar Reoli Galwadau Ffôn Camdriniol ac Ymosodol, Rheoli Gwrthdaro ac Ymwybyddiaeth o Ddiogelwch Personol ar 31 Hydref 2019. Bydd y sesiwn gyntaf yn dechrau am 9.30am, a'r sesiwn honno'n cael ei hailadrodd am 1.30pm. Mae rhai lleoedd yn dal ar gael yn y ddwy sesiwn, a dylai Aelodau sydd am ddod i un ohonynt gysylltu ag Andrew Rees, Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd. 

 

Aelod Cabinet Cymunedau

Rhoddodd yr Aelod Cabinet wybod i'r Aelodau am benderfyniad diweddar y Cabinet, a wnaed yn groes iawn i'r graen, i symud tuag at sefyllfa adennill costau llawn yn achos caeau chwarae a phafiliynau chwaraeon. Roedd hyn yn amlygu sefyllfa'r Cyngor, ac yn datgelu'r graddau y mae'r awdurdod lleol wedi bod yn cymorthdalu am y cyfleusterau hynny, a hynny hyd at 80% mewn rhai achosion.  Anogodd fwy o sefydliadau, grwpiau chwaraeon a chynghorau tref a chymuned i gysylltu â chwrdd â'r Cyngor i drafod ysgwyddo cynnal cyfleusterau lleol poblogaidd drwy'r broses Trosglwyddo Asedau Cymunedol. Dywedodd fod Clwb Rygbi Bryncethin yn enghraifft berffaith o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy'r broses hon, ac yn dangos sut y gall clwb neu sefydliad sicrhau cyllid i ddatblygu cyfleusterau newydd.  Hyd nes y ceir sefyllfa lle bydd llywodraeth leol yn cael ei hariannu'n ddigonol, bydd angen i'r Cyngor barhau i weithio mewn partneriaeth agosach a defnyddio prosesau fel trosglwyddo asedau cymunedol i sicrhau bod cyfleusterau fel toiledau, pafiliynau, caeau, llecynnau a meysydd chwarae a mwy yn parhau i fod i fod ar gael i'w defnyddio.  Roedd yn gobeithio y byddai'r Aelodau yn cyfleu'r neges hon yn eu wardiau eu hunain, ac yn annog pobl leol i ystyried sut y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 360.

361.

Derbyn adroddiad yr Arweinydd

Cofnodion:

Cyhoeddodd yr Arweinydd fod Canolfan Chwaraeon D?r Rest Bay wedi agor yn ddiweddar. Mae'r Ganolfan yn rhan o fenter Croeso Cymru i greu 13 o gyrchfannau newydd i ymwelwyr ledled Cymru.  Bydd y cyfleuster yn darparu cyfleusterau gwell i ymwelwyr, yn ogystal â chanolfan bwrpasol i Ysgol Syrffio Porthcawl, Llogi Beiciau Rest Bay, Clwb Syrffio Arfordir Cymru ac Academi'r Traeth. Bydd caffi/bistro hefyd yn cael ei agor, a bydd y cyfleuster hefyd yn cynnwys ciosg lluniaeth, toiledau newydd, cawodydd allanol, man storio beiciau pob tywydd, cadeiriau olwyn ar gyfer y traeth a mwy. Hysbysodd y Cyngor y byddai'r ganolfan yn ychwanegiad newydd gwych i Borthcawl, ac o fudd i breswylwyr ac ymwelwyr y naill a'r llall.

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd hefyd fod ysgol fusnes dros dro yn dychwelyd i'r Fwrdeistref Sirol yr wythnos nesaf. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 10am a 3pm yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun 28 Hydref hyd ddydd Gwener 1 Tachwedd. Mae'n anelu i ddarparu'r wybodaeth a'r offer y mae ar bobl eu hangen i gychwyn eu busnes eu hunain.  Gall cyfranogwyr archebu lle drwy ymweld â'r ysgol fusnes dros dro ar wefan Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Cyhoeddodd yr Arweinydd y byddai gofal plant cyfrwng Cymraeg ar gael ym Metws ac ym Mro Ogwr yn fuan. Pwrpas y ddarpariaeth honno oedd cefnogi'r disgyblion fyddai'n cael eu derbyn i Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd ym Metws, a gwblhawyd yn ddiweddar. Bydd dau gyfleuster newydd yn cael eu hadeiladu yn Stad Ddiwydiannol Isfryn ym Melin Ifan Ddu, ac ar safle Clwb Bechgyn a Merched Betws. Cam cyntaf menter i ddatblygu mwy o ofal plant cyfrwng Cymraeg ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw'r cynlluniau, ac yn y camau dilynol byddwn yn canolbwyntio ar gyfleusterau newydd ym Mhorthcawl ac yn ardal tref Pen-y-bont ar Ogwr. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn darparu £2.6 miliwn ar gyfer y gwaith dylunio a datblygu er mwyn sicrhau y bydd plant lleol yn elwa ar amgylcheddau addysgol modern o'r radd flaenaf.

362.

Cynigion ar gyfer Cynllun Datblygu Strategol (CDS) ar gyfer Prifddinas-ranbarth Caerdydd pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd Rheolwr y Gr?p Datblygu am awdurdod i gychwyn paratoi Cynllun Datblygu Strategol (CDS) yn ffurfiol ar gyfer Prifddinas-ranbarth Caerdydd, gyda Chyngor Bro Morgannwg yn Awdurdod Cyfrifol; i nodi'r ardal cynllunio strategol ar ffurf 10 ardal awdurdod cynllunio oddi mewn i Brifddinas-ranbarth Caerdydd, er mwyn i swyddogion perthnasol ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i ddrafftio Rheoliadau'r Cynllun Datblygu Strategol er mwyn creu trefniadau llywodraethu ar gyfer y CDS a'r Panel Cynllunio Strategol (PCS). i gytuno bod y gost o baratoi'r CDS yn cael ei rhannu ar draws y 10 Awdurdod yn ôl eu cyfran o'r costau ar sail trefniadau pleidleisio'r PCS, a gaiff eu hadolygu'n flynyddol, ac i dalu costau cychwynnol sy'n debygol o godi yn y flwyddyn ariannol hon 2019/20, ac enwebu Aelod etholedig i eistedd ar y Panel Cynllunio Strategol.

 

Adroddodd fod y Cyngor, yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror 2018, wedi awdurdodi'r swyddogion i fynd rhagddynt i baratoi'r CDS ar y cyd â'r 10 Awdurdod Cynllunio Lleol ym Mhrifddinas-ranbarth Caerdydd.  Dywedodd nad yw'r canllawiau na'r rheoliadau ar gyfer y CDS wedi'u llunio eto, a bod y rhanbarth mewn sefyllfa i ddylanwadu ar y modd y gellir rheoli'r broses a sicrhau CDS llwyddiannus.  Nodwyd ffordd ymlaen a ffafrir yn gysylltiedig â Ffin yr Ardal Cynllunio Strategol; Llywodraethu a Chwmpas, Cynnwys a Chyfnod y Cynllun. 

 

Adroddodd Rheolwr y Gr?p Datblygu fod angen cydgynllunio mewn modd strategol ym Mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, ac mai'r ffordd orau o wneud hynny oedd drwy greu Cynllun Datblygu Strategol statudol ar gyfer Prifddinas-ranbarth Caerdydd.  Dywedodd fod Cytundeb y Fargen Ddinesig yn creu ymrwymiad i baratoi Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer y rhanbarth, ac i gydweithio ar faterion trafnidiaeth strategol a chynllunio strategol, sy'n adlewyrchu'r argymhelliad yn adroddiad y Comisiwn Twf. Mae CDS statudol yn rhoi sicrwydd i ddatblygwyr, buddsoddwyr a chymunedau fod penderfyniadau strategol ynghylch darparu tai, trafnidiaeth, cyflogaeth a seilwaith yn cael eu gwneud ar lefel ranbarthol briodol, gan sicrhau ar yr un pryd y gellir parhau i wneud penderfyniadau allweddol ynghylch cynigion cynllunio yn lleol drwy ddyraniadau yn y Cynllun Datblygu Lleol a pholisïau, ac wedi hynny mewn penderfyniadau rheoli datblygu. Nododd mai ond Awdurdod Cyfrifol a nodwyd a oedd yn gallu cyflwyno cynnig i Lywodraeth Cymru i symud ymlaen â CDS ar gyfer Prifddinas-ranbarth Caerdydd, ar ôl i'r holl Gynghorau roi cymeradwyaeth ffurfiol. Yn dilyn hyn, gall Llywodraeth Cymru ddechrau paratoi'r rheoliadau angenrheidiol sy'n nodi sut y dylid mynd ati i baratoi'r CDS.

 

Adroddodd Rheolwr y Gr?p Datblygu ar rôl yr awdurdod cyfrifol, nad yw ond yn rôl weinyddol sy'n cefnogi gwaith y 10 awdurdod lleol, ac sy'n gweithredu fel unig bwynt cyswllt rhwng Llywodraeth Cymru a'r 10 o awdurdodau lleol. Byddai'r gwaith cefndirol, gan gynnwys yr holl waith technegol ac ymgynghori, ee, nodi ffin yr ardal cynllunio strategol, yn cael ei gyflawni drwy waith ar y cyd gan swyddogion o bob un o'r 10 Awdurdod Lleol. Rôl yr Awdurdod Cyfrifol fyddai cyflwyno'r cynnig yn ffurfiol ar ran yr holl ranbarth i Lywodraeth Cymru. 

 

Dywedodd wrth y Cyngor fod y 10  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 362.

363.

Adroddiad Blynyddol 2018-19 pdf eicon PDF 86 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro Adroddiad Blynyddol 2018-19 y Cyngor.  Roedd y Cynllun yn diffinio 40 ymrwymiadau er mwyn cyflawni'r tri amcan lles ac yn nodi 58 o ddangosyddion a oedd yn canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19.  Dywedodd fod y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig yn nodi sut y byddai'n gwneud y defnydd gorau o'i adnoddau i gefnogi cyflawni'r amcanion lles a'r dyletswyddau statudol, gan gynnwys rheoli pwysau a risgiau ariannol dros y pedair blynedd nesaf.

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 fod yr adroddiad Blynyddol yn gwerthuso'r graddau y llwyddodd y Cyngor i gyflawni ei ymrwymiadau a'r canlyniadau a gynlluniwyd ganddo ar gyfer y flwyddyn ariannol, gan ddefnyddio ei fesuriadau o lwyddiant a thystiolaeth arall. Ar y cyfan, dywedodd fod y Cyngor wedi perfformio'n dda yn 2018-19, ac o'r 40 o ymrwymiadau, llwyddwyd i gwblhau 35 ohonynt yn llwyddiannus, a chyrraedd cerrig milltir y rhan fwyaf o'r 5 a oedd yn weddill. Dywedodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro wrth y Cyngor fod y Cynllun Corfforaethol wedi nodi 58 o ddangosyddion i fesur llwyddiant, a bod 37 o ddangosyddion yn unol â'r targed, 9 yn llai na 10% oddi wrth y targed, a 10 dros 10% oddi wrth y targed. Dywedodd nad yw'r data ar gyfer yr holl ddangosyddion ar gael, ac felly na ellir cymharu perfformiad y Cyngor â'r perfformiad cenedlaethol.  Yn yr adran 'Sut ydyn ni'n cymharu?', dangosir perfformiad mewn dangosyddion a gyhoeddwyd hyd yma, ac sydd ar gael ar wefan 'Mylocalcouncil'.

 

Gofynnodd aelod o'r Cyngor faint o aelodau staff cyfwerth ag amser llawn sy'n cael eu cyflogi gan y Cyngor ac mewn ysgolion.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg a Chymorth i Deuluoedd fod 3,000 o aelodau staff yn cael eu cyflogi mewn ysgolion.  Dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Cyngor fod gan y Cyngor 5,800 o gyflogeion.

 

Gofynnodd aelod o'r Cyngor a ellid gosod targed mwy heriol ar gyfer defnyddio eiddo gwag o'r newydd. Dywedodd yr aelod Cabinet Lles a Chenedlaethau'r Dyfodol y byddai'n darparu'r wybodaeth am y targed ar gyfer defnyddio eiddo gwag o'r newydd wedi i'r Swyddog Eiddo gwag gael ei benodi.

 

PENDERFYNWYD:        Bod y Cyngor yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol 2018-19.       

      

364.

Newidiadau Arfaethedig i Strwythur Rheoli'r JNC pdf eicon PDF 77 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gofynnodd y Prif Weithredwr am gymeradwyaeth i ddiwygio strwythur yr uwch reolwyr ac i gychwyn ymgynghoriad ffurfiol â swyddogion perthnasol y JNC ynghylch y strwythur a gynigir.

 

Hysbysodd y Cyngor fod strwythur cyflogau a graddfeydd newydd wedi cael ei gymeradwyo ym mis Tachwedd 2017, lle ychwanegwyd haenau ychwanegol at y raddfa gyflogau bresennol, i greu mwy o hyblygrwydd o fewn y strwythur. Gwnaed hyn er mwyn ymateb i heriau'r dyfodol, ac fel bod y Cyngor yn gallu ymateb yn well i rymoedd y farchnad a gwella cyfraddau recriwtio a chadw. Ym mis Chwefror 2018, cymeradwyodd y Cyngor sawl newid i strwythur uwch reoli'r JNC. Roedd hyn yn cynnwys dileu'r Pennaeth Adnoddau Dynol a Datblygu Trefniadol, cael gwared â swydd Pennaeth Gwasanaeth yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau a dileu swydd flaenorol y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn y Gyfarwyddiaeth Weithredol a Phartneriaethau. Canlyniad y newidiadau oedd diwygio'r strwythur rheoli yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau a chreu Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr y cafwyd newidiadau pellach i'r uwch dîm rheoli, gydag ymadawiad y Prif Weithredwr blaenorol ym mis Rhagfyr 2018, a phenodiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau blaenorol i swydd y Prif Weithredwr ym mis Ionawr 2019, dros dro i ddechrau ac wedyn yn barhaol ym mis Mai 2019.  Dywedodd fod hyn wedi golygu mai dros dro yn bennaf oedd y trefniadau a gafwyd yn ystod y cyfnod hwn er mwyn rheoli'r Gyfarwyddiaeth Cymunedau ac ar gyfer y Pennaeth Cyllid a Pherfformiad (a Swyddog Adran 151). Drwy'r trefniadau dros dro llwyddwyd i sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i gael eu cynnal yn foddhaol dros y cyfnod hwn, ond roedd hi'n glir nad oedd y trefniadau hynny'n gynaliadwy dros y tymor hir, a bod angen trefniadau parhaol i sicrhau bod gan y Cyngor y capasiti a'r gwytnwch i ymateb i'r heriau niferus o'i flaen yn y dyfodol. Roedd yr heriau hyn yn cynnwys gostyngiadau mawr i'r gyllideb ac agenda o newid sylweddol er mwyn helpu i sicrhau bod modd cynnal gwasanaethau cyhoeddus a'u bod yn addas i'r diben.  Er mwyn sicrhau sefydlogrwydd yn y Gyfarwyddiaeth Cymunedau, dywedodd wrth y Cyngor y byddai proses yn cael ei chynnal yn unol â Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 (fel y'u diwygiwyd) i benodi i swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol.

 

Adroddodd am gynnig y dylid ailddynodi swydd gyfredol y Pennaeth Cyllid a Pherfformiad (a swyddog adran 151), sydd yn wag ar hyn o bryd, yn Brif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid.  Byddai deilydd y swydd yn dal i adrodd yn uniongyrchol wrth y Prif Weithredwr yn rhan o Gyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr ac yn ysgwyddo cyfrifoldeb ychwanegol i alinio adnoddau ariannol y Cyngor a'i rhaglen newid corfforaethol. Dywedodd ei bod hi'n ymrwymiad statudol i'r Cyngor enwebu Swyddog Adran 151, a'i bod yn hanfodol penodi unigolyn i'r swydd.  Hysbysodd y Cyngor am y cynnig y dylid defnyddio'r ystod cyflog £91,121 i £97,469 ar gyfer rôl y Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid.  Byddai'r rôl yn cynnwys cyfrifoldeb dros y Pennaeth Partneriaethau cyfredol, sy'n cynnwys TG, trawsnewid digidol, rheoli rhaglenni a gwasanaethau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 364.

365.

Y Diweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf - Chwarter 2 2019-20 pdf eicon PDF 437 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog 151 Dros Dro adroddiad i gydymffurfio â gofyniad Cod Cyllid Cyfalaf Darbodus 2018 y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth; rhoddodd y newyddion diweddaraf am Raglen Gyfalaf 2019-20 ar 30 Medi 2019; gofynnodd am gymeradwyaeth ar gyfer rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer *** yfer 2019-20 hyd 2028-29, ac i'r Cyngor nodi'r Dangosyddion Darbodus a'r Dangosyddion Eraill a ragamcanwyd ar gyfer 2019-20.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog 151 Dros Dro fod Rheoliadau Awdurdod Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003, fel y cawsant eu diwygio, yn cynnwys darpariaethau manwl ar gyfer rheolaethau cyllid cyfalaf a chyfrifyddu, gan gynnwys y rheolau ar ddefnyddio derbyniadau cyfalaf, a'r hyn y dylid ei drin fel gwariant cyfalaf.  Yn ogystal â hynny, mae'r Cyngor yn rheoli ei weithgareddau Rheoli Trysorlys a Chyfalaf yn unol â chanllawiau cysylltiedig.  Yn ôl y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol sefydlu Strategaeth Gyfalaf sy'n dangos bod yr awdurdod yn gwneud penderfyniadau ynghylch gwario a buddsoddi cyfalaf yn unol ag amcanion gwasanaethau, a'i fod yn rhoi ystyriaeth briodol i stiwardiaeth, sicrhau gwerth am arian, darbodusrwydd, cynaliadwyedd a fforddiadwyedd.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y Cyngor, ar 20 Chwefror 2019, wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf, a gafodd ei diweddaru ar 24 Gorffennaf 2019.  Dywedodd fod y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2019-20 yn cynnwys cyfanswm o £38.133m. Defnyddir adnoddau'r Cyngor i dalu £18.504m o'r swm hwn, ac adnoddau allanol i dalu'r £19,629 sy'n weddill.  Rhoddodd grynodeb o'r sefyllfa fesul Cyfarwyddiaeth, a'r rhagdybiaethau cyllido cyfredol ar gyfer rhaglen gyfalaf 2019-20.  Rhoddodd fanylion am y gwariant a ragamcanwyd ar gynlluniau unigol o fewn y rhaglen, o gymharu â'r gyllideb a oedd ar gael.  Roedd nifer o gynlluniau wedi'u nodi'n gynlluniau yr oedd angen arian llithriant ar eu cyfer yn y blynyddoedd nesaf. Yn chwarter 2, cyfanswm yr arian llithriant a geisiwyd oedd £18,858 miliwn, yn gysylltiedig â'r canlynol:

 

·       Rhesymoli Depo (£7.802m)

·       Rhaglen Amnewid Fflyd (£1.672m)

·       Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif (£0.543m)

·       Adleoli Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref (£ 1.292m)

·       Cryfhau Pont Briffordd / Ail-wynebu Cerbytffordd (£3.583m)

·       Cronfa Rheoli Asedau Cyfalaf (£0.8m)

·       Strategaeth Arbedion Ynni Landlordiaid Corfforaethol (£0.585m)

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod nifer o gynlluniau newydd wedi'u hariannu'n allanol wedi cael eu cymeradwyo, a bod y rheiny wedi'u hymgorffori yn y rhaglen gyfalaf:

 

·       Canolfan Gymunedol - Ysgol Gyfun Brynteg

·       Parc Rhanbarthol y Cymoedd - Bryncarw a Pharc Slip

·       Rhwydwaith Gwres Caerau

·       Grant Ysgogi Economaidd

 

Rydym yn disgwyl cadarnhad ynghylch cyllid allanol ar gyfer nifer o gynlluniau o fewn y rhaglen gyfalaf, ac ar ôl cael gwybod am y cyllid sydd wedi'i gymeradwyo, mae'n bosibl y bydd angen ailbroffilio rhai o'r cynlluniau. 

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro hefyd ar waith monitro Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion Eraill ar gyfer 2019-20.  Bwriedir i'r Strategaeth Cyfalaf a gymeradwywyd ym mis Chwefror 2019 roi trosolwg o'r modd y mae gwariant cyfalaf, cyllid cyfalaf a gweithgarwch rheoli trysorlys yn cyfrannu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 365.

366.

Rheoli'r Trysorlys - Adroddiad Hanner Blwyddyn 2019-20 pdf eicon PDF 802 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Dros Dro a Swyddog Adran 151 adroddiad. Pwrpas yr adroddiad oedd cydymffurfio â gofyniad Rheoli Trysorlys mewn Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer (y Cod) y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth, sef rhoi trosolwg o weithgareddau trysorlys yn rhan o adolygiad canol blwyddyn. adrodd ar y Dangosyddion Rheoli Trysorlys a ragamcanwyd ar gyfer 2010-20 a gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer gweithgareddau Rheoli Trysorlys yn y cyfnod 1 Ebrill 2019 hyd 30 Medi 2019.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro mai Rheoli Trysorlys yw'r rheolaeth ar lifoedd arian, benthyciadau a buddsoddiadau'r Cyngor, a'r risgiau cysylltiedig.  Mae'r Cyngor yn agored i risgiau ariannol, gan gynnwys colli arian a fuddsoddwyd ac effaith cyfraddau llog newidiol ar refeniw.  Cyflawnir gwaith rheoli risg Trysorlys y Cyngor oddi mewn i fframwaith Rheoli Trysorlys mewn Gwasanaethau Cyhoeddus: Cod Ymarfer 2017 y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (Cod CIPFA). Yn ôl y Cod mae'n ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli Trysorlys (SRhT) cyn dechrau pob blwyddyn ariannol.  Mae Arlingclose yn cynghori'r Cyngor ynghylch rheoli trysorlys.

 

Adroddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro fod y farn ynghylch cyfraddau llog a gafwyd yn SRhT y Cyngor ar gyfer 2019-20 yn seiliedig ar farn swyddogion, ar sail rhagolygon gan Arlingclose. Pan luniwyd SRhT 2019-20 ym mis Ionawr 2019, oherwydd y cyfnod byr a ragwelwyd i ddod i gytundeb ymadael yn gysylltiedig â Brexit, a'r posibilrwydd o gyfnod estynedig o ansicrwydd yn sgil hynny, senario achos canolog Arlingclose oedd rhagweld 0.25% o gynnydd yng Nghyfradd y Banc yn ystod 2019-20 a fyddai'n codi cyfraddau llog swyddogol y DU i 1.00% erbyn mis Rhagfyr 2019.  Dechreuodd Cyfradd y Banc y flwyddyn ariannol ar 0.75%, ac yn ôl y rhagolygon cyfredol bydd yn parhau ar y lefel hon ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro grynodeb o'r sefyllfa o ran buddsoddiadau a dyledion allanol ar 30 Medi 2019, sef bod y Cyngor yn dal £96.87m o fenthyciadau hirdymor allanol a £43.75m o fuddsoddiadau. Tynnodd sylw at y strategaeth fenthyca a'r alldro a ragfynegai y byddai angen i'r Cyngor fenthyca £16m yn 2019-20.  Ni fyddai angen unrhyw fenthyciadau hirdymor yn 2019-20, gan fod grantiau ychwanegol wedi'u derbyn yn chwarter olaf 2018-19, ac yn sgil newid i'r rhaglen gyfalaf ar gyfer 2019-20.  Rhoddodd y Pennaeth Cyllid a Swyddog Adran 151 Dros Dro grynodeb o'r strategaeth a'r alldro fuddsoddi gan esbonio mai'r prif amcanion yn ystod 2019-20 oedd cadw cyfalaf yn ddiogel; cynnal hylifedd cyllid fel bo modd cael gafael ar gyllid ar gyfer gwariant angenrheidiol, ac er mwyn sicrhau'r enillion ar fuddsoddiadau sy'n gymesur â lefelau diogelwch a hylifedd priodol.  Balans buddsoddiadau ar 30 Medi 2019 oedd £43.75m  Rhoddodd grynodeb o'r proffil buddsoddi o 1 Ebrill hyd 30 Medi 2019; y dangosydd Rheoli Trysorlys ar gyfer Prif Symiau a fuddsoddwyd am gyfnodau hwy na blwyddyn, a sefyllfa buddsoddiadau hirdymor.

 

Gofynnodd aelod o'r Cyngor a roddwyd ystyriaeth i fodelau buddsoddi amgen a ffafrir gan awdurdodau lleol eraill.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 366.

367.

Newid Aelodaeth Pwyllgorau, Rhaglen Gyfarfodydd a Phwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyfun pdf eicon PDF 77 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Swyddog Monitro am gymeradwyaeth i dderbyn enwebiadau a phenodi Cynghorwyr i wasanaethu ar y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn sgil newidiadau diweddar a oedd yn effeithio ar y Gr?p Ceidwadol, nad ydynt yn effeithio ar gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor; cymeradwyo Pwyllgor Trosolwg a Chraffu cyfun i ystyried y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC) a chymeradwyo rhaglen arfaethedig o gyfarfodydd i ystyried y SATC.

 

Roedd y Cynghorydd Webster yn dymuno cofnodi ei diolch i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a Chymorth i Deuluoedd a'r Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio am y gefnogaeth ragorol a gafodd fel Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 1. Bu cyflawni'r rôl yn fraint iddi, a diolchodd i'r Cyngor am y cyfle hwnnw. Diolchodd y Cynghorydd Webster i'r Swyddogion Craffu am eu cymorth, eu cyngor a'u harweiniad gwerthfawr yn ystod ei chyfnod fel Cadeirydd.

 

PENDERFYNWYD:           Bod y Cyngor:     

 

(1)  yn derbyn enwebiadau ac yn penodi'r Cynghorwyr i wasanaethu ar y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ac ar y Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned yn sgil newidiadau diweddar a oedd yn effeithio ar y Gr?p Ceidwadol, fel yr amlinellwyd ym mharagraff 4.1 yr adroddiad;

 

(2)   yn derbyn enwebiad ac yn ethol y Cynghorydd T Giffard, Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 1, fel yr amlinellwyd ym mharagraff 4.2 yr adroddiad;

 

(3)   yn cymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i'r rhaglen o gyfarfodydd, fel yr amlinellwyd ym mharagraff 4.4 yr adroddiad;

 

(4)   yn cymeradwyo, os ceir unrhyw newidiadau pellach i ddyddiadau'r setliadau llywodraeth leol terfynol ar gyfer 2020/21, y dylid dirprwyo awdurdod i newid dyddiadau cyfarfodydd y Pwyllgorau hyn i'r Swyddog Monitro, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, y Swyddog Adran 151 ac Arweinwyr y Grwpiau.

 

(5)   yn cymeradwyo ffurfio Pwyllgor Trosolwg a Chraffu cyfun, sy'n cynnwys aelodau o'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol a'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Pwnc 1, 2 a 3 i ystyried y SATC;

 

(6) yn nodi y byddai cyfarfod y Cabinet a drefnwyd ar gyfer 11 Chwefror 2020 bellach yn cael ei gynnal ar 25 Chwefror 2020.

368.

Derbyn y Cwestiwn canlynol gan:

Cynghorydd A Hussain i’r Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Mae cynnydd wedi bod yn y nifer o blant h?n sydd ag anghenion mwy cymhleth yn mynd i ofal. A all yr Aelod Cabinet roi gwybod i'r Cyngor sawl plentyn o'r fath sydd mewn gofal yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac a allai hefyd roi sylw penodol i'w lleoliad?

Cofnodion:

Cwestiwn gan y Cynghorydd A Hussain i'r Aelod Cabinet y Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

 

Bu cynnydd yn nifer y pant h?n a chanddynt anghenion mwy cymhleth sy'n cael eu derbyn i ofal.

 

A allai'r Aelod Cabinet roi gwybod i'r Cyngor faint o'r plant hynny sy'n derbyn gofal yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac a allai hefyd roi disgrifiad bras o'u lleoliad?

 

Ymateb yr Aelod Cabinet

 

Er bod nifer y plant dan ofal yng Nghymru wedi cynyddu dros y pedair blynedd diwethaf, mae cyfran y plant dros 10 oed wedi parhau'n sefydlog (52.22% yn 2014 a 52.85% yn 2018).

 

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn gyffredinol, mae'r boblogaeth o Blant Dan Ofal wedi gostwng o 412 yn 2014 i 381 yn 2019. Mae'r gyfran o blant dros 10 oed wedi parhau'n weddol sefydlog - 51% yn 2014 o gymharu â 54.1% yn 2019, sydd yn agos at y proffil cenedlaethol.

 

Caiff rhai plant eu lleoli mewn darpariaeth breswyl y tu allan i'r awdurdod, neu gydag Asiantaethau Maethu Annibynnol, ac i gydnabod hyn mae ein Rhaglen Ailfodelu wedi rhoi'r flaenoriaeth i ddatblygu ein darpariaeth breswyl fewnol a'n gwasanaethau maethu ymhellach er mwyn inni allu bodloni'r angen hwnnw'n well a lleoli plant yn lleol ac yn fewnol, lle bo modd. Ers 2014, mae nifer y plant yn y gr?p oedran hwn a leolir gyda gofalwyr maeth mewnol wedi cynyddu o 95 yn 2014 i 118 yn 2019 (o gymharu â gostyngiad o 80 i 47 yn y nifer a leolwyd gydag Asiantaethau Maethu Annibynnol), ac fe ostyngodd y nifer a leolwyd mewn darpariaeth breswyl annibynnol o 13 yn 2014 i 5 yn 2019.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hussain gwestiwn atodol - o wybod bod mwy o arian trethdalwyr yn cael ei wario ar hanner y plant hyn sydd wedi'u lleoli gydag asiantaethau annibynnol, sut mae'r Cyngor yn olrhain eu cynlluniau a'u hasesiadau iechyd?  A pha mor aml fydd yr asiantaethau hyn yn cael eu hadolygu a'u harolygu, a beth yw cyfanswm yr arian a delir i asiantaethau annibynnol. 

 

Barnodd y Maer nad oedd y cwestiwn atodol yn unol â'r drefn, gan nad oedd yn berthnasol i'r cwestiwn a ofynnwyd yn wreiddiol. Dywedodd wrth y Cynghorydd Hussain y dylai gyflwyno ei gwestiwn i gyfarfod nesaf y Cyngor.   

369.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.