Agenda a Chofnodion

Is-Bwyllgor Trwyddedu (A) - Dydd Mawrth, 19eg Tachwedd, 2019 10:00

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

226.

Datgan Budd

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Derbyniwyd datganiadau gan yr Aelodau canlynol:

Y Cynghorydd D Owen - buddiant rhagfarnus yn eitem 14 ar yr agenda – roedd yn adnabod teulu’r ymgeisydd.

Y Cynghorydd DRW Lewis – buddiant rhagfarnus yn eitem 9 ar yr agenda – roedd yr ymgeisydd yn gymydog i'r Cynghorydd Lewis.

Y Cynghorydd R Collings – diddordeb personol yn eitem 6 ac eitem 10 ar yr agenda – mae'r Cynghorydd R Collings yn gwybod enw un o'r gyrwyr.

 

Gadawodd y Cynghorydd D Owen a'r Cynghorydd DRW Lewis y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar eu heitemau perthnasol ar yr agenda.

 

Gofynnwyd i'r aelodau ethol cadeirydd ar gyfer y cyfarfod er mwyn ystyried eitem 9 ar yr agenda yn absenoldeb y Cynghorydd DRW Lewis. Etholodd yr Is-Bwyllgor y Cynghorydd M Kearn fel cadeirydd.

227.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 62 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 30/07/2019 a 09/08/2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:    Bod cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 30/07/19 a 09/08/19 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod manwl gywir.

228.

Cais Am Drwyddedu Cerbyd Llogi Preifat pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i’r Is-Bwyllgor ystyried cais am ddyfarnu trwydded ar gyfer cerbyd Llogi Preifat.

 

Roedd y cais yn cael ei gyflwyno gan Wayne Davies o Ben-y-fai, Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer trwyddedu Mercedes Benz C200 Sport Premium + Auto, rhif cofrestru cerbyd HK68 DKX, fel cerbyd llogi preifat i ddal 4 o bobl. Roedd cyn-berchnogaeth ar y cerbyd a chafodd ei gofrestru gyntaf gyda’r DVLA ar 7 Ionawr 2019.

 

Archwiliwyd y cerbyd gan yr Is-Bwyllgor.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu wrth yr aelodau mai’r cyfanswm milltiroedd presennol yr oedd y cerbyd wedi’u gwneud oedd 12,471. Nododd fod y cais y tu allan i’r Polisi Cerbydau Hacni sydd wedi’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu, am y rhesymau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Nid oedd y cerbyd yn gallu derbyn cadeiriau olwyn, ond roedd canllawiau polisi penodol yng nghyswllt trwyddedu cerbydau Llogi Preifat am y tro cyntaf a oedd y tu allan i’r canllawiau polisi, a amlinellir ym mharagraff 4.6 o'r adroddiad.

 

Er gwybodaeth i'r aelodau, ni ddarparwyd gwybodaeth am hanes y gwasanaeth roedd y cerbyd wedi'i gael nac MOT gan nad oedd hynny'n ofynnol oherwydd oedran y cerbyd.

 

PENDERFYNWYD:    Ystyriodd yr Is-Bwyllgor y cais am gofrestru HK68 DKX fel cerbyd llogi preifat.

 

Nododd yr aelodau nad oedd yn dod o dan bolisi 2.1 oherwydd oedran a milltiroedd y cerbyd.

 

Nododd yr aelodau y gellid llacio’r polisi fel y nodir ym mhara 2.2 y polisi oherwydd ansawdd eithriadol uchel y tu mewn a’r tu allan a’r safonau diogelwch eithriadol uchel. O’r herwydd, roedd yr Is-Bwyllgor yn hapus i ddyfarnu’r drwydded

229.

Cais Am Drwyddedu Cerbyd Hacni pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i’r Is-Bwyllgor ystyried cais am ddyfarnu trwydded ar gyfer Cerbyd Hacni.

 

Cyflwynwyd y cais gan Andrew Jackson i drwyddedu Dacia Logan, rhif cofrestru cerbyd KP16 ULG fel Cerbyd Hacni i ddal 4 o bobl. Roedd cyn-berchnogaeth ar y cerbyd a chafodd ei gofrestru gyntaf gyda’r DVLA ar 11 Gorffennaf 2016.

 

Archwiliwyd y cerbyd gan yr Is-Bwyllgor.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu wrth yr aelodau mai’r cyfanswm milltiroedd presennol yr oedd y cerbyd wedi’u gwneud oedd 15,046. Nododd fod y cais y tu allan i’r Polisi Cerbydau Hacni sydd wedi’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu, am y rhesymau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Nid oedd y cerbyd yn gallu derbyn cadeiriau olwyn, ond roedd canllawiau polisi penodol yng nghyswllt trwyddedu Cerbydau Hacni am y tro cyntaf a oedd y tu allan i’r canllawiau polisi, a amlinellir ym mharagraff 4.6 o'r adroddiad.

 

Er gwybodaeth i’r aelodau, darparwyd hanes y gwasanaeth roedd y cerbyd wedi'i gael ar 14 Gorffennaf 2017 pan oedd nifer y milltiroedd yn 6,517 ac ar 8 Ebrill pan oedd nifer y milltiroedd yn 14,634. Darparwyd tystysgrif MOT dyddiedig 8 Ebrill 2019 lle cofnodwyd nifer y milltiroedd yn 14,630.

 

PENDERFYNWYD:    Ystyriodd yr Is-Bwyllgor y cais am gofrestru KP16 ULG fel Cerbyd Hacni.

 

Nododd yr aelodau nad oedd yn dod o dan bolisi 2.1 oherwydd oedran a milltiroedd y cerbyd.

 

Nododd yr aelodau y gellid llacio’r polisi fel y nodir ym mhara 2.2 y polisi oherwydd ansawdd eithriadol uchel y tu mewn a’r tu allan a’r safonau diogelwch eithriadol uchel. O’r herwydd, roedd yr Is-Bwyllgor yn hapus i ddyfarnu’r drwydded

230.

Cais Am Drwyddedu Cerbyd Hacni pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i’r Is-Bwyllgor ystyried cais am ddyfarnu trwydded ar gyfer Cerbyd Hacni.

 

Cyflwynwyd y cais gan Liam Morgan a David Stolzenburg, sy'n masnachu fel Llynfi Coaches o Faesteg i drwyddedu Dacia Logan, rhif cofrestru cerbyd CE69 POU fel Cerbyd Hacni i ddal 4 o bobl. Roedd cyn-berchnogaeth ar y cerbyd a chafodd ei gofrestru gyntaf gyda’r DVLA ar 26 Medi 2019.

 

Archwiliwyd y cerbyd gan yr Is-Bwyllgor.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu wrth yr aelodau mai’r cyfanswm milltiroedd presennol yr oedd y cerbyd wedi’u gwneud oedd 89. Nododd fod y cais y tu allan i’r Polisi Cerbydau Hacni sydd wedi’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu, am y rhesymau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Nid oedd y cerbyd yn gallu derbyn cadeiriau olwyn, ond roedd canllawiau polisi penodol yng nghyswllt trwyddedu Cerbydau Hacni am y tro cyntaf a oedd y tu allan i’r canllawiau polisi, a amlinellir ym mharagraff 4.4 o'r adroddiad.

 

Er gwybodaeth i'r aelodau, ni ddarparwyd unrhyw hanes gwasanaeth na thystysgrif MOT gan nad oedd yn ofynnol cael un.

 

PENDERFYNWYD:    Ystyriodd yr Is-Bwyllgor y cais am gofrestru CE69 POU fel Cerbyd Hacni.

            

Nododd yr aelodau nad oedd yn dod o dan bolisi 2.1 oherwydd oedran a milltiroedd y cerbyd.

 

Nododd yr aelodau y gellid llacio’r polisi fel y nodir ym mhara 2.2 y polisi oherwydd ansawdd eithriadol uchel y tu mewn a’r tu allan a’r safonau diogelwch eithriadol uchel. O’r herwydd, roedd yr Is-Bwyllgor yn hapus i ddyfarnu’r drwydded

231.

Cais Am Drwyddedu Cerbyd Hacni pdf eicon PDF 107 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i’r Is-Bwyllgor ystyried cais am ddyfarnu trwydded ar gyfer Cerbyd Hacni.

 

Cyflwynwyd y cais gan Paul Brain - Peyton Travel o Ben-y-bont ar Ogwr i drwyddedu bws mini Renault Master, rhif cofrestru cerbyd PO61 FHT fel Cerbyd Hacni i ddal 8 o bobl. Roedd cyn-berchnogaeth ar y cerbyd a chafodd ei gofrestru gyntaf gyda’r DVLA ar 11 Ionawr 2012.

 

Archwiliwyd y cerbyd gan yr Is-Bwyllgor.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu wrth yr aelodau mai’r cyfanswm milltiroedd presennol yr oedd y cerbyd wedi’u gwneud oedd 85,725. Nododd fod y cais y tu allan i’r Polisi Cerbydau Hacni sydd wedi’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu, am y rhesymau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Dywedodd wrth yr Aelodau fod y cerbyd yn gallu derbyn cadeiriau olwyn.

 

Darparwyd hanes y gwasanaeth roedd y cerbyd wedi'i gael ar 10 Awst 2014 gyda chyfanswm y milltiroedd yn 25,275, 24 Ebrill 2016 yn 42,882, 22 Chwefror 2017 yn 51,669 ac 17 Tachwedd 2018 yn 76,128.

 

Gofynnodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu i Mr Brain am ragor o wybodaeth am gefndir y cerbyd.

 

Eglurodd Mr Brain fod y cerbyd wedi'i adeiladu'n wreiddiol ar gyfer cludo nwyddau. Cyn iddo ei brynu, cafodd y cerbyd ei droi'n gerbyd teithwyr. Eglurodd fod y cwmni trawsnewid wedi gwneud hyn yn 2012 yn fuan cyn iddo brynu’r cerbyd.

 

PENDERFYNWYD:    Ystyriodd yr Is-Bwyllgor y cais am gofrestru PO61 FHT fel Cerbyd Hacni.

 

Nododd yr aelodau nad oedd yn dod o dan bolisi 2.1 oherwydd oedran a milltiroedd y cerbyd.

 

Nododd yr aelodau y gellid llacio’r polisi fel y nodir ym mhara 2.2 y polisi oherwydd ansawdd eithriadol uchel y tu mewn a’r tu allan a’r safonau diogelwch eithriadol uchel. O’r herwydd, roedd yr Is-Bwyllgor yn hapus i ddyfarnu’r drwydded

232.

Cais Am Drwyddedu Cerbyd Hacni pdf eicon PDF 107 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i’r Is-Bwyllgor ystyried cais am ddyfarnu trwydded ar gyfer Cerbyd Hacni.

 

Cyflwynwyd y cais gan Paul Brain - Peyton Travel o Ben-y-bont ar Ogwr i drwyddedu bws mini Renault Master, rhif cofrestru cerbyd PO61 FKB fel Cerbyd Hacni i ddal 8 o bobl. Roedd cyn-berchnogaeth ar y cerbyd a chafodd ei gofrestru gyntaf gyda’r DVLA ar 4 Ionawr 2012.

 

Archwiliwyd y cerbyd gan yr Is-Bwyllgor.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu wrth yr aelodau mai’r cyfanswm milltiroedd presennol yr oedd y cerbyd wedi’u gwneud oedd 85,059. Nododd fod y cais y tu allan i’r Polisi Cerbydau Hacni sydd wedi’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu, am y rhesymau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Nid oedd y cerbyd yn gallu derbyn cadeiriau olwyn, ond roedd canllawiau polisi penodol yng nghyswllt trwyddedu Cerbydau Hacni am y tro cyntaf a oedd y tu allan i’r canllawiau polisi, a amlinellir ym mharagraff 4.4 o'r adroddiad.

 

Darparwyd hanes y gwasanaeth roedd y cerbyd wedi'i gael ar 21 Mehefin 2013 gyda chyfanswm y milltiroedd yn 21,559, 27 Chwefror 2015 yn 42,277, 7 Hydref 2017 yn 61,739 a 24 Ionawr 2019 yn 79,419.

 

Gofynnodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu i Mr Brain am ragor o wybodaeth am gefndir y cerbyd.

 

Eglurodd Mr Brain fod y cerbyd wedi dod yn uniongyrchol o'r GIG. Cafodd y cerbyd ei addasu pan oedd yn newydd. Eglurodd Mr Brain ei fod wedi ceisio cael rhagor o wybodaeth gan y cwmni a oedd yn gyfrifol am ei drawsnewid ond gan fod ganddynt system newydd ers 2012, collwyd llawer o'r cofnodion.

 

PENDERFYNWYD:    Ystyriodd yr Is-Bwyllgor y cais am gofrestru PO61 FKB fel Cerbyd Hacni.

 

Nododd yr aelodau nad oedd yn dod o dan bolisi 2.1 oherwydd oedran a milltiroedd y cerbyd.

 

Nododd yr aelodau y gellid llacio’r polisi fel y nodir ym mhara 2.2 y polisi oherwydd ansawdd eithriadol uchel y tu mewn a’r tu allan a’r safonau diogelwch eithriadol uchel. O’r herwydd, roedd yr Is-Bwyllgor yn hapus i ddyfarnu’r drwydded

233.

Cais Am Drwyddedu Cerbyd Hacni pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gadawodd y Cynghorydd DRW yr ystafell yn ystod yr eitem hon. Y Cynghorydd M Kearn oedd y cadeirydd.

 

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i’r Is-Bwyllgor ystyried cais am ddyfarnu trwydded ar gyfer Cerbyd Hacni.

 

Cyflwynwyd y cais gan Andrew Thomas, Brynmenyn, Pen-y-bont ar Ogwr i drwyddedu Dacia Logan MCV Ambiance, rhif cofrestru cerbyd CK64 WTP fel Cerbyd Hacni i ddal 4 o bobl. Roedd cyn-berchnogaeth ar y cerbyd a chafodd ei gofrestru gyntaf gyda’r DVLA ar 4 Ionawr 2015.

 

Archwiliwyd y cerbyd gan yr Is-Bwyllgor.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu wrth yr aelodau mai’r cyfanswm milltiroedd presennol yr oedd y cerbyd wedi’u gwneud oedd 48,745. Nododd fod y cais y tu allan i’r Polisi Cerbydau Hacni sydd wedi’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu, am y rhesymau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Dywedodd wrth yr Aelodau nad oedd y cerbyd yn gallu derbyn cadeiriau olwyn.

 

Dywedodd Mr Thomas iddo brynu’r cerbyd ei hun ym mis Chwefror 2019. Fodd bynnag, roedd y cerbyd wedi cael ei atal fel cerbyd tacsi trwyddedig ers mis Awst 2018 gan nad oedd wedi ymddangos i gael ei archwilio.

 

Ychwanegodd Mr Thomas fod y cerbyd wedi'i ddifrodi pan brynodd ef, gyda llawer o broblemau gyda'r corff. Dywedodd fod arwyddion o ddifrod mawr yn sgil d?r ar y cerbyd, gan fod y cerbyd wedi bod yn llonydd am nifer o fisoedd gyda d?r yn dod i mewn iddo.

 

Gofynnodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu i Mr Thomas esbonio pam mae'r milltiroedd yn wahanol nawr o'u cymharu â phan oedd wedi'i drwyddedu cynt.

 

Eglurodd Mr Thomas fod yr ECU yn y car presennol wedi ei ddifrodi, yn sgil y difrod d?r yn ôl pob tebyg. Penderfynodd geisio cael un newydd yn ei le gan ddefnyddio ECU o gerbyd arall i weld a oedd yn gweithio, a dyna a wnaeth.

 

Gofynnodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu i Mr Thomas a oedd yn gwybod bod y car penodol wedi cael ei alw'n ôl gan y gwneuthurwr ac a oedd yn gwybod pam. Roedd Mr Thomas yn ymwybodol bod y car wedi cael ei alw'n ôl ond nid oedd yn si?r pam.

 

PENDERFYNWYD:    Dyma oedd y penderfyniad:

 

"Mae'r Pwyllgor wedi ystyried eich cais i drwyddedu Dacia Logan, rhif cofrestru CK64 WTP.  Mae'r Pwyllgor wedi archwilio'r cerbyd ac nid yw'n fodlon bod y cerbyd mewn cyflwr eithriadol, y tu mewn a’r tu allan.  Mae nifer o dolciau ar y tu allan a rhwd y tu mewn oherwydd y difrod d?r.  Nid yw'r Pwyllgor yn fodlon bod y cerbyd yn cynnig safon eithriadol o ddiogelwch gan fod y cerbyd wedi cael ei alw'n ôl gan Dacia a bod cyflwr cyffredinol y cerbyd yn wael.  Ar ôl ystyried Datganiad y Polisi Trwyddedu mae'r Pwyllgor wedi penderfynu nad yw'r cerbyd yn bodloni gofynion y cofrestriad cyntaf ac nad yw'n bodloni'r eithriadau o ran cyflwr y cerbyd. Ar y sail honno, penderfynwyd peidio â dyfarnu’r drwydded.”

234.

Cais Am Drwyddedu Cerbyd Hacni pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i’r Is-Bwyllgor ystyried cais am ddyfarnu trwydded ar gyfer Cerbyd Hacni.

 

Cyflwynwyd y cais gan Liam Morgan a David Stolzenburg, sy'n masnachu fel Llynfi Coaches of Maesteg i drwyddedu Dacia Logan, rhif cofrestru cerbyd CE69 KOU fel Cerbyd Hacni i ddal 4 o bobl. Roedd cyn-berchnogaeth ar y cerbyd a chafodd ei gofrestru gyntaf gyda’r DVLA ar 26 Medi 2019.

 

Archwiliwyd y cerbyd gan yr Is-Bwyllgor.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Trwyddedu wrth yr aelodau mai’r cyfanswm milltiroedd presennol yr oedd y cerbyd wedi’u gwneud oedd 68. Nododd fod y cais y tu allan i’r Polisi Cerbydau Hacni sydd wedi’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu, am y rhesymau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad.

 

Nid oedd y cerbyd yn gallu derbyn cadeiriau olwyn, ond roedd canllawiau polisi penodol yng nghyswllt trwyddedu Cerbydau Hacni am y tro cyntaf a oedd y tu allan i’r canllawiau polisi, a amlinellir ym mharagraff 4.4 o'r adroddiad.

 

Er gwybodaeth i'r aelodau, ni ddarparwyd unrhyw hanes gwasanaeth na thystysgrif MOT gan nad oedd yn ofynnol cael un.

 

PENDERFYNWYD:    Ystyriodd yr Is-Bwyllgor y cais am gofrestru CE69 KOU fel Cerbyd Hacni.

 

Nododd yr aelodau nad oedd yn dod o dan bolisi 2.1 oherwydd oedran a milltiroedd y cerbyd.

 

Nododd yr aelodau y gellid llacio’r polisi fel y nodir ym mhara 2.2 y polisi oherwydd ansawdd eithriadol uchel y tu mewn a’r tu allan a’r safonau diogelwch eithriadol uchel. O’r herwydd, roedd yr Is-Bwyllgor yn hapus i ddyfarnu’r drwydded

 

235.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim

236.

Eithrio’r Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion ac adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol

(Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: O dan Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod wrth ystyried yr eitemau busnes canlynol, gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 12 Rhan 4 a/neu Baragraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

Ar ôl gweithredu’r prawf budd cyhoeddus, penderfynwyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ystyried yr eitemau canlynol yn breifat, gan eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod, oherwydd credid, o dan yr holl amgylchiadau perthnasol i’r eitemau, bod y budd cyhoeddus o ran cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus o ddatgelu’r wybodaeth, oherwydd byddai’r wybodaeth yn creu rhagfarn i’r ymgeiswyr a grybwyllir.                   

237.

Cymeradwyo Cofnodion Eithriedig

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion eithrio cyfarfod y 30/07/2019 a 09/08/2019

238.

Gwrandawiad Disgyblu Ar Gyfer Gyrrwr Tacsi Presennol