Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Michael Pitman
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.
|
|
Datgan Budd Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Cofnodion: Dim |
|
Cymeradwyo Cofnodion PDF 64 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 27/08/2019 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27/08/19 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod manwl gywir. |
|
Cais am Drwyddedu Cerbyd Llogi Preifat PDF 100 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i’r Is-Bwyllgor ystyried cais am ddyfarnu trwydded ar gyfer cerbyd llogi preifat.
Roedd yr adroddiad yn dweud bod y cais yn cael ei gyflwyno gan Robert Sheldon ar gyfer trwyddedu Mercedes Vito Tourer Select, rhif cofrestru cerbyd KP18 HFC, fel cerbyd llogi preifat i ddal 7 o bobl. Roedd cyn-berchnogaeth ar y cerbyd a chafodd ei gofrestru gyntaf gyda’r DVLA ar 4 Ebrill 2018.
Roedd y cais y tu allan i’r Polisi Cerbydau Llogi Preifat sydd wedi’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu, am y rhesymau sydd wedi’u nodi ym mharagraff 4.4 yr adroddiad. Nid oedd y cerbyd yn gallu derbyn cadeiriau olwyn. Ni chyflwynwyd unrhyw ddogfennau ychwanegol, gan gynnwys tystysgrif MOT, am nad oedd MOT ei angen nes bod y cerbyd yn 3 oed.
Aeth yr aelodau ymlaen wedyn i archwilio’r cerbyd oedd ym maes parcio gwaelod y Swyddfeydd Dinesig.
Pan ddaeth yr aelodau at ei gilydd eto, cadarnhawyd mai’r cyfanswm milltiroedd presennol yr oedd y cerbyd wedi’u gwneud oedd 15,904
Cafwyd manylion am y Canllawiau Polisi perthnasol i geisiadau ar gyfer trwyddedu Cerbydau Llogi Preifat ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.
Wedyn aeth yr aelodau ati i ystyried y cais ymhellach ar wahân ac, ar ôl dod yn ôl at ei gilydd,
PENDERFYNWYD: Ystyriodd yr Is-Bwyllgor y cais am gofrestru KP18 HFC fel cerbyd llogi preifat.
Nododd yr aelodau nad oedd yn dod o dan bolisi 2.1 oherwydd oedran a milltiroedd y cerbyd.
Nododd yr aelodau y gellid llacio’r polisi fel y nodir ym mhara 2.2 y polisi a’r canllawiau yn 2.2.5 os oedd hynny’n berthnasol, sef ansawdd eithriadol uchel y tu mewn a’r tu allan a’r safonau diogelwch eithriadol uchel. O’r herwydd, roedd yr Is-Bwyllgor yn hapus i ddyfarnu’r drwydded. |
|
Cais am Drwyddedu Cerbyd Llogi Preifat PDF 100 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i’r Is-Bwyllgor ystyried cais am ddyfarnu trwydded ar gyfer cerbyd llogi preifat.
Roedd yr adroddiad yn dweud bod y cais yn cael ei gyflwyno gan Carl Lemmer ar gyfer trwyddedu Seat Toledo SE, rhif cofrestru cerbyd CK14 GVR, fel cerbyd llogi preifat i ddal 4 o bobl. Roedd cyn-berchnogaeth ar y cerbyd a chafodd ei gofrestru gyntaf gyda’r DVLA ar 29 Ebrill 2014.
Roedd y cais y tu allan i’r Polisi Cerbydau Llogi Preifat sydd wedi’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu, am y rhesymau sydd wedi’u nodi ym mharagraff 4.4 yr adroddiad. Nid oedd y cerbyd yn gallu derbyn cadeiriau olwyn. Darparwyd tystysgrif MOT a hanes y gwasanaeth yr oedd y cerbyd wedi’i gael, fel y manylwyd ym mharagraff 4.3 yr adroddiad.
Aeth yr aelodau ymlaen wedyn i archwilio’r cerbyd oedd ym maes parcio gwaelod y Swyddfeydd Dinesig.
Pan ddaeth yr aelodau at ei gilydd eto, cadarnhawyd mai’r cyfanswm milltiroedd presennol yr oedd y cerbyd wedi’u gwneud oedd 64,009.
Cafwyd manylion am y Canllawiau Polisi perthnasol i geisiadau ar gyfer trwyddedu Cerbydau Llogi Preifat ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.
Wedyn aeth yr aelodau ati i ystyried y cais ymhellach ar wahân ac, ar ôl dod yn ôl at ei gilydd,
PENDERFYNWYD: Ystyriodd yr Is-Bwyllgor y cais am gofrestru CK14 GVR fel cerbyd llogi preifat.
Nododd yr aelodau nad oedd yn dod o dan bolisi 2.1 oherwydd oedran a milltiroedd y cerbyd.
Nododd yr aelodau y gellid llacio’r polisi fel y nodir ym mhara 2.2 y polisi a’r canllawiau yn 2.2.5 os oedd hynny’n berthnasol, sef ansawdd eithriadol uchel y tu mewn a’r tu allan a’r safonau diogelwch eithriadol uchel. O’r herwydd, roedd yr Is-Bwyllgor yn hapus i ddyfarnu’r drwydded. |
|
Cais am Drwyddedu Cerbyd Hacni PDF 90 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i’r Is-Bwyllgor ystyried cais am ddyfarnu trwydded ar gyfer Cerbyd Hacni.
Roedd yr adroddiad yn dweud bod y cais yn cael ei gyflwyno gan Karl Svensen ar gyfer trwyddedu Ford Transit Custom, rhif cofrestru cerbyd LN66 NYZ, fel Cerbyd Hacni i ddal 8 o bobl. Roedd cyn-berchnogaeth ar y cerbyd a chafodd ei gofrestru gyntaf gyda’r DVLA ym mis Medi 2016.
Roedd y cais y tu allan i’r Polisi Cerbydau Llogi Preifat sydd wedi’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu, am y rhesymau sydd wedi’u nodi ym mharagraff 4.4 yr adroddiad. Nid oedd y cerbyd yn gallu derbyn cadeiriau olwyn. Darparwyd tystysgrif MOT a hanes y gwasanaeth yr oedd y cerbyd wedi’i gael, fel y manylwyd ym mharagraff 4.3 yr adroddiad.
Aeth yr aelodau ymlaen wedyn i archwilio’r cerbyd oedd ym maes parcio gwaelod y Swyddfeydd Dinesig.
Pan ddaeth yr aelodau at ei gilydd eto, cadarnhawyd mai’r cyfanswm milltiroedd presennol yr oedd y cerbyd wedi’u gwneud oedd 56,907.
Cafwyd manylion am y Canllawiau Polisi perthnasol i geisiadau ar gyfer trwyddedu Cerbydau Hacni ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.
Wedyn aeth yr aelodau ati i ystyried y cais ymhellach ar wahân ac, ar ôl dod yn ôl at ei gilydd,
PENDERFYNWYD:
Ystyriodd yr Is-Bwyllgor y cais am gofrestru LN66 NYZ fel Cerbyd Hacni.
Nododd yr aelodau nad oedd yn dod o dan bolisi 2.1 oherwydd oedran a milltiroedd y cerbyd.
Nododd yr aelodau y gellid llacio’r polisi fel y nodir ym mhara 2.2 y polisi, sef ansawdd eithriadol uchel y tu mewn a’r tu allan a’r safonau diogelwch eithriadol uchel. O’r herwydd, roedd yr Is-Bwyllgor yn hapus i ddyfarnu’r drwydded. |
|
Cais am Drwyddedu Cerbyd Hacni PDF 90 KB Cofnodion: Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddiol adroddiad yn gofyn i’r Is-Bwyllgor ystyried cais am ddyfarnu trwydded ar gyfer Cerbyd Hacni.
Roedd yr adroddiad yn dweud bod y cais yn cael ei gyflwyno gan Richard Parrott ar gyfer trwyddedu Toyota Avensis, rhif cofrestru cerbyd FH18 SUU, fel Cerbyd Hacni i ddal 4 o bobl. Roedd cyn-berchnogaeth ar y cerbyd a chafodd ei gofrestru gyntaf gyda’r DVLA ym mis Medi 2016.
Roedd y cais y tu allan i’r Polisi Cerbydau Llogi Preifat sydd wedi’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Trwyddedu, am y rhesymau sydd wedi’u nodi ym mharagraff 4.4 yr adroddiad. Nid oedd y cerbyd yn gallu derbyn cadeiriau olwyn. Darparwyd hanes y gwasanaeth yr oedd y cerbyd wedi’i gael, fel y manylwyd ym mharagraff 4.3 yr adroddiad.
Aeth yr aelodau ymlaen wedyn i archwilio’r cerbyd oedd ym maes parcio gwaelod y Swyddfeydd Dinesig.
Pan ddaeth yr aelodau at ei gilydd eto, cadarnhawyd mai’r cyfanswm milltiroedd presennol yr oedd y cerbyd wedi’u gwneud oedd 14,021.
Cafwyd manylion am y Canllawiau Polisi perthnasol i geisiadau ar gyfer trwyddedu Cerbydau Hacni ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.
Wedyn aeth yr aelodau ati i ystyried y cais ymhellach ar wahân ac, ar ôl dod yn ôl at ei gilydd,
PENDERFYNWYD:
Ystyriodd yr Is-Bwyllgor y cais am gofrestru FH18 SUU fel Cerbyd Hacni.
Nododd yr aelodau nad oedd yn dod o dan bolisi 2.1 oherwydd oedran a milltiroedd y cerbyd.
Nododd yr aelodau y gellid llacio’r polisi fel y nodir ym mhara 2.2 y polisi, sef ansawdd eithriadol uchel y tu mewn a’r tu allan a’r safonau diogelwch eithriadol uchel. O’r herwydd, roedd yr Is-Bwyllgor yn hapus i ddyfarnu’r drwydded. |
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad. Cofnodion: Dim |
|
Eithrio’r Cyhoedd Nid oedd y cofnodion ac adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).
Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.
Cofnodion: PENDERFYNWYD:
O dan Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod wrth ystyried yr eitemau busnes canlynol, gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 12 Rhan 4 a/neu Baragraff 21 Rhan 5 Atodlen 12A y Ddeddf.
Ar ôl gweithredu’r prawf budd cyhoeddus, penderfynwyd, yn unol â’r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, ystyried yr eitemau canlynol yn breifat, gan eithrio’r cyhoedd o’r cyfarfod, oherwydd credid, o dan yr holl amgylchiadau perthnasol i’r eitemau, bod y budd cyhoeddus o ran cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus o ddatgelu’r wybodaeth, oherwydd byddai’r wybodaeth yn creu rhagfarn i’r ymgeiswyr a grybwyllir. |
|
Cymeradwyo Cofnodion Eithriedig I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion eithrio cyfarfod y 27/08/2019 Cofnodion: PENDERFYNWYD: Bod cofnodion eithriedig y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27/08/19 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod manwl gywir. |
|
Cais am Ddyfarnu Trwyddedau |
|
Cais am Adnewyddu Trwyddedau |
|
Gwrandawiad Disgyblu ar gyfer Gyrrwr Tacsi Presennol |