Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

168.

Ethol Cadeirydd

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Yn absenoldeb y Cyng. E Venables, bod y pwyllgor yn ethol y Cyng. G Howells yn Gadeirydd y cyfarfod hwn.

 

(Y Cyng. G Howells yn y Gadair)

169.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim

170.

Cymeradwyo'r Cofnodion pdf eicon PDF 64 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 06/06/2019

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Cymeradwyo bod cofnodion cyfarfod 06/06/2019 yn wir ac yn gywir.

171.

Adolygu'r Cyfansoddiad pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

Gofynnodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd a ellid ystyried yr eitem hon olaf, gyda chaniatâd y Cadeirydd, gan fod angen i'r Swyddog Monitro fynd i gyfarfod arall, ond y byddai'n ceisio bod yn bresennol. Cytunodd y Cadeirydd i ystyried yr eitem olaf.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a amlinellai ganfyddiadau Gweithgor y Cyfansoddiad, fu'n adolygu elfennau o'r Cyfansoddiad.

 

Esboniodd fod y Swyddog Monitro wedi cael cais oddi wrth Aelod Etholedig i adolygu'r Cyfansoddiad. Yn unol ag Erthygl 15 y cyfansoddiad, bydd y Swyddog Monitro yn monitro ac yn adolygu gweithrediad y Cyfansoddiad, er mwyn sicrhau bod nodau ac egwyddorion y Cyfansoddiad yn cael eu gweithredu'n llawn. Bydd angen cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer unrhyw newidiadau ar sail argymhellion y Swyddog Monitro.

 

Wrth adolygu'r Cyfansoddiad, gofynnwyd yn benodol am gael ystyried y canlynol:

 

1)    Ailsefydlu'r cyfnod o 5 niwrnod ar gyfer cwestiynau a chynigion, gan fod adnoddau addas bellach ar gael i gyfieithu'n brydlon i'r Gymraeg;

 

2)    Yn dilyn cyflwyniadau a chyhoeddiadau aelodau'r Cabinet, yr Arweinydd a'r Prif Weithredwr, fod yr Aelodau'n cael cyfle am 15 munud i ofyn cwestiynau nas cyflwynwyd ymlaen llaw;

 

3)    Rhoi tri munud (wedi'i gymryd o reol 3 munud y Pwyllgor Rheoli Datblygu) i'r tair gwrthblaid gael gwneud cyhoeddiadau neu gyflwyniadau gerbron y Cyngor;

 

4)    Amseriad cyfarfodydd y Cyngor

 

Trafodwyd y pynciau a ganlyn  yng nghyfarfodydd Gweithgor y Cyfansoddiad:

 

  • Y cyfnod o amser ar gyfer cwestiynau a chynigion
  • Cyhoeddiadau yng Nghyfarfodydd y Cyngor
  • Ymateb i Gwestiynau Ysgrifenedig
  • Cyhoeddiadau gan 3 Arweinydd y Gwrthbleidiau Mwyaf
  • Amseriad Cyfarfodydd y Cyngor
  • Y Broses Galw i Mewn
  • Cyfnod o Rybudd ar gyfer Cyhoeddi Hysbysiad o Benderfyniad y Cabinet a Galw i Mewn
  • Cyfnod o Amser ar gyfer Cynnal Pwyllgor Trosolwg a Chraffu
  • Aelodau'n Galw Penderfyniad i Mewn

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr argymhellion canlynol a wnaed gan Weithgor y Cyfansoddiad.

 

Cadw at yr un cyfnod o amser ar gyfer cyflwyno cwestiynau a chynigion, sef 10 diwrnod gwaith clir. O ran cyhoeddiadau a wneir yn y Cyngor, argymhelliad y dylid diwygio'r Cyfansoddiad i newid y teitl 'Adroddiad yr Arweinydd' i 'Cyhoeddiadau'r Arweinydd', ac y dylid byrhau'r cyhoeddiadau a wneir gan y Cabinet ar hyn o bryd. Bod holl Aelodau'r Cyngor yn derbyn ymateb i cwestiynau ysgrifenedig 24 awr cyn cyfarfod y Cyngor lle bo'n ymarferol.  Y bydd yr ateb wedi'i gofnodi yng nghofnodion y cyfarfod hwnnw o'r Cyngor. Y gallai cyhoeddiadau gan Arweinwyr Gwrthbleidiau arwain at ddatganiadau gwleidyddol, ac nid oedd dymuniad i fynd ar drywydd cyhoeddiadau gan Arweinwyr y 3 Gwrthblaid fwyaf. Gan fod y bleidlais electronig a gynhaliwyd ar ddiwedd cyfarfod y Cyngor ar 24  Gorffennaf 2019 wedi'i cholli, na ddylid ystyried cynnal cyfarfodydd gyda'r nos ymhellach, nes cychwyn y weinyddiaeth nesaf. Dylid ymestyn y cyfnod o rybudd a'r ôl cyhoeddi penderfyniad o'r 3 diwrnod gwaith clir cyfredol i 5 diwrnod gwaith clir cyfredol, er mwyn creu mwy o dryloywder, ac i roi mwy o gyfle i Aelodau'r fainc ôl gael galw penderfyniad i mewn. Cadw'r cyfnod o amser ar gyfer cynnal Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr un peth, sef  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 171.

172.

Rhaglen Datblygu'r Aelodau pdf eicon PDF 90 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a roddai'r newyddion diweddaraf i'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ynghylch darparu Rhaglen Hyfforddi a Datblygu Aelodau'r Cyngor, a gweithgareddau cysylltiedig. Gofynnodd i'r Pwyllgor nodi pynciau i'w cynnwys ar Raglen Datblygu'r Aelodau ac mewn Sesiynau Briffio Cyn Cyfarfod y Cyngor.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd yr hyfforddiant datblygu aelodau, Hyfforddiant y Pwyllgor Rheoli Datblygu a'r Sesiynau Briffio cyn Cyfarfodydd Cyngor a oedd wedi cael eu darparu ers 6 Mehefin 2019, ac a oedd wedi'u rhestru yn 4.1, 4.2 a 4.3 yn yr adroddiad.

 

Darparodd amserlen Sesiynau Briffio Cyn Cyfarfod y Cyngor hyd yma, a oedd yn cynnwys:

 

           23 Hydref 2019: Cynllun Datblygu Strategol

           20 Tachwedd 2019: Strategaeth Ynni'r Ardal Leol a Chynllun Ynni Doeth

           18 Rhagfyr 2019: Newidiadau'r Cwricwlwm Newydd 

           11 Mawrth 2020: Deilliannau Addysg

           System Les a Budd-daliadau - i'w gadarnhau

 

Dywedodd fod Ionawr/Chwefror wedi'u gadael yn wag yn fwriadol gan mai dyna'r adeg o'r flwyddyn pan fyddai'r gyllideb yn cael ei hystyried. Esboniodd y bu amwysedd ynghylch hyn ar yr amserlen, felly nad oedd unrhyw sesiynau briffio wedi'u cynllunio am y tro.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd amlinelliad o Sesiynau Hyfforddiant y Pwyllgor Rheoli Datblygu a oedd wedi'u hamserlennu, a nodwyd yn adran 4.5 yr adroddiad.

 

Amlinellodd hefyd sesiynau Hyfforddi'r Aelodau a oedd wedi'u cynnig yn y dyfodol, gan gynnwys:

 

  • 31 Hydref 2019 - Rheoli Galwadau Ffôn Camdriniol ac Ymosodol, Rheoli Gwrthdaro ac Ymwybyddiaeth o Diogelwch Personol
  • Defnyddio Mapiau Pontio
  • Sgiliau Gofyn Cwestiynau Craffu - I'w chadarnhau
  • Sgiliau Cadeirio Craffu - I'w chadarnhau

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y byddai'r hyfforddiant a oedd wedi'i drefnu ar gyfer 31 Hydref yn cael ei ddarparu ddwywaith y diwrnod hwnnw, gydag un sesiwn yn cael ei darparu yn y bore, a'r sesiwn honno'n cael ei hailadrodd yn y prynhawn. Roedd hyn er mwyn sicrhau bod Aelodau a allai fod wedi'i chael hi'n anodd cyrraedd yn y bore yn gallu mynd i sesiwn y prynhawn, ac fel arall.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd wrth y Pwyllgor am y Gwasanaeth E-ddysgu a oedd wedi cael ei ddarparu iddynt drwy'r Learning Pool. Dywedodd fod gwaith wedi cael ei gyflawni drwy Rwydwaith Penaethiaid Gwasanaethau Democrataidd / Swyddogion Cefnogi'r Aelodau Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i ddatblygu modiwlau E-ddysgu cenedlaethol i'w darparu drwy Academi Cymru Gyfan.  Roedd manylion pellach wedi'u cynnwys yn adran 4.7 yr adroddiad.

 

Gofynnodd Aelod am eglurhad ynghylch hyfforddiant arfaethedig y System Les a Budd-daliadau, o ran cynnwys yr hyfforddiant hwnnw a'r hyn y byddai disgwyl i Gynghorwyr ei wneud yn ei sgil.  Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd na fyddai'r hyfforddiant ond yn cael ei ddarparu er gwybodaeth, fel bo modd cyfeirio etholwr i'r gwasanaeth cywir. Pwysleisiodd na fyddai disgwyl i Gynghorwyr roi cyngor ynghylch budd-daliadau, ond dylai fod ganddynt wybodaeth well am y gwasanaethau sydd ar gael er mwyn gallu dweud wrth etholwyr ymhle i gael gwybodaeth bellach.

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd ei fod wedi bod mewn cysylltiad â'r Rheolwr Budd-daliadau ac Asesiadau Ariannol a gytunai y byddai'n fuddiol cael taflen ffeithiau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 172.

173.

Gwe-ddarlledu Cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a Phwyllgorau pdf eicon PDF 82 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad a roddai'r newyddion diweddaraf i'r pwyllgor am drefniadau ynghylch gwe-ddarlledu cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet a Phwyllgorau, a gofynnodd am sylwadau'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ynghylch pa gyfarfodydd y dylid eu gwe-ddarlledu.

 

Hysbysodd y Pwyllgor ynghylch y trefniadau gwe-ddarlledu cyfredol a nodir yn adran 4.2 yr adroddiad.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd wrth yr Aelodau y byddai Swyddogion, yn ystod cyfnod y contract nesaf, yn ystyried dichonoldeb datrysiadau eraill ar gyfer gwe-ddarlledu, sef drwy Skype a YouTube.  Roedd swyddogion o'r Gwasanaethau Democrataidd a'r Adran TGCh wedi ymweld â Chyngor Sir Fynwy i weld sut yr oeddent yn gwe-ddarlledu cyfarfodydd.  Dywedodd fod yr opsiwn hwn yn cael ei ystyried ac y byddai'n golygu arbed costau.

 

Darparodd ystadegau cyfarfodydd a we-ddarlledwyd yn 2018/19. Mae'r rhain wedi'u rhestru isod:

 

Dyddiad

Enw'r Cyfarfod

Gwylio Byw

Gwylio Ar Alw

Cyfanswm y Gwylio

1

30-Awst-18

Pwyllgor Rheoli Datblygu

38

51

99

2

17-Medi-18

Pwyllgor Trosolwg a Craffu Pwnc 3

11

131

142

3

16-Hydref-18

Pwyllgor Trosolwg a Craffu Pwnc 1

0

42

42

4

18-Hydref-18

Pwyllgor Trosolwg a Craffu Pwnc 2

22

47

69

5

18-Rhag-18

Cabinet

27

31

58

6

03-Ion-19

Pwyllgor Rheoli Datblygu

10

28

38

7

14-Chwef-19

Pwyllgor Rheoli Datblygu

70

72

142

8

25-Chwef-19

Pwyllgor Trosolwg a Craffu Pwnc 3

6

10

16

9

18-Mawrth-19

Pwyllgor Trosolwg a Craffu Pwnc 3

10

32

42

10

19-Mawrth-19

Pwyllgor Rheoli Datblygu

55

120

175

Gwylio Cyfartalog

25

56

82

Cyfanswm y Gwylio

249

564

823

 

 

Rhestrodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y cyfarfodydd canlynol a oedd wedi cael eu gwe-ddarlledu ar gyfer y flwyddyn 2019/20 hyd yma, gan gynnwys dadansoddiad o'r gwylio:

 

 

Dyddiad

Enw'r Cyfarfod

Gwylio Byw

Gwylio Ar Alw

Cyfanswm y Gwylio

1

29-Ebrill-19

Pwyllgor Trosolwg a Craffu Pwnc 1

3

49

52

2

09-Mai-19

Pwyllgor Rheoli Datblygu

6

29

35

3

04-Mehefin-19

Pwyllgor Trosolwg a Craffu Pwnc 1

42

64

106

4

03-Gorff-19

Pwyllgor Trosolwg a Craffu Pwnc 2

4

31

35

5

05-Medi-19

Pwyllgor Trosolwg a Craffu Pwnc 3

15

52

62

Gwylio Cyfartalog

14

45

57

Cyfanswm y Gwylio

74

225

309

 

Hysbysodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd y pwyllgor fod y cyfarfodydd canlynol wedi'u cynnig i'w gwe-ddarlledu hyd fis Mawrth 2020:

 

           Pwyllgor Rheoli Datblygu - 5 Rhagfyr 2019

           Y Cabinet - 17 Rhagfyr 2019

           Pwyllgor Trosolwg a Craffu Corfforaethol i'w gadarnhau - (Y Gyllideb)

 

Dywedodd fod cyfarfodydd mis Hydref 2019 a mis Tachwedd 2019 wedi'u hepgor yn fwriadol oherwydd bod trefniant i osod camerâu HD newydd yn fuan ym mis Tachwedd i gymryd lle'r camerâu presennol sydd wedi'u gosod yn Siambr y Cyngor.

 

Gofynnodd Aelod pwy sy'n penderfynu ar ba gyfarfodydd i'w gwe-ddarlledu.  Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd mai'r Tîm Gwasanaethau Democrataidd sy'n dewis cyfarfodydd yn bennaf, ar y sail y gallai'r eitem neu'r eitemau ar agenda'r cyfarfod hwnnw fod o ddiddordeb i'r cyhoedd.

 

Esboniodd fod croeso o hyd i Aelodau fynegi sylwadau wrth y Tîm Gwasanaethau Democrataidd ynghylch pa gyfarfodydd y maent am iddynt gael eu gwe-ddarlledu, a rhoddir ystyriaeth i'r sylwadau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 173.

174.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad. 

Cofnodion:

Dim

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z