Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman  Democratic Services Section

Eitemau
Rhif Eitem

310.

Datganiadau Buddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.  Dylai aelodau cael rolau deuol o'r fath ddatgan buddiant personol mewn perthynas â'u haelodaeth o Gyngor Tref / Cymuned fath a rhagfarnllyd os ydynt wedi cymryd rhan yn yr ystyriaeth o eitem ar y Cyngor Tref / Cymuned a geir yn Adroddiadau y Swyddog isod.

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau canlynol o fuddiant:  Y Cynghorydd C Webster - Buddiant personol yn Eitem 8 ar yr Agenda oherwydd bod ei fab wedi mynychu’r Ysgol sy’n destun i’r cais, a chan ei bod yn aelod o Gyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr nad oedd yn cymryd unrhyw ran yn y materion cynllunio.  Buddiant sy'n rhagfarnu yn Eitem 11 ar yr Agenda, gan mai cyfaill i’r teulu sydd berchen ar y busnes sy’n destun i’r cais. Gadawodd y Cynghorydd Webster y cyfarfod tra roedd y cais hwn yn cael ei ystyried.  Buddiant personol yn Eitem 18 ar yr Agenda oherwydd ei bod yn aelod o Goleg Brenhinol y Meddygon Teulu.  Buddiant personol yn Eitem 14 ar yr Agenda gan ei bod wedi gwneud sylwadau ar ran preswylydd a grybwyllwyd yn un o'r apeliadau.  Y Cynghorydd MC Voisey - Buddiannau sy'n rhagfarnu o ran Eitemau 12 a 13 ar yr Agenda gan fod y cwmni sy'n destun i’r cais yn gyflenwr i'w fusnes. Gadawodd y Cynghorydd Voisey y cyfarfod tra bod y ceisiadau hyn yn cael eu hystyried.  Cynghorydd NA Burnett - Buddiant personol yn Eitem 8 yr Agenda, gan fod ganddi blentyn a oedd yn mynychu’r Ysgol sy’n destun i’r cais, yn ogystal â'i bod yn Llywodraethwr Awdurdod Lleol yn yr ysgol honno.

311.

Ymweliadau Safle

I gadarnhau dyddiad dydd Mercher 04/12/2019 ar gyfer archwiliadau safle arfaethedig sy'n codi yn y cyfarfod, neu nodi cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor gan y Cadeirydd.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:  Bod Dydd Mercher, 4 Rhagfyr 2019 yn cael ei gadarnhau fel y dyddiad ar gyfer archwiliadau safle arfaethedig a ddaw yn sgil y cyfarfod, neu’r rhai a gaiff eu hadnabod cyn y Pwyllgor nesaf gan y Cadeirydd.

312.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 100 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 12/09/2019

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:          Bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Datblygu sydd â dyddiad 12 Medi 2019, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

313.

Siaradwyr Cyhoeddus

I gynghori aelodau enwau'r siaradwyr cyhoeddus rhestredig i siarad yn y cyfarfod heddiw (os o gwbl).

Cofnodion:

Rhif y Cais:                  Cyfeiriad:                               Enw'r Siaradwr:  P/19/466/BCB       Tir yn Ysgol Brynteg         Cynghorydd DA Unwin                                                                                                                                       Ewenny Road, Pen-y-bont ar Ogwr

314.

Taflen Diwygiadau pdf eicon PDF 78 KB

Bod y Cadeirydd yn derbyn taflen gwelliant pwyllgor rheoli datblygu fel eitem frys yn unol â rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, felly ynghylch hwyr yn ystyried sylwadau a diwygiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael eu lletya.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:         Derbyniodd y Cadeirydd daflen ddiwygiadau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu fel eitem frys yn unol â Rhan 4 (Paragraff 4) o Reolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, a hynny er mwyn ystyried y sylwadau a'r diwygiadau hwyr y mae'n ofynnol eu bodloni.

315.

Canllawiau'r Pwyllgor Rheoli Datblygu pdf eicon PDF 81 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:         Bod crynodeb o ganllawiau'r Pwyllgor Rheoli Datblygu, fel y'i nodir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, yn cael ei nodi.

316.

P/19/466/BCB - Tir yn Ysgol Uwchradd Brynteg, Ewenny Road, Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 320 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:           At ddibenion Rheoliad 4 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref 1992, cymerir bod caniatâd wedi'i roi ar gyfer y cais uchod, yn amodol ar yr amodau a geir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau:- 

Cynnig:

 

Adeiladu swyddfa newydd arfaethedig a chanolfan aml-asiantaeth.

 

Bod Amod 1 y caniatâd yn cael ei ail-eirio fel a ganlyn, er mwyn ystyried argymhellion yr Asesiad o'r Effaith Ecolegol a gynhaliwyd gan Wildwood Ecology:

 

1.     Bydd y datblygiad yn cael ei wneud yn unol â'r cynlluniau a'r dogfennau cymeradwy canlynol:-

A001 - Cynllun Lleoliad y Safle

A002 - Arolwg Topograffig

A003 - Dymchwel a Chlirio

A004 - Adrannau Safle A101 - Cynllun Arfaethedig y Safle - Diwygiad A A104 - Cynlluniau a Gweddluniau Arfaethedig

 

Casgliadau ac Argymhellion yr Asesiad o'r Effaith Ecolegol a wnaed gan Wildwood Ecology dyddiedig 18 Hydref 2019.

 

Rheswm: Osgoi amheuaeth a dryswch o ran natur a maint y datblygiad a gymeradwywyd.

 

Yn amodol ar ddiwygio Amod 8 yr adroddiad fel a ganlyn:-

 

 8. Er gwaethaf y darlun a gyflwynwyd (BCB0073739 - A101 Rev A), ni fydd unrhyw ddatblygiad yn dechrau nes y bydd cynllun ar gyfer darparu llwybr penodol i gerddwyr, gyda chynllun goleuo, ar hyd y fynedfa gerbydau bresennol i Ewenny Road i'r Dwyrain o’r datblygiad arfaethedig, yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ac yn cael ei gymeradwyo yn ysgrifenedig. Rhaid i'r llwybr cerdded gysylltu â'r droetffordd bresennol ar Ewenny Road, a rhaid ei gweithredu fel y cytunwyd cyn i'r datblygiad ddod i ddefnydd buddiol, a rhaid ei gadw at ddefnydd cerddwyr am byth.

 

Rheswm: Er lles diogelwch ar y briffordd.

 

O ran Amod 12 o'r adroddiad, dylid ychwanegu'r pwynt ychwanegol canlynol at hyn:

 

viii.  Nad yw unrhyw lori sy'n gysylltiedig ag adeiladu'r safle yn mynd i mewn i'r safle neu'n ymadael o fewn hanner awr ar y naill ochr a'r llall o'r oriau agor a chau’r ysgol, a bod trafodaeth â Phennaeth Ysgol Gyfun Brynteg er mwyn hysbysu’r ysgol o’r traffig ychwanegol.

 

317.

P/19/550/FUL - Parc Stormy, Stormy Down, Pen-y-bont ar Ogwr, CF33 4RS pdf eicon PDF 396 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:    (1) Cyflwyno Amod ar yr Ymgeisydd i ymrwymo i Gytundeb Cyfreithiol o dan Adran 106 er mwyn sicrhau cytundeb llwybr ar gyfer traffig a cherbydau nwyddau trwm/bysiau sy'n mynd a dod i'r safle.

 

(2) Bod y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau yn derbyn pwerau dirprwyedig i ddyroddi hysbysiad penderfynu sy'n rhoi caniatâd mewn perthynas â'r cynnig, unwaith y bydd yr ymgeisydd wedi ymrwymo i'r Cytundeb Adran 106 a grybwyllwyd uchod, yn ddarostyngedig i'r Amodau a geir yn ei Adroddiad.

Cynnig 

 

Canolfan drafnidiaeth gynaliadwy dros dro arfaethedig a gwaith cysylltiedig.

 

Yn Amodol ar ddiwygio Amod 4 o'r adroddiad i gynnwys y geiriau canlynol:-  ". . . gan gynnwys symud swyddfa cynhwysydd (container) y ganolfan".

318.

P/19/316/FUL - 1 Williams Terrace, Brynmenyn, CF32 9LS pdf eicon PDF 435 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:  Bod caniatâd yn cael ei roi i'r cais uchod, a phwerau dirprwyedig yn cael eu rhoi i Reolwr Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu i gyhoeddi penderfyniad ar ôl 4 Tachwedd 2019, yn amodol ar yr Amodau a geir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau:-

 

 Cynnig 

 

Dymchwel yr annedd presennol a chodi t? dau lawr ar wahân.

 

319.

P/17/369/RLX - Tir oddi ar Horsefair Road, Ystad Ddiwydiannol Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3YN pdf eicon PDF 301 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:  Bod y cais uchod yn cael ei ganiatáu, yn ddarostyngedig i'r Amodau a geir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol    - Cymunedau:-

Cynnig  Amrywio Amodau 1 a 5 o P/16/472/FUL.   Yn amodol ar ddiwygio Amod 4 o'r adroddiad fel a ganlyn, i sicrhau bod y ffens newydd o amgylch yr Iard Storio Locomotif yn cael ei darparu o dan amserlen resymol.  4. O fewn tri mis i ddyddiad y caniatâd hwn, bydd ffens bren close-boarded 3m o daldra yn cael ei chodi hyd ffiniau gogleddol, deheuol, a dwyreiniol Ardal 2, fel y nodir ar ffin 'a' ar y 'Cynllun Gosodiad' a dderbyniwyd ar 4 Ionawr 2019. Rhaid cynnal a chadw'r ffens am byth.  Rheswm: Er mwyn sgrinio'r rhan hon o weithrediad y safle  Yn amodol hefyd ar ychwanegu Amod 16 canlynol at y caniatâd, er mwyn rheoli’r danfoniad o geir sydd wedi eu cofrestru ymlaen llaw i'r safle:   16. O fewn deufis i ddyddiad y caniatâd hwn, rhaid cyflwyno cynllun rheoli cyflenwad ar gyfer y gwaith ceir sydd wedi'i gofrestru ymlaen llaw, ac i’r  i'r Awdurdod Cynllunio Lleol gytuno arno’n ysgrifenedig. Bydd y cynllun rheoli'n nodi amseriad, nifer y tripiau, a'r cerbydau/cyfarpar a ddefnyddir i ddarparu'r ceir sydd wedi'u cofrestru ymlaen llaw i'r safle. Bydd pob danfoniad yn y dyfodol yn cael ei wneud yn unol â'r cynllun rheoli cyflawni y cytunwyd arno.

 

Rheswm: Er mwyn sicrhau rheolaeth effeithiol dros ddefnydd y safle yn y dyfodol, er budd diogelwch ar y briffordd ac amwynderau'r trigolion.

 

320.

A/19/20/ADV - Leyshon Flint & Sons, Bridgend Road, Penyfai, CF31 4LL pdf eicon PDF 241 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:    Bod caniatâd Hysbysebu yn cael ei roi mewn perthynas â'r cais uchod, yn amodol ar amodau adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau (yn ychwanegol at yr amodau arferol).

 

Cynnig 

 

Argymhellir arwyddion newydd.

 

321.

P/19/591/FUL - Leyshon Flint & Sons, Bridgend Road, Penyfai, CF31 4LL pdf eicon PDF 195 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:         Bod y cais uchod yn cael ei ganiatáu, yn ddarostyngedig i'r Amodau a geir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol -Cymunedau.

 Cynnig

 

Goleuadau ardal arddangos

322.

Apeliadau pdf eicon PDF 707 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Gr?p y Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu adroddiadau ar yr apeliadau a dderbyniwyd ac y penderfynwyd arnyn nhw ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor, fel yr amlinellir yn yr adroddiad.  PENDERFYNWYD: Bod y wybodaeth yngl?n â'r apeliadau uchod a restrir yn yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

323.

Safle Ymgeisiol Cynllun Datblygu Lleol Newydd Pen-y-bont ar Ogwr (CDLl) -Asesiad Cyfnod 1 pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygu adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi gwybod i Aelodau (Gr?p Llywio'r CDLl) am Asesiad Cam 1 y Safleoedd Ymgeisiol sydd wedi’i gynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad.  Rhoddodd yr adroddiad rywfaint o wybodaeth gefndirol, ac yn dilyn hynny cadarnhaodd y bu ymgynghoriad anffurfiol ar Fethodoleg Asesu'r Safleoedd Ymgeisiol cyn gofyn i dirfeddianwyr, datblygwyr, a'r cyhoedd enwebu 'safleoedd ymgeisiol' i'w hystyried ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd Pen-y-bont ar Ogwr. Cwblhawyd cam cyntaf yr asesiad ac roedd yn cynnwys ystyriaeth o’r darpar safleoedd a gyflwynwyd i benderfynu a oedd ganddynt y potensial i gefnogi'r Strategaeth a Ffafrir gan y CDLl. Byddai’r cam nesaf (Cyfnod 2) yn cynnwys asesiad manwl pellach o'r safleoedd a oedd yn bodloni asesiad Cyfnod 1. Ar ôl cwblhau Cyfnod 2, roedd y Cyngor yn bwriadu ceisio barn nifer gyfyngedig o gyrff ymgynghori penodol mewn perthynas â'r safleoedd hynny a fydd yn cael eu hystyried yn addas ar gyfer datblygu yn y dyfodol, ynghyd â dyraniad posibl yn y CDLl Adneuol. Yn olaf, caiff rhestr o safleoedd eu nodi i'w cynnwys yn y CDLl Adneuol, gan gydnabod casgliadau Cyfnod 2 a'r sylwadau a gafwyd o Gyfnod 3.

 

Roedd Cyfnod 1 yr Asesiad o'r Safleoedd Ymgeisiol yn gwerthuso, yn fras, y safleoedd o ran eu potensial i gefnogi'r Strategaeth a Ffafrir yn ofodol. Er mwyn cyflawni'r Strategaeth a Ffafrir, cydnabyddir y bydd angen cyfeirio twf yn y dyfodol at y lleoliadau mwyaf priodol a chynaliadwy ar raddfa na fydd yn tanseilio'r Strategaeth Adfywio a Thwf Cynaliadwy.

 

Fel y nodwyd yn yr Asesiad o Setliad 2019, dosbarthwyd Pen-y-bont ar Ogwr fel Prif Anheddiad Allweddol, ynghyd â phum Prif Anheddiad ychwanegol, sef Porth y Cymoedd, Porthcawl, Maesteg, Pencoed, ac anheddiad cyfun Pîl, Kenfig Hill, a Gogledd Corneli. Mae gan bob un o'r chwe aneddiad yma swyddogaeth gref o ran cyflogaeth, gyda chrynhoad o fusnesau’n bresennol ynghyd ag amrywiaeth nodedig o wasanaethau siopa a chymunedol. Fodd bynnag, mae Porth y Cymoedd yn benodol wedi gweld twf sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a cheir problemau o ran capasiti bellach o'r gogledd i'r de wrth Gyffordd 36 yr M4. Bydd mater hwn yn rhwystr sylweddol i botensial yr ardal am unrhyw dwf sylweddol nes y bydd yn cael ei ddatrys. O ganlyniad, y pedwar Prif Anheddiad sy'n weddill, yn ogystal â Phrif Anheddiad Allweddol Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n cael eu hystyried ôl Strategaeth a Ffafrir fel yr amgylcheddau mwyaf cynaliadwy i ddarparu ar gyfer twf yn y dyfodol, ac felly byddent yn parhau i fod yn brif ffocws wrth gynllunio datblygiad yn y dyfodol, a bydd angen i’r math o ddatblygiad a’i raddfa fod yn unol â seilweithiau, economïau, cymeriadau, a chyfyngiadau unigol yr amgylcheddau hynny.

 

Yn olaf, cadarnhaodd Arweinydd y Tîm Cynllunio Datblygu iddynt graffu ar y Safleoedd Ymgeisiol ar sail y ddau gwestiwn a fanylir ym mharagraff 4.4 yr adroddiad, a hynny er mwyn asesu pa mor gydnaws ydynt â'r Strategaeth a Ffafrir. Ar ôl ystyried hyn, cafodd pob Safle Ymgeisiol a ystyriwyd fel  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 323.

324.

Crynodeb Swyddfa Archwilio Cymru ar Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru pdf eicon PDF 35 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr y Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu, a’i destun oedd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) ar Effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru a gyhoeddwyd ar 6 Mehefin 2019.

 

Roedd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru hefyd yn ystyried cynnydd yr Awdurdodau Cynllunio Lleol wrth iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau newydd ac i ba raddau y maent yn gweithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn ystyried pa mor effeithlon ac effeithiol yw'r 'system gynllunio leol', gan ganolbwyntio ar eu perfformiad, eu hincwm, a'u gwariant i bennu pa mor gydnerth yw gwasanaethau. Yn olaf, ystyriodd yr adroddiad y prosesau o wneud penderfyniadau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi rhywfaint o wybodaeth gefndirol, gan esbonio bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn 2014, wedi mabwysiadu Deddf Cynllunio (Cymru) newydd, a ddaeth i rym ym mis Gorffennaf 2015. Roedd hyn yn ceisio sicrhau bod y system gynllunio yn ‘deg, yn wydn ac yn galluogi datblygiad’ o ystyried y 5 amcan allweddol a ddangosir ym mharagraff 3.1 o'r adroddiad.

 

Roedd Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cwblhau adolygiad o'r ffordd y mae awdurdodau cynllunio yn gweithio a sut y maent yn rhoi cyfrifoldebau newydd o'r fath ar waith.  Ym Mharagraff 4 o'r adroddiad, cafwyd amlinelliad o brif ganfyddiadau'r adolygiad a chafwyd crynodeb ohonynt gan Reolwr Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu er budd yr Aelodau.

 

Aeth yn ei flaen, drwy gynghori bod Swyddfa Archwilio Cymru wedi gwneud 5 argymhelliad i helpu awdurdodau cynllunio lleol, a’u bod yn canolbwyntio ar:

 

  · Gwella'r ffordd y maen nhw’n cynnwys rhanddeiliaid wrth wneud penderfyniadau ac ystyried dewisiadau;

· Mynd i'r afael â diffygion ariannol a gweithio ar y cyd i gynyddu capasiti; · Cryfhau'r broses o wneud penderfyniadau;

Creu gweledigaeth gliriach a mwy uchelgeisiol ar gyfer eu hardal leol.

  Roedd SAC hefyd wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu taliadau ar gyfer rheoli datblygu a gwella perfformiad awdurdodau cynllunio lleol. Byddai hyn yn golygu y byddai ffioedd cynllunio yn cynyddu 20% yn 2020, er mwyn ceisio pontio'r bwlch gyda'r ffioedd a godir yn Lloegr. 

 

PENDERFYNWYD:              Bod yr Aelodau'n nodi cynnwys yr adroddiad a chanfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru yn dilyn eu hymchwiliad i effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol yng Nghymru. 

 

325.

Ymgynghoriad ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol pdf eicon PDF 26 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi gwybod i'r Pwyllgor Rheoli Datblygu am gyhoeddiad y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FFDC) drafft gan Lywodraeth Cymru a'i effaith debygol ar y Fwrdeistref Sirol. Daw'r ymgynghoriad ar y drafft i ben ar 1 Tachwedd 2019.

 

Mae'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC) yn gynllun gofodol ar gyfer mynd i'r afael â blaenoriaethau cenedlaethol allweddol Cymru drwy'r system gynllunio o 2020 i 2040. Mae'n ymdrin â'r materion mawr sy'n bwysig i lwyddiant Cymru, gan gynnwys tai, ynni, yr economi, trafnidiaeth a'r amgylchedd. Mae'n nodi lle y dylid cynnal datblygiadau o bwys cenedlaethol, lle mae meysydd twf allweddol, pa seilwaith a gwasanaethau sydd eu hangen, a sut y gall Cymru gyfrannu at y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

 

Mae'r drafft NDF (National Development Framework) yn nodi polisïau datblygu ar gyfer Cymru gyfan ac ar gyfer tri maes twf cenedlaethol: Wrecsam a Glannau Dyfrdwy (Gogledd Cymru), Bae Abertawe & Llanelli (Canolbarth & De-orllewin Cymru), a Chaerdydd, Casnewydd a'r Cymoedd (De ddwyrain Cymru).

 

Dywedodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu fod drafft yr NDF yn nodi 11 o ganlyniadau, a oedd yn weledigaeth ar gyfer newid dros yr 20 mlynedd nesaf, ac a oedd yn sail i'w ganlyniadau, ei pholisïau a'i chynigion. Roedd paragraff 4.1 o'r adroddiad yn manylu ar ffurf pwyntiau bwled.  Aeth ymlaen i gynghori, fel rhan o ranbarth De-ddwyrain Cymru, fod Pen-y-bont ar Ogwr wedi'i nodi'n benodol yn yr NDF fel canolfan twf rhanbarthol. Mae hyn yn seiliedig ar ei lleoliad strategol bwysig fel rhan o system Metro De Cymru a'r cyfle y mae hyn yn ei ddarparu i wella'r seilwaith rheilffyrdd, bysiau, beicio, a cherdded ar draws y rhanbarth er mwyn darparu ffocws ar gyfer buddsoddi, adfywio a datblygiadau cysylltiedig.

 

Ychwanegodd fod yr NDF hefyd yn nodi Pen-y-bont ar Ogwr fel Maes Blaenoriaeth ar gyfer Rhwydweithiau Gwresogi Ardal, gyda'r disgwyliad y bydd yr awdurdodau cynllunio yn nodi cyfleoedd i integreiddio i mewn i ddatblygiadau newydd a phresennol. Mae'r FfDC yn cynnig polisi ar gyfer cynigion datblygu defnydd cymysg o 100 neu fwy o anheddau i baratoi uwch-gynllun ynni i sefydlu sut y gellir ymgorffori rhwydwaith o'r fath ac, os yw'n ddichonadwy, ei weithredu.

 

 PENDERFYNWYD:

 

(1) Roedd yr adroddiad er gwybodaeth yn unig, felly nid oedd angen penderfyniad ffurfiol.

 

(2) Hysbyswyd y Pwyllgor y bydd sesiwn hyfforddi'r Aelodau ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn cael ei chynnal ar 5 Rhagfyr 2019.

 

326.

Sgrinio Asesiad Effaith Iechyd y Strategaeth a Ffafrir y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (2019) pdf eicon PDF 338 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch-swyddog Cynllunio Datblygu adroddiad, a'i ddiben oedd rhoi gwybod i'r Pwyllgor Rheoli Datblygu am ganlyniad y Sgrinio ar gyfer Asesiad o'r Effaith Ar Iechyd (HIA) y Cynllun Datblygu Lleol newydd, gan gynnwys y gweithdy, canfyddiadau, a chamau gweithredu dilynol (gweler Atodiad 1 sydd ynghlwm wrth yr adroddiad).

 

Cadarnhaodd fod y gweithdy sgrinio wedi'i gynllunio i lywio cynnwys y Strategaeth a Ffafrir a'r LDP yn gynnar yn y broses, gan anelu at sicrhau bod iechyd, lles, ac anghydraddoldebau yn cael eu hystyried a'u hintegreiddio drwy gydol y broses o baratoi'r LDP drwy'r defnydd o HIA.

 

O ran yr adran o’r adroddiad sy’n rhoi crynodeb o'r canfyddiadau, dywedodd fod gweithdy hanner diwrnod wedi'i gynnal ar 12 Gorffennaf 2019, gyda chynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru, Coleg Pen-y-bont ar Ogwr, Valleys to Coast Housing, Heddlu De Cymru, Gwasanaeth tân ac Achub De Cymru, aelodau a swyddogion CBS Pen-y-bont ar Ogwr, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr, y Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac AWEN. Cafodd dau gr?p trafod ei hwyluso gan Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd Cymru er mwyn cynnal asesiad cychwynnol o'r LDP. Cafodd grwpiau poblogaeth allweddol y mae angen eu hystyried yn yr LDP ynghyd ag effeithiau posibl yr LDP ar iechyd a lles pobl Pen-y-bont ar Ogwr eu nodi.

 

Roedd yr effeithiau ar iechyd a lles a nodwyd rhwng y ddau gr?p gweithdy yn gyson iawn ac mae llawer o'r effeithiau a nodwyd hefyd yn flaenoriaethau yng Nghynllun Llesiant Pen-y-bont ar Ogwr.  Parhaodd yr Uwch-swyddog Cynllunio Datblygu drwy ddweud bod y grwpiau poblogaeth a allai gael eu heffeithio gan y cynllun wedi'u rhestru ar ffurf pwyntiau bwled ym mharagraff 4.2 yr adroddiad. Yn yr adran hon o'r adroddiad ceir y penderfynyddion iechyd a lles a allai gael eu heffeithio gan r LDP hefyd.  Adolygodd y gr?p a oedd yn gweithio ar yr HIA ganfyddiadau'r gweithdy sgrinio ac ystyriodd pa gamau y dylid eu hargymell yn yr HIA i fynd i'r afael â'r materion a godwyd. Arweiniodd hyn at nodi data a thystiolaeth ychwanegol y bydd angen i'r Cynllun Datblygu Lleol ei ystyried i sicrhau mynd i'r afael ag effeithiau iechyd allweddol, ac i sefydlu lle y gellid mynd i'r afael ag effeithiau allweddol ar iechyd mewn polisïau newydd o fewn yr LDP, a mapio cyfleoedd eraill ar gyfer iechyd a lles ym mhroses LDP.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y dylid nodi’r Sgriniad yr Asesiad Effaith Iechyd y Strategaeth a Ffafrir y Cynllun Datblygu Lleol Newydd.

 

 

327.

Cofnod Hyfforddiant pdf eicon PDF 4 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gr?p Gwasanaethau Cynllunio A Datblygu adroddiad yn amlinellu'r cofnod hyfforddiant wedi'i ddiweddaru.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi.  

328.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z