Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor 2/3 - Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4WB. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Michael Pitman 

Eitemau
Rhif Eitem

240.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Derbyn ymddiheuriadau am absenoldeb gan Aelodau.

Cofnodion:

Ymgynghorodd y Cynghorydd Beedle ei fod angen gadael erbyn 12:30pm gan ei fod angen mynd i gyfarfod arall

241.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd R Collins fuddiant rhagfarnus yn eitem 10 ar yr agenda, gan ei fod yn gymydog i'r ymgeisydd.

242.

Derbyn y Cofnodion pdf eicon PDF 78 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 19/11/2019

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19/11/2019 fel rhai cywir.

243.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Cludo Hacni pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoli adroddiad a oedd yn gofyn i'r Is-Bwyllgor ystyried cais i ganiatáu trwydded am gerbyd Cludo Hacni.

 

Cynghorodd yr adroddiad bod cais yn cael ei gyflwyno gan Paul Brain, i drwyddedu Dacia Logan â'r rhif cofrestru LF17 WZM fel Cerbyd Cludo Hacni preifat â 4 sedd. Roedd y cerbyd yn un ail law ac fe'i cofrestrwyd â'r DVLA yn gyntaf ym mis Mawrth 2017.

 

Nid oedd y cais yn bodloni'r Polisi Cerbyd Cludo Hacni a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu, am y rhesymau a nodir ym mharagraff 4.3 yr adroddiad. Nid oedd y cerbyd yn addas i gadair olwyn. Cyflwynwyd tystysgrif MOT a hanes gwasanaeth a fanylwyd ym mharagraff 4.3 yr adroddiad.

 

Cynghorodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) y cafodd y cerbyd ei archwilio ar 18 Rhagfyr 2019 gan Swyddogion Gorfodi Trwyddedu yn dilyn ei wrthod mewn cyfarfod Is-bwyllgor blaenorol oherwydd pryderon diogelwch. Yn dilyn yr archwiliad, cadarnhawyd nad oedd pryderon diogelwch na phryderon ansawdd. Roedd rhagor o fanylion ynghylch yr archwiliad yn 4.5 yr adroddiad.

 

Aeth aelodau yn eu blaen i archwilio'r cerbyd ymhellach a oedd ym maes parcio islawr y Swyddfeydd Dinesig.

 

Ar ôl i'r cyfarfod yn ailymgynnull cafwyd cadarnhad mai milltiroedd y cerbyd oedd 17,528.

 

Rhoddwyd canllawiau Polisi mewn perthynas â cheisiadau am drwyddedau Cerbydau Cludo Hacni ym mharagraff 4.4 o'r adroddiad.

 

Bu i'r aelodau adael yr ystafell i ystyried y cais ymhellach ac ar ôl ailymgynnull,

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr Is-bwyllgor yn ystyried cofrestru LF17 WZM fel Cerbyd Cludo Hacni.

 

Nododd aelodau nad oedd y cais yn bodloni polisi 2.1 oherwydd oedran a milltiroedd y cerbyd.

 

Nododd aelodau y gellir llacio'r polisi fel y nodir ym mharagraff 2.2 y polisi, yn benodol ansawdd rhagorol y tu mewn a'r tu allan i'r car a'r safonau diogelwch eithriadol. Fel y cyfryw, roedd yr Is-Bwyllgor yn fodlon caniatáu'r drwydded.

244.

Cais i Drwyddedu Cerbyd Cludo Hacni pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoli adroddiad a oedd yn gofyn i'r Is-Bwyllgor ystyried cais i ganiatáu trwydded am gerbyd Cludo Hacni.

 

Cynghorodd yr adroddiad bod cais yn cael ei gyflwyno gan Emma Parrott i drwyddedu Toyota Avensis, rhif cofrestru MD66 WXJ fel Cerbyd Cludo Hacni i gludo 4 unigolyn. Roedd y cerbyd yn un ail law ac fe'i gofrestrwyd â'r DVLA ym mis Ionawr 2017.

 

Nid oedd y cais yn bodloni'r Polisi Cerbyd Cludo Hacni a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Trwyddedu, am y rhesymau a nodir ym mharagraff 4.3 yr adroddiad. Nid oedd y cerbyd yn addas i gadair olwyn. Cyflwynwyd tystysgrif MOT a hanes gwasanaeth a fanylwyd ym mharagraff 4.3 o'r adroddiad.

 

Cynghorodd y Rheolwr Tîm (Trwyddedu) y cafodd y cerbyd hwn ei wrthod mewn Is-bwyllgor Trwyddedu oherwydd pryderon ynghylch diogelwch y seddi cefn. Ar 8 Ionawr, archwiliodd Swyddog Gorfodi Trwyddedu gerbyd tebyg mewn delwriaeth leol. Yn ystod yr archwiliad, nododd pan ddefnyddiwyd y weithdrefn gywir ar gyfer codi a gostwng y seddi, roeddent yn ddiogel. Roedd rhagor o fanylion ym mharagraff 4.5 o'r adroddiad.

 

Aeth aelodau yn eu blaen i archwilio'r cerbyd a oedd ym maes parcio islawr y Swyddfeydd Dinesig.

 

Ar ôl i'r cyfarfod ailymgynnull cafwyd cadarnhad mai milltiroedd y cerbyd oedd 9,540.

 

Rhoddwyd canllawiau'r Polisi mewn perthynas â cheisiadau am drwyddedau Cerbydau Cludo Hacni ym mharagraff 4.4 o'r adroddiad.

 

Bu i'r aelodau adael yr ystafell i ystyried y cais ymhellach ac ar ôl ailymgynnull,

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr Is-bwyllgor yn ystyried cofrestru MD66 WXJ fel Cerbyd Cludo Hacni.

 

Nododd aelodau nad oedd y cais yn bodloni polisi 2.1 oherwydd oedran a milltiroedd y cerbyd.

 

Nododd aelodau y gellir llacio'r polisi fel y nodir ym mharagraff 2.2 y polisi, yn benodol ansawdd rhagorol y tu mewn a'r tu allan i'r car a'r safonau diogelwch eithriadol. Fel y cyfryw, roedd yr Is-Bwyllgor yn fodlon caniatáu'r drwydded.         

245.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim

246.

Gwahardd y Cyhoedd

Nid oedd y cofnodion ac adroddiadau sy'n ymwneud â'r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 14 a 16 o Ran 4 a Pharagraff 21 o Ran 5, Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol

(Cymru) 2007 (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio).

 

Os, yn dilyn cymhwyso'r prawf budd y cyhoedd yn yr Is-Bwyllgor yn penderfynu yn unol â'r Ddeddf i ystyried yr eitemau hyn yn breifat, bydd y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod ystyriaeth o'r fath.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

 

Mai dan Adran 100A(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007, bod y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r cyfarfod yn ystod trafodaeth o'r eitemau busnes canlynol gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 12 Rhan 4 a/neu Baragraff 21 Rhan 5 Amserlen 12A y Ddeddf.

 

Yn dilyn y prawf budd y cyhoedd, penderfynwyd, mai yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati uchod, i ystyried yr eitemau canlynol yn breifat, gyda'r cyhoedd wedi'u gwahardd o'r cyfarfod, gan yr ystyrir mai ym mhob amgylchiad mewn perthynas â'r eitemau, roedd budd y cyhoedd i gynnal y gwaharddiad yn gorbwyso budd y cyhoedd i ddatgelu'r wybodaeth, oherwydd byddai'r wybodaeth yn niweidiol i'r ymgeiswyr dan sylw.      

247.

Cymeradwyaeth Cofnodion wedi’u Eithrio

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion eithrio cyfarfod y 19/11/2019

248.

Gwrandawiad Disgyblu ar gyfer Gyrwyr Tacsi Presennol

249.

Gwrandawiad Disgyblu ar gyfer Gyrwyr Tacsi Presennol

250.

Gwrandawiad Disgyblu ar gyfer Gyrwyr Tacsi Presennol

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z