Agenda, decisions and minutes

Cyngor - Dydd Mercher, 21ain Hydref, 2020 15:00

Lleoliad: o bell trwy Skype for Business

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  Mark Anthony Galvin

Media

Eitemau
Rhif Eitem

460.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd S Baldwin fuddiant rhagfarnus yn eitem 6 ar yr Agenda a thynnu'n ôl o'r cyfarfod pan ystyriwyd yr adroddiad/cyflwyniad hwn.

 

461.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 209 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 16/09/2020

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:                             Bod Cofnodion y Cyngor, dyddiedig 16 Medi 2020, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir, yn amodol ar y canlynol:

 

  1. Bod y Cyngor yn nodi bod y datganiad o fuddiant personol a wnaed gan y Maer mewn perthynas ag eitem y Fargen Ddinesig wedi'i wneud yn dilyn y cyfarfod ac nid yn y cyfarfod ei hun.
  2. Y dylid nodi ymhellach fod y Maer wedi ymddiheuro yng nghyfarfod blynyddol y Cyngor, gan ei fod wedi cadarnhau ei fod yn anghywir i gyhoeddi bod Cynghorydd Ceidwadol wedi gwneud datganiad anghywir ar eitem yng nghyfarfod y Cyngor ar 16 Medi 2020, pan allai fod wedi bod yn unrhyw Gynghorydd a oedd yn bresennol yn y cyfarfod mewn gwirionedd, ni waeth pa gr?p gwleidyddol yr oeddent yn aelod ohono.

 

462.

Derbyn cyhoeddiadau gan y Maer

Cofnodion:

Cyn dechrau ar ei gyhoeddiadau ffurfiol, teimlai'r Maer ei bod yn ddyletswydd i ddatgan i'r rhai a oedd yn y briff i Aelodau yn union cyn y Cyngor, fel Maer a phartner y Cynghorydd J Williams, fod y Cyngor hwn gyda'i gilydd yn cydnabod ei dewrder wrth roi esiampl i bob un ohonom yn wyneb gofid mawr ac wrth leisio'r sefyllfa sy'n wynebu nid yn unig ei hun, ond cynifer o unigolion eraill yn wyneb y pandemig.

 

Yn dilyn hyn, croesawodd y Maer bawb a oedd yn bresennol i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor Cyffredin ers cael ei urddo’n Faer. Gobeithiai fod yr holl Aelodau a Swyddogion a'u teuluoedd yn cadw'n ddiogel ac yn iach.

 

Cyhoeddodd, er gwaethaf y cyfnod anarferol hwn, ei fod wedi cael y pleser o gyflawni ei ymgysylltiad swyddogol cyntaf, er yn rhithwir.  Roedd wedi siarad â Mr Laurence Brophy o Bencoed a oedd yn 88 oed ac wedi beicio o Land's End i John O'Groats ac yn ôl eto i godi dros £5,000 i'r elusen ddigartrefedd, Llamau.  Nid yn unig y cyflawnodd Laurence y daith ryfeddol hon, fe'i gwnaeth heb dîm cymorth a chysgu'n arw ar hyd y ffordd er mwyn deall yn well yr heriau o fod yn ddigartref a theimlo'n agored i niwed.  Mae Laurence eisoes yn cynllunio ei her nesaf, sef her y tri chopa, o bosibl.

 

Ychwanegodd y Maer ei bod yn oleuedig iawn siarad â rhywun sydd â chymaint o frwdfrydedd, egni ac awydd i helpu'r rhai sy’n llai ffodus na'i hun.  Wedi hynny, roedd wedi ysgrifennu at Laurence ac wedi mynegi edmygedd a chefnogaeth y Cyngor i'w ymdrechion yn y dyfodol.

 

Fel y dywedodd yn ei araith dderbyn fel Maer, yr elusennau y byddai'r Maer yn eu cefnogi yn ystod cyfnod ei swydd yw Parkinson's UK a'r Gymdeithas Epilepsi.  Roedd yn edrych ar ddichonoldeb cynnal rhai digwyddiadau codi arian rhithwir a bydd, wrth gwrs, yn diweddaru'r rhai a oedd yn bresennol gydag unrhyw fanylion yn y dyfodol. Yn y cyfamser, gellid rhoi rhoddion drwy gyfrif Just Giving y Maer, ychwanegodd. Mae'r ddolen ar gyfer hyn i'w gweld ar dudalen y Maer ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

463.

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Cyhoeddodd yr Arweinydd fod Llywodraeth Cymru, yn gynharach yr wythnos hon, wedi cadarnhau y bydd Cymru gyfan yn dechrau ar bythefnos o ‘gyfnod atal byr’ a fydd yn dechrau ddydd Gwener 23 Hydref, ac yn dod i ben ddydd Llun 9 Tachwedd.

 

Gyda chymaint â 2,500 o bobl yn dal y coronafeirws bob dydd yng Nghymru, cadarnhaodd y Prif Weinidog fod y camau'n hanfodol i drawsnewid hyn, ac i atal ysbytai ac unedau gofal critigol rhag cael eu llethu yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

 

Bydd y cam hefyd yn cefnogi ymdrechion i gyfyngu ar gyfyngiadau yn ystod cyfnodau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, ac mae'n dilyn ymdrechion Llywodraeth Cymru i gadw Cymru'n ddiogel drwy atal pobl rhag teithio i Gymru o 'fannau poeth' y coronafeirws yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Bydd y cyfnod atal byr yn gosod nifer o gyfyngiadau ar aelwydydd a busnesau ledled Cymru drwy gydol ei hyd.

 

Bydd angen i bobl aros gartref a hefyd gweithio gartref lle bynnag y bo modd.

 

Dim ond am resymau hanfodol y gall pobl fynd allan, e.e. prynu bwyd neu gasglu meddyginiaeth bresgripsiwn, a gallant hefyd adael y cartref i ymarfer corff naill ai ar eu pennau eu hunain, gydag aelodau o'r aelwyd neu gyda gofalwr.

 

Bydd oedolion sy'n byw ar eu pennau eu hunain neu rieni sengl yn gallu ymuno ag un aelwyd arall i gael cymorth, ond ni fydd yn bosibl ymweld ag aelwydydd eraill neu gyfarfod â phobl nad ydych yn byw gyda hwy, dan do neu yn yr awyr agored.

 

Ni fydd digwyddiadau awyr agored, gan gynnwys gweithgareddau wedi'u trefnu fel Calan Gaeaf neu Noson Tân Gwyllt, yn gallu cael eu cynnal.

 

Fodd bynnag, bydd eithriad yn cael ei wneud ar gyfer digwyddiadau Sul y Cofio ar raddfa fach, sydd eisoes wedi'u trefnu.

 

Er y bydd angen i ganolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu i gyd gau, gall parciau lleol, meysydd chwarae a champfeydd awyr agored aros ar agor.

 

O ran yr effaith ar ysgolion lleol, bydd ysgolion cynradd ac arbennig yn ailagor fel arfer ar ôl gwyliau hanner tymor mis Hydref, a bydd ysgolion uwchradd yn ailagor i blant ym mlynyddoedd saith ac wyth.

 

Bydd disgyblion yn gallu mynychu'r ysgol i sefyll arholiadau, ond bydd angen i blant eraill barhau â'u dysgu o'u cartref am wythnos ychwanegol.

 

Mae'n ofynnol i bob busnes manwerthu a lletygarwch di-fwyd, gwasanaethau cyswllt agos, a busnesau digwyddiadau a thwristiaeth gau yn ystod y cyfnod clo.

 

Bydd hyn yn cynnwys trinwyr gwallt, parlyrau prydferthu, gwestai, caffis, bwytai a thafarndai, ond bydd gwasanaethau cludfwyd a dosbarthu yn dal i allu gweithredu.

 

Bydd gwasanaethau iechyd a gwasanaethau'r GIG yn parhau i weithredu, a lle bydd mannau cyhoeddus dan do yn aros ar agor, rhaid gwisgo gorchuddion wynebau, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn tacsis.

 

I gefnogi busnesau yn ystod y pythefnos o gyfnod clo, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cronfa newydd gwerth £300m.

 

Bydd pob busnes a gwmpesir gan y rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn cael taliad untro o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 463.

464.

Cyflwyniad gan Valleys To Coast a Rhaglen o Gyflwyniadau i’r Cyngor yn y Dyfodol pdf eicon PDF 63 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr, a'i ddiben oedd cyflwyno cyflwyniad i'r Cyngor gan Valleys To Coast a rhoi gwybod i'r Aelodau am y rhaglen o gyflwyniadau i'r Cyngor yn y dyfodol.  

 

Cyflwynodd y Maer Jo Oak, Prif Weithredwr V2c, i’r cyfarfod, ynghyd â chydweithwyr, i roi cyflwyniad ar waith V2c a sut mae’n integreiddio â phartneriaid fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac eraill.

 
Diolchodd Prif Weithredwr V2c yr Aelodau am y cyfle i ddod i siarad â hwy heddiw a gobeithiai y bydd hyn yn ddechrau i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a V2c feithrin cydberthnasau cryfach, nid yn unig ar lefel uwch ond ar draws pob rhan o'u sefydliadau.

Dywedodd ei bod wedi bod yn sgwrsio â Phrif Weithredwr y Cyngor, er mwyn datblygu dealltwriaeth o'r pwysau, y blaenoriaethau a'r nodau cyffredin a rannwn fel sefydliadau ac roedd yn teimlo'n hyderus y byddai lefelau cydweithredu ac ymgysylltu yn cynyddu yn y dyfodol, er mwyn elwa ar ddull gweithredu newydd a dechrau newydd.

Dywedodd Prif Weithredwr V2c fod y Gymdeithas Dai, yn union fel yr awdurdod lleol, yn cynllunio ar gyfer dyfodol nad oedd yn ei ragweld ddechrau eleni. Yn awr, yn fwy nag erioed, roedd angen cydweithio er mwyn cydnabod y meysydd lle gallwn ychwanegu gwerth, y meysydd lle gallwn gyfeirio pobl at eraill a all hefyd, a dod o hyd i ffyrdd o rymuso ein hunain ac eraill i'n helpu gyda'r trawsnewidiad oherwydd y pandemig annhymig. 

Roedd V2c yn awr yn gweld mai dyma'r adeg iawn i'r sefydliad hwnnw a'r Cyngor gydweithio'n agosach a chael ei weld fel partner o ddewis gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Nid oedd am i V2c gael ei alw'n gymdeithas dai yn unig, ond hefyd i gael ei chydnabod am adeiladu cartrefi a chymunedau hefyd.

 

Yr oedd y berthynas rhwng y ddau yn dechrau'n awr o sefyllfa o gryfder, er ei bod yn cydnabod bod mwy y gellid ei gyflawni i fod yn fwy cydgysylltiedig a mwy y gellid ei wneud er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud ein hunain yn rhan o'r sgyrsiau ac yn symud tuag at gael eu cynllunio ac nid yn adweithiol yn eu hymatebion.

 

Dywedodd Prif Weithredwr V2c ei fod fel sefydliad yn gwrando, yn dysgu ac yn ymateb a bod parodrwydd i wella a thyfu. Yr un mor bwysig, roedd brwdfrydedd ac awydd i wneud hyn hefyd. Er iddi gyfaddef nad oedd V2c yn hollol lle'r oedd am fod eto, gan nad oedd y sefydliad yn berffaith o bell ffordd, roedd wedi cael ei chalonogi gan yr ymateb cyfunol gan ei chydweithwyr i'r flwyddyn anodd hon a theimlai fod V2c yn dod i ail gam y pandemig hwn yn llawer cryfach nag yr oedd ar ei ddechrau.

Dywedodd ei bod hi, ynghyd â chydweithwyr, am siarad drwy'r meysydd allweddol lle teimlid y gallai gydweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ychwanegu gwerth a hefyd dangos rhai meysydd datblygol, lle'r oedd cynnydd yn cael ei wneud.

 

Roedd am edrych yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 464.

465.

Adroddiad Blynyddol 2019-20 pdf eicon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr a'i ddiben oedd cyflwyno Adroddiad Blynyddol 2019-20 y Cyngor (yn Atodiad A) i'r Cyngor ei ystyried a'i gymeradwyo.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, yn unol â chanllawiau statudol Rhannu Pwrpas Rhannu Dyfodol (SPSF: 2) ar gyfer Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, fod yn rhaid i gyrff cyhoeddus unigol adolygu cynnydd eu hamcanion llesiant yn flynyddol a chyhoeddi adroddiad i asesu i ba raddau y mae'r amcanion hyn yn cyfrannu at y nodau llesiant yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy.

 

O dan adran 15 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 ac yn unol â'r canllawiau statudol cysylltiedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, rhaid i'r awdurdod hefyd gyhoeddi ei asesiad o berfformiad ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol cyn 31 Hydref.

II Esboniodd fod y Cyngor, ym mis Mawrth 2019, wedi cyhoeddi ei Gynllun Corfforaethol 2018-22, a ddiwygiwyd yn 2019-20. Mae'r Cynllun yn nodi ei weledigaeth, sef gweithredu bob amser fel 'Un Cyngor yn cydweithio i wella bywydau', a'i dri amcan llesiant. Mae'r Cynllun hefyd yn ailadrodd yr amcanion llesiant ar gyfer 2019-20.

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, fod y Cynllun yn diffinio 41 o ymrwymiadau i gyflawni'r tri amcan llesiant ac yn nodi 56 o ddangosyddion sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau i fesur y cynnydd ar gyfer y flwyddyn ariannol.

Yn gyffredinol, perfformiodd y Cyngor yn dda iawn yn 2019-20, meddai. O'r 41 ymrwymiad, cwblhawyd 34 (82.9%) yn llwyddiannus gyda 3 (7.3%) yn cyflawni'r rhan fwyaf o'u cerrig milltir a 4 (9.8%) yn methu’r rhan fwyaf o'u cerrig milltir. Roedd rhesymau y gellir eu cyfiawnhau pam y methwyd â chyrraedd rhai targedau.

O'r 56 dangosydd a nodwyd ar gyfer y Cynllun Corfforaethol, gellir cymharu 52 â'u targed: cyrhaeddodd 35 (67.3%) eu targed, methodd 9 (17.3%) â chyrraedd eu targed o lai na 10% a methodd 8 (15.4%) â chyrraedd eu targed o fwy na 10%.  Cynhwyswyd gwybodaeth fanwl am berfformiad y Cyngor yn Atodiad A i'r adroddiad.  

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, ymhellach, oherwydd Covid-19, fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fyddai unrhyw gasglu data o Fesurau Atebolrwydd Cyhoeddus ar gyfer 2019-20 felly ni wnaed unrhyw ddadansoddiad mewn perthynas â'r dangosyddion hyn.

Nodwyd crynodeb o gyllid a pherfformiad ariannol ar gyfer y flwyddyn, canfyddiadau a themâu rheoleiddwyr sy'n sail i waith y Cyngor hefyd yn yr adroddiad, a oedd, oherwydd y pandemig, wedi edrych ymlaen yn ogystal ag yn ôl. Dyma rywbeth nad oedd wedi bod yn arfer ar gyfer yr Adroddiad Blynyddol, yn y gorffennol.

Cyfeiriodd Aelod at dudalen 11 yr Adroddiad Blynyddol a'r Nod o greu canol trefi llwyddiannus. Nododd nad oedd nifer yr ymwelwyr â chanol tref Pen-y-bont ar Ogwr o ran ei tharged o 7.2m ar gyfer 2019/20 wedi'i gyflawni a hynny o gryn dipyn. Nododd ymhellach fod nifer yr ymwelwyr yn nhref Porthcawl wedi cynyddu o 2018/19. Gofynnodd am rywfaint o eglurhad pam yr oedd hyn yn wir, yn enwedig o gofio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 465.

466.

Y Diweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf - Chwarter 2 2020-21 pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, a'i ddiben oedd:

 

           cydymffurfio â gofyniad 'Y Cod Darbodus ar gyfer Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol' (argraffiad 2017) y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA).

 

           rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2020 (Atodiad A i'r adroddiad);

 

           ceisio cymeradwyaeth ar gyfer rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2020-21 i 2029-30 (Atodiad B);

 

           nodi'r Dangosyddion Darbodus a Dangosyddion rhagamcanol Eraill ar gyfer 2020-21 (Atodiad C)

 

Atgoffodd yr Aelodau, ar 26 Chwefror 2020, fod y Cyngor wedi cymeradwyo rhaglen gyfalaf ar gyfer y cyfnod 2020-21 i 2029-30 fel rhan o'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (MTFS). Cafodd y rhaglen gyfalaf ei diweddaru a'i chymeradwyo ddiwethaf gan yr Aelodau ar 22 Gorffennaf 2020. Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y meysydd canlynol:

 

1

1

 

Gan droi at y Rhaglen Gyfalaf, cyfeiriodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, at baragraff 4.1 o'r adroddiad. Roedd yr adran hon o'r adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am

raglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2020-21 ers i'r gyllideb gael ei chymeradwyo ddiwethaf gan y Cyngor ac mae'n ymgorffori unrhyw gynlluniau newydd a chymeradwyaethau grant. Ar hyn o bryd, mae'r rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2020-21 yn dod i gyfanswm o £53.541 miliwn, y mae £27.850 miliwn ohono'n dod o adnoddau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan gynnwys derbyniadau cyfalaf a chyfraniadau refeniw o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, gyda'r £25.691 miliwn sy'n weddill yn dod o adnoddau allanol, gan gynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol.

 

Dangosodd Tabl 1 yn yr adran hon o'r adroddiad y rhaglen gyfalaf ar gyfer pob

Cyfarwyddiaeth o safbwynt cymeradwy'r Cyngor ym mis Gorffennaf 2020 (Chwarter 1) hyd at chwarter 2.

 

Yna, crynhodd Tabl 2 y tybiaethau ariannu presennol ar gyfer y rhaglen gyfalaf

ar gyfer 2020-21. Rheolir yr adnoddau cyfalaf i sicrhau'r

budd ariannol mwyaf posibl i'r Cyngor. Gall hyn gynnwys

adlinio cyllid er mwyn sicrhau'r grantiau mwyaf posibl gan y llywodraeth, eglurodd.

 

Yna cyfeiriodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, at Atodiad A yr adroddiad, a roddodd fanylion y cynlluniau unigol o fewn y rhaglen gyfalaf, gan ddangos y gyllideb a oedd ar gael yn 2020-21 o gymharu â'r gwariant rhagamcanol.

 

Nodwyd eisoes bod angen llithriant cyllideb ar nifer o gynlluniau i

flynyddoedd y dyfodol (2021-22 a thu hwnt). Yn chwarter 2, cyfanswm y llithriant y gofynnwyd amdano oedd £13.875 miliwn. Dangoswyd manylion y cynlluniau hyn ym mharagraff 4.4 yr adroddiad.

 

Dywedodd fod nifer o gynlluniau newydd wedi'u cymeradwyo a'u hariannu'n fewnol ers yr adroddiad cyfalaf diwethaf ym mis Gorffennaf 2020, sydd wedi'u hymgorffori yn y rhaglen gyfalaf. Cafodd y rhain eu cynnwys ar dudalen 123/124 o'r adroddiad, gyda Rhaglen Gyfalaf Ddiwygiedig wedi'i chynnwys yn Atodiad B (i'r adroddiad).

 

Ym mis Chwefror 2020, cymeradwyodd y Cyngor y Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 2020-21, a

oedd yn cynnwys Dangosyddion Darbodus 2020-21 i 2022-23 ynghyd â rhai  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 466.

467.

Adroddiad Gwybodaeth ar gyfer nodi pdf eicon PDF 78 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Adroddodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio a'r Swyddog Monitro ar yr Adroddiad Gwybodaeth a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD:                Bod y cyngor yn cydnabod cyhoeddiad y ddogfen a restrir yn yr adroddiad.

 

468.

Derbyn y Cwestiwn canlynol gan:

Cynghorydd A Hussain i’r Aelod Cabinet Cymunedau

 

Yn y Deyrnas Unedig mae tua 11 biliwn o wet wipes yn cael eu defnyddio bob blwyddyn - gan achosi 93% o'r rhwystrau o fewn carthffosydd y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru, mae D?r Cymru ac eraill yn delio â thua 2,000 o garthffosydd wedi’u blocio bob mis, a’r wet wipes hyn yw’r prif reswm am hynny.


O wybod bod 90% o’r wet wipes hyn yn cynnwys mwy na ¾ o blastig a gan ein bod yn gwneud mor dda gyda'n casgliad gwastraff ailgylchu, oni ddylem ni fel Cyngor fod y cyntaf i gyflwyno casgliad ar wahân ar gyfer y wet wipes yma fel unrhyw blastig arall sy’n cael ei ddefnyddio unwaith?

Cofnodion:

Y Cynghorydd A Hussain i'r Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet – Cymunedau

 

Yn y DU defnyddir tua 11 biliwn o weips gwlyb bob blwyddyn - gan achosi 93 y cant o rwystrau mewn carthffosydd yn y DU. Yng Nghymru, mae D?r Cymru yn delio â thua 2,000 o rwystrau carthffosydd bob mis a'r prif achos yw weips.

O wybod bod 90 y cant o'r weips yn cynnwys mwy na 3/4 plastig a chan ein bod yn gwneud yn dda gyda'n casgliadau gwastraff ailgylchu, a ddylem fod y Cyngor cyntaf i gyflwyno casgliad ar wahân ar gyfer y weips gwlyb hyn fel unrhyw blastig untro arall?

 

Ymateb:

 

Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr eisoes ymhlith yr awdurdodau ailgylchu gorau yng Nghymru. Ymhell y tu hwnt i’r targed ailgylchu statudol o 64% a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Diolch i ymrwymiad ac ymgysylltiad y cyhoedd â'n prif wasanaeth ailgylchu.

Ar 1 Ebrill 2024, bydd dwy garreg filltir bwysig yn cael eu pasio o ran ein gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu. Yn gyntaf, bydd targed ailgylchu statudol Llywodraeth Cymru yn codi i 70% ailgylchu ac, yn ail, bydd ein contract presennol sy'n diffinio ein methodoleg gwasanaeth casglu gyda Kier yn dod i ben.

Mae swyddogion eisoes yn gweithio ar yr opsiynau ar gyfer y gwasanaeth ar ôl 2024, a thros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, bydd ymgysylltu ag aelodau'r cyngor a'r cyhoedd yn cael ei wneud i ddiffinio cam nesaf ein darpariaeth gwasanaeth.

Proses a fydd yn cynnwys adolygu'n strategol ac yn gyfannol yr hyn y mae'r ystod o ddeunyddiau rydym yn eu hailgylchu yn y dyfodol yn cynnwys. Sicrhau ein bod yn sicrhau'r budd amgylcheddol mwyaf posibl mewn ffordd gost-effeithiol. Gwarantu bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i fod yn arweinydd yn y maes hwn o ddiogelu'r amgylchedd a rhagori ar dargedau statudol.

O ran y cais penodol i ailgylchu weips gwlyb, er ei bod yn bosibl eu hailgylchu (nid gyda'n plastig ymyl palmant arferol) ond gyda'n allanfa ar gyfer Cynhyrchion Hylendid Amsugnol (AHP) sy'n gallu mynd â hwy oddi wrthym ni, nid yw'n cael ei argymell ar hyn o bryd.

Er mwyn ailgylchu'r weips gwlyb byddai angen ymestyn y gwasanaeth AHP i bob cartref er mwyn casglu tunelli ychwanegol cymharol fach o ddeunydd ar wahân. Byddai hyn yn afresymol o ddrud ac yn amheus o ran budd amgylcheddol wrth ystyried effaith carbon anfon cerbydau i bob cartref ar gyfer symiau mor gyfyngedig o ddeunydd ailgylchadwy.

I grynhoi a chloi, byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaeth ailgylchu sy'n arwain y farchnad, gan fynd ati i hyrwyddo ac ymgysylltu â'r cyhoedd o ran y gwasanaeth presennol. Wrth gynnal adolygiad ar raddfa gyfan o'r ddarpariaeth yn barod ar gyfer gweithredu cyfundrefn gasglu ddiwygiedig ym mis Ebrill 2024. Nid argymhellir newidiadau i gontractau canol tymor a gwasanaethau.

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd A Hussain

Defnyddir weips ar hyn o bryd naill ai ar gyfer llenwi tir neu maent yn cael eu llosgi sy'n cyfrannu at fwy o allyriadau carbon ac ansawdd aer gwael na cherbydau. Gellir  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 468.

469.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Derbyniodd y Maer y cwestiwn canlynol fel eitem frys, yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) o Reolau Gweithdrefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad. 

 

Cwestiwn gan y Cynghorydd MC Voisey i’r Arweinydd 

 

A wnaiff yr Arweinydd amlinellu'r trafodaethau y mae wedi'u cael gyda'r Prif Weinidog a swyddogion eraill Llywodraeth Cymru cyn cyhoeddi'r ‘cyfnod atal byr'. Pa dystiolaeth a ddarparwyd iddo i sicrhau mai dyma'r unig ffordd angenrheidiol o weithredu ac a yw'n ei gefnogi?"

 

Ymateb

 

Cyfarfu holl Arweinwyr awdurdodau lleol Cymru â'r Prif Weinidog ar 15 Hydref 2020, ynghylch y cynnig uchod. Yn yr un modd, cyfarfu pob Arweinydd â'r Gweinidog Llywodraeth Leol ar 16 a 18 Hydref. Yna, cyflwynodd swyddogion Llywodraeth Cymru, fel y gwnaethant yn gyhoeddus, achos cymhellol yn seiliedig ar wybodaeth wyddonol a meddygol a gynhyrchwyd gan y Prif Swyddog Gwyddonol a Phrif Swyddog Meddygol yng Nghymru ac yn dilyn cynnal Grwpiau Cynghori Arbenigol Covid-19 a ystyriodd y wybodaeth hon. Gwnaethpwyd y penderfyniad i gyflwyno cyfnod atal byr wedyn, oherwydd y cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws ledled Cymru, a gadarnhaodd yn ei dro fod derbyniadau i'r ysbyty yn codi ac y byddent yn parhau i godi yn y dyfodol agos, pe na bai camau'n cael eu cymryd. Pe na bai camau wedi'u cymryd, yna byddai bywydau pellach wedi'u colli, ynghyd â risg y byddai'r GIG yng Nghymru yn cael ei lethu gan gynnydd yn nifer y derbyniadau i'r ysbyty o ganlyniad i fwy o achosion covid-19. Gwnaethpwyd yr achos hwn i holl Arweinwyr awdurdodau lleol Cymru a chadarnhaodd yr Arweinydd nad oedd wedi clywed set arall o fesurau'n cael eu cynnig, gan gynnwys gan wrthblaid, i'r un a awgrymwyd gan y Prif Weinidog. Roedd angen y cam gweithredu hwn er mwyn atal cynnydd a lledaeniad achosion Covid-19 yn ein cymunedau yng Nghymru. Mae ein Tîm Rheoli Gwib, gr?p amlasiantaeth ar gyfer rhanbarth Cwm Taf Morgannwg, sy'n cynnwys awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr a Rhondda Cynon Taf, wedi cytuno â'r argymhelliad a wnaed gan Lywodraeth Cymru, sef bod angen gweithredu ar frys ar hyn o bryd, er mwyn atal ton y feirws er mwyn sicrhau cyn lleied o golli bywydau o ganlyniad i'r pandemig.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd MC Voisey

Bydd gan y clo cenedlaethol y perygl o niweidio lles economaidd ac iechyd mwy o bobl nag effeithiau posibl Covid-19. Deallaf fod pob un o'r 22 arweinydd Awdurdod Lleol wedi gwneud cais i gadw pob ysgol uwchradd ar agor, a bod mwy o gyfyngiadau lleol mewn mannau poeth yn cael eu defnyddio. Yn amlwg, anwybyddwyd eich lleisiau gan y Prif Weinidog. Erbyn hyn mae busnesau fel campfeydd (sydd bellach ar agor yn Lerpwl), sy'n bwysig i les, iechyd corfforol a meddyliol ein dinasyddion, ar gau, heb dystiolaeth bod ganddynt berygl o ledaenu Covid, fel trinwyr gwallt yn yr un modd ac ati. Pan adolygir y pythefnos o gyfyngiadau, beth fyddwch chi fel Arweinydd yn ei wneud i gefnogi lleisiau’r bobl a'r busnesau nas clywir yr ydych yn eu cynrychioli, er mwyn sicrhau eu bod yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 469.