Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell trwy Microsoft Teams

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Nodyn: Nodyn: Sylwch: Yn sgil yr angen i gadw pellter cymdeithasol, ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Yn hytrach, bydd hwn yn gyfarfod rhithwir a bydd Aelodau a Swyddogionyn mynychu o bell. Bydd y cyfarfod yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar wefan y Cyngor cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl y cyfarfod. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn, cysylltwch â cabinet_committee@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643147 / 643148. 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

222.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

Cofnodion:

Dim.

223.

Cadarnhau Cofnodion pdf eicon PDF 117 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 12/11/2020

Cofnodion:

PENDERFYNIAD:

                          

Bod Cofnodion cyfarfod y Cyngor a’i cynhaliwyd ar 22 Ionawr 2020 yn

cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

224.

Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu pdf eicon PDF 62 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad, gyda’r diben o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am Gofnod Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Mae'r Cofnod Gweithredu wedi'i lunio i gynorthwyo'r Aelodau i olrhain y penderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor wrth ymarfer ei swyddogaethau. 

 

Er mwyn cynorthwyo'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i sicrhau bod penderfyniadau’r Pwyllgor yn cael eu gweithredu, amgaewyd y Cofnod Gweithredu yn Atodiad A yr adroddiad.  Cyflwynir y Cofnod Gweithredu i bob cyfarfod Pwyllgor i'w gymeradwyo ac er eu gwybodaeth. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid wrth yr Aelodau mai un o'r camau gweithredu cafodd ei arddangos yn yr Atodiad oedd cyflwyno adroddiad Strategaeth Dwyll i'r cyfarfod heddiw. Fodd bynnag, roedd yr adroddiad yma ar hyn o bryd yn y camau olaf o'r fformat drafft. Byddai felly'n cael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Ebrill. Byddai ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi i drefnu sesiwn hyfforddi i Aelodau'r Pwyllgor ar yr un pwnc rywbryd yn y dyfodol.

 

PENDERFYNIAD:

                          

Bod y Pwyllgor wedi cymeradwyo'r Cofnod Gweithredu a’i cyflwynwyd i'r

Aelodau er eu gwybodaeth, yn amodol ar y cafeatau uchod.   

225.

Adroddiad Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Archwilio Cymru pdf eicon PDF 267 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad gyda’r diben o gyflwyno nifer o ddiweddariadau ac adroddiadau gan Archwilio Cymru i'r Pwyllgor, gan gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ar y gwaith archwilio ariannol a pherfformiad sydd wedi’i ei wneud, ac sydd i'w wneud, gan Archwilio Cymru, yn ystod 2020-21.

 

Cafodd aelodau eu hatgoffabod Archwilio Cymru yn ymgymryd â rhaglen waith yn ystod y flwyddyn i helpu'r Archwilydd Cyffredinol i gyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Archwilio Gyhoeddus (Cymru) 2004 (Deddf 2004) a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009. Mae swyddogaethau'r Archwilydd Cyffredinol yn cynnwys archwilio cyfrifon a gwneud gwaith archwilio perfformiad lleol mewn ystod eang o gyrff cyhoeddus, ochr yn ochr â chynnal rhaglen o archwiliadau ac astudiaethau gwerth am arian cenedlaethol. Mae'r Archwilydd Cyffredinol hefyd yn asesu i ba raddau y mae cyrff cyhoeddus yn cydymffurfio â'r egwyddor o ddatblygu cynaliadwy wrth bennu a chymryd camau i gyflawni eu hamcanion lles.

 

Roedd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn cynnwys dyletswydd gyffredinol sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gwella Cymreig wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus wrth iddynt ymarfer eu swyddogaethau. Roedd yn ofynnol i'r Archwilydd Cyffredinol gynnal Asesiad Gwella blynyddol i benderfynu os yw'r Cyngor yn debygol o gydymffurfio â gofynion Rhan 1 o'r Mesur.

 

Cynhyrchodd Archwilio Cymru nifer o adroddiadau i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio eu hystyried. Dangoswyd y rhain ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad ac fe'u hatodir fel atodiadau i'r adroddiad, fel a ganlyn:-

 

  • Y Wybodaeth Ddiweddaraf gan Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio - Archwilio Cymru(Atodiad A); 
  • Crynodeb Archwilio Blynyddol (Atodiad B);
  • Cynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol o ganlyniad i Bandemig Covid-19 (Atodiad C)

 

Cyfeiriodd Swyddog Arweiniol Archwilio Perfformiad, Archwilio Cymru, yr Aelodau at dudalen 23 o’r adroddiad a'r archwiliad o'r Grantiau a Ffurflenni, a’i cwblhawyd gydag ond ychydig o fân waith sy'n ofynnol mewn perthynas â'r darn hwn o waith.

 

O ran archwilio Datganiad Cyfrifon 2020/21, roedd y gwaith cynllunio mewn perthynas â hyn wedi dechrau eisoes ac felly byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei nodi yn adroddiad y Cynllun Archwilio, a gafodd ei drefnu i’w gyflwyno i'r Pwyllgor yn y cyfarfod nesaf.

 

Yn dilyn hyn, cynghorodd Archwilio Cymru fod y Rhaglen Waith Archwilio Perfformiad ar gyfer 2019-20 wedi bod yn destun trafodaeth flaenorol ac y byddai'n cael ei gwblhau heddiw. Roedd y Rhaglen Waith Archwilio Perfformiad ar gyfer 2020-21 yn parhau a byddai crynodeb Archwilio Blynyddol yn dod i ben erbyn mis Tachwedd/Rhagfyr 2021 ac nid Mehefin/Gorffennaf, fel sy’n cael ei nodi yn yr adroddiad.

 

Dywedodd Swyddog Arweiniol Archwilio Perfformiad, Archwilio Cymru, fod y gwaith ar Aswiriant ac Asesiadau Risg bron a bod wedi'u cwblhau ar gyfer 2020-21 a bod y cyfarfod nesaf gyda Bwrdd Rheoli Corfforaethol y Cyngor am gael ei drefnu at Chwefror 10fed, a byddai'r canlyniadau'n llywio'r risgiau a’u hamlygwyd o'r gwaith a wnaed drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys unrhyw fewnbwn gan arolygwyr y Cyngor fel Estyn ac AGC. Yna, yn deillio o hyn, byddai Cynllun Archwilio'n cael ei lunio, ynghyd â rhaglen gytûn o waith ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 225.

226.

Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2021-22 pdf eicon PDF 588 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gr?p Interim – Prif Gyfrifydd adroddiad a oedd yn cynnwys drafft Strategaeth Rheoli’r Trysorlys ar gyfer y cyfnod uchod, gan gynnwys ei wahanol gydrannau.

 

Esboniodd, er mwyn sicrhau archwiliad effeithiol o reoli'r trysorlys yn unol â Strategaeth Rheoli'r Trysorlys (SRhT), bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi'i enwebu i fod yn gyfrifol am sicrhau archwilio effeithiol o’r SRhT a pholisïau yn unol â Datganiad Polisi'r Trysorlys a Dangosyddion Darbodus Rheoli'r Trysorlys.

 

Cyngor yr adroddiad oedd bod gweithgareddau rheoli trysorlysoedd y Cyngor yn cael eu rheoleiddio gan ddeddfwriaeth, a roddai’r pwerau i fenthyca a buddsoddi o fewn terfynau rheoledig. Roedd gofynion deddfwriaethol ariannol o'r fath hefyd yn cynnwys gofyn i'r Cyngor gymeradwyo SRhT cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, i nodi cyfrifoldebau, dirprwyaeth a threfniadau adrodd y Cyngor a'r Prif Swyddog Ariannol (Atodiad A i'r adroddiad a’i cyfeiriwyd ato).

 

Mae SRhT 2021-22 yn Atodiad A yn cadarnhau cydymffurfiaeth y Cyngor â Chod CIPFA, sy'n ei gwneud yn ofynnol i amcanion, polisïau ac arferion, strategaethau a threfniadau adrodd ffurfiol a chynhwysfawr fod ar waith ar gyfer rheolaeth a rheoli gweithgareddau rheolaeth y trysorlys yn effeithiol, ac mai rheolaeth a rheoli risg yn effeithiol yw prif amcanion y gweithgareddau hyn.

 

Mae'r SRhT wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu'r cyd-destun economaidd presennol, yn enwedig cynnal cyfraddau llog Banc Lloegr ar 0.10%, yn ogystal â heriau gadael yr Undeb Ewropeaidd ac effaith y pandemig coronafeirws. 

 

Mae aeddfedrwydd dyledion hirdymor wedi'i gynnwys, a'r rhagolwg yw y gallai fod angen i'r Cyngor fenthyca dros y ddwy flynedd nesaf i gefnogi'r Rhaglen Gyfalaf.  Hyd yma, mae'r Cyngor wedi gallu defnyddio cronfeydd wrth gefn i gefnogi ei wariant cyfalaf, caiff hyn ei gyfeirio ato fel benthyca mewnol. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa hon yn un tymor byr ac wrth i gronfeydd wrth gefn gael eu defnyddio a balansau'n lleihau, bydd angen yr angen yn codi i fenthyca.  Caiff hyn ei fonitro'n agos drwy gydol y flwyddyn gan y bydd newidiadau i'r Rhaglen Gyfalaf yn dylanwadu arno.

 

Cynghorodd Rheolwr y Gr?p Interim – Prif Gyfrifydd fod y gwrthbartïon buddsoddi a'r terfynau sydd wedi’u cymeradwyo (gweler Tabl 6 yn y strategaeth) wedi'u symleiddio a'u diwygio i ystyried y cyngor diweddaraf gan Gynghorwyr Trysorlys y Cyngor, Arlingclose.  Yn ogystal, bu newid i'r terfynau ar gyfer Cronfeydd Marchnad Arian, a oedd wedi'u cynyddu i £30 miliwn yn yr adolygiad canol blwyddyn o'r SRhT, ac a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Tachwedd 2020, gyda'r cyngor bellach yn sefyll fel terfyn diderfyn.  Cynigir na fyddai mwy na £6 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn unrhyw Gronfa unigol, er mwyn lleihau unrhyw effaith bosib o risg ddiofyn i'r Cyngor.

 

Mae'r terfyn arfaethedig i fuddsoddiadau nad yw’n ymwneud â’r Trysorlys wedi cynyddu o £1 miliwn i £2 filiwn.  Pwrpas hyn yw cefnogi buddsoddiad arfaethedig mewn Cerbyd Diben Arbennig sydd i'w sefydlu i ddarparu Rhwydwaith Gwres Trefol arfaethedig Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Yn ôl Rheolwr y Gr?p - Prif Gyfrifydd, byddai'r SRhT yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ym mis Chwefror 2021 i'w gymeradwyo.

 

Nododd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 226.

227.

Asesiad Risg Corfforaethol 2021-22 pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Interim – Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad, gyda’r diben o roi Asesiad Risg Corfforaethol diweddaredig 2021-22 i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a Pholisi Rheoli Risg Corfforaethol diweddaredig, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf hefyd ar Ddigwyddiadau ac Achlysuron ‘bron a bod’.

 

Atgoffodd yr Aelodau fod yr Asesiad Risg Corfforaethol yn cael ei ystyried a'i adolygu gan y Bwrdd Rheolaeth Corfforaethol (BRC), yr Uwch Dîm Rheoli, a'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, fel rhan o fframwaith Asesu Perfformiad Corfforaethol chwarterol y Cyngor, a'i fod yn cael ei ddefnyddio i lywio Rhaglen Waith y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu a phroses y gyllideb.

 

Atodwyd yr Asesiad Risg Corfforaethol yn Atodiad A o'r adroddiad. Nododd y prif risgiau sy'n wynebu'r Cyngor, eu cysylltiad ag amcanion llesiant corfforaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yr effaith debygol o’r risgiau hyn ar wasanaethau'r Cyngor a'r Fwrdeistref Sirol ehangach, yn ogystal â nodi’r hyn sy'n cael ei wneud i reoli'r risgiau a phwy sy'n gyfrifol am ymateb y Cyngor. Roedd yr asesiad risg hefyd yn cyd-fynd â'r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

Eglurodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid fod yr Asesiad Risg Corfforaethol, o ganlyniad i bandemig y coronafeirws, yn cael ei adolygu'n barhaus i ystyried unrhyw risgiau sy'n gysylltiedig â COVID-19, ac yn nodi sut mae'r Cyngor yn ymateb i'r risgiau hyn, yn gorfforaethol yn ei gyfanrwydd ac ar sail Cyfarwyddiaeth fesul Cyfarwyddiaeth drwy lunio adroddiadau SITREP wythnosol.

 

Cytunwyd hefyd ar fesurau llywodraethu corfforaethol ychwanegol i sicrhau, lle bo hynny’n briodol, y gellir cynyddu risgiau i BRC. Mae'r Cyngor wedi sefydlu gr?p gweithredol 'Arian', sy'n cynnwys Penaethiaid Gwasanaeth yn bennaf, i ystyried materion priodol a gwneud argymhellion i BRC sydd, pan fo angen, yn cyfarfod ar wahân fel y gr?p 'Aur' strategol i wneud penderfyniadau sy'n ymwneud â COVID-19, gydag unrhyw risgiau o gryn bryder i’w gynyddu ymlaen i'r Cabinet/BRC.

 

Ar hyn o bryd roedd y Cyngor yn profi pwysau aruthrol ar draws yr awdurdod, yn enwedig ym maes Gofal Cymdeithasol h.y. drwy ddarparu offer PPE a'r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu (TTP), ac roeddent yn archwilio ffyrdd o gryfhau adnoddau i flaenoriaethu a chefnogi'r swyddogaethau hanfodol hyn. Yn ogystal, mae'r awdurdod yn gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Iechyd i reoli'r gwaith o gyflwyno rhaglen frechu COVID-19. Roedd y Cyngor newydd agor ei Ganolfan frechu COVID-19 gyntaf, gan ganolbwyntio ar imiwneiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen ac roedd hyn yn gweithredu'n llwyddiannus.

 

Roedd llinell amser y Polisi Rheoli Risg Corfforaethol, sydd wedi’i gynnwys yn Atodiad B o'r adroddiad, wedi'i diwygio ar gyfer 2021-22 a chytunwyd arni hefyd gan y BRC.

 

Mae'r tîm Yswiriant yn cadw cofnod o'r achosion ‘bron a bod’, yn unol â'r weithdrefn adrodd bresennol ‘bron a bod’. Amgaewyd cofnod o achosion a’u hadroddwyd yn ystod 2020, yn Atodiad C i'r adroddiad. Bu adrodd dau achos, un gwyrdd ac un ambr. Ni fu adrodd unrhyw achos coch yn y cyfnod.

 

Roedd modiwl E-Ddysgu newydd yn cael ei ddatblygu i godi ymwybyddiaeth o'r mater ac mae tudalen  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 227.

228.

Cynnydd yn Erbyn y Cynllun Seiliedig ar Risg Archwilio Mewnol (Ebrill y 1af 2020 i Hydref y 31ain 2020) pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cleient Archwilio adroddiad, a roddodd ddatganiad sefyllfa i Aelodau'r Pwyllgor ar y cynnydd sy'n cael ei wneud yn erbyn y gwaith archwilio a’i cynhwyswyd a chymeradwywyd yng Nghynllun Archwilio Mewnol seiliedig ar Risg 2020-21.

 

Cynghorodd, yn unol â Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus, mai'r Pennaeth Archwilio Mewnol oedd yn gyfrifol am ddatblygu cynllun archwilio blynyddol yn seiliedig ar risg, sy'n ystyried fframwaith rheoli risg y Cyngor.  O fewn y Safonau roedd hefyd yn ofynnol i'r Pennaeth Archwilio Mewnol adolygu ac addasu'r cynllun, yn ôl yr angen, mewn ymateb i newidiadau ym musnes, risgiau, gweithrediadau, rhaglenni, systemau, rheolaethau ac adnoddau'r Cyngor.

 

Cyflwynwyd y Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer 2020-21 i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i'w ystyried a'i gymeradwyo ar Fedi’r 10fed 2020.  Amlinellodd y Cynllun yr aseiniadau i'w cyflawni a fyddai'n rhoi digon o sylw i roi barn ar ddiwedd 2020-21, wrth ystyried effaith ddigynsail pandemig COVID.

 

Cadarnhaodd Rheolwr y Cleient Archwilio fod y cynnydd a wnaed yn erbyn y cynllun ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill y 1af a Rhagfyr yr 31ain 2020 wedi'i atodi yn Atodiad A i'r adroddiad. Roedd hyn yn manylu ar statws pob adolygiad arfaethedig, y farn archwilio a nifer unrhyw argymhellion uchel neu ganolig a wnaed i wella'r amgylchedd reoli. Dylid nodi nad oedd gan rai adolygiadau caiff eu rhestru barn archwilio, er enghraifft cyngor ac arweiniad, adroddiadau'r Pwyllgor Archwilio a'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol (CMB). Y rheswm am hyn oedd nad oedd y gwaith archwilio a wnaed mewn perthynas â'r eitemau hyn, er ei fod wedi'i gynllunio, yn arwain at brofion a ffurfiad barn archwilio.

 

Dangosodd Atodiad A bod 16 eitem o waith wedi'u cwblhau ar Ragfyr yr 31ain 2020, ac roedd 12 o’r adolygiadau archwilio hyn wedi arwain at ddarpariaeth barn. Roedd 3 adolygiad arall wedi'u cwblhau a chyhoeddi adroddiadau drafft ac roedd y rhain yn aros am adborth gan Adrannau Gwasanaeth. Roedd 15 adolygiad arall yn parhau ar hyn o bryd ac roedd 5 arall wedi'u dyrannu i ddechrau’n fuan.

 

Ychwanegodd, yn seiliedig ar asesu cryfderau a gwendidau'r meysydd a’u harchwiliwyd drwy brofi effeithiolrwydd yr amgylchedd rheolaeth fewnol, fod barn archwilio o sicrwydd sylweddol wedi'i rhoi i 1 adolygiad gorffenedig sicrwydd rhesymol i 10 adolygiad gorffenedig.  Rhoddwyd barn archwilio o sicrwydd cyfyngedig i weddill yr adolygiad archwilio a’u cwblhawyd. Roedd y maes hwn yn destun dadl yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, atgoffodd y Rheolwr Cleient archwilio'r Aelodau.

 

Nododd Atodiad A hefyd fod cyfanswm o 16 argymhelliad canolig (arwyddocaol) wedi'u gwneud i wella amgylchedd rheoli'r meysydd a’u hadolygwyd. Byddai gweithredu'r argymhellion hyn yn cael ei fonitro er mwyn sicrhau bod gwelliannau'n cael eu gwneud.

 

Cydnabuwyd bod rhai meysydd gwasanaeth o dan bwysau mawr ar hyn o bryd a lle y bo'n bosibl, mae gwaith archwilio wedi'i gynllunio yn cael ei aildrefnu i ddarparu ar gyfer unrhyw geisiadau am wasanaeth. Adlewyrchodd Atodiad A hefyd bod llawer o'r adolygiadau archwilio arfaethedig bellach wedi'u dyrannu ac roedd yn ymddangos y bydd digon o sylw'n cael ei gwblhau erbyn diwedd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 228.

229.

Effeithiolrwydd y Pwyllgor Archwilio - Hunanasesiad pdf eicon PDF 85 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol adroddiad i aelodau'r Pwyllgor, gyda’r diben o grynhoi canfyddiadau'r Hunanasesiad Arferion Da o Ganllawiau Ymarferol Pwyllgorau Archwilio 2018, gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA).

 

Fel cefndir, dywedodd fod yr Archwiliad Mewnol wedi adolygu effeithiolrwydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio hwn yn unol â'r Hunanasesiad Arferion Da sydd wedi'i gynnwys yn arweiniad CIPFA. Mae hyn yn darparu adolygiad lefel uchel sy'n ymgorffori'r egwyddorion allweddol a nodir yn Natganiad Sefyllfa CIPFA.

 

Atodwyd y rhestr wirio orffenedig a'i chanfyddiadau yn Atodiad A o’r adroddiad.  Mae'r rhestr wirio yn dangos bod effeithiolrwydd cyffredinol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn dda gydag ychydig o feysydd wedi'u nodi lle gellir gwneud gwelliannau. Roedd paragraff 4.2 o'r adroddiad yn manylu ar ffurf pwyntiau bwled.

 

Cyfeiriodd Pennaeth y Gwasanaeth Mewnol Archwilio Rhanbarthol yr Aelodau at Atodiad B o’r adroddiad, a oedd yn cynnwys argymhellion ar gyfer meysydd a’u gellir eu gwella. Yn dilyn, roedd Atodiad C yn cynnwys holiadur sgiliau a gwybodaeth i'r Aelodau i'w hystyried a'i gwblhau.

 

Ychwanegodd bod yr holiadur wedi'i dreialu gydag Aelodau o'r Pwyllgor cyfatebol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ychydig cyn cyfnod y Nadolig.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid, y gallai Aelodau, wrth lenwi a dychwelyd yr holiadur, wneud hynny'n ddienw pe baent yn dymuno.

 

Teimlai'r Cadeirydd y dylai pob Aelod lenwi'r holiadur Sgiliau a Gwybodaeth, a theimlai y dylid pennu’r dyddiad cau ar gyfer cwblhau hyn fel dydd Gwener Chwefror y 19eg.

 

I Aelodau'r Pwyllgor oedd hefyd am drafod hyfforddiant yn y dyfodol, ychwanegodd y byddai'n hapus i ddarparu ar gyfer hyn mewn cyfarfod rhithwir, i’w sefydlu gyda chymorth Swyddogion.

 

PENDERFYNIAD:                                

 

Cytunodd y Pwyllgor:

 

(1)  Bod y Cadeirydd yn cyfarfod yn rhithiwr â Swyddogion ac Aelodau sydd â diddordeb, ar gyfer unrhyw anghenion a gofynion hyfforddi gofynnol a nodwyd.

Y dylai'r holiadur hunanasesu sgiliau gael ei gwblhau gan bob Aelod o fewn cyfnod o 3 wythnos, h.y. erbyn Chwefror 19eg 2021.

230.

Adroddiad Archwilio Mewnol - Cyllid Allanol pdf eicon PDF 70 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol adroddiad, er mwyn rhannu gydag Aelodau'r Pwyllgor, adroddiad archwilio mewnol ddiweddar a adolygodd sampl o gynlluniau a’u hariannwyd yn allanol, er mwyn rhoi sicrwydd yngl?n ag agweddau caffael a llywodraethu'r cynlluniau.

 

Er gwybodaeth gefndir, dywedodd fod adolygiad archwilio mewnol o Gyllid Allanol wedi'i gynnal fel rhan o Gynllun Archwilio Mewnol blynyddol 2020/21. Amcan yr adolygiad oedd rhoi sicrwydd y glynir wrth bolisïau a gweithdrefnau'r Cyngor, yn ogystal â thelerau ac amodau ariannu, wrth reoli cyllid allanol a dderbyniwyd gan y Cyngor.

 

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i'r Cabinet ar raglen Arbed, ar yr 17eg o Dachwedd 2020. Yn yr adroddiad hwnnw cyfeiriwyd at waith sy'n cael ei wneud gan yr Archwiliad Mewnol, gyda'r nod o roi sicrwydd bod agweddau caffael a llywodraethu’r cynlluniau a’u hariennir yn allanol yn cydymffurfio â pholisïau'r Cyngor yn ogystal ag unrhyw delerau ac amodau grant penodol.

 

Adroddodd yr adroddiad hwnnw wrth y Cabinet y byddai'r adroddiad archwilio gorffenedig yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Atodwyd yr adroddiad archwilio mewnol gorffenedig yn Atodiad A o’r adroddiad.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol fod yr adroddiad hwnnw'n nodi'r 10 cynllun a’u hadolygwyd, yn ogystal â chanfyddiadau ac argymhellion o ganlyniad i'r archwiliad. Canfuwyd, o'r sampl dewisol a’i hadolygwyd, nad yw'r pryderon sy'n deillio o gynllun blaenorol a’i hariannwyd yn allanol wedi'u hailadrodd. Roedd dogfennau ar gael i gefnogi cydymffurfiaeth â Rheolau Gweithdrefn Contract y Cyngor a chyfranogiad Caffael Corfforaethol wrth ymgysylltu â chontractwyr. Roedd tystiolaeth hefyd o fonitro, adrodd a llywodraethiad cyflenwyr ar draws yr holl brosiectau.

 

Rhoddwyd barn archwilio o sicrwydd rhesymol, hynny yw bod y rheolaethau allweddol yn bodoli, ond efallai y bydd rhywfaint o anghysondeb o ran cymhwysiad. Mae’n cloi trwy ddweud, o ganlyniad, dim ond 4 argymhelliad bach, 'yn deilwng o sylw' a wnaed.

 

Gofynnodd Aelod a oedd unrhyw gynlluniau yn y tymor hir, i wneud gwaith pellach a’i cynigiwyd ar ffurf adolygiadau ar brosiectau a’u hariennir yn allanol.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol y byddai adolygiadau pellach, fel rhan o’r archwiliadau arfaethedig mewn perthynas â chaffael a phrosiectau/cynlluniau penodol.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd unrhyw un o'r adolygiadau cafodd eu hymgymryd ynddynt ar brosiectau â chyfyngiad amser neu brosiectau a’u hariannwyd yn hwyr, gan y gallai hyn fod wedi bod yn ffactor yn ariannu’r prosiect Arbed.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaeth Archwilio Mewnol Rhanbarthol fod un o'r deg cynllun wedi bod yn destun cyllid hwyr. Gwaith mewn perthynas â phrosiect y Cynllun Teithio Llesol ym Mhencoed, lle'r oedd y Cyngor wedi gwneud cais am gyllid pellach i Lywodraeth Cymru yn ychwanegol at yr hyn cafodd ei fuddsoddi yn y prosiect yn gychwynnol.

 

Ehangwyd ar fanylion hyn gan Reolwr Cleient Archwilio er budd yr Aelodau.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro – Cyllid, Perfformiad a Newid i'r Pwyllgor fod yr awdurdod lleol yn cael nifer cynyddol o grantiau wedi'u neilltuo yn hwyr yn y flwyddyn ariannol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau penodol, gan gynnwys y rhai a’u cynhwyswyd yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 230.

231.

Blaenraglen Waith Diwygiedig 2020-21 pdf eicon PDF 227 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro adroddiad, a'i ddiben oedd ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y Flaenraglen Waith arfaethedig wedi'i Diweddaru (FW) ar gyfer 2020-21.

 

Rhestrwyd yr eitemau FW ar gyfer y cyfarfod nesaf ar Ebrill yr 22ain 2021, ym mharagraff 4.1 o'r adroddiad.

 

Eglurodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro y byddai dwy eitem arall ar gyfer yr agenda ar gyfer y cyfarfod uchod, sef Diweddariad gan Archwilio Cymru ar y Fenter Twyll Cenedlaethol yn ogystal ag eitem ar yr Asesiad Risg a Strategaeth Twyll.

 

Fel adlewyrchodd yr adroddiad, byddai Blaenraglen Waith arfaethedig ar gyfer y flwyddyn 2021-22 yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Ebrill, gan amlinellu adroddiadau arfaethedig i'w cynnwys fel eitemau agenda ar gyfarfodydd dilynol a’u cynullwyd o fewn y cyfnod hwn.

 

PENDERFYNIAD:    

                         

Bod y Pwyllgor wedi ystyried a chymeradwyo'r Flaenraglen Waith

arfaethedig wedi'i diweddaru ar gyfer 2020-21, yn amodol ar yr eitemau

ychwanegol canlynol:

 

a)         Adroddiad Asesu Risg a Strategaeth Twyll;

b)         Y wybodaeth ddiweddaraf gan Archwilio Cymru am y Fenter Twyll Cenedlaethol.

232.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â pharagraff 2.4 (e) o'r Rheolau Trefn y Cabinet yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

None.

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z