Accessibility links

1
Dewis iaith

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: o bell - trwy Dimau Microsoft

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

542.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Cyhoeddodd y Cynghorydd C Webster fuddiant personol yn Eitem 7 ar yr Agenda, oherwydd bod ei mab yn derbyn Cludiant i’r Ysgol.

 

543.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 125 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 24/02/2021 a 10/03/2021

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:                  Cymeradwyo bod Cofnodion cyfarfod y Cyngor dyddiedig 24 Chwefror a 10 Mawrth 2021 yn gywir.

 

544.

Derbyn cyhoeddiadau gan:

(i) Maer (neu’r person sy’n llywyddu)

(ii) Aelodau’r Cabinet

(iii) Prif Weithredwr

Cofnodion:

Y Maer

 

Drannoeth y cyfarfod blynyddol, cefais wahoddiad i fod yn bresennol mewn cyfarfod o bell â Chlwb Ieuenctid KPC. Cynhelir y sgwrs dros baned yma'n rheolaidd i bawb o’r clwb gael dod ynghyd. Roedd yn hyfryd cael cwrdd â'r holl wirfoddolwyr ymroddedig yn rhithiol, a chlywed am y cynlluniau sydd ganddynt ar y gweill - cychwyn cadarnhaol iawn i'm blwyddyn fel Maer.

 

Wedi hynny, aeth y Dirprwy Faer a minnau i gasglu ein cadwynau swydd mewn seremoni fer breifat ym Mharlwr y Maer gyda fy ngwraig (y Faeres), y Prif Weithredwr a'r Arweinydd.

 

Yn rhan o'r Wythnos Gwirfoddolwyr, cefais wahoddiad i ymweld â'r Gylchfa yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.  Fel y gwyddoch mae'n debyg, canolfan i deuluoedd yw'r Gylchfa a sefydlwyd i gefnogi pob aelod o'r gymuned. Bydd gwirfoddolwyr y ganolfan yn rhoi cymorth ac arweiniad ar amrywiaeth fawr o faterion. Roedd hi'n ddiddorol cael cwrdd â'r staff a chael gwybod sut maent wedi addasu a pharhau â'u gwaith yn ystod y pandemig.  Ar fater tebyg, cefais hefyd ymweld a Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod yr Wythnos Gofalwyr, i gwrdd a dweud diolch wrth yr holl staff sy'n gwneud gwaith mor anhygoel drwy gydol y flwyddyn.

 

Ymhlith digwyddiadau eraill ar fy nghalendr oedd ymweliad â Gwarchodfa Natur Parc Slip fore Sadwrn gyda Iolo Williams, sy'n darlledu'n fyw ar y BBC ac ar ddydd Llun - cinio gyda'r Uchel-Siryf.

 

O ran fy ngwaith codi arian, rwyf ar ganol trefnu digwyddiadau ac mae gen i ddau ddyddiad amodol ar gyfer eich dyddiaduron.

 

Dydd Sadwrn 13 Awst - naid awyr ar y cyd â'r Faeres, ym maes awyr Abertawe, a dydd Sadwrn 18 Medi - Her 3 Chopa Cymru, gan obeithio y bydd 2 fws mini o leiaf ar gael ar gyfer oddeutu 20 o gyfranogwyr.

 

Os hoffech gyfrannu at fy achosion elusennol, gallwch wneud hynny drwy fynd i dudalen y Maer ar wefan CBSPO a chlicio ar y botwm Elusen - bydd hynny'n eich tywys i dudalen gyfrannu.  I'ch atgoffa, fy elusennau yw "Lads and Dads" a "Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr".

 

Y Dirprwy Arweinydd

 

Mae gwaith bellach wedi dechrau ar wella'r fynedfa i Stad Ddiwydiannol Village Farm yn y Pîl.

 

Mae hyn yn cael ei gyflawni cyn y bwriedir agor canolfan ailgylchu gymunedol newydd sbon y Stad yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Er mwyn gwella llif y traffig, osgoi tagfeydd ac atal cerbydau rhag gorfod ciwio, mae lôn newydd bwrpasol yn cael ei chreu er mwyn troi i mewn ac allan o'r stad oddi ar yr A48.

 

Yn rhan o'r gwaith, mae goleuadau traffig newydd yn cael eu gosod, a bydd y ffordd ger Heol Mostyn yn cael ei hailwynebu.

 

Disgwylir y bydd hi'n cymryd hyd at 12 wythnos i gwblhau'r gwelliannau, ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau cyn lleied o anghyfleustra â phosib.

 

Pan fydd yn agor yn ddiweddarach eleni, bydd y Ganolfan Ailgylchu Gymunedol newydd yn cynnwys cilfachau parcio ar gyfer 31 o geir, capasiti ciwio ar y safle ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 544.

545.

Derbyn cyhoeddiadau gan yr Arweinydd

Cofnodion:

Efallai fod yr Aelodau'n gwybod y bydd Diwrnod y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal eleni ar ddydd Sadwrn 26 Mehefin.

 

Er bod cyfyngiadau'r pandemig wedi cyfyngu ar y modd y gallwn nodi'r achlysur pwysig hwn, mae baner y Lluoedd Arfog wedi bod yn hedfan o flaen y Swyddfeydd Dinesig i gydnabod y digwyddiad.

 

Rydym hefyd yn defnyddio'r achlysur i atgoffa aelodau cyfredol ac aelodau sy'n gwasanaethu yn y fyddin fod Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog wedi'i sefydlu i roi cymorth a chefnogaeth iddynt.

 

Mae'r cyfamod, sydd wedi bod ar waith ers 2013, yn addo cyd-gefnogaeth rhwng pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, cymuned y lluoedd arfog, sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus, busnesau lleol a'r sectorau elusennol a gwirfoddol.

 

Mae'n dod â sefydliadau ynghyd ar raddfa leol i weithio mewn partneriaeth a defnyddio eu gwybodaeth, eu profiad a'u medrusrwydd arbenigol i roi cymorth, cefnogaeth a chyngor priodol i gymuned y lluoedd arfog.

 

Ar hyd y blynyddoedd, mae'r cyfamod cymunedol wedi cael ei ddatblygu a'i ehangu i gynnig ystod o fanteision.

 

O ganlyniad i hyn, bydd ymgeiswyr tai sydd angen llety wedi'i addasu oherwydd anafiadau a gawsant wrth wasanaethu, neu a allai fod angen rhywle i fyw ar ôl gadael y Lluoedd Arfog, yn cael blaenoriaeth.

 

Mae Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor wedi cael ei ddiwygio fel nad yw pensiynau gweddwon rhyfel yn cael eu cynnwys mwyach wrth gyfrifo incwm yr unigolyn.

 

Mae'r Polisi Dyrannu Lleoedd Ysgol hefyd yn sicrhau nad yw cyn-filwyr dan anfantais wrth ddychwelyd i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Gall aelodau o'r fyddin a chyn-filwyr fwynhau sesiynau am ddim ym mhyllau nofio lleol Halo ledled y fwrdeistref sirol, a gallant wneud cais i gronfa'r cyfamod cymunedol am gymorth ariannol sydd wedi'i gynllunio i'w helpu i integreiddio i fywyd sifil.

 

Mae Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog yn ei gwneud hi'n haws i aelodau o'r fyddin, eu teuluoedd a chyn-filwyr dderbyn y cymorth, y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth y maen nhw'n eu llawn haeddu.

 

Yn ogystal â bod yn arwydd o barch, mae'r cyfamod cymunedol yn dangos nad yw pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi anghofio gwasanaeth, aberth ac ymroddiad ein lluoedd arfog.

 

Mae rhagor o wybodaeth am Gyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog, a'r modd y gall roi cymorth i bobl leol, ar gael ar wefan y Cyngor.

 

Hoffwn atgoffa'r aelodau mai'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion y DU yw 30 Mehefin.

 

Os oes gennych etholwyr yn eich ward sydd yn ddinasyddion yr UE, dyma eu cyfle olaf i wneud cais i barhau i fyw a gweithio yn y DU, er bod y Llywodraeth hefyd wedi cadarnhau y ceir estyniad o 28 diwrnod i bobl a chanddynt esgus rhesymol dros yr oedi.

 

Mae gwefan y Cyngor yn cynnwys llawer o wybodaeth am y cynllun preswylio'n sefydlog, ac yn cynnwys manylion am y cymorth a'r cyngor sydd ar gael.

 

Gallwch hefyd ymweld â thudalen we Llywodraeth y DU ar gyfer y Cynllun Preswylion'n Sefydlog i Ddinasyddion y DU.

 

Yn olaf, rydym ar ganol cyflawni cam olaf  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 545.

546.

Rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu Cwm Taf Morgannwg - Rhaglen Partneriaeth pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad er mwyn cyflwyno Cynllun Atal ac Ymateb Profi, Olrhain a Diogelu Rhanbarth Cwm Taf Morgannwg 2021/2022, i nodi ac amlinellu cyfraniad y Cydwasanaethau Rheoleiddio at gyflawni'r Cynllun.

 

Cyflwynodd Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus ac Arweinydd YaD er mwyn Arloesi a Dave Holland, Pennaeth y Cydwasanaethau Rheoleiddio, i'r aelodau, a fyddai'n rhoi cyflwyniad ar y cyd ynghylch y rhaglen uchod.

 

Yn ôl yr adroddiad, roedd Llywodraeth Cymru wedi llunio ei Strategaeth "Profi, Olrhain, Diogelu" ar 13 Mai 2020 a oedd yn seiliedig ar gyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC). Roedd yn ofynnol i bob rhanbarth ddatblygu cynllun ymateb yn amlinellu sut y byddai nodau'r Strategaeth yn cael eu cyflawni. Mae cynllun ymateb Cwm Taf Morgannwg, a elwir yn Rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu CTM yn cael ei reoli ar sail ôl-troed ranbarthol (CTM) o dan arweinyddiaeth y Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus. Mae Gr?p Goruchwylio Strategol Rhanbarthol aml-asiantaeth a oedd yn cynnwys aelodau o'r Bwrdd Iechyd, o'r Tîm Iechyd Cyhoeddus Lleol a'r tri awdurdod lleol wedi cael ei sefydlu i weithredu'r cynllun ymateb o fewn ardal CTM.

 

Cafodd Cynllun Atal ac Ymateb COVID-19 Cwm Taf Morgannwg ar gyfer 2021/2022, sydd wedi'i gynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad, ei gyflwyno i Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru ym mis Awst 2020.

 

Arweiniodd cynllun 2020/2021 nifer o gamau o bwys, a gyflawnwyd mewn partneriaeth ac yn aml o fewn graddfeydd amser byr, a'r cyfan yn anelu i atal ac ymateb i'r pandemig i leihau'r effaith ar ein cymunedau hyd y gellir. Cafodd y rhain eu cynnwys ar ffurf bwledi, ym mharagraff 4.1 yr adroddiad.

 

Cafodd y cynllun ei osod yng nghyd-destun 'trem yn ôl' ar ddigwyddiadau yn 2020/2021 a'r gwersi a ddysgwyd. Roedd y cynllun yn rhoi rhywfaint o'r cefndir epidemiolegol, ynghyd â statws cyfredol COVID-19 yn CTM, a'r senarios posibl y mae angen i gymunedau fod yn barod i ymateb iddynt wrth inni symud i mewn i 2021/2022.

 

Ym mis Mawrth 2021, lluniodd Archwilio Cymru adroddiad "Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru: Trosolwg o'r Cynnydd Hyd Yma "(wedi'i gynnwys yn Atodiad 2 o'r adroddiad).  Dyma'r negeseuon allweddol ar raddfa genedlaethol:

 

           Drwy'r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu, mae gwahanol rannau o sector cyhoeddus a thrydydd sector Cymru wedi cydweithio'n dda, mewn partneriaethau cryf ac effeithiol, i fynd ati'n gyflym i adeiladu rhaglen o weithgareddau sy'n gwneud cyfraniad pwysig at reoli COVID-19 yng Nghymru.

 

           Ceir nifer o gryfderau yn gysylltiedig â chyfluniad y system Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru, gan gyfuno goruchwyliaeth genedlaethol ag arbenigedd technegol â pherchnogaeth ranbarthol ar y rhaglen, a'r gallu i ddefnyddio dealltwriaeth a gwybodaeth leol i lywio ymatebion.

 

           Bydd y rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu yn parhau i fod yn offeryn allweddol ym mrwydr Cymru â'r firws am gryn amser.

 

Roedd adroddiad Archwilio Cymru yn amlygu nifer o heriau sy'n effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau. Rhoddwyd ystyriaeth i'r rhain wrth ddatblygu cynllun eleni. Rhestrwyd y rhain ym mharagraff 4.5 yr adroddiad.

 

Er cydnabod cynnydd cadarnhaol y rhaglen frechu, ceir ansicrwydd o hyd ynghylch amrywiolion COVID-19 sy'n destun  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 546.

547.

Alldro Cyllideb Refeniw 2020-21 pdf eicon PDF 911 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad i roi'r newyddion diweddaraf ynghylch perfformiad ariannol y Cyngor o safbwynt refeniw ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021.

 

Fel cefndir, roedd yr adroddiad yn atgoffa'r Aelodau fod y Cyngor, ar 26 Chwefror 2020, wedi cymeradwyo cyllideb refeniw net o £286.885 miliwn ar gyfer 2020-21. Yn rhan o'r Fframwaith Rheoli Perfformiad, caiff amcanestyniadau o'r gyllideb eu hadolygu'n rheolaidd a'u hadrodd gerbron y Cabinet ar sail chwarterol. Bydd y broses o weithredu gostyngiadau cytunedig i'r gyllideb hefyd yn cael ei hadolygu, ac adroddir am hynny gerbron y Cabinet yn rhan o'r broses hon.

 

Esboniodd fod blwyddyn ariannol 2020-21 wedi bod yn flwyddyn unigryw a chymhleth wrth reoli sefyllfa ariannol y Cyngor, a hynny'n bennaf o ganlyniad i bandemig Covid-19. Cafwyd newidiadau sylweddol drwy gydol y flwyddyn wrth i amgylchiadau newid, ac wrth gefnogi gwasanaethau mewn gwahanol ffyrdd i greu'r dulliau gorau posib o sicrhau canlyniadau. Sefydlwyd Cronfa Galedi Covid-19 gwerth £188.5m yn fuan gan Lywodraeth Cymru, ac roedd modd i'r Cyngor dderbyn cymorth ariannol o'r gronfa honno.

 

Roedd y Cyngor wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus wrth sicrhau cefnogaeth ar gyfer y costau ychwanegol a ysgwyddwyd, ynghyd â cheisiadau am incwm a gollwyd. Gwnaethom gyflwyno ceisiadau am gyfanswm o £21.5 miliwn o Gronfa Galedi LlC, a dim ond ceisiadau gwerth £882,000 a wrthodwyd.

 

Yn ogystal â'r cymorth a'r gefnogaeth o Gronfa Galedi LlC, cafwyd grantiau penodol er mwyn helpu i glustogi effeithiau COVID ar ddarpariaeth gwasanaethau. Roedd y rhain yn cynnwys TGCh i ddysgwyr wedi'u heithrio'n ddigidol, ad-dalu ffioedd consesiwn a seiberddiogelwch yr awdurdod lleol, ynghyd â chymorth penodol i ysgolion ar gyfer gwasanaethau cwnsela yn yr ysgol, masgiau wyneb a chymorth ar gyfer costau glanhau ychwanegol. Ar ben hynny, cafwyd grantiau penodol yn chwarter olaf y flwyddyn ariannol.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid, mai'r newid sylweddol arall rhwng chwarter 3 a chwarter 4 oedd y £1.261 miliwn o gyfraniad gan LlC ym mis Chwefror 2021, i gydnabod y gostyngiad i'r dreth gyngor a gasglwyd gan Gynghorau yn 2020-21 o ganlyniad i bandemig Covid-19. Roedd meysydd buddsoddi allweddol wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad a'u dangos yn fanylach yn Atodiad 1.

 

Roedd cyllideb refeniw net ac alldro terfynol y Cyngor ar gyfer 2020-21 wedi'u dangos yn Nhabl 1 yr adroddiad.

 

Yr alldro cyffredinol ar 31 Mawrth 2021, oedd tanwariant net o    £432,000 sydd wedi'i drosglwyddo i Gronfa'r Cyngor, gan godi cyfanswm balans y Gronfa i £9.771 miliwn yn unol ag Egwyddor 9 y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig (SATC).

 

Tynnai Tabl 1 sylw at y newidiadau y cyfeiriwyd atynt o £6.6 miliwn ers chwarter 3 yng Nghyllidebau'r Cyfarwyddiaethau, a newid o £4.549 miliwn yng nghyfanswm y cyllidebau ar gyfer y Cyngor Cyfan. Yn Nhabl 2 yr adroddiad, amlygwyd y prif resymau dros y newid, a'r cyllid ychwanegol a dderbyniwyd gan y Cyngor ers chwarter 3 a oedd yn cefnogi'r sefyllfa alldro newydd.

 

Ers chwarter 3, cadarnhaodd y Prif Swyddog Dros  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 547.

548.

Y Diweddaraf am y Rhaglen Gyfalaf pdf eicon PDF 434 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid adroddiad a ofynnai i'r Cyngor gymeradwyo rhaglen gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2020-21 hyd 2030-31 (Atodiad A i'r adroddiad y cyfeiriwyd ato).

 

Atgoffodd yr Aelodau fod y rhaglen gyfalaf a gymeradwywyd gan y Cyngor ym mis Chwefror 2021 ar gyfer y cyfnod 2020-21 hyd 2030-31 yn gyfanswm o £205.732 miliwn, yr oedd £116.147 miliwn i gael ei dalu o gronfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSPO), gan gynnwys derbyniadau cyfalaf a chyfraniadau refeniw o gronfeydd wedi'u clustnodi, a'r £89.585 miliwn a oedd yn weddill o adnoddau allanol, gan gynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol.

 

Fel y soniwyd yn yr adroddiad, derbyniwyd nifer o gynigion am gynlluniau cyfalaf newydd, ac mae'r Cabinet a'r Bwrdd Rheoli Corfforaethol wedi ystyried a threfnu'r rhain yn ôl blaenoriaeth, yn unol â Strategaeth Gyfalaf y Cyngor. Neilltuwyd cyllid ar gyfer y cynlluniau hyn drwy gronfeydd newydd wedi'u clustnodi, a sefydlwyd yn ystod proses diwedd blwyddyn 2020-21, o gyllid cyfalaf cyffredinol nad oedd wedi'i neilltuo a dderbyniwyd drwy Setliad Llywodraeth Leol 2021-22, ac o gyllid refeniw cronfa tir y cyhoedd ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22. Yn ogystal â hynny, roedd angen cynnwys un cynllun ysgol hefyd yn y rhaglen gyfalaf, a ariennir yn rhannol o gyllidebau a ddirprwyir i ysgolion ac yn rhannol drwy fenthyciad di-log Salix, i'w ad-dalu gan yr ysgol.

 

Cyfanswm cost y cynlluniau newydd oedd £4,552,271, a dadansoddwyd hyn yn Nhabl 1 yr adroddiad, gyda Thabl 2 yn dangos dadansoddiad o'r cyllid ar gyfer y cynlluniau arfaethedig.

 

Manylwyd ar wybodaeth bellach am y cynlluniau, ym mharagraff 4.4 o'r adroddiad, ac roedd peth o'r wybodaeth yn ychwanegu'r Prif Swyddog Dros Dro - Cyllid, Perfformiad a Newid.

 

Yn eu tro, cymeradwyodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet - Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol rai o'r prosiectau a restrwyd - y cyntaf, sef ailosod system TCC newydd a'r olaf, y cyfleusterau ychwanegol a ddarparwyd gan Ymddiriedolaeth Arwen a Halo yn eu hadeiladau, a fyddai o fudd i rai â phroblemau symud, a chynigion i ddarparu cyfarpar sugno gylïau ac adnewyddu caeau chwarae.

 

Cymeradwyodd Aelod y ffaith bod paneli solar yn cael eu gosod yn Ysgol Litchard, a gofynnwyd a oedd bwriad i wneud hynny mewn ysgolion eraill a chanddynt ddiddordeb yn hynny, yn enwedig y rhai hynny na allai fforddio dalu am gynllun o'r fath o'u cyllidebau eu hunain.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Addysg a Chymorth i Deuluoedd y gallai roi diweddariad i'r Aelod ynghylch yr uchod y tu allan i'r cyfarfod.

 

Dywedodd y Dirprwy Bennaeth Cyllid Dros Dro fod y Rhaglen Gyfalaf yn cynnwys Cynllun Arbed Ynni i ystyried arbedion effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau Cyngor, gan gynnwys ysgolion.

Roedd hyn hefyd yn cynnwys paneli solar ar ysgolion ac ar adeiladau eraill. 

 

PENDERFYNWYD:                      Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r Rhaglen Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2020-21 hyd 2030-31 (yn Atodiad A i'r adroddiad). 

 

549.

Adroddiad Gwybodaeth i’w Nodi pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafododd y Prif Swyddog Cyfreithiol, AD a Gwasanaethau Rheoleiddio a'r Swyddog Monitro ar yr Adroddiad Gwybodaeth a oedd wedi cael ei gyhoeddi ers cyfarfod diwethaf y Cyngor.

 

Holodd Aelod ynghylch gohirio'r Rheolau Gweithdrefn Contractau perthnasol a oedd yn gysylltiedig â phenderfyniad a wnaed ynghylch costau Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol. Gofynnodd a fyddai'n briodol gofyn i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol edrych yn ôl ar y broses, er mwyn cadarnhau bod y drefn gywir wedi'i dilyn yn gysylltiedig â'r penderfyniad neilltuol hwn.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Rheoleiddio y gallai ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu uchod, neu'r Aelod ei hun, i esbonio pam bod y Rheolau Gweithdrefn Contractau wedi cael eu hatal yn yr achos hwn, gan weithredu o dan ddarpariaeth berthnasol y Cynllun Dirprwyo (Swyddogaethau).

 

PENDERFYNWYD:                    Bod y Cyngor yn cydnabod cyhoeddi'r ddogfen a nodwyd yn yr adroddiad.

 

550.

Derbyn y Cwestiynau canlynol gan:

Y Cynghorydd Ross Penhale-Thomas i'r Arweinydd

 

Beth mae'r awdurdod lleol yn ei wneud i helpu i fynd i'r afael â thlodi ac anfantais ar draws ein cymunedau yma ym Pen-y-bont ar Ogwr

 

Y Cynghorydd Tim Thomas i Aelod y Cabinet - Cymunedau

 

Pa ganran o hawliau tramwy cyhoeddus Bwrdeistref y Sir sy'n hygyrch i'r cyhoedd ac sydd o safon foddhaol

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Ross Penhale-Thomas i'r Arweinydd

 

Beth mae'r awdurdod lleol yn ei wneud er mwyn helpu i fynd i'r afael â thlodi ac anfantais ar draws ein cymunedau yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

 

  1. Ar lefel strategol, mae'r Cyngor wedi nodi yn ei Gynllun Corfforaethol dri amcan llesiant sy'n anelu i'n helpu i fynd i'r afael â thlodi a rhai sydd dan anfantais ar draws ein cymunedau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  Dyma nhw:

 

·         Cefnogi economi lwyddiannus a chynaliadwy

·         Helpu pobl a chymunedau i fod yn fwy iach a gwydn

·         Defnydd doethach o adnoddau

 

  1. Mae'r amcanion hyn hefyd yn dangos ymrwymiad y Cyngor tuag at y saith nod llesiant, a gyflwynwyd yn sgil Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac yn ymwreiddio'r egwyddorion datblygu cynaliadwy a geir yn y Ddeddf.

 

  1. Yn ychwanegol at yr amcanion a nodwyd yn y Cynllun Corfforaethol, a'r rhai yng Nghynllun Llesiant Sir Pen-y-bont ar Ogwr, mae'n rhaid i'r Cyngor sicrhau cydymffurfiaeth â'r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol.  O 1 Ebrill 2021, mae'n ofynnol i wasanaethau cyhoeddus feddwl sut y gall eu penderfyniadau strategol, ee wrth osod amcanion a datblygu gwasanaethau cyhoeddus, sicrhau canlyniadau tecach i bobl sy'n dioddef anfantais economaidd-gymdeithasol.  Gofynnir i'r holl feysydd gwasanaeth ar draws y Cyngor ystyried hyn, ac mae ein gweithdrefnau adrodd wedi cael eu diweddaru i sicrhau dealltwriaeth lawn o'r cwestiynau a'r ymatebion hyn.

 

  1. Un o'r enghreifftiau sy'n dangos y modd y mae'r Cyngor yn cyflawni yn erbyn ein hymrwymiad i fynd i'r afael â thlodi a phobl dan anfantais ar draws ein cymunedau yw Rhaglen Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr yn helpu cyfranogwyr dan anfantais o bob rhan o'r sir, lle bynnag y bônt, drwy gynnig cyfres o ymyraethau sy'n anelu i dorri patrymau diffyg gwaith a thlodi dros sawl cenhedlaeth.  Mae'r rhain yn cynnwys:

 

·         Meithrin sgiliau meddal a hyder i greu mwy o gydnerthedd ac annibyniaeth

·         Cynnig gwella sgiliau i gynyddu cyflogadwyedd

·         Cymorth i chwilio am swydd a'i chadw

·         Darparu cyfrifiaduron glin a donglau wi-fi er mwyn helpu i oresgyn rhwystrau i lythrennedd digidol a mynediad digidol

·         Cefnogaeth ar gyfer lleoliadau gwirfoddoli i leihau unigrwydd cymdeithasol a rhyngweithio â chymunedau - sydd hefyd yn rhoi profiad gwaith i'w gynnwys ar CV.

 

4.1   Hyd yma, mae'r rhaglen wedi sicrhau dros 1200 o ganlyniadau swydd.

 

  1. Enghraifft arall yw'r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Ariannol (FASS) a gomisiynwyd gan y Cyngor ac a ddarperir gan Cyngor ar Bopeth.  Dyluniwyd y gwasanaeth yn benodol gennym i ymdrin â'r ystod o broblemau'n gysylltiedig â thlodi, ac mae'n cynnwys rhoi cymorth yn yr holl feysydd canlynol:

 

·         Problemau dyled ac anhawster ariannol

·         Diweithdra (hawlio budd-daliadau, gan gynnwys Credyd Cynhwysol (CC))

·         Methiant i gyllidebu neu reoli materion ariannol yn effeithiol

·         Rhai sy'n profi 'tlodi mewn gwaith'

·         Rhai sydd angen gwybodaeth a chymorth i gynnal cyfrifiadau 'ar eich ennill'.

 

5.1 Mae FASS wedi bod yn allweddol wrth roi cymorth i'r rhai dan anfantais o ganlyniad i'r pandemig, yn enwedig y rhai sydd wedi'u cael eu hunain mewn trafferthion ariannol, lle'r oedd 80% o'u hincwm wedi'i dalu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 550.

551.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad. 

 

Cofnodion:

Dim

 

 

Chwilio A i Y

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. Q
  18. R
  19. S
  20. T
  21. U
  22. V
  23. W
  24. X
  25. Y
  26. Z