Lleoliad: o bell - trwy Dimau Microsoft
Cyswllt: Gwasaneathau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.
Cofnodion: Dim |
|
Gwahoddwyr:
Claire Marchant - Cyfarwyddwr Corfforaethol - Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cynghorydd Nicole Burnett - Aelod Cabinet - Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar Jackie Davies - Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion Carol Owen - Rheolwr Gwasanaeth Darparwyr - Cefnogaeth Cartref/Gwasanaethau Llety Jane Lewis - Rheolowr Gwasanaethau Gweithredol
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Gyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yr adroddiad, a’i gyngor oedd ei bod hi’n bwysig i adrodd ar adroddiadau rheoliadol mewn perthynas â Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a oedd yn berthnasol i gylch gwaith y Pwyllgor Craffu hwn. Talodd deyrnged i Bennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, fel yr unigolyn sy’n gyfrifol am y gwasanaeth, i’r staff a gweithlu’r rheng flaen, yn ogystal â’r Rheolwr Darparwr Gwasanaethau - Cymorth Cartref/Gwasanaethau Llety a’r Rheolwr Gwasanaethau Gweithredol a oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Yna cyflwynodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yr adroddiad.
Diolchodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar y Swyddogion a oedd yn bresennol am yr adroddiad a’r sylwadau cadarnhaol a dderbyniwyd gan bobl a oedd dan ofal. Roedd hi’n teimlo fod gweithwyr gofal yr Awdurdod yn haeddu derbyn y ganmoliaeth uchaf, ac roedd yn awyddus iawn i ddangos ein diolchgarwch am eu gwaith. Dywedodd ei bod mor falch a diolchgar o bawb am eu cyfraniad.
Gofynnodd yr Aelodau'r canlynol:
Nododd un Aelod ei bod hi’n bleser darllen yr adroddiad, gan nodi’r dyfyniad derbyniol ar bwynt 4.3 yr adroddiad. Fel Aelodau, roedd hi’n hawdd craffu a beirniadu ar unrhyw adeg, ond pan dderbynnir arolygiadau ac adroddiadau tebyg i’r rhain, fe ddylid rhannu’r clod hwnnw â phawb yn y Gwasanaeth.
Nododd Aelod arall ei bod hi’n falch o’r ffaith fod gan yr Awdurdod record dda o ran gofalu am bawb. Nododd fod lefelau salwch, heb gyfrif cyfnod y Pandemig, yn eithaf uchel yn y proffesiwn gofal, a bod hynny’n ddealladwy. Gofynnodd yr Aelod beth oedd y lefelau salwch yn ystod y pandemig.
Esboniodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion fod yna gyfnodau ers dechrau’r pandemig, lle’r oedd yr absenoldeb yn uwch. Roedd rhai o’r timau wedi gweld bod gostyngiad o 25% yn nifer y staff. Roedd rhai yn dioddef gyda salwch oedd yn gysylltiedig â Covid-19 a rhai’n hunanynysu fel canlyniad i’r broses profi ac olrhain. Yn y sector gofal, fe welwn fod ffigyrau uchel ymysg staff gofal uniongyrchol er, trwy gydol y pandemig, yr hyn oedd yn bosib oedd edrych ar y gweithlu’n gyffredinol, gyda staff yn barod i fynd i weithio mewn lleoliadau gwahanol er mwyn llenwi’r lefelau salwch hynny. Doedd gan Bennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion y lefelau salwch i law ond, yn y gwasanaethau i oedolion, roedd y sefyllfa ychydig bach yn uwch na’r hyn oedd y flwyddyn flaenorol ac roedd hynny’n cynnwys sefyllfaoedd Covid-19. Roedd rhannau o’r gwasanaeth lle cafwyd lefelau isel o salwch ac eraill lle gwelwyd timau cyfan yn sâl ar rai adegau. Yn ôl y dystiolaeth, yr hyn a ddangosodd yr adroddiad oedd, tra bod rhai lefelau o salwch, roedd y gwasanaeth yn parhau i gyflenwi gofal a chynlluniau cymorth i bawb ac yn gallu delio â phob rhan o’r gwasanaeth a oedd ar waith.
Nododd un Aelod ardaloedd lle mae angen gwelliant yn 4.7 a gofyn sut y deliwyd â’r rhain. Nododd yr Aelod hefyd yn 4.8 y geiriad ‘ar sail angen gwybod’, gan holi am esboniad.
Eglurodd Pennaeth Gofal Cymdeithasol i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 137. |
|
Adroddiad Enwebu Pencampwr Rhianta Corfforaethol PDF 90 KB Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol, Adnoddau Dynol a Rheoleiddio adroddiad, gyda’r pwrpas o ofyn i’r Pwyllgor i enwebu un Aelod fel ei Bencampwr Rhianta Corfforaethol i gynrychioli’r Pwyllgor fel aelod sy'n cael ei wahodd i gyfarfodydd Rhianta Corfforaethol Pwyllgor y Cabinet.
Gwahoddwyd enwebiadau gan y Cadeirydd, ac yn dilyn hynny
PENDERFYNWYD: Y dylid enwebu’r Cynghorydd. P J White i gynrychioli’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testun 2 fel un fyddai'n cael ei wahodd i gyfarfodydd Rhiant Corfforaethol Pwyllgor y Cabinet.
|
|
Enwebiad i Banel Craffu Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus PDF 73 KB Cofnodion: Cyflwynodd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Rheoleiddio adroddiad, gyda’r pwrpas o ofyn i’r Pwyllgor i enwebu un Aelod i eistedd ar Banel Craffu Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus.
Gwahoddwyd enwebiadau gan y Cadeirydd, ac yn dilyn hynny
PENDERFYNWYD: Y dylid enwebu’r Cynghorydd. P J White i gynrychioli’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testun 2 fel un sy'n cael ei wahodd i gyfarfodydd Panel Craffu Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus.
|
|
Y Diweddaraf ar y Blaenraglen Waith PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Uwch-swyddog Gwasanaethau Democrataidd - Craffu, amlinelliad drafft arfaethedig y Blaenraglen Waith (BRW) (Atodiad A) i’r pwyllgor i’w drafod a’i ystyried, gan ofyn i unrhyw wybodaeth benodol a nodir gan y Pwyllgor gan ei chynnwys yn yr eitemau ar gyfer y ddau gyfarfod nesaf, gan gynnwys gwahoddedigion maen nhw’n dymuno iddyn nhw fynychu, gofyn i’r Pwyllgor nodi unrhyw eitemau pellach i’w hystyried ar y Blaenraglen Waith gyda golwg ar y meini prawf dewis ym mharagraff 4.6 a gofyn i’r Pwyllgor i nodi y byddai adroddiad ar ddrafft arfaethedig y Blaenrhaglenni Gwaith ar gyfer y Pwyllgor yng nghyfarfod nesaf COSC, gyda sylwadau gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Testun priodol, yn dilyn ystyriaeth yn eu Cyfarfodydd ym mis Mehefin.
Trafododd Aelodau’r Pwyllgor y canlynol:
Holodd Aelod a fyddai’r adroddiad ar Raglen Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a oedd yn dod i'r pwyllgor ym mis Gorffennaf, yn gallu delio ynghylch sut oedd y gwasanaeth am weithredu yn y flwyddyn sydd i ddod, o ran gweithio o bell ac o gartref, a beth all hynny ei olygu i’r gwasanaeth ac a fyddai/os bydd pethau'n gwella.
Gofynnodd Aelodau’r Pwyllgor am y diweddaraf ar y canlynol:
Cododd Aelod y mater ynghylch y ffaith nad oedd ymateb wedi bod i’r cwestiynau a geisiwyd yn y cyfarfod blaenorol ynghylch Diogelu. Yn ôl y Cadeirydd, fe fyddai’n cael ei godi gyda’r Gyfarwyddiaeth yng Nghyfarfod nesaf y Swyddogion Cynllunio, sef yr angen i ymateb mewn da bryd.
Ni chafwyd fod unrhyw eitemau pellach i’w hystyried ar y Blaenraglen Waith gyda golwg ar y meini prawf dewis yn 4.6, ac y gellid ailedrych ar hyn yn y cyfarfod nesaf.
Ni chafwyd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn ystyried a chytuno ar amlinelliad drafft arfaethedig y Blaenraglen Waith yn Atodiad A, gan nodi y byddai adroddiad ar y Blaenrhaglenni Gwaith drafft arfaethedig ac unrhyw adborth gan y Pwyllgor, yn cael eu hadrodd yn ôl yng nghyfarfod nesaf COSC.
|
|
Eitemau brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim |