Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Testun 3 - Dydd Llun, 4ydd Hydref, 2021 09:30

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

14.

Datganiadau o Fuddiannau

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Fe wnaeth y Cynghorydd JC Spanswick ddatgan buddiant personol yn eitem 4 am ei fod wedi elwa o Hyfforddiant Cyflogadwyedd.

15.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 288 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 28 06 21

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Bod Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Pwnc 3, dyddiedig 28 Mehefin 2021, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod gwir a chywir.

16.

Fframwaith Dyfodol Economaidd Sir Pen-y-bont ar Ogwr pdf eicon PDF 490 KB

Gwahoddwyr:

 

Janine Nightingale - Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau

Cynghorydd Huw David – Arweinydd

Cynghorydd Stuart Baldwin - Aelod Cabinet Cymunedau

Cynghorydd Charles Smith - Aelod Cabinet - Addysg ac Adfywio

Zak Shell - Pennaeth Gweithrediadau - Gwasanaethau Cymunedol

Ieuan Sherwood - Rheolwr y Gr?p - Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaliadwyedd

Sue Whittaker - Rheolwr Menter a Chyflogadwyedd

Toby Rhodes - Cyfarwyddwr - Perfformio Gwyrdd Cyfyngedig

Peter Slater - Cyfarwyddwr - Cynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru

Jon Wood - Pennaeth Arloesi a Datblygu Clwstwr - Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau adroddiad, ac yn dilyn hynny cyflwynodd Rheolwr Gr?p - Yr Economi, Adnoddau Naturiol a Chynaladwyedd yr adroddiad a thynnodd sylw’r Aelodau at Adran 4 gan ehangu ar fframwaith y dyfodol economaidd, yn arbennig y 4 prif thema, cyn tynnu sylw at Adran 8 yr adroddiad. Wedyn derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Gyfarwyddwr Perform Green Limited, peth cyd-destun strategol gan y Cyfarwyddwr - Cynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru a chyd-destun o ran arloesi ar draws y Brifddinas-Ranbarth gan Bennaeth Arloesi a Datblygu Clystyrau - Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCRCD). Gofynnwyd i’r aelodau pa mor gyfarwydd yr oedd y themâu allweddol gan y rhanddeiliaid a’r data yn swnio iddynt hwy.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Addysg ac Adfywio i Gyfarwyddwr Perform Green Limited, y Cyfarwyddwr - Cynghrair Cymunedau Diwydiannol Cymru a Phennaeth Arloesi a Datblygu Clystyrau, CCRCD. Ychwanegodd mai’r hyn y byddai ef yn ei dynnu allan o’r cynlluniau fel blaenoriaeth fyddai sgiliau yn ogystal â chysylltedd gan gynnwys y metro. Tynnodd sylw hefyd at y diwydiannau creadigol gan gydnabod, unwaith y byddai criwiau ffilmio wedi gadael, bod yna’r posibilrwydd o dwristiaeth. Esboniodd fod angen y strategaeth lefel uchel er mwyn asesu blaenoriaethau a’r hyn y gellid yn realistig ei ddarparu.

 

Yn dilyn cyflwyno’r adroddiad, gofynnodd Aelodau o’r Pwyllgor y canlynol:

 

Diolchodd Aelod i’r Swyddogion an yr adroddiad a dywedodd ei fod yn sicr yn swnio’n gyfarwydd iddo ef. Nododd y problemau yng Nghymuned Caerau fel y crybwyllwyd yn yr adroddiad a gofynnodd pam yr oedd wedi mynd i fyny o’r 35ain yn 2005 i’r 5ed ar hyn o bryd, o ran amddifadedd, ar ôl derbyn miliynau o bunnau o arian Ewropeaidd a gofynnodd am ganlyniadau’r ariannu. Roedd yr adroddiad yn gynhwysfawr, yn fanwl ac yn tynnu sylw at y problemau yr oedd cynghorwyr lleol yn gwybod amdanynt. Fodd bynnag, teimlai mai canlyniadau, cyllido ac, yn fwy pwysig, rheolaeth ar y cyllid hwnnw fyddai’r allwedd i lwyddiant.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau mai’r wybodaeth oedd gerbron y Pwyllgor oedd dechrau’r strategaeth economaidd, oedd yn cynnwys yr holl amrywiadau a’r cryfderau yn ogystal â’r gwendidau, yr oedd yn bwysig eu cydnabod. Roedd hwn bron yn ddadansoddiad o’r bylchau, oedd yn dangos ble roedd y fwrdeistref sirol yn gwneud yn dda ac wedyn yn edrych ar y meysydd yr oedd angen iddi ganolbwyntio arnynt yn benodol. Nid oedd, ar yr adeg yma, yn dangos y cyfeiriad teithio na beth oedd y mecanweithiau cyllido er mwyn gwneud y gwaith oherwydd mai dyna’r dasg oedd yn dod nesaf. Roedd gwaith wrthi’n cael ei wneud gyda’r holl randdeiliaid allweddol a byddai’r sylwadau hynny a dealltwriaeth o’r sefyllfa gywir yn sail i gynllun gweithredu a map ffordd cyllido. Roedd dibyniaeth ar ffynonellau cyllid allanol, a nifer ohonynt oherwydd bod arian Ewrop wedi dod i ben; felly roedd angen edrych ar fecanweithiau eraill ar gyfer cyllido mentrau wrth symud ymlaen. Roedd hyn i gyd yn dibynnu ar bartneriaeth a dull Cymru gyfan ond yn canolbwyntio ar faterion rhanbarthol.

 

O ran  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 16.

17.

Diweddariad ar y Rhaglen Waith i’r Dyfodol pdf eicon PDF 316 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw geisiadau i gynnwys gwybodaeth benodol yn yr eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf.

 

Nid oedd eitemau pellach wedi cael eu codi i’w hystyried ar gyfer y Flaenraglen Waith, gan gadw’r meini prawf dethol ym mharagraff 4.3 mewn cof, a gellid ailedrych ar hyn yn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD: Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Flaenraglen Waith yn Atodiad A, yn nodi yr adroddid ar y Flaenraglen Waith ac unrhyw ddiweddariadau gan y Pwyllgor i gyfarfod nesaf y COSC ac yn nodi’r Daflen Gweithredu Monitro Argymhellion yn Atodiad B.

 

18.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

 

Cofnodion:

Dim