Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Nodyn: Nodyn: Sylwch: Yn sgil yr angen i gadw pellter cymdeithasol, ni fydd y cyfarfod hwn yn cael ei gynnal yn ei leoliad arferol. Yn hytrach, bydd hwn yn gyfarfod rhithwir a bydd Aelodau'r Cyngor a Swyddogion yn mynychu o bell. Bydd y cyfarfod yn cael ei recordio i’w ddarlledu ar wefan y Cyngor cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl y cyfarfod. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hyn, cysylltwch â cabinet_committee@bridgend.gov.uk neu ffoniwch 01656 643147 / 643148.
Rhif | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008. Dylai aelodau cael rolau deuol o'r fath ddatgan buddiant personol mewn perthynas â'u haelodaeth o Gyngor Tref / Cymuned fath a rhagfarnllyd os ydynt wedi cymryd rhan yn yr ystyriaeth o eitem ar y Cyngor Tref / Cymuned a geir yn Adroddiadau y Swyddog isod.
Cofnodion: Y Cynghorydd JP Blundell – Eitem 7 ar yr Agenda fel aelod o Gyngor Cymuned Trelales sydd ddim yn cymryd unrhyw ran mewn materion cynllunio.
|
|
Cadarnhau Cofnodion PDF 280 KB I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 19/08/21 Cofnodion: PENDERFYNIAD: Bod cofnodion cyfarfod o'r Pwyllgor Rheoli Datblygu dyddiedig 19 Awst 2021 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir a chywir.
|
|
Siaradwyr Cyhoeddus I gynghori aelodau enwau'r siaradwyr cyhoeddus rhestredig i siarad yn y cyfarfod heddiw (os o gwbl).
Cofnodion: Roedd y person canlynol a wahoddwyd i’r cyfarfod yn arfer ei hawl i siarad fel siaradwr cyhoeddus ar y cais a nodir isod:-
Y Cynghorydd CE Smith – Aelod Ward - P/21/605/FUL
|
|
Bod y Cadeirydd yn derbyn taflen gwelliant pwyllgor rheoli datblygu fel eitem frys yn unol â rhan 4 (paragraff 4) Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, felly ynghylch hwyr yn ystyried sylwadau a diwygiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gael eu lletya.
Cofnodion: PENDERFYNIAD: Bod y Cadeirydd yn derbyn taflen ddiwygiadau’r Pwyllgor Rheoli Datblygu fel eitem frys yn unol â Rhan 4 (paragraff 4) o Reolau Gweithdrefn y Cyngor, er mwyn caniatáu i'r Pwyllgor ystyried addasiadau angenrheidiol i adroddiad y Pwyllgor, a hynny er mwyn ystyried y sylwadau a'r diwygiadau hwyr y mae'n ofynnol eu bodloni.
|
|
Canllawiau'r Pwyllgor Rheoli Datblygu PDF 154 KB Cofnodion: PENDERFYNIAD: Bod crynodeb o ganllawiau'r Pwyllgor Rheoli Datblygu, fel y'i nodir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau, yn cael ei nodi.
|
|
P/21/605/FUL - 20 Shakespeare Avenue, Cefn Glas PDF 260 KB Cofnodion: PENDERFYNIAD: Bod y cais uchod yn cael ei ganiatáu, yn ddarostyngedig i'r Amod a geir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol –Cymunedau.
Cynnig
Newid defnydd o fod yn annedd (dosbarth defnydd 3(a)) i fod yn ofal preswyl ar gyfer 1 plentyn (dosbarth defnydd C2).
|
|
P/21/237/RLX - Cyfleuster Treulio Anaerobig (AD) Stormy Down, Stormy Down PDF 251 KB Cofnodion: PENDERFYNIAD: (1) Wedi ystyried y cais uchod, bod yr ymgeisydd yn ymrwymo i Gytundeb Gweithred Amrywio/Adran 106 er mwyn:-
(i) cynnwys cytundeb ffyrdd teithio ar gyfer cerbydau nwyddau trwm sy'n teithio yn ôl ac ymlaen i’r ganolfan AD a’r lag?n gweddillion;
(ii) ei gwneud yn ofynnol i weithredwr y gwaith AD gadw cofnod o gwynion a chyhoeddi adroddiad ar unrhyw achosion o dorri'r cytundeb ar gyfer y ffyrdd teithio.
(2) Rhoi pwerau dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau i gyhoeddi hysbysiad penderfyniad sy'n rhoi caniatâd mewn perthynas â'r cynnig hwn unwaith y bydd yr ymgeisydd wedi ymrwymo i'r Cytundeb Adran 106 uchod, yn ddarostyngedig i'r Amodau a gynhwysir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau:-
Cynnig
Amrywio amodau 1 a 7 o P/17/1047/RLX i ganiatáu cynnydd o ran y tunelli o wastraff bwyd a’r diwygiadau cysylltiedig i’r cynllun.
|
|
P/21/484/FUL - Irvin GQ, Ffordd Betws, Llangeinor PDF 268 KB Cofnodion: PENDERFYNIAD: Bod y cais uchod yn cael ei ganiatáu, yn ddarostyngedig i'r Amodau a geir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol –Cymunedau:-
Cynnig
Adeiladu adeilad newydd wedi'i ehangu (i gymryd lle strwythur a ddymchwelwyd yn ddiweddar) ar gyfer profi cynnyrch.
|
|
P/21/541/FUL - Sweet Lil, Heol Llangeinor, Llangeinor PDF 463 KB Cofnodion: PENDERFYNIAD: Gwrthod y cais uchod, am y rhesymau a nodir yn adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau
Cynnig
Newid defnydd i siop bysgod a sglodion (Dosbarth Defnydd A3) o'r siop fanwerthu (Dosbarth Defnydd A1) bresenol.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNIAD: (1) Bod yr Apeliadau 7 a dderbyniwyd ers adroddiad diwethaf y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau i'r Pwyllgor yn cael eu nodi.
(2) Bod yr Apeliadau canlynol a bennwyd gan yr Arolygydd(ion) a benodwyd gan Weinidogion Cymru, yn cael eu Gwrthod:-
Rhif Cod. Pwnc yr Apêl:
A/21/3274317 (1919) Cadw adeilad allanol presennol a Godwyd ar gyfer Darparu Therapi i Oedolion a Phlant ag Anawsterau Dysgu ac Anghenion Arbennig, Fferm Tynton, Bythynnod Mount Pleasant, Llangeinor.
A/21/3274987 (1920) Newidiad rhannol Garej ac Estyniad To i Greu Uned Breswyl 1 Ystafell Wely; Newidiadau Allanol Cysylltiedig 19 Heol Llangrallo, Pencoed.
ENV/3275423 (1921) Tocio coed yn Barhaus (T/18/17/TPO Yn cyfeirio) Cefn 44 Briary Way, Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr.
A/21/32761 (1922) Newid Defnydd Siop Manwerthu (A1) i Siop Sglodion Tecawê Bwyd Poeth (A3) 10 Heol Caerau, Maesteg.
|
|
Archwilio Ceisiadau Cynllunio ac Apeliadau a Rheoli Adeiladu PDF 2 MB Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau adroddiad, gyda’r diben o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Rheoli Datblygu am ganlyniadau archwiliadau diweddar o Geisiadau Cynllunio ac Apeliadau a Rheoli Adeiladu. Cynhaliwyd yr archwiliadau yn unol â Chynllun Archwilio Mewnol 2021/22.
Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth gefndirol, sef mai diben yr archwiliad Ceisiadau Cynllunio ac Apeliadau oedd rhoi sicrwydd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau rheoli mewnol, llywodraethu a rheoli risg mewn perthynas â Cheisiadau Cynllunio ac Apeliadau. Cynhaliwyd profion archwilio mewn perthynas â blynyddoedd ariannol 2020/21 a 2021/22. Roedd cwmpas yr Archwiliad yn cynnwys sicrhau bod y rheolaethau allweddol ar waith, fel y nodir ym mharagraff 3.2 yr adroddiad.
Dywedodd y Rheolwr – Rheoli Adeiladu a Datblygu mai diben yr archwiliad Rheoli Adeiladu oedd rhoi sicrwydd ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau rheoli mewnol, llywodraethu a rheoli risg mewn perthynas â'r gwasanaeth hwn. Cynhaliwyd profion archwilio mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2020/21 a 2021/22. Roedd cwmpas yr Archwiliad yn cynnwys sicrhau bod y rheolaethau allweddol ar waith, fel y nodir ym mharagraff 3.4 yr adroddiad.
Yna, tynnodd paragraff 4.1 yr adroddiad sylw at y ffaith, ar gyfer yr Archwiliad Ceisiadau Cynllunio ac Apeliadau, y canfuwyd bod system lywodraethu, rheoli risg a rheolaeth gadarn ar waith ar y cyfan. Rhestrwyd enghreifftiau o hyn yn yr adran hon o’r adroddiad. Yn ogystal, adlewyrchwyd cryfderau a meysydd arfer da ynghyd â materion eraill lle gellid gwneud gwelliannau, a fyddai'n cael eu gweithredu yn unol â hynny, eglurodd Rheolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu.
Ym mharagraffau 4.4 a 4.5 yr adroddiad cafwyd manylion am y prosesau a ddilynwyd o ran sut mae cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli Datblygu’n gweithredu, gan gynnwys canfyddiadau'r archwiliad o hyn.
O ran archwiliad Rheoli Adeiladu, canfuwyd hefyd fod system lywodraethu, rheoli risg a rheolaeth gadarn ar waith ar y cyfan yn y maes gwaith hwn. Yn yr un modd â'r enghreifftiau uchod, mewn perthynas â meysydd eraill o waith Cynllunio a Datblygu a archwiliwyd, rhoddodd paragraff 4.8 o'r adroddiad enghreifftiau o gryfderau ac arfer da mewn perthynas â swyddogaethau Rheoli Adeiladu.
Teimlai Aelod y byddai o fantais i Aelodau'r Pwyllgor hefyd gael adborth gan aelodau o'r cyhoedd, megis ar ffurf Holiaduron, a fyddent, pe baent yn cael eu cwblhau a'u dychwelyd, yn adlewyrchu lefelau boddhad cwsmeriaid gyda’r gwasanaethau y mae'r Cyngor yn eu darparu mewn perthynas â gwaith Cynllunio a Datblygu.
Dywedodd Rheolwr y Gr?p – Gwasanaethau Cynllunio a Datblygu fod data fel yma’n arfer cael ei ddarparu i'r Pwyllgor yn flynyddol fel rhan o'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol (APR), fodd bynnag, ers y pandemig nad yw wedi bod yn ofynnol i awdurdodau cynllunio gyflwyno APRau. Hefyd, gyda lefelau staffio wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid oedd digon o adnoddau o fewn yr Adran yn awr, i gasglu'r wybodaeth hon er mwyn ei chyflwyno i Aelodau o bryd i'w gilydd ac ynghyd ag awdurdodau cynllunio eraill yng Nghymru, cynhelir gwaith arolygu gan Uned Ddata Cymru. Gobeithio y bydd y gwaith hwn yn ailddechrau'r flwyddyn nesaf. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 528. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol – Cymunedau adroddiad, a roddai’r wybodaeth ddiweddaraf am y Cofnod Hyfforddiant i Aelodau wrth symud ymlaen.
Nododd yr Aelodau’r pynciau ar gyfer hyfforddiant a gynhwyswyd yn yr adroddiad a gwnaeth rai awgrymiadau pellach ar gyfer eu trefnu hefyd, fel a ganlyn:-
PENDERFYNIAD: Nodi'r adroddiad, gan gynnwys y meysydd a awgrymir ymhellach a argymhellir ar gyfer hyfforddiant i Aelodau.
|
|
Eitemau Brys I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.
Cofnodion: Dim.
|