Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Corfforaethol - Dydd Mercher, 19eg Ionawr, 2022 09:30

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif Eitem

58.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau / Swyddogion yn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd R Shaw fudd personol yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2022-23 i 2025-26. Yn atodiad 1 i’r adroddiad, roedd cyfeiriad at gynnydd yn y Praesep Gwasanaeth Tân a bod y Cynghorydd Shaw wedi’i benodi i’r Awdurdod Tân ac Achub gan yr Awdurdod Lleol.  

59.

Derbyn y Cofnodion pdf eicon PDF 283 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 07 10 21

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   I dderbyn Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a Chraffu a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2021 fel rhai gwir a chywir, yn amodol ar gynnwys y Cynghorydd Jon-Paul Blundell fyn bresennol.

60.

Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2022-23 i 2025-26 pdf eicon PDF 538 KB

Gwahoddwyr:

 

Cynghorydd Huw David - Arweinydd

Cynghorydd Hywel Williams - Dirprwy Arweinydd

Cynghorydd Dhanisha Patel - Aelod Cabinet - Lles a Chenedlaethau Dyfodol

 

Mark Shephard - Prif Weithredwr

Carys Lord - PennaethCyllid, Perfformiad a Newid

Kelly Watson - PrifSwyddog, Gwasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio, AD a Pholisi Corfforaethol

 

Deborah Exton - DirprwyBennaeth Cyllid

Martin Morgans – PennaethGwasanaeth - Perfformiad a Gwasanaethau Partneriaeth

Christopher Morris - Rheolwr Cyllid - Rheoli Cyllidebau: Gwasanaethau cymdeithasol a Lles / Cyfarwyddiaeth y Prif Weithredwr

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd crynodeb o'r adroddiad gan y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid, i gyflwyno drafft o Strategaeth Ariannol Tymor Canolig 2022-23 i 2025-26 i'r Pwyllgor, sy'n gosod blaenoriaethau gwario'r Cyngor, amcanion buddsoddi allweddol a'r meysydd cyllido sydd wedi'u targedu ar gyfer arbedion angenrheidiol. Mae'r strategaeth yn cynnwys rhagolygon ariannol ar gyfer 2022-2026 a drafft manwl o gyllideb refeniw 2022-23.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Prif Swyddog Cyllid, Perfformiad a Newid a gofynnodd yr Aelodau’r cwestiynau canlynol:

 

Cyfeiriodd un Aelod at yr arbedion gwerth £300,000 a ragwelir o drosglwyddo cyfrifoldeb am reoli asedau i glybiau, grwpiau a Chynghorau Tref a Chymunedol. Gofynnodd am ragor o wybodaeth ynghylch sut oedd y £300,000 wedi’i gyfrifo.

 

Eglurodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a Newid nad oedd ganddi’r wybodaeth wrth law ac y byddai’n cyflwyno ymateb ysgrifenedig i’r pwyllgor. Ychwanegodd Aelod arall y byddai’n codi’r broses CAT yn y cyfarfod SOSC3 a fyddai’n cael ei gynnal yr wythnos ganlynol, ac y byddai crynodeb pendant yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod hwnnw. Gofynnodd un Aelod, nad yw’n aelod o SOSC3, i wybodaeth gael ei chyflwyno yn y cyfarfod hwnnw ynghylch y grantiau a oedd yn cael eu cynnig ar gyfer gwaith cynnal a chadw adeiladau etc ac o ble roedd y grantiau’n dod.    

 

Cyfeiriodd un Aelod at y gyfres o bwysau cyllidebol o’r newidiadau deddfwriaethol a wnaed gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’r amgylchedd, newid yn yr hinsawdd, anghenion dysgu ychwanegol, Profi Olrhain a Diogelu, defnydd o Gyfarpar Diogelwch Personol, rhaglen brechu’r cyhoedd, a diwedd y Gronfa Caledi Covid-19. Dywedodd y dylai cyllid canlyniadol fod ar gael gan y Llywodraeth Ganolog, ac ni ddylai'r cyllid hwn orfod cael ei weithredu o'r cyllidebau presennol. Roedd eisiau gwybod a oedd yr Arweinydd a'r Dirprwy Arweinydd wedi bod yn lobïo Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyllid canlyniadol yno. Aeth ymlaen wedyn i gyfeirio at y newidiadau deddfwriaethol a fyddai wedi effeithio ar y gyllideb, gan gynnwys cytundeb cyflogau athrawon, cyfraniadau Yswiriant Gwladol a’r cyflog byw. Gofynnodd am gadarnhad bod y tri yn dod i gyfanswm o £1.2 miliwn allan o gytundeb gwerth £19.6miliwn. Gofynnodd hefyd a oedd y newidiadau deddfwriaethol yn bwysau parhaus, gan nad oedd hyn wedi’i nodi’n glir yn yr adroddiad. 

 

Ymatebodd y Prif Swyddog – Cyllid, Perfformiad a newid bod gofynion deddfwriaethol newydd yn dod heb unrhyw gyllid newydd yn fwyfwy aml. Roedd cyllid ychwanegol ar gyfer newid yn yr hinsawdd, ond nid oedd y manylion yn glir. Mewn perthynas â Chyfarpar Diogelwch Personol a chanolfannau brechu, roedd y rhain yn cael eu cyllido gan y Gronfa Caledi ar y pryd. Byddai cyllid ar gael ar gyfer y rhain, ond byddai’n cael ei gynnwys yn y cytundeb cyffredinol, a chyfrifoldeb yr awdurdodau lleol oedd amcangyfrif faint oedd yn cael ei neilltuo ar gyfer y costau hyn. Ychwanegodd bod CLlLC wedi bod yn lobïo dros y flwyddyn ddiwethaf o ran Covid yn ogystal â’r cynnydd yn y galw am wasanaethau. Mewn perthynas â’r cytundeb cyflog athrawon, cyfraniadau Yswiriant Gwladol a’r Cyflog Byw, eglurodd y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 60.

61.

Eitemau Brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad.

Cofnodion:

Dim.