Agenda, decisions and minutes

Cyd Bwyllgor Amlosgfa Llangrallo - Dydd Gwener, 3ydd Mawrth, 2023 14:00

Lleoliad: remotely - via Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

16.

Datgan Buddiannau

Derbyndatganiadau o ddiddordeb personol a rhagfarnol (os o gwbl) gan Aelodau /

Swyddogionyn unol â darpariaethau'r Cod Ymddygiad Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor o 1 Medi 2008.

 

 

Cofnodion:

Dim

17.

Cymeradwyo Cofnodion pdf eicon PDF 192 KB

I dderbyn am gymeradwyaeth y Cofnodion cyfarfod y 28 10 2022

 

Cofnodion:

PENDERFYNIAD: Dylid cymeradwyo cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Amlosgfa Llangrallo, dyddiedig 2 Hydref 2022, fel cofnod gwir a chywir.

 

18.

Cynllun Busnes a Ffioedd yr Amlosgfa pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a Chofrestrydd Amlosgfa Llangrallo adroddiad. Pwrpas yr adroddiad oedd cymeradwyo Cynllun Busnes ac Adroddiad Ffioedd yr Amlosgfa ar gyfer 2023-2024.

 

Dywedodd fod y Cynllun Busnes yn cael ei gyflwyno gerbron y Cyd-bwyllgor i’w gymeradwyo, gan ei fod yn pennu amcanion gwasanaethau a phrosiectau cynnal-a-chadw/gwella arfaethedig ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a Chofrestrydd Amlosgfa Llangrallo at Atodiad 1, sef y Cynllun Busnes Lefel Gwasanaeth, a thynnodd sylw’r pwyllgor at wobr y Faner Werdd a enillwyd gan yr Amlosgfa unwaith eto 2022 a’r ffaith bod y Gwasanaeth yn dal i fod yn hunangynhaliol mewn termau ariannol. Soniodd hefyd am y strwythur staffio, am fanylion yr oriau busnes ac am y mathau o seremonïau coffa a gynigir. Tynnodd sylw at gynnwys yr adroddiad, gan grybwyll y gwahanol ffyrdd a ddefnyddir gan yr Amlosgfa i’w marchnata’i hun ac i gyfathrebu gyda defnyddwyr y gwasanaeth, a chyfeiriodd hefyd at y gwahanol ffyrdd y mae’r amlosgfa’n dal i fod yn amgylcheddol gynaliadwy.

 

Rhestrodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a Chofrestrydd Amlosgfa Llangrallo y llwyddiannau hollbwysig dros y 10 mlynedd diwethaf, a chyfeiriodd yn arbennig at osod goleuadau allanol yn 2021 ac at y gwaith o adnewyddu cyfleusterau cerddoriaeth ddigidol yn y ddau gapel, yn cynnwys gosod sgriniau teyrnged. Soniodd am y gwaith adeiladu a ddechreuwyd yn 2022 a’r estyniad sydd ar y gweill ar gyfer allanfa’r prif gapel a’r cwrt blodau. Tynnodd sylw’r pwyllgor at ddangosyddion perfformiad yn ymwneud â’r 5 mlynedd flaenorol – deilliodd y canlyniadau o holiaduron yn ymwneud â’r gwasanaeth. Bydd y targedau presennol gogyfer bodlonrwydd â lefel y gwasanaeth yn cael eu hymestyn i flynyddoedd 2023-2024.

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a Chofrestrydd Amlosgfa Llangrallo at bwynt 4 yn adroddiad y Clerc a’r Swyddog Technegol, lle ceir manylion am ystadegau blynyddol. Aeth ati i dywys y pwyllgor trwy’r ystadegau. Dywedodd fod y ffigurau ar gyfer 2020 yn gysylltiedig â’r pandemig a bod ffigurau 2022 yn ymdebygu i’r ffigurau a gafwyd cyn y pandemig. Yna, aeth yn ei blaen i dywys y pwyllgor trwy is-adrannau pwynt 4, lle nodir manylion y sefyllfa a’r cynigion presennol.

 

Mewn perthynas â pharagraff 4.4, ailddatganodd y Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol nad oedd y cynnydd ymddangosiadol yn y ffi ar gyfer llogi’r capel i gynnal gwasanaethau coffa (sef cynnydd o £82 i £220) yn gynnydd mewn gwirionedd; yn hytrach, ceid anghysondeb yn y ffi wreiddiol a nodwyd.

 

Cynhaliwyd trafodaeth rhwng un o’r aelodau, Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth / Cofrestrydd Amlosgfa Llangrallo a’r Pennaeth Gweithrediadau – Gwasanaethau Cymunedol yngl?n â sail resymegol y CPI.

 

Esboniwyd bod y ffioedd wedi’u cydweddu â’r cynnydd cyffredinol mewn prisiau trwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae’r amlosgfa’n defnyddio llawer o ynni ac mae’r prisiau’n adlewyrchu’r cynnydd cenedlaethol mewn ynni a nwyddau a gwasanaethau eraill a ddefnyddir yn ei gweithrediadau safonol. Nodwyd bod y cynnydd wedi’i gyflwyno fel y gellir parhau i gynnal gwasanaethau o safon uchel yn unol ag enw da’r amlosgfa.

 

Canmolwyd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth gan  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 18.

19.

Perfformiad Ariannol 2022-23 a Chyllideb Refeniw Arfaethedig 2023-24 pdf eicon PDF 190 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cyfrifydd – Rheolaeth Ariannol a Chau. Pwrpas yr adroddiad hwn oedd rhoi gwybod i’r Cyd-bwyllgor am berfformiad ariannol rhagamcanol yr Amlosgfa ar gyfer 2022-23, a chael cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor ar gyfer y Gyllideb Arfaethedig a’r Ffioedd a’r Taliadau ar gyfer 2023-24.

 

Dywedodd fod y Cyd-bwyllgor wedi cymeradwyo Cyllideb Refeniw 2022-23 mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2022 ac aeth yn ei flaen i gyflwyno’r holl adrannau dan yr adroddiad a oedd yn cynnwys y sefyllfa/cynnig presennol a’r gyllideb arfaethedig ar gyfer 2023-24.

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys manylion am Ofynion Gwariant Cynnal a Chadw Cyfalaf Arfaethedig, Ffioedd a Thaliadau a’r Balans Cronedig.

 

Holodd un o’r aelodau am y cynnydd yn y ffi ar gyfer gwasanaethau coffa a gofynnodd faint o refeniw y disgwylid ei gael yn sgil y cynnydd hwn dros y flwyddyn sydd i ddod. Dywedodd y Cyfrifydd – Rheolaeth Ariannol a Chau nad oedd yn si?r a oedd manylion penodol i’w cael, ond bod y rhagolygon ar gyfer y cynnydd cyffredinol yn amrywio o 1.55 miliwn i 1.62 miliwn yn ystod 2023-24. Dywedodd y byddai’n ceisio cael gafael ar ragor o fanylion yngl?n â’r ffigurau.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth a Chofrestrydd Amlosgfa Llangrallo nad oedd yr union gynnydd mewn refeniw yn sgil cynyddu ffioedd gwasanaethau coffa wedi cael ei gyfrifo. Eglurodd fod mwy o drefnwyr angladdau lleol yn defnyddio’r Capel mawr yn amlach ar gyfer cynnal gwasanaethau coffa (yn arbennig cyn claddu mewn mynwentydd), cyn i’r holl wasanaethau angladd gael eu symud i’r ail gapel tra byddai’r gwaith adeiladu’n cael ei wneud – a hynny gan fod y ffi’n is o lawer na’r ffi a godir mewn eglwysi lleol. Dywedodd ei bod yn bwysig i’r Amlosgfa ddiogelu amlosgiadau ac osgoi bod yn rhywle lle gellir llogi’r Capel gan ei fod yn ddewis cost-effeithiol.

 

PENDERFYNIAD:

 

·         Nododd y Cyd-bwyllgor y perfformiad ariannol rhagamcanol ar gyfer 2022-23

 

·         Cadarnhaodd a chymeradwyodd y Cyd-bwyllgor y dylid mabwysiadu’r gyllideb refeniw ar gyfer 2023-24

 

·         Cymeradwyodd y Cyd-bwyllgor y cynnydd mewn ffioedd a thaliadau, fel y nodir yn Atodiad 1. Bydd y cynnydd yn cael ei roi mewn grym o 1 Ebrill 2023.

 

20.

Rhaglen ar gyfer Cyfarfodydd 2023-24 pdf eicon PDF 134 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y rhaglen arfaethedig gogyfer 2023-24.

 

Dywedodd fod memorandwm cytundeb yr amlosgfa yn nodi y dylai’r Cyd-bwyllgor gynnal dau gyfarfod fan leiaf yn ystod unrhyw un o flynyddoedd y Cyngor, a bod yn rhaid i un o’r cyfarfodydd hyn fod yn gyfarfod cyffredinol blynyddol.

 

Y cyfarfod cyntaf a gynhelir gan y Cyd-bwyllgor ar ôl cynnal cyfarfodydd blynyddol y Cynghorau fydd cyfarfod cyffredinol blynyddol y Cyd-bwyllgor. Yn y cyfarfod hwn, bydd y Cyd-bwyllgor yn ethol cadeirydd ac is-gadeirydd ar gyfer y flwyddyn. Dywedodd y caiff y Cyd-bwyllgor gynnal cynifer o gyfarfodydd ag y bo angen neu y bo’n gyfleus, pa bryd bynnag y bo angen neu y bo’n gyfleus, ac aeth yn ei blaen i gynnig cyfres o ddyddiadau.

 

Holodd y Cadeirydd yngl?n â’r posibilrwydd o ymweld â’r safle, er mwyn i’r pwyllgor allu edrych ar y cynigion a gweld y gweithrediadau a’r gwaith adnewyddu ar y gweill.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth eu bod fel arfer yn ceisio cynnal ymweliad safle cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan un o’r aelodau ynghylch a fyddai modd cynnal yr ymweliad ar ôl cwblhau’r cwrt blodau, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Profedigaeth na ddisgwylir i’r estyniad gael ei gwblhau cyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ac na fyddai, yn ôl pob tebyg, yn cael ei gwblhau tan oddeutu mis Medi 2023. Ond dywedodd ei bod o’r farn y byddai’n fuddiol ymweld â’r safle, yn enwedig gan fod y Cyd-bwyllgor yn cynnwys aelodau newydd nad oeddynt wedi cael eu tywys o amgylch y cyfleusterau o’r blaen.

 

PENDERFYNIAD: Cymeradwyodd y Cyd-bwyllgor y rhaglen ar gyfer cyfarfodydd 2023-24.

 

21.

Eitemau brys

I ystyried unrhyw eitemau o fusnes y, oherwydd amgylchiadau arbennig y cadeirydd o'r farn y dylid eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol â Rhan 4 (pharagraff 4) o'r Rheolau Trefn y Cyngor yn y Cyfansoddiad

 

Cofnodion:

Dim