Mae'r tudalen hon yn rhestri cyfarfodydd Pwyllgor Craffu Ar Y Cyd Cytundeb Dinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd - Sylwch fod y Pwyllgor hwn bellach yn cael ei weinyddu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (BDPRC) yn Gyd-Bwyllgor o bob un o ddeg Awdurdod Lleol De Ddwyrain Cymru ac fe'i sefydlwyd er mwyn goruchwylio a chydlynu cyflawni rhwymedigaethau'r Cynghorau mewn perthynas â'r Fargen Ddinesig. Mae'r Cydbwyllgor Craffu yn cynnwys un Aelod anweithredol o bob Awdurdod Penodi.
Mae'r Cydbwyllgor Craffu yn cyfarfod i fonitro cynnydd prosiect (BDPRC) yn erbyn ei gynllun Rhaglen a gwneud adroddiadau ac argymhellion i'r Cabinet Rhanbarthol a / neu i unrhyw un o'r Awdurdodau Penodi ac i unrhyw un o'u gweithredwyr mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth sydd wedi'i dirprwyo i'r Cabinet Rhanbarthol yn unol â'r Cytundeb Cydweithio. Mae'r Cyd-bwyllgor yn cyfarfod hyd at 4 gwaith y flwyddyn.